Wicipedia:Y Caffi/archif/24

Erthyglau bot Wicipobl

golygu

Helo pawb! Fi'n wrthi weithio ar brosiect sy'n cael ei ariannu gan lywodraeth Cymru er mwyn gwella gwybodaeth Cymraeg am bobl Cymru ar Wicipedia a Wikidata. Fel rhan o'r prosiect bydd Defnyddiwr:Prosiect Wici Môn yn cydlynu cyfres o ddigwyddiadau efo ysgolion. Fi hefyd yn trefni Hacathon a Cyfieith-a-thon.

Byddaf hefyd yn creu tua mil a hanner o erthyglau stub gan ddefnyddio data Cymraeg o Wikidata, a bydd e'n ddefnyddiol iawn cael adborth cyn i mi gyhoeddi'r erthyglau yma.

@AlwynapHuw, Lesbardd, Adda'r Yw, John Jones, Dafyddt, Deb, Duncan Brown:@PelaDiTo, Deri Tomos, Sian EJ, Cell Danwydd, Ham II, Prosiect Wici Mon, Llywelyn2000:

Dyma enghreifftiau o'r batsh cyntaf, sef erthyglau am arlunwyr sydd efo gweithiau celf yn Gasgliad Portreadau Cymru.

Byddaf yn diolchgar am unrhyw adborth cyn i mi lwytho'r batsh o tua 200 o erthyglau. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 10:11, 18 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Hia Jason. Sut mae'r categoriau yn cael ei creu? Ydi'n bosib cael categoriau genedigaeth/marwolaeth ac ati? Dwi'n credu bydd diweddaru pob erthygl beth bynnag ar ôl rhedeg y bot, i ychwanegu categoriau mwy perthnasol, DEFAULTSORT a thrwsio ambell beth. Dwi wrthi yn gwneud hynny gyda arlunwyr benywaidd ar hyn o bryd am nad oedd categori cenedlaetholdeb. --Dafyddt (sgwrs) 10:21, 18 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Diolch Dafyddt. Mae'r catogoriau yn cael i greu gan defnyddio ffeithiau o Wikidata er mwyn matsio pethau fel galwedigaeth i categoriau perthnasol. Gyda mwy o amser dyle bod modd creu rhai mwy manol, fel categoriau genedigaeth/marwolaeth. Y prif problem yw amser! Mae gyda ni amserlen dynn iawn ar gyfer o prosiect a mae rhaid i mi cyhoeddu 1500 erthygl erbyn canol mis Mawrth. Mi wna'i weld beth sy'n bosib cyn cyhoeddi'r erthyglau. Jason.nlw (sgwrs) 08:44, 21 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Dafyddt Helo Dafydd, dim ond update bach - gyda'r 200 o erthyglau cyntaf fi wedi llwyddo ychwanegu genedigaeth/marwolaeth. Ar gyfer y prif batsh o 1000 o erthyglau sydd i ddod, dw'i wedi llwyddo ychwanegu categoriau galwedigaeth yn ol cenedlaetholdeb i rhan fwyaf o'r erthyglau. Gobeithio bydd hyn yn llehai unrhyw gwaith trwsio sydd angen. Diolch Jason.nlw (sgwrs) 14:37, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Gwych iawn wir! Rhai pethau'n dod i'r meddwl:
1. Cofia bod angen 2 baragraff, felly defnyddia'r frawddeg sy'n cyflwyno'r oriel, gyda colon ar y diwedd, nid hanner-colon ::h.y. Dyma ddetholiad o waith William Daniell:
2. Fedri di roi rhestr i ni o'r categoriau - mae gweld rhai coch yn anobeithio dyn!
3. Hefyd, cofia ychwanegu {{Rheoli awdurdod}} hefyd ar bob un?
4. Mae orphans ar enwiki yn cael eu tagio, ac yn aml yn cael eu dileu. felly, byddai'n wych pe paet yn medru rhoi dolen o un person i berson arall. Mi wnes i wneud hyn efo rhestr o wd o bobl o'r un genhedlaeth, ond doedd rhai ddim am i hwnnw fod yn hir. Neu beth am ddefnyddio 'Gweler hefyd' a rhestru dau neu dri o'r un genre?
Edrychaf ymlaen! Cell Danwydd (sgwrs) 13:12, 18 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Diolch Cell Danwydd am yr awgrymiadai
1. Dim problem
2. Dw'i ddim am atodi unrhyw catagoriau sydd ddim yn bodoli - ond hapus i rhannu'r data
3. Diolch am atgoffa fi am hyn. Dim problem.
4. Awgrymiadau da. bydd rhaid gweld faint o amser sydd efo fi. Jason.nlw (sgwrs) 08:44, 21 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Bril! Gwych Jason! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:35, 18 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Gwych iawn. Mae erthyglau Wicidata yn fordd wych o ddechrau erthyglau, ond fel rhan o'r prosiect byddwn yn awgrymu bod pobl yn cael eu hannog i lenwi nhw gyda gwybodaeth ychwanegol. Er enghraifft y peth mwyaf nodweddiadol am Hubert von Herkomer i'w nodi mewn erthygl Cymraeg oedd mai ef oedd yn gyfrifol am gynllunio Cleddyf Mawr yr Orsedd a gwisg yr Archdderwydd, pethau mae'n rhaid eu hychwanegu trwy law. Oes modd rhoi'r erthyglau newydd mewn categori arbennig fel eu bod yn hawdd eu canfod er mwyn eu gwella? AlwynapHuw (sgwrs) 17:24, 18 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Diolch AlwynapHuw. Fi'n cytuno’n llwyr. Bydd yr holl erthyglau yn ymddangos yn y categori yma Jason.nlw (sgwrs) 08:44, 21 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Jason.nlw Dau bwynt bach. 1) Dim am newid y 3 enghraifft cyn iddynt beidio â bod yn enghreifftiau yn yr edefyn hwn. Oes modd rhoi gwybod pryd rwyt yn hapus iddynt gael eu golygu? 2) Rwy'n sgwennu erthyglau yn bur aml am bobl a chysylltiadau Cymreig, oes eisiau rhoi categori "WiciPobl" arnynt yn ystod cyfnod y prosiect? AlwynapHuw (sgwrs) 01:35, 22 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Pwyntiau da Alwyn! Pwrpas 'Eginyn' ar erthygl oedd er mwyn grwpio erthygla bychan gyda'i gilydd, ond yn anffodus mae nhw ar bron pob erthygl ar cywici, ac yn gwbwl dibwrpas erbyn hyn. Ond, mae destubathons (dad-egino!) yn digwydd ar y wicis mawr - ymgyrchoedd i gael gwared o'r diawched, a gallem ninnau ddilyn Jason, yn ychwanegu gwybodaeth a rhoi gogwydd Gymreig. Efallai y gall rai o wirfoddolwyr y LLyfrgell Gen helpu yn hyn o beth, Jason? Fy hun, mae rhoi gwybodlen Wicidata / Cyfoesi erthyglau'n Flaenoriaeth Rhif Un! Daw popeth mewn amser! fel dywedodd Waldo, gwas yw amser, nid meistr. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:16, 18 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

Dau bwynt Jason, mae llawer o'r eitemau ar Wicidata'n cynnwys dyddiad geni / marw - mae'r wybodaeth am y tri a grewyd yn barod (Hubert von Herkomer, Edwin Henry Landseer a William Daniell) ar Wicidata ond nid yn yr erthygl. Fedri di tynnu nhw fewn i'r gweddill?

Yn ail, os mai llond llaw o erthyglau ar ferched sydd gen ti, yna mae angen creu yr un faint o erthyglau ar ferched a'r nifer yr erthyglau ar ddynion, er mwyn cadw'r ddesgil yn wastad. Cafwyd trafodaeth ar hyn rai misoedd yn ol. Unrhyw awgrymiadau? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:14, 21 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]

@Jason.nlw: Er gwybodaeth, mae gennym ni 1,175 yn fwy o erthyglau am ferched nag ar ddynion. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:26, 22 Ionawr 2019 (UTC)[ateb]
Jason: newydd weld dy fod wedi creu 200 o erthyglau. Mae na rai pwyntiau (uchod) wedi'u gwneud, a dwyt ti heb eu hateb. Gofynais sut wyt ti am gadw'r balans - angen creu yr un faint o erthyglau ar ferched a'r nifer yr erthyglau ar ddynion. A gofynais, Unrhyw awgrymiadau? Mae'n bolisi gennym ni, sydd wedi ei drafod a'i gytuno yn y caffi ers dros flwyddyn. Yn ail, mae pob un o'r 200 uchod i'w gweld yn ddwy frawddeg gwta, gydag oriel, nid dau baragraff, sydd eto'n mynd yn groes i'r tuedd diweddar o fynd am ddyfnder nid niferoedd. Mae na lawer mwy ar Wicidata, a mannau eraill y gellid eu tynnu i fewn yn otomatig i'r erthyglau. Mae'r dair enghraifft a roddaist ddwywaith maint yr erthygau dw i newydd ei hagor (llythyren 'R: Richard Bernard Godfrey...), ac felly nid ydynt yn nodweddiadol o weddill yr erthyglau. Yn dryddydd, dydy hi ddim yn arferiad ar Wicipedia i ddefnyddio termau anghymreig fel: 'Gwerthwr printiau ac ysgythrwr o Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon oedd... neu 'Cafodd ei eni ym Mhrydain Fawr. Arddull Seisnig Wicidata a enwici yw hon, nid arddull Wicipedia Cymraeg. Yn olaf, Saeson yw bron y cwbwl o'r 200 a uwchlwythwyd. Pa linyn mesur a gymerwyd i ddewid y bobl yma? Roeddwn i dan yr argraff mai pobl a oedd ag erthygl ar y Bywgraffiadur oedden nhw?
Hyd nes bod y 200 erthygl yma wedi eu gwella, eu ehangu a'u cywiro, fy marn i ydy na ddylid ychwanegu rhagor. Mae dyfnder a gwybodaeth gyfoethog yn llawer pwysicach na niferoedd erbyn hyn, fel y dywedodd Lea wrth gloi Hacio'r iaith y llynedd a sawl un yn y caffi ers tro byd. Byddai'n braf petaet yn trafod gyda chymuned cywici ar gychwyn y prosiect y tro nesaf, nid ychydig ddyddiau cyn uwchlwytho'r erthyglau, er mwyn i ni dy gynorthwyo. Llywelyn2000 (sgwrs) 23:10, 6 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Diolch Aled! Cytuno! Llywelyn2000 (sgwrs) 00:31, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Dyma'r cod, fel y gweli ar ddalen y wybodlen:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= cenedl | nationality = {{banergwlad|'''Ychwanegu'r wlad'''}} | dateformat = dmy}}
Roedd suppressfields yn bodoli yn y tri enghraifft, ond am ryw resm rwyt wedi'i dynnu o'r 200. Mae ychwanegu 'banergwlad' yn dileu / posibilrwydd o jac yr undeb yn cael ei roi am Gymro, y tricoleur am Lydawr ayb.
Fel y dywed y wybodlen, Jason - a'n polisi o ran gwybodlenni WD (gweler: Cymorth:Wicidata), mae angen cyfieithu'r hyn sydd ar Wicidata, pob tro. Llywelyn2000 (sgwrs)



Llywelyn2000. Diolch yn fawr am eich sylwadau. Mi wna'i cheisio gwneud fy ngorau i'w ymateb
1. Erthyglau ar ferched - Mi wnaethon ni trafod hyn ym Mangor. Briff y prosiect yw creu erthyglau am yr arlunwyr, ar bobol yn ein Casgliad Portreadau. Er mwyn cyrraedd y targed gan y Llywodraeth fi hefyd am greu nifer o erthyglau i bobl yn y Bywgraffiadur - felly, yn anffodus, yn yr achos yma does gen i ddim rheolaeth dros y nifer o erthyglau am ferched. Mae'n wych bod ni'n annog pobol i greu erthyglau am fenywod, ond ambell waith dydi o ddim yn bosib, oherwydd bod y wybodaeth/data ddim ar gael, a bydd y broblem yma ond yn tyfu fel mae'r nifer o erthyglau yn mynd lan. Dyma trafodaeth y cymuned ar rhan cyfarftaledd rhyw. Pawb wedi cytuno, bod e ddim yn bosib i ddylyn yr argymell yma pob tro. Felly dydw i ddim yn gweld hyn fel problem fawr yn yr achos yma.
2. Hyd yr erthyglau - Yn yr adborth mi nes ti awgrymu bod digon o destun yn yr erthyglau, trwy gynnwys y frawddeg sydd yn cyflwyno'r Oriel. Does neb arall wedi codi hyn fel problem felly mi wnes i fwrw ymlaen i greu'r erthyglau. Mae'r tair enghraifft yn cynnwys brawddeg am yrfa'r person. Mae 40 allan o’r 200 erthygl yn cynnwys y frawddeg yma felly, fi'n cytuno bydd e wedi bod yn well i rannu enghraifft o erthygl heb y frawddeg - mi wnes i jyst dewis i dair erthygl gyntaf ar fy rhestr. Efo'r batch nesaf mi wna'i sicrhau bod gen i enghreifftiau sydd yn cynrychioli'r holl erthyglau.
3. Arddull - Fel ti'n gwybod dydw i ddim yn arbenigwr yn arddull yr iaith Cymraeg (fel siaradwr ail iaith). Dyna pam nes i gymrid adborth gan gydweithwyr cyn cyhoeddi'r enghreifftiau a gofyn am adborth y gymuned ar ôl cyhoeddir enghreifftiau. Does neb wedi codi hyn fel problem. Fi'n croesawi unrhyw awgrymiadau am sut i wella'r arddull yn y dyfodol.
4. Saeson yw bron y cwbwl - Fi ddim yn gweld bod hyn yn perthnasol o gwbl. Roedd y batsh yma yn cynnwys pobol sydd wedi creu gweithiau celf yn ein gasgliad Portreadau. Bydd y batsh nesaf yn cynnwys y pobol yn y lluniau - 1200 o erthyglau yn cynnwys 500 Cymro, gyda llawer o'r gwybodaeth yn dod o'r Bywgraffiadur Cymreig. Ond mae hawl gan pobol creu erthyglau am pobol nodiedig o unrhyw wlad.
5. Trafod gyda chymuned - Wrth gwrs, mae'n bwysig i drafod creu erthyglau efo'r gymuned a rydi'n ni wastad wedi gwneud hynnu. Mae'r prosiect yma wedi dod i ni ar fur rhybudd, gyda'r gwaith ar erthyglau ddim yn cychwyn tan doc cyn Nadolig, Dw'i wedi gwneud fy ngorau i rannu enghreifftiau cyn gynted â phosib er mwyn gadael amser i drafod efo'r gymuned. Ar y cyfan rhoedd yr adborth ar yr erthyglau yma yn positif:
Cell Danwydd - "Gwych iawn wir!"
Llywelyn2000 - "Bril! Gwych Jason!"
AlwynapHuw - "Gwych iawn. Mae erthyglau Wicidata yn fordd wych o ddechrau erthyglau"
Felly mae'r sylwadau uchod yn eithaf annisgwyl, a mae'n rhwystredig, yn enwedig ar rhan yr ardull, bod nhw'n dod nawr i nid cyn cyhoeddi'r batsh.
Fi'n hapus i drafod fyrdd allwn ni gwella'r iaith y 200 o erthyglau, ond does gen i ddim o’r amser i chwilio am ragor o ddata. Ond fel mae Alwyn wedi dweud, mae'r erthyglau yma yn ffordd dda o gyflwyno pwnc ac annog pobl i ychwanegu mwy. Fi'n gobeithio bydd modd ofyn i wirfoddolwyr ychwanegu mwy yn y dyfodol, er enghraifft. Ond ar yr un pryd bydd rhaid i mi fwrw ymlaen efo casglu adborth ar y batsh nesaf, er mwyn cadw'r prosiect yn symud ymlaen. Mae targedau'r prosiect yn gofyn i mi gyhoeddi’r holl erthyglau o fewn y 5 wythnos nesaf felly byddaf yn anelu at gyflawni hynny. Jason.nlw (sgwrs) 12:27, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Yn gyffredinol: pe baet wedi trafod efo'r gymuned yn gynt, gallasem fod wedi awgrymu hyn yn gynt. Yn ail, mae safon a chadw at ein rheolau a chanllawiau'n bwysicach na chyrraedd targedau'r Llywodraeth.
Mi atebaf gan ddilyn y drefn uchod:
1. Erthyglau ar ferched - trafodom ym Mangor y ffaith mod i wedi codi'r mater o bwysigrwydd cadw'r balans yn y Caffi, a dywedaist dy fod wedi'i weld. Soniais y gallwn helpu efo AWB gyda'r categoriau. Mater bach fyddai creu nifer o erthyglau ar ferched i gadw'r balans yma. Yn sicr does gen i ddim mo'r amser i wneud hynny. Mae'r 'wybodaeth/data ar gael' - gelli greu 1,000 o erthyglau swmpus allan o WD, er mwyn cadw'r balans e.e. gyda'r prosiect MenywodMewnCoch'. Beth am fynd ati wedi i'r prosiect ddod i ben, fel bod y balans yn ei ol, dyweder o fewn deufis i ddiwedd y prosiect? Gallwn dderbyn cyfnod byr fel hyn.
Os nad oes amser efo ti i gwneud yr erthyglau am menywod, pam wyt ti'n meddwl bydd amser efo fi? Wrth edrych ar y trafodaeth am hyn, fi'n ddim yn gweld bod angen i mi gwneud hyn. Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
2. Hyd yr erthyglau - mae gosod tair enghraifft (8 - 10 fel arfer) o esiamplau teg yn hanfodol, o osod mwy yn yr enghreifftiau na sydd yn y swp dilynnol, mae na elfen o gamarwain. Awgrym: gelli greu brawddeg am anrhydeddau a dderbyniwyd, gyda llif yn cael eu tynnu i fewn. Dyma wnes i gydag artistiaid o wahanol wledydd tua dwy flynedd yn ol. Gellir gwneud yr un peth gydag elfennau eraill, os ydynt yn bodoli ee coleg, gwaith, cysylltir gyda. Dywedi: does gen i ddim o’r amser i chwilio am ragor o ddata - awgrymaf dy fod yn gofyn am ymestyniad o'r amser a roddwyd. Mae erthyglau o safon yn bwysicach na channoedd o bytiau dwy-frawddeg yn fy marn i.
Dw'i wedi esbonio'r sefyllfa efo'r data. Mae'n posib bydd rhestr o anrhydeddau a dderbyniwyd am falle 10% o'r pobol, a falle gwybodaeth am Teulu efo tua 5% ond mae'n mynd yn anodd iawn i awtomeiddio erthyglau mewn batsh efo data sydd yn hollol gwahanol ar gyfer gwahanol pobol. Fi wedi gwneud fy gorau i casglu gymaint o data sydd yn posib. Does dim modd cael ystyniad ar y prosiect oherwydd bod rhaid cwnlhau yn y blwyddyn arianol yma - wedi esbonio hyn hefyd. Gyda llaw, mae hyd yr erthyglau yn tebyg iawn i'r rhai nes ti botio ar llyfrau yd'r cymuned wedi cwyno am safon yr erthyglau yma? Eto, mae neb arall wedi cwyno am hyd yr erthyglau Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
3. Arddull - doeddwn i ddim yn son am arddull y Gymraeg, Jason arddull arferol cywici parthed y defnydd o dermau gwleidyddol / hen ffasiwn, son roeddwn i am dermau gormesol a wthiwyd arnom fel cenedl. Rhoddais ddwy esiampl: Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon oedd... ac ym Mhrydain Fawr. Mae Alwyn eisioes wedi dechrau cywiro'r rhain gyda llaw; ond er parch, gelli di wneud hynny efo Find/Replace.
Fi ddim yn gweld problem efo'r defnydd o 'Prydain Fawr' os nad yw'r data yn enwi Lloegr/Cymru/Alban ayyb. Ond efo'r erthyglau sydd i dod dw'i wedi ceisio defnyddio man geni er mwyn adnabod yr union wlad. Ond efo 'Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon' er engraifft - dyna oedd teitle swyddogol y genedl yn yr adeg roedd y person yn byw, felly mae'n ffaith? Ambell waith, wrth edrych ar erthygl unigol bydd geiriad arall yn dod yn alwg, a dwi'n ddiolchgar iawn i'r rhau sydd wedi gwella'r erthyglau yn barod. Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
4. Saeson yw bron y cwbwl - ti di methu'r pwynt. Dyma ofynais: Yn olaf, Saeson yw bron y cwbwl o'r 200 a uwchlwythwyd. Pa linyn mesur a gymerwyd i ddewid y bobl yma? Gofyn cwestiwn wnes i, er mwyn gweld a oes cydbwysedd o ran cenedl. Gwnes hyn, gan i ti gyflwyno'r prosiect fel: Fi'n wrthi weithio ar brosiect sy'n cael ei ariannu gan lywodraeth Cymru er mwyn gwella gwybodaeth Cymraeg am bobl Cymru ar Wicipedia a Wikidata. (gweler cyflwyniad i'r sgwrs yma). Cymerias felly mai srtistiaid o Gymru oeddent. Efallai y byddai rhoi cyflwyniad llawnach, a hynny cyn cychwyn ar y gwaith, nid tua'r diwedd, wedi bod yn well.
Fi'n cytuno galla'i wedi rhannu rhagor o gwybodaeth am y prosiect efo'r cymuned, a mi wna'i ceisio wneud yn y dyfodol. OND mi nes i esbonio yn union beth oedd y prosiect yn golygu yn ein sgwrs ffon tua mis yn ôl.Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
5. Trafod gyda chymuned - Fy sylw bras, cyffredinol, cyntaf oedd hynny. Pan ddaeth yr erthyglau, gallwn fynd i fwy o ddyfnder.
Mae tri o'r golygyddion eisioes wedi gwneud rhai golygiaidau er mwyn i ti newid dy gronfa ddata, a pheth doeth fyddai cytuno efo'r newidiadau yma: e.e. Hwn gan Cymrodor a [https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Anthony_Cardon&curid=234578&diff=7454032&oldid=7448505 hwn gan Alwyn.
wedi ateb hyn yn fy ymateb i bwynt 3.Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Ti'n iawn nad oes 'polisi', ond mae yma argymhelliad, ac mae hefyd yn beth da - hyd y gallom. Gofyn a oedd posib ei gyflawni oedd yr unig gwestiwn godwyd yn ei erbyn; yn y cyswllt hwn, mae'n hollol bosib creu 1,00 arall ar fenwywod (rhai helaeth!). Ond dyma'r cwestiwn pwysicaf: sut wyt ti'n mynd i gyfiawnhau i cywici am gyfnod o flwyddyn fod yn gyfartal, ond nad yw bellach oherwydd prosiect Llywodraeth Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol? Byddai cadw'r glorian yn wastad, yn ddymunol, yn beth da.


wedi ateb hyn yn fy ymateb i bwynt 1.Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Dwyt ti ddim wedi crybwyll y sylw canlynol wnes i (uchod): fy awgrym i ti ddefnyddio'r Wybodlen a nodais uchod (gyda 'surpressfield' a 'baner' ynddo). Mae'r ddolen a rois i ti ar ddalen 'Gymorth' ac felly'n bolisi gweithredol - mae angen cyfieithu'r Gwybodlenni ar ol eu creu. Dyna sydd wedi digwydd hyd yma efo cannoedd ohonyn nhw gan ein golygyddion, ac er parch iddyn nhw, dylid dilyn y drefn hon. Ni ddylid gosod gwybodlen os y bydd Saesneg sywleddol yn ymddangos.
Mae cynnwys yr Infobox heb 'surpressfield' yn gamgymeriad ar fy rhan i. Mi wna'i ceisio datrus efo AWB. Fi wedi ceisio gwneud yn siwr bod yr holl data sydd yn y gwybodleni wedi eu Cyfieithu. Fi wedi gwneud 8000 o olygiadau i Wikidata ers Nadolig er mwyn sicrhau hyn. Felly wyt ti'n gweld maesydd Saesneg, rowch gwybod a mi wna'i ceisio datrus. 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)
Rwyt ti'n synnu fod y sylwadau'n dod wedi i ti gyhoeddi'r swp, nid cynt. Mae hynny oherwydd fod y swp o 200 yn llawer llai (a gwahanol, fel nodais uchod) na'r dair enghriafft a roddaist, ac a oedd i fod yn esiamplau teg.
Ond ti wedi ymateb sawl gwaith i'r erthyglau heb swn am haner y pethau tin codi nawr, er bod nhw'n hollol amlwg o'r engreifftiau e.e Hyd yr erthyglau a Arddull. Dyna beth oedd fy sylw. Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Un wers sydd yma, y bydd yn rhaid gweithredu arno ar unwaith: ein bod yn creu Polisiau am y materion yma, er mwyn i ni symud ymlaen yn hytrach nag yn ol. Awgrymaf hefyd fod unrhyw brosiectau'n cael eu rhoi o flaen y gymuned cyn gynted a'u bod wedi'u derbyn, gydag union eiriad y fanyleb. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:58, 7 Chwefror 2019
Hapus i rhannu manylion prosiectau. Ar rhan polisiau - os mae'r cymuned yn meddwl bod angen rhagor o polisiau, felly mi wna;i edrych ymlaen i cymrud rhan yn unrhyw trafodaeth er mwyn i ni gyd cytunoar y ffordd gorau i symyd ymlaen. Jason.nlw (sgwrs) 15:47, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Saib

Jason, cyfra i ddeg cyn ymateb i hwn. Ti'n dechrau mynd ychydig yn ymosodol ar y person yn hytrach na'r ffeithiau, er mwyn datrus hyn! Cadwa hefyd at ein dull arferol yma'n y caffi, y drefn o ddefnyddio un ident i bob cyfraniad, neu mi eith y sgwrs ar chwal, yn dameidiog, os wyt yn torri llif y sgwrs. Dyna'r drefn arferol; ac o drefn y daw polisi gweithredol. Mae na ambell un, weithiau'n gwneud hyn, ond nid yw'n ymarfer da.

