Rhydaman

tref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin
(Ailgyfeiriad o Ammanford)

Tref a chymuned yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Rhydaman (Saesneg: Ammanford). Mae ganddi 5,411 o drigolion (Cyfrifiad 2011), 75.88% ohonynt yn siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2001. Mae'r dref wedi'i leoli ar ddiwedd Dyffryn Aman. Roedd Rhydaman yn dref cloddio glo ond erbyn heddiw mae'n ganolbwynt i'r ardal wrth gynnwys amrywiaeth o siopau, bwytai a pharc. Mae Rhydaman wedi gefeillio gyda â Breuillet, Essonne.

Rhydaman
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,610 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBreuillet Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd311.78 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8°N 3.993°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000491 Edit this on Wikidata
Cod OSSN625125 Edit this on Wikidata
Cod postSA18 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruAdam Price (Plaid Cymru)
AS/au y DUAnn Davies (Plaid Cymru)
Map

Mae'r prif heolydd A483 a A474 yn rhedeg i Rydaman. Mae Gorsaf reilffordd Rhydaman ar llinell Rheilffordd Calon Cymru gyda threnau yn teithio i Lanelli, Abertawe un ffordd a'r Amwythig i'r ffordd arall.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ann Davies (Plaid Cymru).[1][2]

Datblygodd yr enw Rhydaman ar 20 Dachwedd 1880 ond mae'r gymuned yn deillio nôl i'r 19g. Roedd y prif heolydd yn teithio trwy'r dref yn hytrach i'r dref. Roedd un heol yn deillio o Landeilo a Llandybie tuag at Fetws a'r heol arall o'r Dyffryn Aman tuag at Benybanc a Thŷ-croes. Roedd y ddwy brif heol yn croesi, sydd nawr yn cael ei adnabod fel Sgwâr Rhydaman. Datblygodd sawl tafarndy ar gyfer y teithwyr ac roedd y Cross Inn yn ddylanwadol iawn (y Sgwâr) - roedd yr ardal yn cael ei hadnabod fel 'Cross Inn'.

Canolbwynt cymuned 'Cross Inn' oedd yr heol trwy'r Sgwâr a phobl yn Carregaman Isaf. Roedd Betws (rhan o'r ardal) yn fwy, gydag Eglwys St David's yn ganolbwynt. Roedd yr ardal ar ochr arall Afon Aman yn cael ei chynnwys yn Llandybie.

Roedd pentref arall o'r enw 'Cross Inn' yn bodoli yn Sir Gaerfyrddin, felly roedd angen ail-enwi'r dref. Cynhaliwyd cyfarfod er mwyn newid yr enw, roedd gan aelodau'r Eglwys a Chapel teimladau cryf i gadw'r enw oherwydd enw'r Capel mwyaf yn yr ardal oedd 'Cross Inn Chapel'. Gwelwyd yr enw ar arreg yno o hyd, ond Gellimanwydd yw'r Capel erbyn heddiw.

 
Eglwys yr Holl Seintiau

Ar 1af Hydref 1880, rhyddhawyd yr erthygl yn y papur newydd lleol:

"It has been proposed to call CROSS INN, which is in the parish of Llandybie, in the County of Carmarthen, from this time forth, after the Right Hon. Baron, who owns the place, Dynevor.
"By adopting a new name, it is hoped to get rid of all previous annoyances, and also, that the other Cross Inn may benefit by the change."Nodyn:Cite quote

Ar ôl sawl cyfarfod arall, penderfynwyd anfon y penderfyniad at grŵp o urddasiaethau lleol.

Ar 20fed Hydref, aeth aelod o'r pwyllgor i gyfarfod yn Neuadd Ivorites, ar Stryd yr Heol. Penderfynwyd, gan bobl leol a phwysig, fod yr ardal nawr o dan yr enw Rhydaman (Ammanford). Roedd Cadeirydd y cyfarfod (a phennaeth ysgol leol) Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) yn hapus iawn gyda'r newid.

Diwydiant

golygu

Roedd galw mawr am glo oherwydd y Chwyldro Diwydiannol am ei fod yn angenrheidiol i gynnal peiriannau stêm. Cychwynnodd glo diddordeb i gwmnïau, ac arwain at reilffordd Llanelli; crëwyd system trafnidiaeth arbennig. Agorodd y rheilffordd gyntaf yn 1840, gan gysylltu Llanelli a Rhydaman, a'n cyrraedd Brynaman erbyn 1842. Datblygodd ymhellach i gyrraedd Llandeilo a'n bellach. Gwelwch Ammanford railway station am fwy.

Dechreuodd nifer o weithwyr glo oherwydd gwaith llaw oedd yr holl waith. Roedd pobl angen tai, gwasanaethau, adloniant ac ysgolion. Yn gyflym iawn, datblygodd y dref ddiwydiannol i dref prysur iawn. Cynyddodd niferoedd poblogaidd a niferoedd o siaradwyr Saesneg yn mewnfudo.

Llywodraeth

golygu

Etholiadau Seneddol

golygu

Roedd Rhydaman yn rhan o gyngor Sir Gaerfyrddin hyd at 1885 pan rannodd y Sir ac roedd yn rhan o Barti'r Rhyddfrydwyr hyd at 1918. Parti Llafur sydd yn Llanelli, ers 1922. Yn 1997, roedd Rhydaman yn rhan o Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr dan Blaid Cymru gydag Adam Price yn 2001.

Llywodraeth Leol

golygu

Roedd Rhydaman yn rhan o gyngor Sir Gaerfyrddin ers 1889 hyd at 1974 ac fel arfer o dan gynghorwyr Llafur. Daeth yn rhan o gyngor Dyfed yn 1974 hyd at 1996. Ar ôl cael gwared ar Ddyfed, daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin eto hyd heddiw.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Rhydaman (pob oed) (5,411)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhydaman) (2,709)
  
51.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhydaman) (4437)
  
82%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Rhydaman) (1,093)
  
44.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

golygu

Eisteddfod Genedlaethol

golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhydaman ym 1922 a 1970. Am wybodaeth bellach gweler:

Papur Bro

golygu

Papur bro Rhydaman a'r cylch yw Glo Mân.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]