Llanddyfnan

pentrefan ar Ynys Mon

Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Ynys Môn yw Llanddyfnan ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Gorwedd yn ne-ddwyrain Ynys Môn ar y ffordd B5109 rhwng Pentraeth i'r dwyrain a Llangefni i'r gorllewin.

Llanddyfnan
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.290951°N 4.30086°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000014 Edit this on Wikidata
Cod OSSH4673379578 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Enwir y plwyf ar ôl Sant Dyfnan. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr. Ceir maen hir cynhanesyddol ger y ficerdy.

Cysylltir y teulu o gyfreithwyr Cymreig canoloesol a adnabyddir fel 'Llwyth Cilmin Droetu' â Llanddyfnan. Roedd y bardd Gruffudd ab yr Ynad Coch, a ganodd farwnad enwog i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn 1283, yn aelod o'r teulu hwnnw.

Ceir Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cors Bodeilio i'r de o'r pentref.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanddyfnan (pob oed) (1,061)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanddyfnan) (724)
  
70.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanddyfnan) (729)
  
68.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanddyfnan) (138)
  
32%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.