1. Fe ddywedi fi'n ddim yn gweld bod angen i mi gwneud hyn (cadw cydbwysedd rhyw): yn fy marn i, Jason, mae pob golygydd cywici yn gweld yr angen i gadw cydbwysedd, a dylai parchur cydbwysedd hwn fod yn rhan o bob brosiect. Pam ddyli di gadw'r cyfbwysedd? Gan mai ti sy'n torri / colli'r cydbwysedd, ac yn creu gender gap. Dy broblem di ydy hon Jason. Byddai rhagweld hyn, wedi arbed trafferthion yr awr olaf. Awgrymais dir canol - cyfnod o ddeufis i greu nifer o erthyglau ar fenywod, ond ti'n gwrthod hynny. Gofynaf i ti ailystyried.

2. sefyllfa efo'r data - awgrym caredig oedd gen i gan i hynny weithio ar dros 7,000 o erthyglau ar fenywod tua dwy flynedd yn ol. Fedra i ddim gweld sut y byddai'r sefyllfa'n wahanol heddiw. Ar gyfartaledd roedd o leiaf un neu ddwy frawddeg yn ychwanegol drwy ddefnyddio'r dull yma.

3. Living with Vampires - mae'n cynnwys tair brawddeg - un yn fwy na'r hyn ti am ei roi, ac fe'i chrewyd yn 29 Awst 2014!!!! Mae llawer o ddwr wedi mynd dan y bont ers hynny, a no-we faswn i'n argymell erthygl fel hon heddiw!!! Jason, efallai nad wyt yn ymwybodol ohon, ond https://cy.wikipedia.org/wiki/Wicipedia:Y_Caffi#Erthyglau_safonol mae'r sgwrs diweddar yma yn nodi pwysigrwydd o hyd yr erthyglau]: ...ein harferiad, ers sawl blwyddyn bellach, fod rhai cael o leiaf dwy baragraff.

4. Ein harferiad hefyd, yw defnyddio enw arferol gwlad, nid yr enw a ddefnyddiwyd yn swyddogol arni yn yr oes honno - yn enwedig os yw'r enw'n un gwleidyddol. Er enghraifft, dw i'n cofion trafodaeth ar hyn, rhwng Anatiomaros a minnau ddeg mlynedd yn ol. A dweud y gwir, dw i ddim yn cofio gweld neb yn defnyddio Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon erioed! A gwledydd Prydain mae'r rhan fwyaf o olygyddion yn ei ddefnyddio ers blynyddoedd. Os mai nod dy briosiect yw newid hyn, wnei di roi dy resymau ar wahan, er mwyn i ni ei drafod? Efallai mai'r broblem yn y bon yw nad wyt yn gyfarwydd iawn a'n canllawiau, ein hymarfer da. Ti'n gofyn dyna oedd teitle swyddogol y genedl yn yr adeg roedd y person yn byw, felly mae'n ffaith? ydy, mae'n ffaith! Mae'n ffaith hefyd y gelwir y darn hwnnw o dir, lle ganed yr arlunydd yn "Lloegr"; mae hynny hefyd yn ffaith. O'r ddwy ffaith, yr un a ddefnyddiwn ni yma ar cywici yw'r ail.

5. Diolch am ddweud cytuno galla'i wedi rhannu rhagor o gwybodaeth am y prosiect efo'r cymuned. Byddai hynny'n beth da.

Diolch hefyd am ddweud mai cangymeriad oedd peidio a defnyddio 'surpressfield'; yr unig reswm dwi'n cynnig y pethau yma ydy gan y byddai'n well o ran yr erthygl. Paid a chymryd awgrymiadau fel hyn yn bersonol mewn unrhyw fodd! Dw i wedi dileu ambell erthygl dwy frawddeg a luniwyd gan Brosiect Wici Mon ac eraill a buaswn yn rhagrithiol iawn pe na bawn yn tynnu dy sylw at hyn. Os gelli weld dy ffordd yn glir i dderbyn fy nghyfaddawd, yna gallaf gefnogi uwchlwytho'r gweddill. Cofion cynnes - Llywelyn2000 (sgwrs) 17:26, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Wedi bod yn proud iawn o'r 'gender balance' ar y Wicipedia Cymraeg!!! Angen i Wiciprosiectau parchu hyn! @Cell Danwydd: Lot o waith ar erthyglau fel hwn: John Murphy! Twm Twm yr Hwntw (sgwrs) 09:25, 8 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Diolch am y ping! Wel am drafodaeth hir! Dim amser i ddarllen y manylion heddiw, ond yn siomedig gyda'r 'erthyglau' hyd yma: byddwn wedi disgwyl erthyglau tebyg neu well na'r dair enghraifft a roddwyd, ond yn falch fod Jason yn dal i weithio arnyn nhw, wrth i mi deipio. Mae angen cadw'r glorian yn wastad o ran cydraddoldeb y ddau ryw, rywsut, neu mi fydd Wicipedia Cymraeg a'r Llyfrgell Genedlaethol yn edrych fel ffylied, ac mae'r peth yn anheg hefyd. Oes na ateb? Dwn i ddim! ON Mae gen i 160 o erthyglau ar lysiau'r afu i ddod (diolch i Duncan Brown a'i griw), ond mi fydd pob un yn dair paragraff, gobeithio, ac wedi'u hysgrifennu a llaw! Cell Danwydd (sgwrs) 11:30, 8 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000, Jason.nlw: Does dim angen ffrae. Mae'r egin erthyglau mae Jason wedi creu yn ddefnyddiol, cyn belled nad ydym yn eu gadael fel egin erthyglau. Echnos mi lywyddais "gwella" hanner dwsin o'r erthyglau, mewn dim o beth trwy ychwanegu paragraff o adran "cefndir" erthyglau o ieithoedd eraill trwy gywiro cyfieithiadau Google translate (Saesneg a Ffrangeg yn bennaf); ee Anthony Cardon, Abraham Blooteling, Alfred Brothers. O fewn deufis mi allwn wneud yr un peth efo'r rhan fwyaf o'r 200 erthygl creodd Jason ddechrau'r wythnos. Os oes hanner dwsin ohonom yn ymrwymo i fod yn rhan o'r prosiect bydd y 200 yn erthyglau dechau o fewn dim. Yr unig broblem sydd gennyf i ydy gôr ddefnyddio wicidata i greu miloedd o erthyglau awtomatig fel bod mwy na all yr ychydig ohonom sydd wrthi ymdopi a nhw. Un ffordd o ddelio efo'r broblem, o bosib, byddid i Jason cynnal dosbarth i ddangos i ni gyd sut i greu erthyglau tebyg gallem wella yn ôl ein diddordebau a'n amserlen ein hunain. AlwynapHuw (sgwrs) 12:05, 8 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr iawn AlwynapHuw, dw'i wir yn gwerthfawrogi'r holl waeth ti wedi gwneud hyd yma i wella'r erthyglau yma. Dw'i wedi gwneud nifer o welliannau bach i'r cyfan, ac wedi creu tudalen prosiect er mwyn i ni gyd cydweithio yn well, (gwybodaeth isod) felly dim ond gair i ddweud, byddaf yn hapus i gynnal hyfforddiant ar ran defnyddio Wikidata i gasglu data i greu/gwella erthyglau. Rhywbeth i ni drafod yn y cyfarfod Grŵp Defnyddiwr nesaf falle. Jason.nlw (sgwrs) 15:37, 8 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]


Diweddariad

golygu

@AlwynapHuw, Lesbardd, Adda'r Yw, John Jones, Dafyddt, Deb, Stefanik:@DafyddTudur, Deri Tomos, Sian EJ, Cell Danwydd, Ham II, Prosiect Wici Mon, Llywelyn2000:

Helo pawb. Erbyn hyn dw'i wedi cyhoeddi 200 o erthyglau am arlunwyr sydd yn rhan o'n gasgliad Portreadau. Fi hefyd wedi crei tudalen prosiect WiciPobl er mwyn rhannu rhagor o gwybodaeth - ymddiheuriadau bod hyn bach yn araf yn cyrraedd.

Ers cyhoeddi dw'i wedi derbyn rhai sylwadau ychwanegol ac felly wedi gwneud rhai newidiadau i'r erthyglau.

  • Wedi cynnwys categoriau dyddiad Geni/Marw
  • Wedi cywiro'r gwybodlen i'r un cywir
  • Wedi newid Prydain Fawr i Lloegr/Cymru/Alban heblaw am lond llaw ble nad oes tystiolaeth gadarn o ba wlad roedd person yn perthyn
  • Wedi ychwanegi brawddeg i pob un, i nodi bod gweithiau celf gan y pobol yn archif y Llyfrgell Genedlaethol, a'r National Portrait Gallery

Dyma rai enghreifftiai:

Felly, hoffwn holi am eich adborth eto er mwyn i mi gael cadarnhad neu beidio bod yr erthyglau yn cyrraedd safon digon dda. Mae'n bwysig i fi, ar Lyfrgell Genedlaethol bod y gymuned yn hapus efo ein cyfraniadau, felly rwy’n croesawi unrhyw sylw. Rwy’n gweithio ar ail rediad o erthyglau (tua 1200) a bydd eich adrodd yma yn ddefnyddiol iawn ar ran gwneud yn siŵr bod pob erthygl yn cyrraedd y safon gytunedig. Byddaf, wrth gwrs yn gofyn am adborth eto cyn cyhoeddi unrhyw erthyglau bellach. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 15:37, 8 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Sylwadau

Bydd e'n ddefnyddiol iawn os allwch chi nodi os ydych chi'n hapus efo'r erthyglau neu beidio gan nodi eich rhesymau. Diolch am eich amser! Jason.nlw (sgwrs) 15:37, 8 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Wedi symud William Owen (arlynudd) i William Owen (arlunydd). Deb (sgwrs) 20:13, 8 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Gwych iawn Jason! Mae pethe'n symud yn eu blaenau'n dda! Bydd tua 2000 o erthyglau byr ar ferched yn cael eu creu yn y dyddiau nesaf. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:37, 9 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr Deb! Jason.nlw (sgwrs) 18:19, 11 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Prosiect Wicibobl

golygu

Pan fo cyfranwyr yn cyfranu bywgraffiadau wrth law i brosiect Wicipobl, neu wedi i Wicibobl dod i ben, gai ofyn yn garedig i chwi eu hychwanegu i adran "Pobl Llanbethma" ar erthygl "Llanbethma" er mwyn sicrhau nad ydynt yn erthyglau amddifad ac er mwyn ehangu'r erthyglau cymunedau? ee Llansanffraid Glan Conwy - Pobl o Lan Conwy AlwynapHuw (sgwrs) AlwynapHuw (sgwrs) 04:44, 16 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Data'r Bywgraffiadur

golygu

@Jason.nlw:@Llywelyn2000:Hoffwn erfyn peidio creu erthyglau "data" o'r Bywgraffiadur. Mae'n bwysig bod modd i ymchwilwyr canfod gwybodaeth unigryw, o wahanol ffynonellau er mwyn creu lle ar y we i'r Gymraeg. Ar hyn o bryd mae arddull a rheolau gwahanol Wicipedia a'r Bywgraffiadur yn gyd weithio i greu erthyglau "gwahanol" o ran cynnwys ac arddull. Rwyf am i hynny parhau. I gyflawni anghenion y prosiect be am chwilio am ddata o'r ODNB, Who was Who, Bywgraffiadur Awstralia Bywgraffiadur Canada Bywgraffiad Seland Newydd ac ati yn hytrach nag ail chwydu gwael y'r hyn sydd eisoes ar gael yn y Gymraeg yn y Bywgraffiadur! AlwynapHuw (sgwrs) 04:09, 18 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Dau erthygl Cymraeg wedi eu hysbrydoli gan Bywgraffiadur Awstralia sydd ddim ar gael yn y Bywgraffiadur Cymreig na'r Wikipedia Saesneg Bryn Newton-John a Margaret Gordon mae gwythiennau i'w cloddio tu allan i'r maesydd hawdd ac amlwg! AlwynapHuw (sgwrs) 04:50, 18 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
@AlwynapHuw: Helo Alwyn. Diolch yn fawr am y sylwadau. Fi'n cytuno bod angen arddull gwahanol ar Wicipedia a'r Bywgraffiadur, ac wrth gwrs efo defnyddio data, mae 'na berig bod dim 'arddull' o gwbl! Ond ar yr un pryd dwi'n credu bod e'n bwysig bod erthyglau Wici ar gael am bobol yn y bywgraffiadur oherwydd bod y Bywgraffiadur ddim yn agored, ac yn eistedd tu allan i'r rhwydwaith cysylltiedig o erthyglau Wicipedia Cymraeg. Mae creu tua 600 o erthyglau am bobol y bywgraffiadur wedi bod yn darged ar gyfer y prosiect o'r cychwyn, ac felly, yn anffodus mae'n rhy hwyr yn y dydd i ddechrau adeiladu erthyglau efo data arall. Mae'r data cychwynnol wedi cael eu prosesi er mwyn adrodd ar ffeithiau megis, galwedigaeth, teulu, lle geni ayyb, ond nawr, er mwyn ceisio codi'r safon, ni'n wrthi ychwanegu brawddeg neu ddwy ar law ar gyfer bod un, sydd yn adrodd ar gyflawniadau allweddol y person. Yn syml, bydd y brawddegau yn esbonio pam bod person yn bwysig - ac mae hyn yn un beth mae'n anodd iawn gwneud efo data yn unig.
Fi'n gobeithio bydd y gwaith yma yn lleihau'ch pryderon braidd , ond mi wna'i 'pingo' pawb eto unwaith bydd llond llaw o enghreifftiau ar gael. Fel mae Robin wedi awgrymi does gan y Llyfrgell, y Llywodraeth neu unrhyw un arall rheolaeth dros Wicipedia. Os nad yw'r gymuned yn hapus efo safon y cynnwys, yna bydd e ddim yn cael i gyhoeddi, ond byddaf yn gwneud fy gorau i wrando ar adborth a gwneud gwelliannau o fewn yr amserlen, er mwyn cyflawni'r gwaith. Diolch, a cofion gorau Jason.nlw (sgwrs) 12:16, 20 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Erthyglau am Gwleidyddion

golygu

@AlwynapHuw, Lesbardd, Adda'r Yw, John Jones, Dafyddt, Deb, Stefanik:@DafyddTudur, Deri Tomos, Sian EJ, Cell Danwydd, Ham II, Prosiect Wici Mon, Llywelyn2000:

Helo pawb. Fi wedi bod yn gweithio ar batsh o 70 erthygl am wleidyddion, sydd yn rhan o'n gasgliad portreadau.

Dyma'r 10 erthygl gyntaf er mwyn i fi ymateb i unrhyw awgrymiadau neu gywiriadau sydd angen cyn i mi gyhoeddi'r 60 arall. Fel y gwelwch, mae pob un efo gwybodaeth wahanol yn dibynnu ar y wybodaeth oedd wrth law. @AlwynapHuw: Mae William Williams (gwleidydd), Harold Finch a Enoch Salisbury yn engreifftiau o pobol sydd hefyd yn rhan o'r Bywgraffiadur.

Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 12:12, 1 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]


Newydd gywiro:
1. Hugh Childers. Dw i'n gweld dy fod wedi cyfieithu Chancellor of the Duchy of Lancaster drwy QuickStatements ar Wicidata yn 'Canghellor Dugiaeth Caerhir'; 'Caerhirfryn' yw Lancaster. Dw i'n siwr mai nam bach yw hyn, ond fedri di gadarnhau fod y gweddill wedi'u cyfieithu'n gywir, gyda'r enwau llefydd sydd ar Wicipedia? Mae yma hefyd angen treiglo yma ac acw e.e. yng Ngholeg y Drindod.
2. Enoch Salisbury. Dw i wedi ychwanegu categori man geni = Categori:Pobl o Sir y Fflint. Hefyd newidiais Categori:Gwleidyddion Prydeinig i Categori:Gwleidyddion Cymreig y 19eg ganrif.
Mae yma fwy o gig ar yr asgwrn y tro hwn, ond bydd angen trefnu i rywun gywiro pethau reit elfennol, fel yr uchod, gyda llaw a llygad. Os nad oes gwrthwynebiad gan eraill, yn y tridia nesa, yna ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:27, 2 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Diolch am y sylwadau Llywelyn2000. Mi wna'i ceisio sieco'r pethau chi wedi awgrymu cyn i mi cyhoeddi'r gweddyll, a cyn profi efo'r batsh nesaf. Jason.nlw (sgwrs) 10:05, 4 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Mae'r rhain yn edrych yn well! Mi fedraf gywiro ambell gam dreigliad gydag AWB, ond does gen i ddim amser i wneud hyn am blwc, oherwydd salwch fy mam. Cytuno eu bod yn pasio'r marc ansawdd! Sian EJ (sgwrs) 15:56, 5 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr Sian EJ - Fi wedi darganfod a cywiro nifer o treigliadau yn y brawddegau am addysg yn bennaf a wedi cywiro llond llaw o teitlau megus 'Canghellor Dugiaeth Caerhir'. Fi hefyd yn barod i cywiro efo AWB os bydd camgymeriadau yn llithro drwy'r rhwyd. Cofion Jason.nlw (sgwrs) 10:34, 6 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw, Llywelyn2000: A oes modd sicrhau bod y dolen Bywgraffiadur yn arwain at y Bywgraffiadur (Cymraeg) yn hytrach na'r Dictionary of Welsh Biography (Saesneg) ? AlwynapHuw (sgwrs) 14:47, 7 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
@AlwynapHuw, Llywelyn2000: Fi'n ymwybodol o'r broblem yma ond dal yn chwilio am ddatrysiad. Dim ond y cyfeiriad i'r Saesneg sydd ar Wikidata (Oherwydd y ffordd mae'r 'Identifiers' yn gweithio). Wedi holi ein tîm cyfrifiadurol am restr o'r links Cymraeg cyfatebol ac wedyn bydd modd defnyddio AWB i ddatrys y broblem. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 15:17, 7 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Erthyglau bot WiciPobl

golygu

@AlwynapHuw, Lesbardd, Adda'r Yw, John Jones, Dafyddt, Deb, Stefanik:@DafyddTudur, Deri Tomos, Sian EJ, Cell Danwydd, Ham II, Prosiect Wici Mon, Llywelyn2000:

Helo pawb! Dyma'r tro olaf mi wna'i trwblwch chi am eich barn ar gyfer y prosiect yma. Dyma enghreifftiau o'r prif batsh o erthyglau Wicipobl, sef tua 1150 erthygl am bobol sydd yn ymddangos yn Gasgliadau Portreadau Cymru a hefyd yn y Bywgraffiadur Cymreig (tua hanner a hanner).

Fel efo'r batsh diwethaf mae cynnwys yr erthyglau yn dibynnu ar argaeledd data. Gyda thua 700 o'r erthyglau tlotaf ni wedi gweithio i gyfoethogi trwy ychwanegu o leiaf un frawddeg ar law er mwyn roi cig ar yr asgwrn. Dyma enghreifftiau o'r erthyglau yma:

Dyma enraifft da o safon yr erthyglau sydd heb mewnbwn dynol

A dyma enghraifft o'r safon leiaf, a hefyd un o'r erthyglau mwyaf swmpus.

