Hendy-gwyn

tref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin
(Ailgyfeiriad o Y Tŷ Gwyn ar Daf)

Tref fechan hanesyddol a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw'r Hendy-gwyn[1] neu Hendy-gwyn ar Daf[2] (hefyd Hendy Gwyn ar Daf)[3] (Saesneg: Whitland).[4] Roedd yn adnabyddus yn yr Oesoedd Canol fel safle Y Tŷ Gwyn ar Daf, canolfan eglwysig a noddwyd gan dywysogion teyrnas Deheubarth. Saif yng ngorllewin y sir ar y ffin â Sir Benfro, i'r gogledd o Afon Taf, ac i'r de o briffordd yr A40, rhwng Sanclêr ac Arberth.

Hendy-gwyn
Mathtref bost, tref, cymuned Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaFflewyn Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,792, 1,903 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd628.42 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.818°N 4.611°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000560 Edit this on Wikidata
Cod OSSN201165 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/au y DUNia Griffith (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[6]

Abaty'r Tŷ Gwyn ar Daf

golygu

Sefydlwyd yr abaty enwog yma fel cangen Gymreig o abaty Clairvaux yn Ffrainc, un o abatai mawr y Sistersiaid, yn y flwyddyn 1140. Er mai sefydliad Normanaidd oedd yr abaty ar y dechrau, gyda'r mynachod wedi dod drosodd o Ffrainc, dan nawdd yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth daeth yn sefydliad trwyadl Gymreig a fu'n gefnogol iawn i ymdrechion tywysogion Cymru i gadw annibyniaeth y wlad. Ond talodd y pris am ei gefnogaeth yn 1257 pan gafodd ei anrheithio gan filwyr Seisnig a lladd llawer o'r brodyr. Claddwyd y bardd Dafydd Nanmor (fl. 1450-1480) ym mynwent y Tŷ Gwyn.


Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Hendy-gwyn (pob oed) (1,792)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Hendy-gwyn) (749)
  
43.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Hendy-gwyn) (1325)
  
73.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Hendy-gwyn) (300)
  
37.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Côr Meibion Hendy-gwyn

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Sillafiad Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t.439
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  3. Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gâr, Cyfres Crwydro Cymru (1970)
  4. British Place Names; adalwyd 17 Mawrth 2022
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolenni allanol

golygu