Byddaf yn ddiolchgar am unrhyw sylwadau - nodi unrhyw gamgymeriadau neu typos ayyb. Gyda llaw, er mwyn ceisio cadw'r cyfartaledd rhyw o amgylch y 50/50 bydd fy nghynlluniau am y flwyddyn nesaf yn cynnwys y bwriad i greu batsh o erthyglau cyfoethog am fenywod sydd yn awduron enwog. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 14:47, 8 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Ar 11 Chwefror mi soniais: 'Bydd tua 2000 o erthyglau byr ar ferched yn cael eu creu yn y dyddiau nesaf.'
Dw i'n gweithio ar hynny ers 11 Chwefror, gan i ti ddweud dy fod yn rhy brysur. Mi fyddaf, gobeithio wedi gorffen paratoi'r gwaith hwn mewn tua 7 diwrnod. Beth ydy'r diwrnod olaf y gelli gyhoeddi'r erthyglau yma? Os fedrwn ni beidio a cholli'r cydraddoldeb, yna gorau i gyd! Cofion gorau... Llywelyn2000 (sgwrs) 15:14, 8 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Gwych - newyddion da. Ar hyn o bryd ni dal yn gweithio ar y ddata i gwneud yn siwr bod pob erthygl yn cyrraedd y safon uchod, felly byddwn ni ddim yn barod y gyhoeddu am wythnos eto siwr o fod. Fi'n credu bydd rhaid i ni cyhoeddu erbyn 19/20 Mawrth er mwyn roi amser i fi benni fy adroddiadau a pob dim cyn diwedd y mis. Jason.nlw (sgwrs) 16:05, 8 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw: Dau bwynt bach: Cymro Cymraeg alltud oedd John Owen, nid Sais. Wrth roi disgrifiad mewn (cromfachau) i feirdd, cerddorion, llenorion etc gwell yw defnyddio eu henwau barddol ee John Owen (Owain Alaw) yn hytrach na John Owen (bardd). Ond manion yw'r rhain, mae'r sgerbydau data yn ei wneud yn haws o lawer i greu erthyglau gwerth chweil. AlwynapHuw (sgwrs) 16:04, 8 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
@AlwynapHuw: - Diolch Alwyn. Mi wna'i mynd trwy'r data i sieco am enwau barddol, a gwneud unrhyw newidiadau. Efo John Owen - dyma un o'r problemau sydd yn codi wrth weithio allan cenedligrwydd efo'r data - oherwydd bod e wedi eu geni yn Lloegr. Does dim ffordd beirianyddol i mi ddod o hyd i broblemau ond mi wna'i edrych trwy'r rhestr o bobol sydd wedi geni yn Lloegr efo enw sydd edrych yn Gymreig, i weld os alla'i sortio hwn. Jason.nlw (sgwrs) 16:17, 8 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw: Oes modd i ti newid y frawddeg yn gasgliad portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a hefyd yn gasgliadau'r National Portrait Gallery yn Llundain. i: yng nghasgliad portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a hefyd yng nghasgliad Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain? (Bydd erthygl am Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn cael ei greu Dydd Sul). A hefyd ategu'r côd {{DEFAULTSORT:Smith, John}}, sy'n rhoi'r enwau yn nhrefn eu cyfenw yn y categoriau? AlwynapHuw (sgwrs) 06:26, 9 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
@AlwynapHuw: Diolch am creu'r erthygl Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol Alwyn! Fi'n wrthi newid y brawddeg yn yr erthyglau efo AWB. Dyma engraifft: John Sturt. Mi wna'i gweld os alla'i ychwanegu Defaultsort - oleaf efo'r erthyglau sydd i dod. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 10:57, 12 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Does gen i ddim gwrthwynebiad i'r rhain gael eu huwchlwytho; gallem ychwanegu a chywiro wedyn, fel y soniwyd. Un cais: cofia ychwanegu Categori:Merched yn ôl canrif ar erthyglau perthnasol! Dyma'r categori sy'n cael ei gyfrif o ran ambell declyn (nid WD) i gyfri sawl erthygl ar ferched sydd. Os na elli gynnwys yr union flwyddyn, gelli eu rhoi yn ol canrif / degawd, er y byddai blwyddyn yn well, wrth gwrs! Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 06:17, 12 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Grêt, mi wna'i ychwanegu'r categori am menywod i'r data pnawn ma. Jason.nlw (sgwrs) 10:57, 12 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Gwych gweld erthyglau newydd ar bobl sydd yn y Bywgraffiadur! Sylwa ar rai cywiriadau ar y ddalen David James.
Fodd bynnag, ti wedi uwchlwytho'n rhy sydyn, cyn i erthyglau gael eu creu ar ferched! Mi rois y ddolen yma i ti wythnosau'n ol er mwyn i ti gadw llygad ar y balans menywod / dynion; gweler: https://query.wikidata.org/#%0ASELECT%20%3FgenderLabel%20%28COUNT%28DISTINCT%20%3Farticle%29%20AS%20%3Fcount%29%20%0A%0AWHERE%20%7B%0A%20%20%0A%20%20%3Fitem%20wdt%3AP31%20wd%3AQ5%20.%0A%20%20%3Fitem%20wdt%3AP21%20%3Fgender%20.%0A%20%20%3Farticle%20schema%3Aabout%20%3Fitem%20.%0A%20%20%3Farticle%20schema%3AisPartOf%20<https%3A%2F%2Fcy.wikipedia.org%2F>%0A%20%20%20%20%20%20%20%20%20%20%20%0ASERVICE%20wikibase%3Alabel%20%7B%20bd%3AserviceParam%20wikibase%3Alanguage%20"en"%20.%20%7D%20%20%20%20%20%20%20%20%20%20%0A%20%20%20%20%20%20%20%20%20%20%20%0A%7D%20GROUP%20BY%20%3FgenderLabel%0A%0AORDER%20BY%20DESC%28%3Flinkcount%29 sy'n dangos ein bod wedi colli'r cydraddoldeb i ferched. Cam mawr yn ol i'r Wicipedia Cymraeg. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:48, 15 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Ti'n gywir: rocesi: 11741, llancie: 11830. Jason yn dipyn bach o free spirit! Fedrith rhywun revertio nhw? Twm Twm yr Hwntw (sgwrs) 19:50, 15 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Efo pob parch, does dim modd beio @Jason.nlw: am ddiffyg cydraddoldeb yn y Bywgraffiadur. Mae'n wych bod mwy o erthyglau am fenywod ar Cy Wici ar hyn o bryd ond dydy o ddim yn gynaliadwy am byth. Y gwir trist yw bod mwy o gofnodion hanes parthed dynion na fenywod. Wrth i'n Wici ehangu mae bron yn anorfod bydd y cyfartaledd yn lleihau. O weld mae dim ond egin oedd ar gael ar gyfer Dannie Abse mi geisiais ei ehangu o wybodaeth ar yr ODNB. Roedd gwybodaeth am ei wraig Joan Abse, digon i greu erthygl annibynnol, fel troed nodyn i erthygl y gŵr. Dyna natur y ffynonellau yr ydym yn dibynnu arnynt i greu "cyfeiriadau" dibynadwy. Rwy'n sgwenu'n aml am Aelodau Seneddol, ond does dim modd cynnal cyfartaledd gan na fu hawl i ferched bod yn ASau rhwng 1283 a 1918. Ac rwy'n ansicr os yw creu erthyglau, heb sylwedd, trwy ddata, yn rhoi cydraddoldeb, pan fo llawer mwy o erthyglau sylweddol a grëwyd trwy ymchwil yma am ddynion.AlwynapHuw (sgwrs) 04:21, 17 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Cytuno nad bai Jason ydy cynnwys y Bywgraffiadur Cymreig! Ond yn y dyfodol, dylai unrhyw brosiectau i fas-gynhyrchu erthyglau data ar ddynion hefyd ystyried creu yr un nifer o erthyglau ar ferched - ac mae digonedd o ferched nodedig nad ydynt ar y Wicipedia Cymraeg. Mae peidio a gwneud hynny yn anheg iawn. Fe gawsant eu trin yn anheg ac yn eilradd am ganrifoedd, mae'r dyddiau yno drosodd! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:23, 17 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Fe ddywedais ar 8 Cwefror (gweler uchod): Mae angen cadw'r glorian yn wastad o ran cydraddoldeb y ddau ryw, rywsut, neu mi fydd Wicipedia Cymraeg a'r Llyfrgell Genedlaethol yn edrych fel ffylied, ac mae'r peth yn anheg hefyd. Fe aeth Llywelyn2000 ati, wedi hynny i greu erthyglau ar fenywod. Pam felly'r brys i gyhoeddi cyn Llywelyn, felly, Jason? Mae'n wych gweld egin erthyglau newydd, ond mae'n rhaid parchu'r golygyddion sydd wedi bod wrthi ers blynyddoedd, ein harferion sefydlog a'n consensws barn. Fe gafwyd cydraddoldeb, ac roedd hynny'n beth da, a phawb yn cytuno gyda hynny, ond yna, fe'i torrwyd, heb drafodaeth. O'r ychydig y bum i'n ymwneud a hi, fyddai'r Wikipedia Saesneg (nac unrhyw iaith arall) fyth bythoedd wedi derbyn hyn. Ond anghytunaf gyda Twm Twm yr Hwntw. Ni ddylid eu dileu, yn enwedig pe medrwn uwchlwytho rhai Llywelyn, ac ailsefydlu'r cydraddoldeb rhyw. Cell Danwydd (sgwrs) 13:12, 17 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Helo pawb. Rwy'n cytuno'n llwyr efo sylwadau Defnyddiwr:AlwynapHuw. Rhyw bryd bydd rhaid i ni gyfaddef bod e ddim yn bosib parhau i gadw'r balans (er bod hynny ffaith drist). Mae rhaid i ni hefyd bod yn ofalus i beidio cyfyngu cyfranwyr sydd eisiau gweithio ar bynciau ble nad oes modd creu'r un nifer o erthyglau am fenywod. Gan ddweud hynny, am y tro d’win credu bod digon o ddata ar gael i barhau efo'r balans efo erthyglau awtomatig. Dw'i wedi nodi uchod ein bwriad i geisio cywiro'r deffasit dw'i wedi creu efo ein prosiect nesaf (cais newydd fynd mewn i'r llywodraeth).
Cell Danwydd - Diolch am eich sylwadau. Mae drwg gen i am orfod cyhoeddi'r erthyglau yn gynnar. Y bwriad oedd aros tan ganol wythnos nesaf i gyhoeddi i roi cyfle i Llywelyn2000 cyhoeddi'r erthyglau ar ferched ond yn anffodus ges i neges gan y llywodraeth dydd Gwener i ddweud bod angen i fi cwblhau prosiect Wicipobl erbyn canol wythnos nesaf, ychydig yn gynt na beth o'n i'n disgwyl. Er mwyn cael amser i ysgrifennu fy adroddiadau a chael yr holl dystiolaeth mewn ar amser, roedd gen i ddim dewis ond i gyhoeddi yn gynt. Gan fod pawb wedi cytuno i'r erthyglau a gyda llwyth o erthyglau ar fenywod ar y ffordd, nes i ddim gweld hyn fel problem fawr yn y sefyllfa yma. Ond allan o gwrtais mi wnes i hela e-bost draw i Llywelyn2000 i esbonio'r sefyllfa cyn i mi gyhoeddi. Dw'i wedi gwneud fy ngorau i jyglo gofynion y prosiect (sydd wedi rhoi adnoddau gwych i wella ein Wici ac i dyfi gymunedau o gyfranwyr), a'r gymuned wici, ac yn ymddiheuro os dw'i wedi cynhyrfu unrhyw un. Mae'r bartneriaeth yma rhwng Wikimedia, y Llyfrgell a'r llywodraeth yn un uchelgeisiol ac yn eithaf unigryw ledled y byd, felly does dim strwythur sefydlog ar ran sut i weithredu. Ni'n dysgu, ni'n addasu ac yn symud ymlaen. Ond credaf fod e'n bwysig i ni geisio datblygu a chefnogi'r bartneriaeth yma er lles ein Wicipedia, ein hiaith a'r Genedl! :) Jason.nlw (sgwrs) 16:18, 17 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Mae dweud "Dw'i wedi nodi uchod ein bwriad i geisio cywiro'r deffasit dw'i wedi creu efo ein prosiect nesaf (cais newydd fynd mewn i'r llywodraeth)" yn fy nychryn! Wyt ti ddim am holi ni yn gyntaf a ydym yn dymuno rhagor o dalennau dwy frawddeg? Ac a fyddi di'n gwneud fait accompli arall, gan dympio tudalennau na ellir eu galwn'n 'egin' hyd yn oed, pan fydd Llywelodraeth Cymru yn newid eu meddyliau? Mae Duncan ac eraill wrthi ers blynyddoedd yn rhoi dyfnder i'r erthyglau, nid creu rybish. Fy awgrym i yw dy fod yn gwneud cais i godi'r lot diwetha ma yn erthyglau go iawn, yn hytrach na creu rhagor. Dw i wedi ebostio fy anniddigrwydd at un neu ddau gan mod i bron iawn a rhoi'r ffidil yn y to. Derbyniaf nad wyt wedi gwneud hyn yn fwriadol, ond mae'n amlwg nad oes gen ti lawer o ddealltwriaeth o'r Wicipedia Cymraeg, Jason. Cell Danwydd (sgwrs) 15:59, 18 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Ymlaen a ni hogia! Dw i di creu ambell erthygl crap dros y blynyddoedd! Mae na lawer o ymarfer da a thorri tir newydd wedi digwydd yn ystod y ddwy, dair blynedd diwetha; gadwch i ni hel y rheiny at ei gilydd a ffurfio polisiau ychydig mwy tynn, lle bod y math yma o beth yn digwydd eto. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:37, 18 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]


@Cell Danwydd, Llywelyn2000: Hoffwn i dod nôl ar cwpl o pethau mae Cell Danwydd wedi dweud.
"Wyt ti ddim am holi ni yn gyntaf a ydym yn dymuno rhagor o ddalennau dwy frawddeg?" - Mae gan bob erthygl oleuaf 3 brawddeg - gyda llawer (tua 700) yn cynnwys un neu dwy frawddeg sydd wedi ysgrifennu ar law. Rwyt wedi cytuno i'r erthyglau gan Llywelyn2000 trwy ddweud "Maen nhw'n edrych yn dda, a gorau po gynted y medri di eu huwchlwytho!" ond mae nifer o'r erthyglau yma efo 3 frawddeg yn unig (megus Elizabeth von Arnim a Maria Rita Saulle) yn union fel rhai fi, felly dw'i ddim yn deall yr angen i fod yn ymosodol efo fi wrth drafod safon yr erthyglau? Ges i ymateb da gan y gymuned i safon i brif batsh o erthyglau felly mae'r sylwadau yma yn annisgwyl a di-fudd. Mae Llywelyn2000 wedi awgrymu uchod fy mod i yn ystyried y balans cyn cychwyn prosiect ac i drafod efo'r gymuned ar ddechrau'r prosiect. Fi wedi dylyn yr awgrym cyntaf trwy gynnwys batsh o erthyglau am fenywod yn fy nghais - yn dilyn adborth dw'i hefyd wedi awgrymu bod safon y cynnwys yn bwysicach na'r nifer o erthyglau - dyma oedd teimlad i beth bynnag, ond fi am wneud yn siŵr bod unrhyw noddwyr yn deall y pwysigrwydd o hyn i'r gymuned. Mae gen i bob bwriad wedyn, i drafod efo'r gymuned yn syth bin os bydd y cais yn llwyddiannus. Beth mwy alla'i gwneud?
@Dafyddt, Llywelyn2000: Yn dilyn negeseuon di-fudd gan 1 neu 2 fi'n credu hefyd bod e'n bwysig nodi fy mod i'n dechrau teimlo'n ddigroeso ar y Wikipedia Cymraeg er gwaethaf pob ymdrech i ymateb a gweithredi ar adborth. Mae Wicipedia i fod yn ofod saff a croesawgar i bawb sydd eisiau cyfrannu, ar unrhyw bwnc nodedig, nid llwyfan cyhoeddus i alw cyfraniadau unigolyn yn 'crap' neu 'Rybish', neu i ddweud bod gen i ddim dealltwriaeth o'r Wicipedia Cymraeg, heb esbonio beth ddw'i wedi camddeall. Y gyd mae hynny yn eu gwneud yw estron pobol. Mae 'admin' yma i stopi'r fath mha ymddygiad a sarhad, nid i gytuno bod yr erthyglau yn 'Crap', er bod nhw o'r un safon ar rai maen nhw newydd holi i gyhoeddi. Mae'r gwrthddywediad yn gwneud i'r sylwadau edrych fel ymosodiad personol. Jason.nlw (sgwrs) 12:46, 19 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Pam ymateb, Jason? Cladda dy falchder a symuda mlaen! Dy gyhuddiad mod i wedi defnyddio'r gair 'crap' am dy waith: os ddarlleni yr hyn a ddywedais (18:37, 18 Mawrth), sôn amdanaf fi fy hun oeddwn i! Darllen fo eto! Rwyt ti wedi cam-ddarllen o'r blaen (y ffynhonellau, 13:49, 15 Mawrth), ac efallai mai dyma yw'r rheswm pennaf dros y dadlau rwyt yn ei godi. Ti hefyd yn fy llusgo i fewn i bethau, yn hytrach nag amddiffyn dy gangymeriadau dy hun! Pam wyt ti'n codi maint fy erthyglau i pan fo rhywun arall yn trafod safon dy erthyglau di? Sôn dy fod wedi creu erthyglau DWY FRAWDDED roedd @Cell Danwydd:! A gyda llaw mae o'n anghywir e.e. Thomas Parr. Cangymeriad arall gen ti ydy honni mai tair brawddeg sydd gen i yn yr erthygl ar Elizabeth von Arnim - cyfra nhw eto! Ond nid camddealltwriaeth ieithyddol yw hwn, ond heb gyfri'n gywir, ac mae pawb yn gwneud cangymeriadau. A plis, paid a dod yma i ddweud wrth y gweinyddwyr beth i wneud neu beth i beidio a gwneud! Mi gest ymateb da gan y gymuned i'r esiamplau a roddaist, do, ond roedden nhw llawer mwy na'r rhai o'r swp a aeth i fyny. Ti'm yn meddwl mai gwell fyddai gadael i bethau fod, derbyn y feirniadaeth a - get on with it! Mae llawer o waith y prosiect Wicipobl yn wych iawn a diolch i ti am hynny! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:09, 19 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Os mae rhywun yn gofyn cwestiwn i mi ac yn cyflwyno gwybodaeth anghywir am fy ngwaith mae gen i bob hawl i ymateb Robin. Edrychwch eto ar yr erthygl yma Thomas Parr. 1,2,3. Felly mae'n amlwg bod problem cyfru efo ti, fi a Cell Danwyd ond mae fy pwynt i yn sefyll! Jason.nlw (sgwrs) 15:52, 19 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Rwyt yn gorymateb i wybodaeth gywir, Jason! Mi ddywedais:
Sôn dy fod wedi creu erthyglau DWY FRAWDDED roedd @Cell Danwydd:! A gyda llaw mae o'n anghywir e.e. Thomas Parr.
Mae'r o yn y dyfyniad yn cyfeirio at yr enw olaf, Cell Danwydd; ceir yr un rheol ym mhob iaith hyd y gwn i. Yr enw olaf yma ydy Cell Danwydd. Roedd o (Cell Danwydd) yn anghywir ddywedais. Dim ymddiheuriad am dy gyhuddiad anghywir am 'crap', chwaith! Fel yr awgrymaisis: symud ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:23, 19 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Ymddiheuriadau, dwi'n ddyslecsig a dysbracsig ac ambell waeth dw'i yn gweld pethau yn anghywir - yn deall yn iawn sut mae brawddegau yn gweithio (ond diolch am y wers beth bynnag) Ymlaen! Jason.nlw (sgwrs) 16:39, 19 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

@AlwynapHuw, Llywelyn2000: Fi newydd redeg bot i wneud yn siŵr bod yr holl lincs Bywgraffiadur yn mynd i'r gwefan Cymraeg. Diolch Alwyn am godi'r broblem yma, a rowch wybod os wyt ti'n dod ar draws unrhyw broblemau arall. Jason.nlw (sgwrs) 10:50, 26 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Mae ffurf y dyddiad gen ti ar y dudalen John Byrom yn anghywir (1999/02/29 1692). Fe elli weld yn sydyn o dy gronfa ddata os oes gen ti swp tebyg, arall sydd angen eu cywiro. Mi wnes i rhywbeth tebyg efo mynyddoedd yr Alban, os cofiaf yn iawn, rhyw 10 mlynedd yn ol, a bu'n rhaid mynd drwy Bob un yn cywiro gyda llaw a llygad. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:13, 5 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]

Newid Enw Tudalen

golygu

Helo! Dwi newydd gyfrannu erthygl ar y bardd a'r llenor Caryl Bryn. Am ryw reswm, dwi wedi llwyddo i roi llythyren fach i ail enw Caryl - gan ei gwneud yn Caryl bryn yn lle Caryl Bryn. Mae pawb yn haeddu llythrennau mawr, ond dwi'n methu gweithio allan sut i newid teitl y dudalen i wneud hynny. Dyma'r cofnod: https://cy.wikipedia.org/wiki/Caryl_bryn Iestyntyne (sgwrs) 11:40, 26 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Wedi gwneud Iestyn, a thwtio ychydig ar y fformat. --Dafyddt (sgwrs) 12:15, 26 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr iawn i chi! Iestyntyne (sgwrs) 12:21, 26 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Cyfarfod Grwp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru, Aberystwyth, 27 Mawrth 2019

golygu

Bydd y Grwp Defnyddwyr yn cyfarfod yn y Llyfrgell Genedlaethol ddydd Mercher 27 Mawrth 2019 (flwyddyn union ers ein cyfarfod cyntaf!). Rhagor o wybodaeth am y Grwp, cofnodion ein cyfarfodydd diwethaf, a manylion ac agenda ddrafft y cyfarfod nesaf ar Meta. Ychwanegwch eich enw i'r agenda, os gwelwch yn dda, i roi gwybod a ydych chi'n bwriadu dod neu'n anfon eich ymddiheuriadau. Diolch yn fawr! DafyddTudur (sgwrs) 07:31, 6 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Ac fel arfer, os oes rhywun am wneud cais am gostau teithio, yna plis ebostiwch fi! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:21, 14 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Gan nad oes modd teithio i Aberystwyth ac yn ôl mewn un ddiwrnod oherwydd diffygion trafnidiaeth gyhoeddus warthus Cymru, rwyf wedi bwcio gwesty i sefyll y noson cyn y cyfarfod. Pe bai modd cael pas yn ôl hyd Ddolgellau ar ôl y cyfarfod byddwn yn niolchgar. AlwynapHuw (sgwrs) 04:39, 19 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Credu dod Aaron yn gyrru Alwyn, felly potensial lifft i ti. Jason.nlw (sgwrs) 13:04, 26 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Sori, nawr dwi'n gweld hwn - angen i fi fynd i'r Caffi yn amlach - diolch Wyn am fy atgoffa neithiwr! Gobeithiaf alw draw. Siôn Jobbins

Erthyglau ar fenywod: ffeministiaid a llenorion

golygu

@Adda'r Yw, Dafyddt, AlwynapHuw: Er mwyn cadw'r nifer o erthyglau ar ferched a dynion yn eitha cyfartal (angen mwy ar ferched), mae gen i swp o erthyglau sydd bron yn barod i'w huwchlwytho. Un cwestiwn: Os ydw i'n creu categori Pobl o:xxx, yna oes angen treiglo enwau llefydd sydd ddim yn draddodiadol-Gymraeg e.e. Pobl o Enefa, Pobl o Watemala, o Ddenmarc, o Lasgow... Nagoes yn fy marn i. Dw i'n gweld fod ambell un wedi eu gwneud yn yr is gategoriau o fewn 'Pobl yn ôl anheddiad' a 'Categori:Pobl yn ôl dinas' e.e. Categori:Pobl o Firmingham‎, Categori:Pobl yn ôl dinas ym Melarws, Categori:Pobl yn ôl dinas neu dref ym Mrasil, Categori:Pobl o Ferlin. Y rhesymeg yma, dw i'n meddwl ydy fod Birmingham, Brasil, Paris a Berlin wedi hen sefydlogi o fewn y Gymraeg, ac felly'n cael eu hystyried yn eiriau traddodiadol-Gymraeg, a gallaf dderbyn hyn. Ydw i'n iawn? ON Dw i'n pingio defnyddwyr sydd wedi mynegi barn ar enwau llefydd tramor yn y gorffennol, rhag iddyn nhw golli'r sgwrs yma, ond mae croeso i bawb arall ddweud eu barn hefyd! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:18, 14 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Cytuno, fod dim angen treiglo os nad yw'n gwbl gyfarwydd i wneud. Yn bersonol fasen i ddim yn treiglo enwau unrhyw iaith arall, hyd yn oed os ydyn nhw wedi ei drosi i orthograffi Cymraeg. Ar lafar wrth gwrs, mae'n wahanol. --Dafyddt (sgwrs) 10:59, 14 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Diolch Dafydd! Mi gadwai at y lleiafswm posib o dreiladau, felly, ar gyfer dinasoedd tramor. Efallai y dylem drafod 'ym Melarws' ac un neu ddau arall hefyd cyn hir. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:12, 14 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Na yn gyffredinol, ond gydag ambell eithriad. Peth a grëwyd yn naturiol i gynorthwyo llif iaith gan ei siaradwyr yw gramadeg. Peth ffug a grëwyd llai na chanrif yn ôl yw rheolau gramadeg y Gymraeg. Y cwestiwn mawr yw ydy treiglo enwau llefydd diarth yn cyflawni gwaith naturiol gramadeg neu yn dilyn rheol annaturiol? Yn fy marn fach i mae i Firmingham, o Baris, ym Melarws yn llifo'n naturiol, tydi i Enefa ddim. Be am geisio osgoi treigliadau mewn categorïau lle bo modd ee Pobl Caerdydd yn hytrach na Phobl o Gaerdydd? Bydd dim rhaid crafu pen parthed Genefa a Belarws wedyn. AlwynapHuw (sgwrs) 14:48, 14 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Diolch Alwyn! Da ni i gyd, felly'n cytuno mai eglurdeb yw'r peth pwysig - fod y darllenwr yn deall yr hyn a ddarllenir. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:04, 14 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000: Fi'n cofio cael yr un trafodaeth efo cydweithwyr yn y Llyfrgell wrth i ni greu erthyglau am brosiect Wicipop a'r penderfyniad oedd i beidio treiglo heblaw llefydd fel Paris sydd wedi sefydlogi o fewn y Gymraeg, felly rwy'n cytuno hefyd. Jason.nlw (sgwrs) 09:41, 15 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Gret! Diolch Jason. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:31, 15 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Newydd uwchlwytho chwe erthygl ar fenywod, o'r mawr i'r bach, fwy neu lai:

Eich beirniadaeth lem, os gwelwch yn dda!

Mae gen i ddau broblem: diffyg amser i gael y gyfeiriadaeth yn ei lle; fe welwch fy mod wedi gadael cod anweledig yn cadw lle ar ei gyfer. Bydd y gyfeiriadaeth yn dod yn otomatig o ddisgrifiad yr eitem (ayb) ar Wicidata. Yn ail, mae na broblem bychan efo 'carrage return' sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a mater bach yw dileu'r bylchau efo regex, ond eto, gellir gwneud hyn wedi gosod yr erthyglau, gan fod yma ychydig o frys.

Fe welwch mod i wedi amrywio'r frawddeg gyntaf, hefyd, er mwyn ei symlhau i'r darllenydd: yn hytrach na rhestr o ansoddeiriau cyn enw'r person, dw i wedi ei osod yn syml e.e. Ffeminist ydy Jane Jones...., a'i gwaith a disgifiadau ohoni yn ail ran y frawddeg yn hytrach na'r cychwyn. Gobeithio eich bod yn cytuno! Mae amrywio ein patrwm, weithiau, hefyd yn beth da, dw i'n meddwl.

Yn ola, mae dau gatergori newydd yma 'Pobl o Limerick...' ayb, sydd, yn fy marn i'n werth ei wnud, gan fod gennym rai yn barod ee Categori:Pobl o Fadrid ac yn ail Merched a aned yn y 1880au - mae'r 20g wedi'i wneud gen i tua dwy flynedd yn ol, ond nid cyn hynny. Felly, job arall i AWB!

Felly, rhowch wybod a ga i fynd ymlaen, neu beidio os gwelwch yn dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:49, 15 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Mae'r testun yr erthyglau yn edrych yn grêt - strwythyr da. Wedi sylwi cwpl o pethau bach;
  • Angen ychwanegu (Rheoli awdurdod)
  • Oes modd ychwanegu unrhyw cyfeiriadau/Dolennu allanol? Mae gan llawer o'r pobl Identifiers defnyddiol ar Wikidata, neu falle tynnu nhw mewn o'r Wiki Saesneg?
  • Yn eich adborth uchod nes ti son i mi bod "(8 - 10 fel arfer) o esiamplau teg yn hanfodol" - felly bydd e'n wych os allwch chi rannu cwpl o enghreifftiau ychwanegol er mwyn cadw cysondeb.
Diolch yn fawr am eich gwaith ar yr erthyglau yma Jason.nlw (sgwrs) 17:06, 15 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Croeso. Wedi ychwanegu'r Nodyn:Rheoli awdurdod. Dw i'n son am y gyfeiriadaeth uchod ('Bydd y gyfeiriadaeth yn dod yn otomatig o ddisgrifiad yr eitem (ayb) ar Wicidata.'). Os nad oes brys, yna, fel dwi'n son, mi eith y gyfeiriadaeth i fyny wedi i mi / cyfaill eu creu, ond 'does dim amser gen i tan ddydd Llun ( o leiaf) i wneud hynn, a mi addewais i nhw heddiw. Dibynu faint o frys sy gen ti Jason. Tri arall wedi'u creu: Marilynne Robinson‎, Elizabeth von Arnim‎ a Tatiana Proskouriakoff‎. Diolch am dy sylwadau. Chwaneg, plis? Llywelyn2000 (sgwrs) 18:04, 15 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Diolch. Wedi sylwi efo Elizabeth von Arnim bod e'n dweud Bu'n briod i Frank Russell ac ail iarll Russell. Felly jyst angen sieco bod hyn heb digwydd efo erthyglau eraill ble mae teitl yn dylyn enw. Sori nes i ddim gweld yr esboniad am cyfeiriadau. Jason.nlw (sgwrs) 19:55, 15 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Diolch am greu'r rhain Llywelyn2000! Mae nhw'n edrych yn dda, a gorau po gynted y medri di eu huwchlwytho! Cell Danwydd (sgwrs) 13:14, 17 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Efo pob parch, egin erthyglau sydd ddim yn ychwanegu llawer i'n gwybodaeth am y menywod, wedi eu creu i gadw rhif cydbwysedd yn hytrach na chyflwyno gwybodaeth. Maent yn cadw dysgl yn wastad o ran nifer o erthyglau sydd ag enw merch ac enw dyn yn y teitl, ond be di'r cydbwysedd parthed cynnwys sylweddol erthyglau am ddynion a merched? Rwy'n pryderu am erthyglau bot, o'r fath. Mae erthygl bot yn help i greu erthyglau, ond mae'r tuedd o'u creu wrth eu miloedd tu hwnt i allu ein cyfranwyr cig a gwaed i'w troi yn erthyglau gwerth chweil. Pwnc trafod pwysig! AlwynapHuw (sgwrs) 03:50, 21 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Rhan o'r broblem, mae'n ymddangos, yw grantiau'r Llywodraeth. Mae'r Llywodraeth yn dymuno niferoedd erthyglau yn hytrach na sylwedd erthyglau. Mae angen i ni berswadio'r Llywodraeth bod ariannu efengylu dros Wicipedia i ychwanegu nifer y cyfranwyr yn bwysicach nag ychwanegu niferoedd erthyglau ceiniog a dimau. AlwynapHuw (sgwrs) 04:09, 21 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Yn hollol. Mae na dri pheth yma'n does: niferoedd, sylwedd a chydbwysedd rhyw. Wedi i ni gyrraedd y 100,000 (a sawl prosiect Cymraeg gan Google wedi dilyn hynny!) y teimlad ges i oedd fod y gymuned wici wedi symud o esgyrn sychion tila i sylwedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:21, 21 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Yn ystod y 5 wythnos diwetha, fel ymateb i'r cyhoeddiad mai dynion bron i gyd oedd erthyglau WiciPobl, mi es ati i gyfieithu termau Wicidata ar dros 2,700 o fenywod (enwau'r colegau, gwobrau ayb). Mae'r erthyglau ar ffeministiaid a nofelwyr benywaidd wedi cychwyn eu rhoi ar wici; gallwch eu gweld yma. Gan mod i'n eu gwiro a llaw a llygad, dw i ddim am frysio, hyd yn oed os y cymerith fis neu ddau, neu dri! Mae'r erthyglau newydd wedi lleihau'r diffyg, gan ddod a'r niferoedd rwan i:

  • dynion - 11838
  • merched - 11760
  • merched trawsrywiol - 9.

Mater bach fyddai eu huwchlwytho'n un swp, ond ers y 18 mis diwethaf, teimlad y gymuned yw bod safon a dyfnder yn bwysicach na niferoedd yr erthyglau. Gan fod y gwaith ar ffeministiaid ac awduron wedi'i wneud gen i ar WD, plis dewisiwch faes arall os ydych am sgwennu, neu mi ffyddwn yn mynd ar draws ein gilydd e.e. gwyddonwyr, cerddorion, actorion neu ieithegwyr benywaidd. Yn ola, os oes rhywun isio swp o'r esgyrn sychion (egin erthyglau) er mwyn ychwanegu dau baragraff neu fwy atyn nhw, mi ddanfonaf y db ar gyfer AWB atoch, fel y gallwch chitha greu'r erthyglau hyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:50, 21 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Llywelyn2000 os oes rhywun isio swp o'r esgyrn sychion (egin erthyglau) er mwyn ychwanegu dau baragraff neu fwy atyn nhw, mi ddanfonaf y db ar gyfer AWB atoch, fel y gallwch chitha greu'r erthyglau hyn. Pa mor gymleth yw AWB i'w defnyddio? Os yw'n weddol syml hoffwn ei drio. AlwynapHuw (sgwrs) 00:36, 22 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Helo Llywelyn2000 a AlwynapHuw. Fi'n cytuno bod fformat presennol y grantiau llywodraeth ddim yn siwtio bellach - yn enwedig os ydym ni'n sôn am greu erthyglau am bobol. I fod yn hollol agored efo chi, doedd gan y Llyfrgell dim bwriad creu unrhyw erthyglau bot i brosiect Wicipobol. Newid munud olaf o'r ochr y llywodraeth oedd hyn. D’win gallu gweld y gwerth o'r erthyglau yma o safbwynt nhw, ond mae'r prosiect, a'r ymateb y gymuned, wedi ymddangos bod angen newid y drefn. Fel mae Alwyn wedi awgrymu, mae codi'r nifer o gyfranwyr yn bwysicach, ac mae'r stats yn awgrymu bod y prosiect wedi llwyddo yn y maes yna hefyd, felly mae angen rhoi mwy o adnoddau mewn i'r gwaith yma. Credaf fod y gwaith efo ysgolion (efo'r arweiniad cywir) yn ffordd wych o gael pobol ifanc i feddwl mwy am gyfrannu i Wicipedia. Mae 50% o'r disgyblion chweched sydd wedi cyfrannu i Wicipobl wedi golygu eto ers y digwyddiadau!. Beth bynnag, y prif reswm am ymateb fan hyn oedd nodi bod y Llyfrgell Genedlaethol yn ymwybodol o'r angen i symud i ffwrdd o greu miloedd o erthyglau 3/4 brawddeg a byddwn yn gwneud hyn yn glir i unrhyw noddwyr prosiectau yn y dyfodol.Jason.nlw (sgwrs) 19:55, 21 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Gallaf ychwanegu cwpwl o frawddegau ar y casliad o erthyglau ar arlunwyr benywaidd cyn hir: gan dynnu'r wybodaeth o wicidata. Mae rhai'n hynod o fyr! Ond ai hyn yw fy nefnydd gorau o amser, ynteu parhau gyda geotagio erthyglau lleoedd / prosiect Cyfoes, Llywelyn? Sian EJ (sgwrs) 11:14, 22 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
@AlwynapHuw: diolch Alwyn! Newydd anfon 500 atat mewn ebost.
@Jason.nlw: falch o glywed!
@Sian EJ: gwna di be ti isio, Sian fach! Mae na gap yn dal i fodoli: ond mae lawr i 31 erthygl. Beth am orffen adio'r nodyn newydd Anrhydeddau, wedyn nol at Prosiect:Cyfoes? Ond mae fyny i ti - gwna fo os ti'n ei fwynhau o, paid a'i wneud os nad! A diolch, gyda llaw! A diolch am beidio a rhoi'r gorau iddi yn dilyn y smonach fawr! Call a dawo! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:59, 23 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000: @Jason.nlw: @Sian EJ: Sori os yw hyn yn gwestiwn hurt. Ydy cymeriadau ffuglenol yn cael eu cynwys yn y balans gwryw / benyw? Ee:
Ydyn! Mae Daisy Duck yn fenywaidd, ond nid yn fod dynol; dyma'r drefn ar Wicidata hefyd, lle rhoddir (yn hytrach na bod dynol) 'hwyaden ffuglenol', 'cymeriad mewn comig' ayb. Ond yn sicr mae'n fenywaidd, a'i phartner Donald, yn sicr yn wrywaidd, ac nid oes angen tystiolaeth gwyddonol i brofi hyn! Ar Wicipedia, efallai ei bod yn bryd rhannu'r Categori:Cymeriadau ffuglen yn ddau, neu dri! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:24, 27 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Caewyd y bwlch

Ar 21 Mawrth, roedd y glorian yn dangos:

  • dynion - 11838
  • merched - 11760

Heddiw, wedi cryn ymdrech gan ein golygyddion, mae'r bwlch wedi'i gau, a mwy o erthyglau ar ferched nag ar ddynion:

  • merched - 11892
  • dynion - 11860

Hir y parhaed felly! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:38, 13 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]

Canlyniadau prosiect Wicipobl

golygu

Helo pawb - amser am fach o newyddion positif dwi'n credu!

Mae prosiect Wicipobl yn dod i ben yn swyddogol a bydd adroddiad llawn ar gael yn gyhoeddus mewn da bryd. Ond yn y cyfamser hoffwn i rannu rhai o'r prif ganlyniadau:

  • LLyfrgell Genedlaethol wedi rhannu bron 5,000 o portreadau i Comin ar trwydded CC-0.
  • Wedi creu Wikidata efo 100% o'r ddata yn ymdangos yn Gymraeg (Saesneg oedd y metadata)
  • Mae 25% or delweddau mewn defnydd ar Wiki mewn 55 iaeth.
  • Cynhaliwyd 4 digwyddiad mewn ysgolion - gyda 50 erthygl newydd
  • Cynhaliwyd Hacathon Hanes yn Caerdydd i gwneud defnydd o data agored LLGC
  • Adroddiad gan Defnyddiwr:Prosiect Wici Môn yn edrych ar sut, a pam i ddefnyddio Wici mewn ysgolion
  • Cynhaliwyd 'Cyfieith-a-thon' yn y Llyfrgell gen i cyfieithu erthyglau o'r Saesneg
  • Cyfanswm o 1444 erthygl newydd ar bobl Cymreig pwysig, a pobol enwog yn ein casgliad Portreadau genedlaethol

Ac yn amlwg mae'r gwaith wedi cael effaith positif ar stats y Wici Cymraeg:

  • Mwy o olygiadau yn ystod mis Ionawr nag unrhyw fis arall yn hanes Wicipedia
  • Y nifer uchaf o olygyddion gweithredol mewn mis ers 2013 (Ionawr)
  • Nifer o hits misol uchaf ers 2015.

Felly diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd! Gobeithio bydd ein prosiect nesaf yn well byth!

Jason.nlw (sgwrs) 13:07, 19 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr i ti am yr holl waith Jason! --Dafyddt (sgwrs) 13:14, 19 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Mae llawer o waith y prosiect Wicipobl yn wych iawn a diolch i ti am hynny! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:11, 19 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]

Her Wicipedia Staff BBC Cymru

golygu

Gyfeillion - wele isod ebost ddrafft i Rhuanedd Richards, pennaeth BBC Cymru. Croeso i chi wneud newidiadau/cywiriadau/awgrymiadau. Dwi ddim yn siwr o deitlau pobl ag ati.

Brynhawn da Rhuanedd, ers talwm!

Dwi'n un o'r bobl hynny sy'n cyfrannu'n gyson i'r Wicipedia Cymraeg ac wedi ymgymryd â her #wici365 sef ysgrifennu erthygl y dydd (ar gyfartaledd). Dwi hefyd ar Fwrdd y Grwp Wicipedia Cymraeg. Hoffwn wneud cynnig a gweld os yw o ddiddordeb i ti ... a na, dwi ddim yn holi am arian!

O gofio sut mae sawl cwmni a sefydliad yn caniatau i'w staff gymryd amser (dyweder, awr yr wythnos) o fewn oriau gwaith i wneud gwaith cymunedol a fyddai diddordeb gan BBC Cymru weithio ar sustem lle mae ei staff yn gallu cyfrannu peth amser i ysgrifennu cofnodion i'r Wicipedia Cymraeg?

O gofio'r talent a'r profiad a'r arbenigedd o fewn y Gorfforaeth, byddai erthyglau (gallant fod yn addasiad neu grynodeb o rai Saesneg, neu iaith arall ond gyda chyfeiriad Gymreig iddynt) yn gyfraniad hynod o werthfawr a defnyddiol. Byddai'n arwydd weledol a gwaddol arbennig o bwysig gan y BBC i'w talwyr trwydded.

Rhai awgrymiadau:

* Chwaraeon: erthyglau ar glybiau pêl-droed, safleodd a thermau pêl-droed a rygbi; chwaraeon merched; campau Olympaidd; uwchlwytho ffotos o ganddynt o feysydd chwaraeon bach a mawr a chwaraewyr Cymru.

* Uned Wleidyddol a Newyddion - termau gwleidyddol; hanes wleidyddol; gwleidyddion; etholiadau; cytunedau

* Adloniant Ysgafn: rhaglenni Cymraeg; actorion a pherfformwyr Cymraeg, Prydeinig neu dramor; grwpiau a recordiau cerddorol

* Menywod - bywgraffiadau

* Natur ac Amaeth: erthyglau ar natur, cysoni rhywogaethau; ychwanegu ar erthyglau cyfredol

Fe all y staff sgwennu erthygl yr wythnos neu benderfynnu eu bod am sgwennu ar un thema arbennig - un gyfres deledu neu un faes arbennig o feddygaeth neu fyd natur.

Fel gyda mentrau tebyg gall y BBC ddweud mai dim ond am flwyddyn y bydd hyn yn cael ei dreialu- fel mae cwmniau'n noddi neu'n gefnogi un elusen arbennig am flwyddyn.

Byddai Jason Evans, swyddog Wicipedia y Llyfrgell Genedlaethol (y 'Wicipediwr Cenedlaethol) neu Robin Llwyd ab Owain, Rheolwr Cymru ar y Wikipedia UK, ac eraill, wrth law ac yn barod iawn i roi hyfforddiant ar ysgrifennu a llwytho erthyglau - dydy e ddim yn anodd, wir!

Os hoffet sgwrs, rho wybod, 'mond syniad yw e ond dwi'n meddwl gall fod yn PR da i'r BBC a bydd yn gyfraniad wirioneddol bwysig o ran cynyddu deunydd arlein, codi proffeil wicipediad Cymraeg a chyfrannu at ymestyn pau y Gymraeg ar-lein, a maes o law, gyda thechnoleg fel adnabod llais.


Siôn Jobbins

Bore da Siôn!
Syniad gwych! Cytuno'n llwyr! Sian EJ (sgwrs) 04:43, 29 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Diolch am gwneud hyn Siôn, mae'r neges yn edrych yn digon glir i mi! Credu hefyd bod Wici yn gallu apelio fel fordd o cadw ac archifo gwaith ymchwil syn digwydd beth bynnag. Croesi bysedd gawn ni ymateb bositif. Jason.nlw (sgwrs) 08:48, 29 Mawrth 2019 (UTC)[ateb]
Grêt, diolch am ymateb. Twtiaf yr ebost a'i ddanfon. O gael cyfarfod bydd gennym well syniad o sut mae'r gwynt yn chwythu a beth sy'n bosib. Siôn Jobbins (sgwrs) 16:30, 1 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
Ruanedd Richards BBC wedi ffonio nôl. Yn hoffi iawn o'r syniad ac yn deall ac yn gefnogol iddo. Ond methu cytuno i ofyn i staff wneud yn eu hamser gwaith yn enwedig gan fod nhw mewn proses o ddiswyddiadau ar hyn o'r bryd. Ond mae wedi cynnig bod nhw'n neud eitem ar raglen fel Shân Cothi efallai gyda rhywun yn dod fewn ac yn sgwennu erthygl i Wicipedia am Shân neu rhywbeth tebyg yn y fan a'r lle i ddangos sut mae'n gweithio a hefyd dweud wrth staff fod sgwennu i Wicipedia yn rhywbeth da i'w wneud (yn yr amser hamdden nid gwaith!). Felly, dim byd mawr i'w adrodd - ond dim colled chwaith. Dwi am awgrymu iddi hefyd fod rhywun fel Robin neu Jason neu bwy bynnag yn gallu mynd fewn i'r BBC a rhoi sesiwn awr ginio i staff i ddangos iddynt sut mae sgwennu a llwytho erthygl neu ddelwedd - rhywbeth bydd croeso, ond dim rheidrwydd, ar i'r staff fynychu. Ydy hynny'n swnio'n iawn? Sion Jobbins (sgwrs) 12:27, 12 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
Mae hyn yn swnio'n grêt i mi Siôn. Camau bach, ond cadarnhaol. Diolch am fynd ati i holi. Rho wybod os bydd unrhyw beth y medra i ei wneud i helpu. DafyddTudur (sgwrs) 23:13, 12 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
Byddai Dafydd yn gwneud job gwych o olygu byw, yn y stiwdio, ochr yn ochr gyda SC! A tithe hefyd Siôn! Fyddai ddim rhaid creu erthygl gyfan, dim ond golygu/twtio a rhoi ychydig o tips, ac anogaeth yn fwy na dim. Mae'r ddau ohonoch yn golygu'n ddyddiol, ac efo profiad o olygu a dyna sy'n bwysig yn fama, faswn i'n dweud, nid swydd y person.
Siôn - rhyfedd nad yw Ruanedd ddim yn gweld golygu WP fel rhan o swydd person ee pe bai unrhyw gmni masnachol yn cael y cynnig yma, mi fasan nhw'n neidio amdano! Yn wir, mae na gwmniau'n talu pobl i roi gwybodaeth amdanyn nhw eu hunain ar WP, oherwydd y marchnata positif, byd-eang. Byddai Enw Defnyddiwr megis "Elen Garmon (BBC)" yn golygu erthyglau ar geir, dyweder, yn gyhoeddusrwydd dihafal, parhaol iddyn nhw. A byddai i gorff fel y BBC gefnogi gwybodaeth agored, drwy wneud hyn, yn fanteisiol iddyn nhw. Efallai nad yw Ruanedd yn ymwybodol o'r ochr PR-masnachol-ewyllus da yma. Mae'n rhaid i S4C (ers tua blwyddyn) rannu eu cynnyrch ymhellach ar lwyfanau eraill; tybed a yw hyn hefyd yn wir am y BBC? Yn ola, beth am ei hatgoffa o addewid John Roberts (yn Llandrindod tua 18 mis yn ol) i edrych i fewn i'r posibilrwydd o rannu pob recordiad o Beti a'i Phobol. Byddai pytiau pum munud, o bob rhaglen yn cyfoethogi'r hen WP, ac yn talu'n ol i'r BBC ar ei ganfed, gyda phob pwt yn hysbyseb am ddim iddyn nhw! Diolch am afael yn yr asgwrn yma, Siôn - paid a'i ollwng! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:19, 13 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr Robin. Siôn - Cymer di'r cyfle hwn i siarad efo SC, os ti'n barod i wneud. Er mod i'n gwneud fy holl olygu Wicipedia y tu allan i oriau gwaith (oni bai mod i yn un o weithgareddau'r Wicibrosiectau LlGC), byddai'n dda dy fod ti yn gwneud fel rhywun sydd heb unrhyw gysylltiadau Wicipedia trwy dy swydd. Neu mae croeso i unrhyw un arall o'r gymuned sy'n dilyn y drafodaeth hon ac yn awyddus i gynnig eu henw hefyd. DafyddTudur (sgwrs) 18:16, 13 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
Robin - cytuno efo ti am y BBC, mae'n gyfle (a dyletswydd) a gwasanaeth i ehangu ecoleg y Gymraeg petai staff BBC Cymru ond yn mynd ati i dwtio ac ychwanegu a rhannu'r deunydd sydd ganddyn nhw neu amdannyn nhw. Dwi'n meddwl mai'r busnes colli swyddi yw'r broblem fwyaf ar y funud ac na fyddai'r staff yn edrych yn ffafriol ar y bosus yn gofyn iddynt wneud rhywbeth arall tra bod ei cydweithwyr yn colli swyddi. Ond ebostiaf Rhuanedd yn ôl i gdarnhau ein sgwrs ac awgrymu bod nhw, o leiaf, yn diweddaru neu sgwennu o'r newydd gwybodaeth am eu cynnyrch a chyflwynwyr a bod ni'n mynd oddi yno. Nodaf bod ni'n barod iawn i wneud darn efo SC. Cawn weld beth ddaw o hwnnw. Sion Jobbins (sgwrs) 12:27, 12 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]

Deall yn iawn! Un arall gwerth chweil ydy Aaron, sydd wedi arfer golygu a hyfforddi disgyblion Ynys Mon. Felly, os na fedri di fynd, gofyn i Aaron. Colli swyddi - deall yn iawn. Diolch eto Sion! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:18, 17 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]

Smonach y Canrifoedd (eto)

golygu

Yn 2016 cafwyd trafodaeth am enwi canrifoedd. Y consensws oedd ein bod ni'n hepgor y defnydd o 20fed ganrif 19eg ganrif ac ati ac yn defnyddio 20g 19g (Sgwrs Wicipedia:Arddull #Canrifoedd). Mae'n ymddangos bod nifer fawr o'r categorïau a newidiwyd i adlewyrchu'r penderfyniad wedi cael eu newid yn ôl i'r hen arddull. Ee Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ian Hamilton" lle mae'r categorïau wedi newid o [[Categori:Albanwyr yr 20g]] i [[Categori:Albanwyr yr 20fed ganrif]] a [[Categori:Albanwyr yr 21g]] i [[Categori:Albanwyr yr 21ain ganrif]]. AlwynapHuw (sgwrs) 21:17, 7 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]

Pan newidiwyd yr holl XXfed/eg ganrif→XXg gan AWB, ni chafodd y categorïau eu symud (ar wahân i ambell un), nac yr erthyglau am ganrifoedd eu hunain, e.e. 20fed ganrif. Dyma'r drafodaeth a fu yn Ionawr/Chwefror 2018 am newid (neu beidio newid) enwau'r categorïau. Meddai @Llywelyn2000:: "Fodd bynnag, pan welwyd, dros flwyddyn yn ol, fod cymaint o waith gyda'r Categoriau, dim ond llond dwrn a newidiwyd. Fel rwyt ti'n awgrymu, mae'n bosib ei wneud gyda bot ond mae'n joban anferthol. Felly nid aethpwyd ati, a does dim bwriad i'w newid, oni cheir trafodaeth yn y dyfodol."
Cymerais yn ganiataol felly taw'r consensws oedd i ddefnyddio'r arddull newydd o fewn testun erthyglau, ac nid mewn teitlau erthyglau na chategorïau. Yn fy marn i, byddai hynny'n rheol briodol. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 22:38, 7 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
Alwyn - cytuno bod yma anghysondeb, ('smonach' ar un lefel, efallai) ond fel y dywed Adda'r Yw, mae'r anghysoneb wei'i ddiffinio'n eitha pendant a chlir. Y broblem craidd ydy sut i newid enwau / teitlau'r categoriau efo bot, ac mae cannoedd ohonyn nhw. Mae'r gweddill yn hawdd - gallem ddefnyddio AWB i newid y categoriau ar waelod pob ethygl. Mi ddechreuais i newid y cats, gyda gwleidyddion o'r Alban, cyn sylweddoli, whaw, mi fydda i yma am byth ar fy liwt fy hun, fell mi wnes ddadwneud y cyfan (gobeithio!) O ran erthygl am ganrif, mae'r gair "canrif" yn egluro'n union beth yw cynnwys yr erthygl ac felly'n well nag erthygl gyda'r teitl "4g", er enghraifft. Efallai fod yr amwyster yma hefyd yn wir am gategoriau? Os daw hi'n haws ailenwir 'Categori:Arlunwyr o'r ail ganrif ar bymtheg' yn 'Categori:Arlunwyr o'r 17g' yna gallem aildrafod yr adeg honno? Os ei wneud a llaw, yna mae'n rhaid newid y cwbwl lot yn eitha sydyn - efallai tri ohonom yn gweithio ar hyn am ddiwrnod cyfan. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:38, 8 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]

Creu tudalen newydd yn y Pwll Tywod

golygu

Dwi wedi cael ar ddeall bod hyn yn bosibl ond fedra'i ddim gweld sut. Fedar rhywun esbonio wrthyf sut i wneud?

Haia Duncan! Rho 'Defnyddiwr:Duncan Brown/Unrhyw enw yn fama' yn y blwch chwilio a hitia 'return'. Fe ymddengys yr enw oddi tano, mewn coch. Clicia ar yr enw coch yma ac... awe! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:16, 10 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
@Duncan Brown: popeth yn iawn? Neu tisio sgwrs ffon? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:46, 11 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]

WiciBrosiect Arabeg / اللغة الويلزية - مشروع عربي

golygu
 
bawd

Prosiect bach newydd, os oes gennych ddiddordeb: Wicipedia:WiciBrosiect Arabeg! Mi hoffwn weld tua 20 o erthyglau newydd yn y ddwy iaith: Arabeg am Gymru ac erthyglau Cymraeg ar Wlad yr Iorddonen. Os ceir mwy nag 20, wel gwych! Os yw'n llwyddiant, mae sawl un o Grwp Defnyddwyr y Lefant e.e. Palesteina wedi gofyn am gymorth. Syniadau ar y Dudalen Sgwrs plis! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:37, 10 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr! Gwych gweld hyn yn digwydd - model allai gael ei ailadrodd ar gyfer ieithoedd/gwledydd eraill, ac mae'r syniad yn cael ei drafod efo Sweden hefyd. Dwi'n bwriadu cyfrannu, ac efallai y gallwn ni anelu i gael 20+ o olygyddion i gyfrannu hefyd? —DafyddTudur (sgwrs) 08:02, 11 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
Ydy wir! Trefnais brosiect bychan gyda golygyddion Asturias chydig yn ôl, hefyd, gyda thudalen y prosiect ar eu wici nhw. Crewyd rhyw 40 o erthyglau ym mhob iaith. Os wyt yn meddwl creu cystadleuaeth, yna cymer gip ar y gystadleuaeth rhyngwladol 20-20 Vision of Wales wnes i greu yn 2014, gyda 22 o ieithoedd yn cymryd rhan. Copiwyd fformat fy nhabl gan nifer o gystadleuthau eraill, hyd yn oed chydig fisoedd yn ôl roedd catalwnia'n dal i'w defnyddio! Crewyd 278 o erthyglau ar Gymru bryd hynny (2014). Creais gystadleuaeth debyg, hefyd, ar Wicidaith, gyda 12 iaith wedi cofrestru a'r pwyslais y tro hwn ar wella erthyglau a oedd yn bodoli'n barod. Rho wybod os ti isio help, neu gelli ddefnyddio'r fformat tabl lliw uchod. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:37, 11 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
Diolch - mi fydd siwr o fod angen help arna i ar rhyw bwynt, os bydd y prosiect hwnnw am fynd yn ei flaen hefyd! Asturies-Cymru yn swnio'n dda, a'r gystadleuaeth 20-20 hefyd. Heb edrych yn fanwl, ond ai defnyddio Saesneg fel lingua franca mae'r prosiectau hyn? Ardderchog bod cymaint wedi digwydd yn barod. Ymlaen â'r gwaith! DafyddTudur (sgwrs) 18:39, 11 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
O! Diolch, Dafydd! Ia, Saesneg, fel rheol yn rhyngwladol. Ond, gyda'r Astwries, mae ein gwefan ni'n uniaith Gymraeg ar ast-wici. A gyda 20 - 20, gan fod cymaint o ieithoedd, ie, Saesneg, ond mi adewais hefyd tua 22 o faneri hysbysebu - yn eu hiaith nhw fel arfer (Google Translate!), yn eu caffi / tudalen y gymuned. Roedd Donostia'n ddiddorol - y Fasgeg a Saesneg, gan fwyaf, a rhyw thrydedd iaith ymylol oedd y Sbaeneg! Beth am erthygl ar rhywbeth Beiblaidd am Wlad yr Iorddonen, Dafydd? Digon am yr afon, ond efallai nad oedd y wlad fel y cyfrwy ddim yn bod CC? Llywelyn2000 (sgwrs) 17:58, 11 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
O ran llefydd Beiblaidd sy'n perthyn i Wlad Iorddonen bellach mae nifer sy'n gyfarwydd fel enwau capeli Cymraeg: Penuel, Soar, Nebo, Ainion, Bethania a Giliad. Mae Moab, lle fu farw Moses ychydig cyn i'r Israeliad cyrraedd Gwlad yr Addewid, hefyd yng Ngwlad Iorddonen. Mae rhai wedi honni bod Sodom a Gomorrah yno hefyd. Mae cyflwyniad fer i rai o'r safleoedd Beiblaidd yma: Biblical Jordan AlwynapHuw (sgwrs) 10:50, 12 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
Diolch Alwyn! Dwi di sylwi cyn hyn bod yna nifer fawr o fylchau Beiblaidd/diwinyddol - digon i gychwyn Wicibrosiect newydd efallai! DafyddTudur (sgwrs) 22:43, 12 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
Hyn yn syniad rhagorol - mae'n rhoi cyfeiriad a nod byr-dymor i rhywun fel fi sgwennu darnau am le neu beth benodol. Cwestiwn ar ORGRAFF. Mae enwau llefyd dyn gwneud defnydd o'r lythyren 'q'. Ydym ni'n trosi hwnnw i'r 'c' wrth sgwennu'n Gymraeg neu cadw fel q? Er enghraifft, dwi wedi sgwennu am ddinas Acaba (Aqaba, wedi ei sillafu gyda'r orgraff Gymraeg) ac am Rwseiffa (Russeifa yn Saesneg). Beth sydd orau. Dwi'n cymryd fod y 'q' fod dynodi swn efo rhyw gluttoral stop Arabeg, ond wn i ddim. Dwi'n barod i dderbyn eich cyngor. Siôn Jobbins (sgwrs)
Ydy ac yn sicrhau fod un maes yn cael ei wneud yn iawn. O ran orgraff geiriau Arabeg, ti'n llawer mwy o arbenigwr na fi! Dw i'n gweld dim o'i le mewn defnyddio j, q, z ayb yn Gymraeg, ond mae un neu ddau arall yn gryf iawn eu gwrthwynebiad! Un 'q' sydd yn Saesneg, ac nid ydyn nhw'n gwahaniaethu rhwng y q arferol a'r q 'glutterol', efallai y byddai modd i ni wneud hynny, gan fod gennym 'c' i'r q arferol! Yna q i'r un gyddfol? Dw i'n meddwl fod Traws-Iorddonen yn cael ei defnyddio'n eitha naturiol, oni bai fod gen to awgrym gwell? Mae na sgwrs ar yr enw 'Gwlad Iorddonen' ar ddalen sgwrs yr erthygl arni. Fama: [[1]]. 'Gwlad yr Iorddonen' ddysgwyd i ni yn yr ysgol a'r ysgol Sul ers talwm, gan mai 'yr Iorddonen' yw'r afon. Ond rhaid i mi dderbyn mai Gwlad Iorddonen sydd ar wici! Nes ein bod yn cyrraedd consnsws. Tafla dy syniadau / argymhellion! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:11, 18 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
Wedi darllen am drawsygrifio'r wyddor Arabeg i'r Saesneg, defnyddir y lythyren 'q' er mwyn dynodi "voiceless uvular plosive" https://en.wikipedia.org/wiki/Qoph (wir angen i bobl sy' n deall ieithoedd a gramadeg gyfrannu i rhan yma o'r Wicipedia - y Llydawyr bell ar ein blaen yn y maes yma!). Felly, er bod hyn braidd yn academaidd o ran bydd heb yn y Gymraeg yn ynganu'r enwau yma fel 'c' gyddfol iawn, efallai bod yn well cadw at sillafiad Lladin/Saesneg sydd wedi ei fabwysiadu gan yr awdurdodau'n lleol. Heblaw fod rhywun â barn arall (a dwi'n hollol agored i wahanol farn ar hyn!) dwi am gadw/newid nôl sillafiadau fel Acaba i Aqaba ag ati. Gallwn dderbyn wedyn bod y lythyren q os defnyddir yn y Gymraeg yn cynrychioli'r sain voiceless uvular plosive. Siôn Jobbins (sgwrs)
Gwych, gwych! Diolch Sion! A gwych gweld yr holl awgrymiadau ar Trydar, yn dilyn dy anogaeth a'th awgrymiadau gwerthfawr! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:21, 24 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
Dod a'r prosiect i ben
Cyfanswm yr erthyglau newydd = 71
 
Dwy wlad yn un!

Cafwyd 18 erthygl newydd ar Gymru a 44 erthygl newydd ar Wlad Iorddonen. Diolch o galon i bawb a fu wrthi! Yn enwedig Siôn Jobbins a sgwennodd 25 o erthyglau ei hun, ac Alwyn yn dynn wrth ei sodlau! Mae hyn wedi ychwanegu gwybodaeth am Gymru yn yr Arabeg, wrth gwrs, ond hefyd yn golygu fod gennym ychydig o ddyfnder am un wlad, ac mae hynny'n wysig hefyd yn tydy? Y cestiwn rwan ydy ble nesa? Mi ddechreuaf linyn arall! Gwych iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:32, 5 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]

Cynhadledd Cwlwm Celtaidd 2019, yng Nghernyw

golygu
 
Bae Penryn, Cernyw
Dyddiad
4 a 5 Gorffennaf
Lle
Campws y Brifysgol, Penryn, Cernyw.

Os ydych yn dymuno cymryd rhan yn y gynhadledd, mae'r ffurflen gais yma ynghyd a chwaneg o wybodaeth. Mae'r dyddiad cau, os ydych am gyflwyno, ar yr 16 o'r mis yma (Mai!) - felly, tân arni!

Bwriad y gynhadledd, unwaith eto, yw dod a chymuned cynnwys rydd at ei gilydd i drafod ieithoedd lleiafrifol, a sut y gallwn helpu ein gilydd. Efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio Mark Trevethan (Cyngor Sir Cernyw) yn y ddwy gynhadledd ddiwetha, bydd ef a Richard Nevell (WMUK, Llundain) yn gyfrifol am gyd-drefnu.

Llywelyn2000 (sgwrs) 10:47, 8 Mai 2019 (UTC)[ateb]

Multilingual Shared Templates and Modules

golygu
Hello cy-wiki community! (Cyfieithu i'ch iaith chi)

I recently organized a project to share templates and modules between wikis. It allows modules and templates to be “language-neutral”, and store all text translations on Commons. This means that it is enough to copy/paste a template without any changes, and update the translations separately. If someone fixes a bug or adds a new feature in the original module, you can copy/paste it again without any translation work. My bot DiBabelYurikBot can help with copying. This way users can spend more time on content, and less time on updating and copying templates. Please see project page for details and ask questions on talk page.

P.S. I am currently running for the Wikimedia board, focusing on content and support of multi-language communities. If you liked my projects like maps, graphs, or this one, I will be happy to receive your support. (any registered user group can vote). Thank you! --Yurik (talk) 06:04, 11 Mai 2019 (UTC)[ateb]

Hi users of cywiki. I would like to request for using the Wikipedia:AutoWikiBrowser. I want to use it for repairing some of the bugs listed here. Thanks and best regards. --Holder (sgwrs) 04:48, 20 Mai 2019 (UTC)[ateb]

If you're sticking to this list, then, yes that would be good. But rather than clog up 'Recent changes', and allow spam to be inserted by vandals, I would ask you to do it as a bot; do you have a bot account? Perhaps @Dafyddt: or others may have other thoughts, so please wait 24 for other editors' input. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:31, 20 Mai 2019 (UTC)[ateb]
Yes, I have a bot: als:User:Holder-Bot. If it would be more convenient for you I could use my bot. In this case I'd like to request also bot rights for my bot account. --Holder (sgwrs) 06:20, 20 Mai 2019 (UTC)[ateb]
Just given you bot status, but do wait in case another user has a view on this. Thanks for your help with smaller languages! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:45, 20 Mai 2019 (UTC)[ateb]
Yes a lot of those errors are worth fixing. I would be more wary of the 'Template programming element' ones as I don't know what issues those are without investigating further --Dafyddt (sgwrs) 10:57, 20 Mai 2019 (UTC)[ateb]
Great. I think this would be useful. Thanks Holder Jason.nlw (sgwrs) 12:30, 20 Mai 2019 (UTC)[ateb]
Ok thanks. As I don't know what to do with these 'Template programming element' errors I will start with some of the easier problems. --Holder (sgwrs) 04:23, 28 Mai 2019 (UTC)[ateb]
OK. I did >3,000 last week. Thanks for the headsup on this, by the way! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:55, 29 Mai 2019 (UTC)[ateb]

Wicibrosiect i ddilyn Gwlad Iorddonen?

golygu

@AlwynapHuw, Stefanik, Adda'r Yw, Ham II, Celtica, Jason.nlw, Cell Danwydd:@Craigysgafn, Deb, Lesbardd, Duncan Brown, Prosiect Wici Mon: Oes gan rhywun yr awydd i ganolbwyntio ar wlad arall? Mi soniais fod gen i gysylltiad efo'r Palesteiniaid yng Ngrwp Defnyddwyr y Lefant (dau erbyn hyn) a soniodd @DafyddTudur: ei fod wedi cael sgwrs efo golygyddion o Sweden. Yn hytrach nag aros yn y Dwyrain Canol, beth am droi i Sweden y tro hwn? Be da chi'n feddwl? Gall unrhyw olygydd ymuno cofiwch! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:41, 5 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr am awgrymu hyn Robin. Byddai'n wych gallu cynnal gweithgaredd tebyg gyda Sweden. Roeddwn i wedi bod yn trafod gyda pherson sy'n gweithio yn Amgueddfa Genedlaethol Sweden, ac roedd yn gofyn tybed a fedrem gadw'r gweithgaredd yn eitha agos at dreftadaeth ddiwylliannol. O ran cyfrannu i'r gweithgaredd, byddai'n dda iawn ychwanegu'r nod o gael erthyglau gan o leiaf 20(?) o wahanol olygyddion er mwyn annog mwy o bobl i gyfrannu. DafyddTudur (sgwrs) 23:52, 5 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]
Wel dw i'n un o'r ugain! Mi anfonaf ebost at y ddau o Balisteina, gan ddal hwnnw'n ol am ychydig fisoedd.
Rhywun arall awydd? Llywelyn2000 (sgwrs) 04:59, 6 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]
@DafyddTudur, Llywelyn2000, Stefanik, Adda'r Yw, Ham II, Celtica, Jason.nlw:@Craigysgafn, Deb, Lesbardd, Duncan Brown, Prosiect Wici Mon:Rhaid imi ymddiheuro am ddiffyg gweithgarwch diweddar ac ymddiheuro am fethu addo bod yn rhan o unrhyw brosiect yn y dyfodol agos. Mae fy mam a fy nhad yn ddifrifol wael ac rwy'n gwibio rhwng fy nyletswyddau cyhoeddus yn Llansanffraid Glan Conwy a dyletswyddau gofal teuluol yn Nolgellau. Mae'n anodd gwthio unrhyw beth arall i mewn i'r amserlen, byddwn wrth fy modd bod yn rhan o brosiect Sweden, ond ar hyn o bryd rwy'n methu addo dim. AlwynapHuw (sgwrs) 02:19, 12 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]
Rwyt ti yn ei chanol hi, Alwyn! Gobeithio'r gore - mi fyddwn ni i gyd yn meddwl amdanoch chi. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:21, 12 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]
Byddaf yn ymuno â'r grŵp. Deb (sgwrs) 07:21, 12 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]
Byddaf yn ychwanegu Sweden at fy rhestr.Lesbardd (sgwrs) 09:23, 12 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]
Pump sydd gennym ar hyn o bryd Dafydd @DafyddTudur:, ond dw i'n siwr y daw chwaneg wrth i ni fynd rhagom. Be ti'n ei feddwl? Aros neu ymlaen? Llywelyn2000 (sgwrs) 15:19, 11 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]
Chwech efo fi! Sian EJ (sgwrs) 14:32, 30 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]

Delweddau Llawysgrifau Peniarth

golygu
 
Llyfr Calan, tud 88

Helo pawb. Dim ond nodyn i ddweud bod nifer o ddelweddau (A wikidata) ar gyfer llawysgrifau pwysig yn Gasgliad Llawysgrifau Peniarth wedi cael i lwytho i Comin. Mae na nifer o erthyglau am llawysgrifau Peniarth efo ni'n barod sydd angen delweddau, a gobeithio bydd y delweddau yma yn annog pobol i greu mwy o erthyglau am yr eitemau pwysig yma. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 15:11, 7 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]

Fantastig! Mae rhoi'r rhain yn yr erthyglau Cymraeg yn bwysicach na gweithio ar yr erthyglau ar chwaraewyr pel-droed o Japan! Sian EJ (sgwrs) 16:22, 11 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]

Lingua Libre

golygu

Fi eto! Dw'i wedi bod yn profi efo Lingua Libre. Mae'r gwefan yn gwneud e'n hawdd i recordio rhestr o eiriau mewn unrhyw iaith sydd yn cael i lwytho i gomin yn awtomatig (enghraifft). Trwy greu'r rhestrau yma efo queery Wikidata mae modd cysylltu y clipiau i'r eitemau priodol ar Wikidata heb traferth gyda'r property:ffeil sain o'r ynganiad. (enghraifft). Unwaith mae'r clipiau yn sownd i'r eitem Wikidata bydd modd ychwanegu i erthyglau Wicipedia trwy unrhyw gwybodlen Wikidata, neu trwy ddefnyddio bot i ychwanegu i'r prif destun.

Rwy’n credu bydd ên help mawr i blant ac i ddysgwyr i gael clywed yr ynganiad cywir ar gyfer pob math geiriau Cymraeg megis llefydd, bwyd ac anifeiliaid yn y Gymraeg felly hoffwn i edrych mewn i gynnal digwyddiadau neu ymgyrch er mwyn casglu rhagor o eiriau. Bydd hon yn ffordd wych er enghraifft i symleiddio'r gwaeth fel y prosiect gwych wnaeth @Prosiect Wici Môn: yn yr Steddfod - buodd yn cymryd llau nag awr i mi recordio, a llwytho dros 500 o enwau llefydd yng Nghymru (er ni allaf roi warantu am safon fy ynganiad!)

Felly os mae rhywun eisiau profi efo'r gwefan ewch amdani!

@Dafyddt, Llywelyn2000: - beth am ychwanegu'r maes i'r gwybodlen lle fel man cychwyn i weld sut mae'n edrych? Dw'i am cynnig sesiwn yn Cwlwm Celtaidd er mwyn gwneud demo a thrafod ymhellach. Jason.nlw (sgwrs) 19:30, 15 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]

Croeso i ti fynd ati ond tria fo mewn blwch tywod yn gyntaf. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:24, 18 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]
Dw'in cael trafferth chwarae efo hwn mewn pwll tywod oherwydd bod e ddim yn cysylltu i lle ar Wikidata. Ond dwi'n sylwi erbyn hyn bod y maes yn ymddangos yn awtomateg yn y gwybodlen - Gweler Aberystwyth, ond nid fel ffeil allet ti gwrando iddo fe. Mae fy profiad i o gwybodlenni Wikidata yn isel, felly ddim yn siwr sut i datrus. Mae'r Cód {{#invoke:Wikidata|getImages|P443|FETCH_WIKIDATA}} yn cael y canlyniad cywir, felly sut alla'i cael hwn i gweithio o fewn gwybodlen? Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 06:49, 18 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000: Diolch yn fawr am ddefnyddio eich bot i gywiro'r gwybodlennu (ac am ychwanegu sain am Caerdydd!) Credaf fod mwy o sain yn yr erthyglau yn beth da iawn. Un peth bydd rhaid i ni fod yn ofalus amdano fe yw cael Sain Cymraeg yn unig. Mae modd ychwanegu Clipiau i P443 ar Wikidata mewn unrhyw Iaith gan nodi iaith y clip efo Qualifiers, felly wrth ychwanegu clipiau am bethau di Gymraeg neu lefydd ti allan i Gymru bydd rhaid i ni addasu'r côd i ofyn am y clipiau Cymraeg yn unig. Bwynt trafod i'r grŵp Wici Cymru efalla. Jason.nlw (sgwrs) 09:40, 19 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]
Croeso. Mi benderfynais ei ychwanegu'n lleol ar y wybodlen, yn hytrach nag ar y 'Nodyn:Gwybodlen lle', gan y bydd yn rhaid, gwahaniaethu o ran daearyddiaeth a iaith e.e. byddai'r ynganiad Sbaeneg a Basgeg yn dda ar yr erthygl Bilbo (Bilbao). Gweler Commons:Category:English pronunciation of names of cities and villages in Wales. Gyda llaw, wnes i ddim 'cywiro' unrhyw beth, gan nad oedd cangymeriad, ond mi wnes 'olygu'r' gwybodlenni. Dw i ddim yn gweld Lingua Libre yn effeithiol iawn, gan nad ydyw'n ychwanegu enw'r clip sain ar Wicidata yn otomatig. Mater bach fyddai i godwyr LL wneud hyn yn hytrach na dibynu ar quick statements. Angen sortio diffyg arall yn LL, sef ei fod yn ploncio'r ffeiliau i gyd mewn un categori: Commons:Category:Welsh pronunciation of names of cities and villages in Wales, yn hytrach na'u diodoli nhw fesul sir, fel da ni wedi'i wneud hyd yma.
Yn ddelfrydol, wrth gwrs, byddai person o dafodiaith yr ardal yn recordio'r enwau llefydd perthnasol; dyna wnaeth Aaron. O ran cael yr iaith cywir yn y wybodlen (Rhuthun yn lle Ruthin), mi wna i ychwanegu P407 yn y cod i lefydd yng Nghymru, ac enwau Cymraeg llefydd mewn gwledydd eraill, gynted mae'r bot wedi gorffen rhedeg.
Felly i gloi, mae ychwanegu ynganiad yn beth da, wrth gwrs, ond mae na dipyn o waith i'w wneud! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:17, 19 Mehefin 2019 (UTC)[ateb]
Helo Llywelyn2000. Cytuno efo popeth fan hyn. Am enwau llefydd bydd e'n wych cael pobol leol i recordio, ac mi wna'i cheisio meddwl am cyfleoedd i annog pobl yw gwneud. Dydy Lingua Libre ddim yn berffaith ond dwi ddim yn credu bod ffordd well eto o recordio a llwytho cyfres o glipiau. Diolch am eich help Jason.nlw (sgwrs) 08:17, 10 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]

Wikidata Bridge: edit Wikidata’s data from Wikipedia infoboxes

golygu
Symudwyd i'r gornel Saesneg

Japaniiaid ayb

golygu

Botiwyd nifer o erthyglau ddoe, heb drafodaeth yn y caffi. Dyma enghraifft: Kaoru Kadohara. Mae bellach 636 o erthyglau yn y Categori:Pêl-droedwyr o Japan, a chredaf mai un Defnyddiwr sydd wedi eu creu. O ystyried y prif dabl yn baragraff, mae'n ateb gofynion / lleiafswm cywici (yn fy marn i), jyst abowt! Gallwn eu dileu i gyd, os mai dyna eich dewis. Fel arall, mae angen ychwanegu nifer o gatergoriau arnyn nhw ee Categori:Merched yn ôl canrif. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:53, 11 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]

'Mhrif bryder i gyda'r math hwn o ddymp data yw: fydd y defnyddiwr a greodd yr erthyglau hyn yn gwneud gwaith cynnal a chadw arnyn nhw yn y dyfodol? Os na, yna fe fydd yn gosod llwyth diangen ar aelodau eraill ein cymuned. Byddwn i'n teimlo'n well am y sefyllfa pe bai'r Tudalen Defnyddiwr:忍者小僧 yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am yr hyn oedd y defnyddiwr yn ei fwriadu.
Dwi ddim yn hapus chwaith am ganiatáu enwau defnyddwyr ar Cywiki sy'n defnyddio systemau ysgrifennu estron. Dylen ni fod yn agored i syniadau diwylliannol eraill, ond mae problem pan na allwn i siarad am enw defnyddiwr heb ei gopïo a gludo'r o dudalen arall, gan ei bod yn amhosibl ei wneud o'r bysellfwrdd (neu ei ddweud yn uchel, hyd yn oed!). Craigysgafn (sgwrs) 09:19, 11 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]
Dau bryder dilys iawn, a dw i ddim yn gwybod beth yw'r ateb i'r ail un! Yn wir fe all y symbol Japaneieg (neu ieithoedd eraill) olygu rhywbeth hiliol ayb. Yn y cyswllt yma, o ddefnyddio Google Translate, mi wela i ei fod yn golygu 'Ninja Little Boy'. Fe obeithiwn yn fawr fod y gymuned rhyngwladol yn monitro pa enwau sy'n cael eu creu, ond dydw i ddim yn gwbwl siwr o ran y Mandarin ayb. Fe ellir newid ychydig o'r testun fel ei fod yn diweddaru / cyfoesi ei hun, fodd bynnag, hy newid 'Mae xxx yn chwaraewr pel-droed....' i rywbeth fel {{Swits i ffeirio presennol i'r gorffennol pan fo'r Wicidata'n nodi fod y person wedi marw}}, ond os yw'r chwaraewr yn dal yn fyw ac yn dal i chwarae, yna mae nifer ei ymddangosiadau'n newid, ac mae ychwanegu'r data'n mynd i fod yn anodd iawn i gymuned fach wici, fel y dywedi, Craigysgafn. Does na fawr ddim o'r wybodaeth sydd ar y wybodlen bresennol ychwaith ar Wicidata, felly fedrwn ni ddim ychwanegu Nodyn:Gwybodlen person/Wicidata! Unrhyw syniadau arall? Llywelyn2000 (sgwrs) 15:05, 11 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]
Newydd sylwi fod na tua 25 o ieithoedd eraill yn eu derbyn, felly y siawns ydy fod y wybodaeth yn gywir. Fedra i ddim gwneud na phen na chynffon o'r gyfeiriadaeth fodd bynnag! Hyd y gwn i, efallai mai tabl o ddata am faint traed chwaraewyr ydy hon! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:15, 11 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]
Helo! Newidiais 'Categori:Pêl-droedwyr o Japan' i Categori:Pêl-droedwyr benywaidd o Japan ar 79 o'r erthyglau. Fy hun, hoffwn i weld y rhain yn aros. Mae mwy o wybodaeth yn y Wybodlen WD nag mewn rhai o'r hen wybodleni ee Takashi Inui, felly newidies e. Ond gan fwyaf, fel arall mae hi! Job i Llywelyn! Ond efallai mai cwbwlhau chwaraewyr o Gymru y dylen ni ei wneud yn gyntaf! Sian EJ (sgwrs) 16:20, 11 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]

Uwchlwythwyd 106 o egin erthyglau ar bel-droedwyr o Japan y bore ma. Yn dilyn ein sgyrsiau diweddaraf, dw i wedi eu dileu. Mae cadw'r balans rhyw yn un o'r rhesymau ac mae'r ffaith nad aeth y defnyddiwr drwy'r broses o ofyn caniatad yn reswm arall; ar ben hynny does gen i ddim syniad a ydy'r chwaraewyr yn nodedig. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:51, 31 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]

Cwestiwn am fywgraffiadau

golygu

Newydd gael hysbysiadau i ddweud bod cysylltiad i erthygl sgwennais am Mario Del Monaco, wedi ei gysylltu i'w dyddiad geni sef 27 Gorffennaf. O dderbyn bod nifer o erthyglau amddifad, heb gysylltiadau mewnol yma (Sy'n gwneud yn anoddach i beiriant chwilio allanol eu canfod):

  1. ) A ddylid creu cysylltiad dyddiadau pob tro, wedi cyfrannu bywgraffiad?
  2. ) Oes modd i beiriant creu'r rhai sydd ar goll?

AlwynapHuw (sgwrs) 00:44, 31 Gorffennaf 2019 (UTC)[ateb]

@Alwyn: Wnes i ddim ymateb i hwn, Alwyn, gan nad oeddwn yn deall y cwestiwn. Fel arfer 'erthyg' amddifad' yw un heb ddolennau i erthyglau eraill, ac mae gen ti gant a mil ohonyn nhw yn yr erthygl yma. Tybed ai cysylltiad i'r wybodaeth ar Wicidata oedd yr 'hysbysiad' gest ti? Os mai son am yr wybodlen wyt ti, a bod dyddiadau Mario Del Monaco wedi'u rhoi ar WD, yna ydy, mae'n beth da gwneud hynny, yn sicr. Dyddiadau yn fwy nag unrhyw Nodwedd (property) arall. Ymddiheuriadau os nad wyf wedi deall y cwestiwn yn iawn; fi sy'n dwp mae'n debyg! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:51, 23 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]

Cyfarfod Grwp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru, 7 Awst 2019

golygu

Helo bawb! Rydw i newydd sylweddoli nad yw cyfarfod y Grwp Defnyddwyr yn Llanrwst yr wythnos hon wedi'i gyhoeddi yma ar y Caffi! Mae'n ddrwg iawn gen i am hynny. Byddwn yn cyfarfod yng Nghanolfan Glasdir, Llanrwst, am 11 fore dydd Mercher. Bydd croeso cynnes i bawb, a dwi'n gobeithio'n fawr na fydd unrhyw un wedi methu dod am nad oedd wedi'i gyhoeddi yma yn gynharach. Cewch ragor o fanylion am y cyfarfod ar dudalen Meta y Grwp Defnyddwyr ac, os ydych chi'n bwriadu dod, mi faswn i'n ddiolchgar petaech chi'n nodi hynny ar y dudalen. DafyddTudur (sgwrs) 09:36, 5 Awst 2019 (UTC)[ateb]

Fel soniais, ac am resymau personol, dydw i ddim yn medru mynd y tro yma. Pob hwyl i chi arni! Mae na dipyn o bethau diddorol ar y gweill. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:42, 5 Awst 2019 (UTC)[ateb]

Erthygl am Wicipedia yn Slate

golygu

Mae'r cylchgrawn Americanaidd ar-lein Slate wedi cyhoeddi erthygl am y Wicipedia Cymraeg a'i bwysigrwydd. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 22:03, 7 Awst 2019 (UTC)[ateb]

Trafnidiaeth Cymru

golygu

@Dafyddt: Ydy Trafnidiaeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru (cwmni gweithredu trenau) yr un peth? Oes angen cyfuno? Mae'n anodd deall y gwahaniaeth rhyngddynt. Ac felly'r ddwy eitem ar Wicidata! Diolch! Sian EJ (sgwrs) 14:24, 9 Awst 2019 (UTC)[ateb]

Trafnidiaeth Cymru yw cwmni hyd braich Llywodraeth Cymru ar gyfer pob math o brosiectau trafnidiaeth. Yn ogystal, ac yn anffodus, mae nhw'n defnyddio Trafnidiaeth Cymru fel enw brand hefyd ar gyfer y masnachfraint trenau sy'n cael ei ddarparu gan gwmni Keolis Amey. Mae'r disgrifiadau Wikidata yn gywir yn Saesneg, jyst angen eu cyfieithu felly. --Dafyddt (sgwrs) 21:14, 9 Awst 2019 (UTC)[ateb]

Cwpan Rygbi'r Undeb, Siapan

golygu

Helo - mae 'na brinder orffwyllol o erthyglau rygbi (o'u cymharu â phêl-droed):

  • timau cenedlaethol
  • clybiau a chwaraewyr
  • safleoedd a therminoleg rygbi
  • bot (?) gwybodlen fel bod manylion timau cenedlaethol yn ymddangos gyda'r faner rygbi (dwi wedi sgwennu darn ar dîm cenedlaethol Tonga ond dydy ddim yn ymddangos yn awtomatig mewn tablau timau cenedlaethol) + gwybodlen lawn(-ish) rygbi fel sydd i bêl-droed. Stefanik (sgwrs)

Oes modd defnyddio'r Cwpan Rygbi sy'n dechrau yn Siapan mewn cwpwl o wythnosau fel targed i gynyddu cynnwys rygbi? Dwi ddim yn gwybod lot am y gêm, ond barod i wneud lot. Oes bot neu strwythur ar gael i hwyluso'r gwaith neu cael llawer wedi eu cyfeithu/addasu mewn pryd? Sori am ofyn lot o gwestiynau a chodi lot o broblemau! Stefanik (sgwrs) AlwynapHuw (sgwrs)

Unrhyw un yn adnabod gweithiwr yn adran chwaraeon y BBC gellid gofyn iddo / iddi am restr o'r termau maen nhw’n eu defnyddio wrth sylwebu ar rygbi (a champau eraill)? AlwynapHuw (sgwrs) 16:50, 19 Awst 2019 (UTC)[ateb]
AlwynapHuw (sgwrs) gallwn i gysylltu efo'r BBC, gwnaf yfory. Y gamp yw sgwennu'r disgrifiad ac enghreifftiau. Ac, wedi meddwl, a fyddai 'asgellwr' er enghraifft, yn cynnwys holl gampau neu a fyddem ni'n gwneud un tudalen at 'asgellwr (rygbi'r undeb)' ac un arall at 'asgellwr (pêl-droed)'? Am wn i, un ar gyfer pob camp ond gydag enghrifftiau? Wn i ddim - dyma'r math o beth dwi byth yn siwr o pa lwybr i'w chymryd.

Ond wir angen y bod gwybodlen rygbi hefyd. Stefanik (sgwrs) 19:46, 19 Awst 2019 (UTC)[ateb]

Cymru Marvel

golygu

Dyma safle diddorol parthed creu erthyglau Cymraeg, ond tu hwnt i'm ddirnad i yn anffodus Database, Welsh, Cymeriadau o dras Cymreig yng Nghomics Marvel AlwynapHuw (sgwrs) 05:38, 8 Medi 2019 (UTC)[ateb]

Categori CS1: Julian–Gregorian uncertainty

golygu

Oes wybodaeth pam fo'r "Categori CS1: Julian–Gregorian uncertainty" yn ymddangos ar filoedd o erthyglau bellach? Does dim amhendantrwydd yn perthyn i'r dyddiadau dan sylw yn y mwyafrif o erthyglau, ac mae'n creu'r argraff nad yw'r gwybodaeth yn yr erthyglau dan sylw yn ddibynadwy. Rwy'n credu mae rhywbeth sy'n dod o Wicidata ydyw, ond mae'n raid gael ei wared! AlwynapHuw (sgwrs) 03:30, 9 Medi 2019 (UTC)[ateb]

Mae e'n dod fewn gyda'r modiwl CS1 lle mae dyfyniadau gyda hen ddyddiadau ([2]). Ddim cweit yn deall hwn ond mae'n bosib mai'r peth gorau yw creu'r categori er mwyn ei guddio.--Dafyddt (sgwrs) 12:22, 10 Medi 2019 (UTC)[ateb]
Cytuno! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:08, 11 Medi 2019 (UTC)[ateb]

Prosiect WiciLlên

golygu
 

Helo Pawb. Dim ond gair i cyhoeddu bodgan y Llyfrgell Gen a Menter Iaith Môn prosiect Wici newydd yn cychwyn. Mae'r prosiect ond yn bosib oherwydd grant gan Llywodraeth Cymru.

Bydd y prosiect yn cynnwys dwy brif linyn. Yn gyntaf, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau rhannu set ddata enfawr o’r holl lyfrau o ddiddordeb Cymreig a gyhoeddwyd erioed yng Nghymru. Mae’r set ddata hon yn cynnwys gwybodaeth am bron i hanner miliwn o lyfrau.

Fel rhan o brosiect WiciLlên bydd y 50,000 cyntaf o’r cofnodion hynny’n cael eu cyfoethogi a’u rhannu fel data agored cysylltiedig ar Wikidata. Bydd modd chwilio’r data a’i ailddefnyddio mewn nifer o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, a’r gobaith yw y gellir defnyddio hwn i wella dyfyniadau ar Wicipedia a chreu cyfleoedd i ddatblygwyr ac ymchwilwyr sy’n dymuno ail defnyddio’r data.

Bydd ail linyn y prosiect yn canolbwyntio ar wella cynnwys ar y Wicipedia Cymraeg. Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn cyflwyno digwyddiad Hacathon a chyfres o golygathonau Wicipedia, tra bod Wicipediwr Preswyl Menter Iaith Môn yn cyflwyno digwyddiadau i blant ysgol o wahanol oedrannau.

Mae rhagor o manylion ar gael ar y tudalen prosiect Wici. Mae croeso i unrhyw un cyfrannu i'r brosiect, felly nodwch eich enw ar y tudalen prosiect os oes gen ti diddordeb. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 13:19, 10 Medi 2019 (UTC)[ateb]

Swnio'n gyffroes @Jason.nlw:. Rwyf wedi bod yn ysgrifennu tudalennau wedi selio ar rai Saesneg 18xx in Wales, ee 1810 yng Nghymru. Mae'r rhestrau yn cynnwys cyfeiriadau i gyhoeddiadau'r flwyddyn a dyddiadau geni a marw pobl (gan gynnwys llenorion ac argraffwyr, wrth gwrs). Lle nad oes erthygl am y bobl a'r pethau sydd yn y rhestrau ar gael rwyf wedi dechrau creu nhw ee yr awdur Griffith Jones (Glan Menai). Wyt ti am imi ddal yn ôl ar erthyglau am lenorion act ati hyd ddechrau'r prosiect? (hy mi wnâi dal i ysgrifennu nhw jest dim yn eu cyhoeddi hyd ddydd lansio’r prosiect). AlwynapHuw (sgwrs) 21:52, 12 Medi 2019 (UTC)[ateb]
Gwych iawn! Rho wybod os fedraf helpu mewn unrhyw ffordd! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:03, 12 Medi 2019 (UTC)[ateb]
Helo @AlwynapHuw: - Gwych! Mae'r prosiect wedi cychwyn felly paid poeni am dal pethau nol. Os wyt ti'n hapus i nodi eich enw fel aelod o'r prosiect ar y tudalen yma bydd modd cyfru eich gwaith fel cyfraniad i'r prosiect. Byddaf yn ychwanegu tasgiau i'r tudalen yna dros y misoedd nesaf a mi wna'i cadw mewn cysylltiad am hynny. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 09:19, 16 Medi 2019 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw: Categori:Prosiect WiciLlên yn ddechrau llenwi'n ddechau, rhwng erthyglau a chyfryngau, dros gant o eitemau a llaw bellach. Nodyn bach caredig i gyfranwyr eraill, os ydych yn sgwennu pwt ar hap am fardd, awdur, llyfr, argraffydd, drama ac ati, cofiwch gynnwys [[Categori:Prosiect WiciLlên]] ar waelod yr erthygl, mae cynwys erthyglau fel rhan o brosiect byw yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ariannu'r Wicipedia Cymraeg AlwynapHuw (sgwrs) 03:07, 26 Hydref 2019 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr iawn am hyn AlwynapHuw, ac am eich holl gwaith ar y brosiect yma. Mae'n gwych gweld gymaint o erthyglau newydd. Dwi'n wrthi weithio ar gyfres o erthyglau am awduron benywaidd o Gymru, gan obeithio bydd modd rhannu rhywfaint cyn Nadolig!

@Jason.nlw: er gwybodaeth: Wicipedia:Wicibrosiect Llyfrau Gwales. Nododd Adda'r Yw / Adam - 'bod adolygiadau yn dangos barn, ac nid wyf yn credu y dylem dyfynnu'r holl adolygiad mewn erthygl wyddoniadurol.' a Rhys Wynne: 'Mae lot o'r adolygiadau yn cynnwys barn yr adolygydd. ' Ond yn bennaf, Anatiomaros: 'Does dim problem efo dyfynnu'r adolygiadau cyn belled â'n bod ni'n gwneud hi'n hollol glir mai barn adolygydd ydyw, nid barn Wici (fel arfer mae hynny'n amlwg wrth ddyfynnu awdwr gyda'r dyfyniad rhwng dyfynodau a chyfeiriad gyda'r ffynhonnell, wrth gwrs).' Felly gofal! Cell Danwydd (sgwrs) 10:36, 30 Hydref 2019 (UTC)[ateb]

@Cell Danwydd: Helo. Dw'i ddim yn siwr beth sydd wedi sbarduno'r rhybudd yma? Dydw i ddim wedi defnyddio unrhyw testun o adolygiad o Gwales neu unrhyw le arall ar Wicipedia a dw'i heb awgrymu unrhyw le bod hynny'n digwydd. Fi'n gweithio efo Gwales i defnyddio testun o bywgraffiadau mae nhw wedi ysgrifennu am awduron ond does na ddim bwriad defnyddio unrhyw manylion o adolygiadau, am y resymau amlwg uchod. Dw'i eisiau sortio cwpl o bethau mas efo Gwales cyn rhannu newyddion am y cydweithio yn swyddogol efo'r gymuned ond maen nhw'n frwdfrydig iawn i ryddhau testun sydd yn ddefnyddiol ar gyfer creu erthyglau Wici am lyfrau ac awduron. Diolch Jason.nlw (sgwrs) 12:05, 30 Hydref 2019 (UTC)[ateb]
Jyst nodi er gwybodaeth oeddwn i, gan dy fod wedi golygu peth manylion am adolygiadau Gwales. Cell Danwydd (sgwrs) 13:35, 30 Hydref 2019 (UTC)[ateb]
Diolch Cell Danwydd, byddaf yn diolchgar os allwch chi cyfeirio at yr olygiadau perthnasol - rhag ofn bod fi wedi gwneud rhywbeth trwy gamgymeriad. Y gyd dw'i wedi bod yn gweithio arno yw Bywgraffiadau. Diolch eto Jason.nlw (sgwrs) 15:03, 30 Hydref 2019 (UTC)[ateb]
Nodyn:AwduronGwales Cell Danwydd (sgwrs) 15:48, 30 Hydref 2019 (UTC)[ateb]
Diolch Cell Danwydd - Mae'r Nodyn yma yn nodi - "Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o bywgraffiad yr awdur ar wefan Gwales" felly popeth yn iawn, a gallaf gadarnhau bod dim cysylltiad efo adolygiadau Gwales. Jason.nlw (sgwrs) 16:03, 30 Hydref 2019 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw: Mae nifer o erthyglau diddorol newydd am wrachod Cymru wedi eu creu yn niweddar; yn bennaf gan criw Llyfr a Gwin (ee Eiddwen Llyfr a Gwin, Sioned Llyfr a Gwin). Gan fod hanes gwrachod ac ati yn rhan o lên gwerin Cymru a ddylid gofyn iddynt i osod linc o'u gwrachod i [[Categori:Prosiect WiciLlên]]? AlwynapHuw (sgwrs)
@AlwynapHuw:. Helo Alwyn. Diolch yn fawr iawn am dynnu fy sylw at hyn - nifer o erthyglau diddorol iawn! Caf air efo'r golygyddion am ychwanegu'r categori. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 11:01, 4 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]

Erthygl lleia rioed!

golygu

Dyma'r erthygl leia i mi weld erioed! A honno ar y Wicipedia Saesneg!

Gweler: Marsupella.

Efo'n gilydd: Ha ha ha!!! Cell Danwydd (sgwrs) 15:39, 23 Hydref 2019 (UTC)[ateb]

Linc ODNB dim yn gweithio

golygu

Mae pob erthygl sy'n cynwys data Rheoli awdurdod o'r ODNB yn cynwys linc i (Mynediad llyfrgelloedd cyhoeddus) sydd yn dod a'r neges Proxy Error The proxy server received an invalid response from an upstream server.The proxy server could not handle the request GET /oxforddnb/info/freeodnb/libraries/. Reason: DNS lookup failure for: oxforddnb.oup.com. Rwy'n methu gweld sut i'w newid na'i gwirio. Help! AlwynapHuw (sgwrs) 02:50, 26 Hydref 2019 (UTC)[ateb]

Newydd drio'r ddolen ar dudalen Gwynfor Evans ac mae'n gweithio'n iawn, Alwyn. Cell Danwydd (sgwrs) 13:38, 30 Hydref 2019 (UTC)[ateb]
Mae na dri rhan i'r linc sy'n cael ei greu gan Rheoli awdurdod sef ODNB: Bywgraffiadur Cenedlaethol Geiriadur Rhydychen (Mynediad llyfrgelloedd cyhoeddus). Mae ODNB: yn mynd at erthygl Wicipedia am yr ODNB, ac yn gweithio'n iawn; Mae Bywgraffiadur Cenedlaethol Geiriadur Rhydychen yn mynd at yr erthygl am yr unigolyn (Gwynfor) ac yn gweithio'n iawn; Roedd y trydydd rhan (Mynediad llyfrgelloedd cyhoeddus) yn arfer mynd i dudalen oedd yn egluro sut mae cael mynediad trwy aelodaeth llyfrgell mae'r rhan yma yma wedi torri. Mae'r gwybodaeth dal ar gael ar Oxford DNB Page Subscribe, ond rwy'n fethu gweld sut mae newid yr hen URL am yr un newydd. AlwynapHuw (sgwrs) 23:04, 30 Hydref 2019 (UTC)[ateb]
Dwi'n cael yr un problem. A dw'i ddim yn siwr o ble mae'r dolen yna'n dod. Dydy o ddim ar y cofnodion Wikidata. Un syniad - ydy'r linc yma ond yn gweithio ar safle llyfrgelloedd cyhoeddus? - ond mae'n edrych o'r neges gwall, bod y linc wedi tori. Jason.nlw (sgwrs) 10:19, 31 Hydref 2019 (UTC)[ateb]

Xexen (ok, Chechen / Tsietsien) - sut mae wedi codi cymaint?!

golygu

Sylwi o edrych ar y rhestr Top 10 ieithoedd o ran nifer erthyglau ar Wikipedia fod Xexen wedi codi i rhyw swm rhyfeddol o uchel, rhif 35! Sut hyn? Siwr ei fod tu ôl y Gymraeg yn reit ddiweddar. Oes 'na bot ganddyn nhw gallwn ni ddwyn? Ydy bots Putin yn eu helpu? ;-)

... a tra 'mod i wrth, gawn ni plîs goddiweddid Volapuk!? Mae'n sarhad bod esgus iaith ar ein blaen. Dyma fy mreuddwyd! Stefanik (sgwrs)

@Stefanik: Paid â breuddwydio amdano mwy. Dw i'n gweld heddiw ein bod wedi goddiweddyd Volapük! Megis trwy hudoliaeth... --Craigysgafn (sgwrs) 20:33, 10 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
Efo'r holl lefydd yn y Merica mae Robin wedi eu cyfrannu dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi codi 3 ris yn uwch (rhif 60 rwan) yn y tabl. Melys moes mwy AlwynapHuw (sgwrs) 23:59, 10 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Tasg Prosiect WiciLlen

golygu

Helo pawb, Hoffwn dynnu eich sylw eto at brosiect WiciLlên. Ar ôl i Gwales cytuni i ryddhau testun bywgraffiadau efo ni yn agored, mae 'na dasg wedi ychwanegu i'r tudalen prosiect - i ddefnyddio'r testun agored i gychwyn erthyglau am awduron benywaidd. Felly os oes gennych ddiddordeb, ewch draw i Dudalen prosiect WiciLlên am ragor o fanylion. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 12:54, 5 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]

Nodyn newydd ar gyfer y wybodlen llyfrau

Mae Nodyn:Pethau yn barod ar gyfer erthyglau newydd. Gelli ychwanegu'r ddelwedd yn lleol, fel gyda'r erthygl Blits (nofel). Gweidda os ti isio rhagor o fynegiadau / statements e.e. maint y llyfr neu'r llawysgrif. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:35, 13 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]

Cynnig ychwanegu baneri y 4 wlad ar Nodyn:Infobox election

golygu

Cynigiaf ychwanegu baneri'r bedair wlad ar y wybodlen Nodyn:Infobox election. Dyma sut y byddai'n edrych: Defnyddiwr:John Jones/Test. Beth ydych yn ei feddwl? Llai imperialaidd ac mae'r jac yr undeb yn sarhaus i lawer o'n darllenwyr, yn fy marn i. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 20:39, 12 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]

Cytuno gyda hyn! Cell Danwydd (sgwrs) 08:00, 3 Rhagfyr 2019 (UTC)[ateb]
Rwy'n cytuno hefyd oes angen banner Cernyw hefyd?)AlwynapHuw (sgwrs) 00:45, 5 Rhagfyr 2019 (UTC)[ateb]
Gwych! Mi ai ati i ychwanegu'r un uchod. Alwyn: oes cyfeiriad at ffynhonnell ddibynadw fod Cernyw yn cael ei chydnabod heddiw'n wlad? Ac felly hefyd gydag Ynys Manaw? Dw i'n sylwi nad oes unrhyw ffynhonnell ar yr erthygl ar Cernyw, felly fe all rhywun dynnu'r gosodiad fod Cernyw yn wlad. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:40, 11 Rhagfyr 2019 (UTC)[ateb]
Gwych, diolch! Gallem ni roi Caernyw hefyd os g yn dda? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:36, 11 Rhagfyr 2019 (UTC)[ateb]
Wedi gwneud. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:45, 11 Rhagfyr 2019 (UTC)[ateb]

creu Erthyglau efo AWB

golygu

@AlwynapHuw, Lesbardd, Adda'r Yw, John Jones, Dafyddt, Deb, Duncan Brown:@PelaDiTo, Deri Tomos, Sian EJ, Cell Danwydd, Ham II, Prosiect Wici Mon, Llywelyn2000:

Helo pawb!

Hoffwn ofyn am ganiatâd i lwytho 75 (gan gynnwys yr 8 isod) erthygl efo 'BOT' AWB. Nid yw'r erthyglau yma yn erthyglau awtomatig ond erthyglau eginyn sydd yn defnyddio testun o wefan Gwales sydd wedi addasu ar law ar gyfer Wicipedia. Mae'r holl erthyglau am fenywod sydd wedi cyhoeddi llyfrau Cymraeg neu gan gyhoeddwyr Cymraeg. Dyma 8 enghraifft i chi pori.

  1. Hazel Walford Davies
  2. Eirlys Wyn Jones
  3. Dana Edwards
  4. Beryl Hughes Griffiths
  5. Lowri Cynan
  6. Jo Cox (artist)
  7. Juliet Bebbington
  8. Dr Sallie Baxendale

Byddaf yn ddiolchgar am unrhyw sylwadau, cwestiynau ayyb. Cofion Jason.nlw (sgwrs) 14:32, 13 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]

Helo a diolch. Mae'r hyn mae'r bot wedi ei wneud yn wahanol i be wela i, gan iti olygu efo dy gyfri di. Er enghraifft y golygiad yma a hwn. Os wyt ti am bwmpio lot o erthyglau, a wyt ti wedyn am eu cywiro i gyd, neu ydy'r cangymeriadau wedi eu cywiro? Nodais ambell gywiriad ar yr erthygl gynta, ac mae cyfeiriad neu ddau yn ymarfer da, yn wir yn angenrheidiol ar Wicipedia. Dydw i ddim yn siwr am logo Gwales, ond o'i wneud yn llai, mae'n edrych yn gret. 85.254.72.25 14:47, 13 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Hefyd ar yr erthygl ar Lowri Cynan, mae na lot o wallau ee atalnod llawn ar ddiwedd brawddeg ac italcs cywir. Cyhoeddwyd GAN sy'n gywir. Dim angen dau fwlch rhwng paragraffau. Bydd angen cywiro'r math yma o gangyms cyn botio, i fod yn deg. 85.254.72.25 15:18, 13 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Cytunaf â'r sylw olaf 'na. Deb (sgwrs) 15:44, 13 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Rwy'n ddigon bodlon iddynt gael eu llwytho. Mae'r erthyglau fel y maent yn rhoi cyflwyniad cryno ddigon dechau i'r awduron. Maen nhw'n weddol hawdd eu golygu (rwyf wedi ehangu hanes Hazel Walford Davies o 1,314 beit i 5,321 beit mewn ychydig funudau), ac efo dim ond 75, yn hytrach na'r miloedd sydd wedi creu yn awtomatig yn y gorffennol, bydd ehangu'r cwbl ddim yn ormod o waith. AlwynapHuw (sgwrs) 16:49, 13 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Diolch i bawb am y sylwadau hyd yma. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn. Mae cyhoeddi efo AWB wedi dod a chwpl o broblemau i'r golwg - a dyna'r rheswm dros y holl olygiadau wedyn. Ond mi wna'i datrys hyn cyn cyhoeddi rhagor. Mae'r templed Gwales yn cyfeirio at y testun gwreiddiol ond dwi'n hapus i gynnwys hyn fel cyfeiriad hefyd. Diolch AlwynapHuw am ychwanegu at yr erthyglau'n barod! Jason.nlw (sgwrs) 20:07, 13 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Hoffwn i jyst holi am gadarnhad ynglyn a sylw gan 85.254.72.25, sef - "Cyhoeddwyd GAN sy'n gywir". Mae - Cyhoeddwyd Cynan y gyfrol Cyfres Codi'r Llenni: Mewn Limbo - Sgript a Gweithgareddau GAN Y Lolfa yn 2007 - ddim yn swnio'n iawn i mi (Cynan published the volume BY Y Lolfa). 'With' o ni'n ceisio dweud. Felly beth yw'r ffordd gorau o ysgriffeni'r brawddeg yma? Byddaf yn diolchgar am unrhyw cymorth. Jason.nlw (sgwrs) 10:58, 14 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Os wyt yn son am y golygiad yma, yna ga i awgrymu: Cyhoeddwyd y gyfrol Cyfres Codi'r Llenni: Mewn Limbo - Sgript a Gweithgareddau gan Wasg y Lolfa yn 2007. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:16, 14 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Helo Llywelyn2000. Bydd brawddeg tebyg yn ymddangos mewn sawl erthygl felly eisiau cael e'n iawn. Mi wna'i defnyddio'r ffurf yma. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 08:40, 15 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]

Lansio Prosiect Wici-Addysg

golygu

Bore da. Er gwybodaeth, dyma datganiad i'r wasg yn lansio prosiect newydd i gwella cynnwys Wicipedia sydd o'r defnydd mwyaf i blant ysgol! - Byddaf yn rhannu mwy am hyn ar Wicipedia dros y misoedd nesaf. Jason.nlw (sgwrs) 10:01, 14 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]

Angen newid statws israddol Cymru ar Comin

golygu

Dw i wedi cychwyn trafod categoriau ar Comin yn fama. Does dim byd yn wleidyddol yn fy argymhelliad (!). Ar hyn o bryd mae yma wendid rhwng yr hyn sydd ar Comin a rheolau Comin. Er mwyn dileu'r gwahaniaeth, dw i'n gofyn iddyn nhw wneud eithriad o wledydd ym u rheolau, gan bod nifer o eithriadau eraill wedi eu derbyn. Fel mae'n digwydd, os cytunir yna byddem yn medru ychwanegu Cymru yn y Categori:Gwledydd Ewrop yn ogystal a'r categori presennol, sef Categori:Y Deyrnas Gyfunol. Mae Cymru'n un o wledydd y DU, ydy, ond mae hefyd yn wlad oddi fewn i Ewrop. Byddai cefnogaeth i fy argymhelliad yn wych iawn. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:04, 14 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]

Cytuno efo'r egwyddor o gael Cymru fel gwlad yn Ewrop a DU, ond ydy creu rhagor o gategorïau yn mynd i helpu efo darganfod cynnwys? - dyna'r llinell mesur pwysig, dwi'n credu. Dwi'n gobeithio, yn y tymor hyr, bydd 'Structured data on Commons' yn datrys y broblem. Jason.nlw (sgwrs) 14:42, 14 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Ar hyn o bryd, pan fo darllenwr, ar Comin, yn chwilio drwy 'Categori:Gwledydd Ewrop', dydy Cymru ddim yno, dim ond y DU! Byddai'r newid hwn yn ei gwneud yn haws i'r darllenwr ganfod Cymru. Felly hefyd gyda 'Category:Musicians by instrument by country', dydy Cymru ddim yno... ac felly hefyd gyda cannoedd o gategoriau eraill. Does neb yn gwybod yn iawn beth a ddaw yn y tymor hir. Os enillwn ni'r hawl i Gymru gael ei galw'n wlad (!) RWAN, yna bydd hynny'n parhau, beth bynnag ddaw. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:58, 14 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Os felly, credaf bod werth ymgyrchu dros y newid. Jason.nlw (sgwrs) 08:30, 15 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Wedi gwneud. Diolch! Cell Danwydd (sgwrs) 08:05, 3 Rhagfyr 2019 (UTC)[ateb]

Testun wedi eu gyfieithu

golygu

Sori, teimlo bo fi'n spamo chi'n braidd heddiw!

Fi newydd gael cyfarfod efo prif weithredwr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac mae'n awyddus iawn i gydweithio efo Wicipedia trwy gynnal digwyddiadau cyfieithu ar Wici efo Cyfieithwyr o dan hyfforddiant. Sydd yn Grêt!

Ond maen nhw hefyd wedi pitsio’r syniad o ddefnyddio testun Saesneg o Wikipedia ar gyfer ymarfer cyfieithu yn gyffredinol, ac wedyn darparu'r cyfieithiadau yn agored fel Word docs er mwyn i'r cymuded defnyddio i greu erthyglau Wicipedia Cymraeg. Bydd modd i ni darbapu rhestr o'r erthyglau hoffwn ni cael yn Gymraeg. Felly y gwestiwn yw - bydd werth mewn cael y testun yma? ac, a fydd diddordeb efo'r gymuned mewn addasu testyn o'r fath er mwyn creu erthyglau Wici Cymraeg?

Eto byddaf yn diolchgar am unrhyw sylwadau. Jason.nlw (sgwrs) 14:56, 14 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]

Bydd cael cyw cyfieithwyr i ymarfer cyfieithu gan ddefnyddio Wicipedia yn hwb mawr i gynnwys y safle. Rwyf yn 100% o blaid yr egwyddor. Rwyf hefyd yn hoffi'r syniad o ddarparu dogfennau Word plaen. Un o'r problemau efo jest cyfieithu erthygl o'r naill iaith i'r llall yw nad ydynt yn rhoi gwerth ychwanegol o ddefnyddio'r Gymraeg pam fo erthygl Saesneg neu Ffrangeg ac ati yn dweud yn union yr un peth. Wrth gyfieithu erthyglau dylem (pan fo'n bosib) cyfeirio at ffynonellau, enghreifftiau ac agweddau Cymraeg neu Gymreig at bwnc. Pethau na allwn ddisgwyl i gyfieithydd dan hyfforddiant i wneud. Yr unig gwestiwn sydd gennyf yw faint o waith ychwanegol byddai addasu'r cyfieithiadau Word yn creu i olygyddion rheolaidd. Does dim pwynt cael mwy o ddogfennau na allem ymdopi a nhw. Be mae eraill yn meddwl? @Lesbardd, Adda'r Yw, John Jones, Dafyddt, Deb, Duncan Brown:@PelaDiTo, Deri Tomos, Sian EJ, Cell Danwydd, Ham II, Prosiect Wici Mon, Llywelyn2000: @Craigysgafn, Stefanik: AlwynapHuw (sgwrs) 03:50, 22 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
  Cytuno Llywelyn2000 (sgwrs) 09:23, 11 Rhagfyr 2019 (UTC)[ateb]
Diolch Llywelyn2000 a AlwynapHuw am yr adborth ar hyn. Bydd hyn yn defnyddiol wrth i'r trafodaethau parhau. Jason.nlw (sgwrs) 12:11, 31 Ionawr 2020 (UTC)[ateb]

Awgrymu gwneud Craigysgafn yn Weinyddwr

golygu

Yn ychwanegol at olygu, mae @Craigysgafn: hefyd wedi bod yn gwrthdroi fandaliaeth dros y ddwy flynedd diwethaf, ond yn methu atal / blocio'r fandal. Carwn awgrymu ein bod yn rhoi'r gallu hwn iddo. Gofynais ar ei dudalen defnyddiwr a fyddai ganddo ddiddordeb ac atebodd yn bositif. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:23, 15 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]

Cytuno  Y Dafyddt (sgwrs) 17:01, 15 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Cytuno  Y Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 18:51, 15 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Cytuno  Y AlwynapHuw (sgwrs) 11:51, 16 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Cytuno  Y Jason.nlw (sgwrs) 10:48, 18 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Cytuno  Y John Jones (sgwrs) 10:58, 21 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Gai awgrymu bod @Stefanik:, hefyd, yn cael ei wneud yn weinyddwr, mae mynd trwy ei gannoedd o olygiadau i Farcio bod y dudalen wedi derbyn ymweliad patrôl, yn boen yn y parth ôl! AlwynapHuw (sgwrs) 03:50, 22 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Alwyn, dof nol at hyn cyn hir! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:05, 26 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]
Dyma fi, newydd ddychwelyd i'r cyfrifiadur ar ôl diwrnod o wersi Cymraeg yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, ac mae wedi digwydd - dw i wedi cael fy nyrchafiad i statws Gweinyddwr. Diolch yn fawr, bawb. Mae hon yn fraint wirioneddol. Craigysgafn (sgwrs) 16:06, 25 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]

Diolch i bawb! I gadarnhau - rhoddwyd galluoedd Gweinyddwr i Defnyddiwr:Craigysgafn. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:05, 26 Tachwedd 2019 (UTC)[ateb]

golygu

Symudwyd i'r gornel Saesneg

Welsh on Netflix

golygu

Symudwyd i'r gornel Saesneg

Extension of Wikipedia Asian Month contest

golygu

Symudwyd i'r gornel Saesneg

Enwau AS wedi'r etholiad

golygu

Jyst i'ch atgoffa chi, mai dim ond rhyw 40 newid sydd ei angen, a mi fydd yr wybodaeth yn llifo'n otomatig i bob erthygl sy'n cynnwwys y nodyn (neu'r 'swits') yma. Mewn geiriau eraill, os ychwanegwch enw'r AS llwyddiannus yn y categori yma: Categori:Switsis gweinyddu, yna mi wneith yr enw ymddangos ym mhob gwybodlen lle. Mi allai fynd ati dros y penwythnos, ond ddim cynt, gan mod i'n asiant i un o'r ymgeiswyr, ac felly yn y cyfri. Croeso i chi ei newid 'yn fyw', wrth i'r canlyniad ddod i'r fei! Bydd yn rhaid ienwici, wrth gwrs, newid enw'r ASau gyda llaw! Trueniaid bach! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:22, 11 Rhagfyr 2019 (UTC)[ateb]

Mae etholiad yn fwy o boen na dim ond Categori:Switsis gweinyddu, mae angen diweddaru pob etholaeth, a gyda llwyth o etholaethau yn newid llaw mae angen newid llwyth o "bocs etholaeth" a chreu byr fywgraffiad o'r holl ASau newydd. Mae democratiaeth yn boen yn y parth ôl! AlwynapHuw (sgwrs) 07:05, 14 Rhagfyr 2019 (UTC)[ateb]
Sut mae newid lliwiau ar y map o holl etholaethau Cymru? AlwynapHuw (sgwrs) 22:51, 14 Rhagfyr 2019 (UTC)[ateb]
Ydy, tipyn o niwsans, a diolch am yr holl waith wnest ti Alwyn!
'Newid lliwiau ar y map' - wyt ti'n cyfeirio at y map yma ar Comin? Gall rhywun newid y lliwiau, ond bydd yn ofalus, gan fod llawer yn cadw llygad barcud ar bob golygiad gwleidyddol, a 'gwawr' (tint) pob lliw. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:53, 6 Chwefror 2020 (UTC)[ateb]

Add Europeana Entity to Nodyn:Authority_control

golygu

Symudwyd i'r gornel Saesneg


Wiki Loves Folklore

golygu

Symudwyd i'r gornel Saesneg

Cyfri'n Cewri

golygu

Dwi wedi cychwyn prosiect ac mae croeso i chi gymryd cip arno. Cychwyn golygu ar Wici yw fy hanes - croesawaf eich awgrymiadau - byddwch yn amyneddgar! GarethFfowc (sgwrs) 15:24, 6 Chwefror 2020 (UTC)[ateb]

Prosiect ddiddorol Gareth.
Dw i'n siwr y cewch gymorth ein golygyddion yn creu ac yn gwella rhai o'r erthyglau ar eich rhestr: Defnyddiwr:GarethFfowc/rhestr mathemategwyr. Croeso atan ni! Byddwch ddewr! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:13, 8 Chwefror 2020 (UTC)@[ateb]

Erthyglau newydd ar ffyngau

golygu

Rwyf wedi derbyn holl enwau safonol ffyngau amrywiol Cymdeithas Edward Llwyd, tua mil a hanner, a'u trosglwyddo i Sian EJ. Diolch Duncan a Robin! Mae Sian am fynd ati i'w rhoi ar Wicipedia, a mi wna i'n siwr fod y gronfa ddata'n lan cyn hynny, a'u ehangu wedyn. Bydd y categoriau'n cael eu creu yn gyntaf - Sian sydd a'r bot, felly drosodd ati hi! Cadwch eich llygad ar Categori:Enwau cyffredin grwpiau o ffyngau Cell Danwydd (sgwrs) 17:17, 20 Chwefror 2020 (UTC)[ateb]

@Adda'r Yw, Jason.nlw, GwrGwerinGora, Dafyddt, AlwynapHuw, Sian EJ, Craigysgafn: Tybed a gaf eich sylwadau ar yr erthyglau yma rwy'n eu creu os gwelwch yn dda?
Tafod daear gwyrdd (Un o'r lleiaf); Cap ffibr marwol (un o'r hiraf); Seren ddaear garpiog; Marchog melyn; Tegyll brau eurog (byr); Cawell gwyn; Boned benfain. Y rhai diweddaraf i mi eu gwneud yw Cap llaeth llwydwyn (hir), Cwrel lelog (byr), Cap llaeth dwn (hir) a'r Cap ardyfol blodiog.
Mae Llywelyn2000 wedi creu Nodyn (disgrifiad o'r ffwng) sy'n creu paragraff pan y mae na wybodaeth ar Wicidata. Felly, wrth i Wicidata dyfu, bydd yr erthyglau bychan yma hefyd yn tyfu. Dw i'n deall hefyd fod Cymdeithas Edward Llwyd (ar gais Robin a fi) wrthi'n paratoi rhestr o'r ffwng sydd ar gael yng Nghymru. Gallem ychwanegu hyn, wedi i'r erthyglau gael eu creu. Sian fydd yn uwchlwytho, gan nad ydw i'n deall y bots ma. Diolch am eich amynedd! Cell Danwydd (sgwrs) 14:36, 2 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Iawn gen i, Gwyn. Mae'r erthyglau lleiaf yn eitha cynhwysfawr! Pasia'r taenlen draw pan rwyt yn barod - neu gwell i ti ddisgwyl ychydig rhag ofn bod sylwadau erill efallai. Sian EJ (sgwrs) 20:54, 3 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Diolch. Mi arhosai chydig ddyddiau rhag ofn fod gan rhywun arall awgrym neu ddau. Cell Danwydd (sgwrs) 09:14, 5 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Wel dyna 1420 o erthyglau newydd, pob un yn cynnwys enwau Cymraeg y rhywogaethau. Diolch i babw. Efallai fod ambell gategori yn dal heb eu cysylltu i riant gategori, ond wedi edrych ar gryn dipyn ohonyn nhw, wela i run. Rhowch wybod os oes nam. Mae'r categori ar rywogaethau o Gymru'n dal yn anghyflawn, ar hyn o bryd. Cell Danwydd (sgwrs) 12:34, 11 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Cymharer gyda: en:Russula adusta!!! Cell Danwydd (sgwrs) 08:15, 6 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
@Sian EJ: drosodd i ti Sian! Neb wedi codi unrhyw beth. Cell Danwydd (sgwrs) 10:47, 6 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]

Bot Lysteria

golygu

Mae bot Lysteria i fod i ddiweddaru rhestrau awtomatig i restrau wicidata pan fo hyn a hyn o wybodaeth newydd neu ar gais. Dydy'r "ar gais" ddim yn gweithio o gwbl. Rwyf wedi newid dros 200 o nodion wybodaeth ar Rhestr o bobl gyda chofnod ar y Bywgraffiadur Cymreig Arlein gan gynwys mwy na 50 delwedd (sy'n ymddangos ar y rhestr tebyg Saesneg) ac ambell i erthygl heb unrhyw newid i'r restr ers bron i wythnos. Does dim pwrpas parhau a phrosiect y Bywgraffiadur / WiciLlên oni bai bod y bot yn gwneud ei waith! AlwynapHuw (sgwrs) 05:24, 28 Chwefror 2020 (UTC)[ateb]

Mae hon yn rhestr anferthol, felly mi faswn i'n dweud fod na 'time-out' yn digwydd - credaf i mi gael hyn fel rhybudd, ryw dro. Ond tro yma, rhewi wnaeth o, gyda'r geiriau 'Trying to update Rhestr_o_bobl...' @Llywelyn2000: Efallai ei bod yn rhewi os yw'r bandwidth yn fach, h.y. cyfnod prysur? Ond mae i'w gweld yn gweithio, dros gyfnod. Cell Danwydd (sgwrs) 13:33, 2 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Ie, mae'n goblyn o hir - roeddwn i'n credu fod na capio, ar uchafswm o 3,000, os cofiaf yn iawn. Sian EJ (sgwrs) 20:56, 3 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]

Penybont

golygu

A oes gwahaniaeth rhwng Pen-y-bont, Powys a Penybont, Powys? --Llydawr (sgwrs) 11:49, 28 Chwefror 2020 (UTC)[ateb]

Wedi edrych ar y mapiau ar Wicidata mae'n edrych fel nad oes gwahaniaeth rhwng y ddwy le. (Er bod y cyfesurynnau map ychydig yn wahanol, mae'r "ddwy" pentrefan i'w gweld fel eu bod ar yr A44 rhwng Rhaeadr Gwy a Llanfihangel Nant Melan). Angen uno'r ddwy erthygl Cymraeg a'r ddwy eitem data mi dybiaf. Oes barn gan aelod o'r gymuned sy'n fwy cyfarwydd â'r ardal na fi? Os na ddaw ymateb o fewn yr wythnos nesaf mi af ati i'w huno. AlwynapHuw (sgwrs) 03:44, 2 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Cytuno gydag Alwyn. Cadwer 'Penybont, Powys', gan mai dyna sillafiad y Cyngor Cymuned. Diolch Llydawr! Cell Danwydd (sgwrs) 13:16, 2 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Yr erthyglau a'r eitemau data bellach wedi eu huno AlwynapHuw (sgwrs) 18:52, 10 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Diolch i bawb. --Llydawr (sgwrs) 21:13, 10 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]

Y Gofid Mawr

golygu

Oherwydd enbydrwydd y sefyllfa da ni ynddi, dw i wedi rhoi 4 dolen i'r erthyglau ar y Gofid Mawr ar yr Hafan. Os oes rhywun yn gwrthwynebu, fe'u tynnaf i lawr. Neu unrhyw awgrymiadau? Llun / baner o'r firws? ayb... Llywelyn2000 (sgwrs) 15:56, 25 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]

Mae'r dolenni yn syniad gwych, ond maen nhw mewn perygl o gael eu colli yn y gornel honno. Felly efallai y byddai'n syniad da cael delwedd neu rywbeth i ddal y llygad. Diolch am dy waith ar yr erthyglau! --Craigysgafn (sgwrs) 18:05, 25 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Diolch! Ydy o'n edrych yn well rwan?
Oni ddylem gofnodi'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru o ran y Gofid Mawr? Tynnu lluniau posteri ayb, cyn fod y cyfan yn mynd yn anghof. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:59, 26 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Mae hynny'n gweithio. Diolch!
Wrth gwrs, byddai'n wych cael gwybodaeth am y sefyllfa yng Nghymru, ond a oes unrhyw beth ar gael? Mae'r pethau ar-lein yn ymddangos yn brin iawn. --Craigysgafn (sgwrs) 18:21, 26 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Dwy ffynhonnell dda am y sefyllfa yng Nghymru yw erthyglau Nation Cymru a ffrwd Twitter LloydCymru, bachgen ysgol o Aberystwyth sy'n creu mapiau dyddiol allan o'r data am ledaeniad y firws yng Nghymru AlwynapHuw (sgwrs) 21:29, 27 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Diolch, Alwyn. Mae'r dolenni hynny'n ddefnyddiol. --Craigysgafn (sgwrs) 22:07, 27 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]

Gret! Dechreuwyd Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru ond croeso i chi newid y teitl ac ychwanegu ati! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:38, 28 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]

Gwych! Diolch. Mae hynny'n wasanaeth mawr i'r gymuned. --Craigysgafn (sgwrs) 14:44, 28 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw, Adda'r Yw, John Jones, Dafyddt, Deb, Sian EJ, Cell Danwydd: Er ei fod yn ymdrin â chadw cofnod o fywyd o dan y Gofid Mawr yn UDA, dyma erthygl ddiddorol am bobl yn gadw dyddiaduron ar lein o'u profiadau o'r argyfwng <https://www.technologyreview.com/2020/04/21/999946/coronavirus-instagram-tumblr-journal-diary/> Tybed a byddai prosiect tebyg gan Wicipedia / LlGC neu fudiad arall yng Nghymru o fudd i gof y genedl. AlwynapHuw (sgwrs) 01:30, 1 Mai 2020 (UTC)[ateb]
Syniad da! Deb (sgwrs) 07:48, 1 Mai 2020 (UTC)[ateb]
Diddorol iawn. Diolch am rhannu Alwyn. Mi wna'i cael sgwrs efo'r tîm, a staff Casgliad y Werin i gweld os mae na rhywbeth tebyg ar y gweill.Jason.nlw (sgwrs) 19:23, 3 Mai 2020 (UTC)[ateb]
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi dechrau rhywbeth tebyg i Gymru bellach Tudalen y prosiect ar gael yma ac mae stori am y prosiect ar BBC Cymru Fyw AlwynapHuw (sgwrs) 17:51, 16 Mai 2020 (UTC)[ateb]

Smonach Twrnai Gwladol Lloegr a Chymru

golygu

Wrth geisio ail-gyfeirio yr erthygl Twrnai Gwladol Lloegr a Chymru i'w enw cywir Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr rwyf rywsut wedi dileu yr erthygl gwreiddiol ac yn methu canfod modd o'i adfer. Help! AlwynapHuw (sgwrs) 04:48, 26 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]

@AlwynapHuw: Ti di llwyddo i symud tudalen wag: heb arni staen na chraith, na thestun! Dyma hanes y dudalen. Pe bai na erthygl wedi'i dileu, byddai botwm yn dangos gyda'r geiriau 'Mae'r erthygl Twrnai Gwladol Lloegr a Chymru wedi'i dileu; atgyfodi'r erthygl a ddilewyd?' neu rywbeth tebyg. Felly, mae'n ymddangos i ti greu erthygl (wag) ac yna ei symud. Wyt ti'n siwr mai Twrnai Gwladol Lloegr a Chymru oedd union enw'r erthygl? Llywelyn2000 (sgwrs) 04:57, 26 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Do mi symudais yr un dudalen ddwywaith o Twrnai Gwladol Lloegr a Chymru i Twrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru ac eto i Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr a dyna lle gollwyd yr erthygl gwreiddiol! Yr hyn rwy'n methu canfod modd i'w wneud yw gosod cyn gynwys Twrnai Gwladol Lloegr a Chymru i Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr (sy'n dudalen wag o gynnwys ar hyn o bryd)! AlwynapHuw (sgwrs) 05:37, 26 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Majic! Twrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:43, 26 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Diolch Robin! AlwynapHuw (sgwrs) 05:23, 27 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]

Dinasoedd UDA

golygu

Fel y gwyddoch, dw i wedi bod yn gweithio ar otomeiddio rhai erthyglau ar cywici, gyda'r wybodaeth yn llifo o Wicidata. Yn ysbryd y Wicipedia cyfoes, ffres, ifanc, mae pob un yn cynnwys dros 3 paragraff, gwybodlen, rhest o drefi ayb. Mae hyd yn oed yr hen flychau llywio ar eu newydd gwedd - ac yn tynnu gwybodaeth o WD. Y cwestiwn mawr i mi oedd hyn: gellid rhoi dau air yn unig (Nodyn:Testun lle) ar y dudalen, fel y gwnes (yn arbrofol) gyda Autauga County, Alabama ar 17 Mawrth, ond mae hynny'n ei gwneud yn anodd i rywun ei golygu. Ers hynny, dw i wedi rhoi'r cod ar y dudalen gydag esboniad i'r darllenydd sut i olygu. Gellid dadlau fod yr hen Gwybodlenni'n anodd eu golygu, i'r rhan fwyaf o olygyddion, a bod yr hyn a welir ar y tudalennau newydd, isod ychyig yn haws! Bid a fo am hynny, hoffwn eich sylwadau a'ch awgrymiadau os gwelwch yn dda, cyn mynd ati i'w creu gyda BOT-Twm Crys. Dyma lond llaw:

Sylw: wedi'r ddwy yma, newidiais y frawddeg agoriadol o 'Sir a leolir yn nhalaith Gogledd Carolina...' i 'Sir yn nhalaith Gogledd Carolina...', sy'n fwy naturiol. Ychwanegwyd hefyd manylion am y Cylchfa Amser .
Sylw: newid y rhestr trefi - poblogaeth mwyaf yn gyntaf; mwyafrif - 15 tref

Pob hwyl! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:06, 27 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]

Edrych yn dda, ymlaen i wneud holl siroedd y byd 🤣! Un pwynt bach Sefydlwyd Clinton County, Efrog Newydd ar 1788 os nad oes dyddiad manwl ar gyfer pob un sir, posib byddai'n well cadw at flwyddyn yn unig gyda ym o'i flaen. Un awgrym arall. Yn y wybodaeth sydd ar god y ddalen mae'r cyfarwyddyd Neu ychwanegwch bennod newydd o dan y ddwy ddelwedd isod; sydd ddim yn glir iawn gan nad yw'n 100% eglur lle mae'r ddwy ddelwedd isod. Be am rywbeth megis: <gellir ychwanegu paragraffau newydd yma> yn y lle priodol? AlwynapHuw (sgwrs) 21:44, 27 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Diolch Alwyn! Dyddiadau - ro'n i'n chwilio am ffordd i wenud swits (ym 1878/ yn Awst 1878 / ar 1 Awst 1878), ond mae dy ddull di'n symlach ac yn ateb haws i'w weithredu (dw i'n meddwl!) Ac mae ychwanegu'r union fan hefyd yn rhagori! Gwych iawn. Mi arhosai am dipyn rhag ofn bod rhagor o syniadau gwych yn dod! Cadwch yn saff! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:40, 28 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Dyma ni: Choctaw County, Alabama, Cherokee County, Alabama a Glades County, Florida. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:29, 29 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Helo Llywelyn2000. Llongyfarchiadau ar yr erthyglau yma. Mae'n anhygoel gweld beth sy'n bosib efo data yn unig ac mae'r erthyglau yn edrych yn gynhwysfawr. Mae gen i gwpl o sylwadau. Yn gyntaf mae'r ail gyfeiriad, sef Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau i weld wedi tori ar bob erthygl. Yn ail, dw'i yn poeni am y gallu i olygu'r erthyglau yma yn y dyfodol. Nes i ddilyn y canllawiau er mwyn golygu Cherokee County, Alabama er mwyn newid Cafodd ei henwi ar ôl Cherokee Nation i Cafodd ei henwi ar ôl y Cherokee ond roedd rhaid ail osod y cyfeiriadau ac nid oedd yn hollol glir pa destun oedd angen cadw, o ganlyniad nes i ddileu'r gwybodlen ar ddamwain. Roedd pethau ym mwy clir (i mi) trwy olygu'r cod ond rwy’n disgwyl bydd llawer yn y dyfodol yn dewis golygu yn y ffordd newid. Felly, y cwestiwn yw, ydy'n ni'n gweld hwn fel creu heriau di angen ar gyfer y dyfodol? Ydy e'n well gwneud 'snapshot' statig o'r data er mwyn gwneud e'n haws i bobol olygu? neu dyle ni derbyn bod rhai erthyglau fel hyn ar bynciau mwy 'niche' yn dibynnu ar ddata er mwyn i olygyddion ganolbwyntio ar bynciau craidd? Dw'i ddim yn siŵr beth yw'r ymateb ond credu bod e'n pwysig bod ni'n ofyn y cwestiwn er mwy'n cadw'r proses o cyfrannu i Wicipedia yn syml ac yn apelgar i gymuned eang. Jason.nlw (sgwrs) 13:58, 30 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]

Haia Jason. Dechreuodd BOT-Twm Crys gyhoeddi'r erthyglau awr ac ugain munud cyn i ti adael dy neges; mae QuickStatements yn dal i redeg, yn eu cysylltu efo'r erthyglau. Fe gychwynwyd y bot gyda Clay County, Alabama, Cleburne County, Alabama a Coffee County, Alabama am 12:43. Ro'n i wedi gadael tridiau o amser i gael sylwadau, ac roedd pob un yn bositif. Diolch am dynnu fy sylw i'r cyfeiriad, mi wna i eu newid efo awb bore fory. Ie, erthyglau niche ydy'r rhain, ac anaml iawn mae pobl yn eu golygu; faswn i ddim yn defnyddio'r dull yma i sgwennu erthyglau am coronafirws! Dw i ddim yn siwr pam y gwnest ti - ar Cherokee County, Alabama - ddileu'r wybodlen, gan ei bod yn eitha amlwg mai gwybodlen yw hi; ond gyda dy ail olygiad, fe lwyddaist i wneud y golygiad. Felly, rwyt ti wedi profi ei bod yn eitha hawdd golygu'r cod. Gwych iawn. Mae croeso i bawb ddileu'r cod, ac ail sgwennu, wrth gwrs, ac ella fod angen cyfarwyddiadau mwy manwl. Pe bai rhywun yn styc, dw i'n siwr y gwnawn nhw ofyn. Wna i ddim mynd ar ol y cwestiwn pa un yw'r gorau gyda'r math yma o erthygl, snapshot neu cod? 'Snapshot' dw i wedi'i wneud hyd yma, a dyma brofi'r codio y tro hwn. Mae'n rhy hwyr trafod hyn gyda'r erthyglau yma, ond gallwn drafod hyn cyn hir, pan fydd cais arall yn dod i'r caffi.
Be sy'n bwysig i mi yw fod na erthyglau Cymraeg newydd, gyda chryn wybodaeth arnyn nhw; melys moes mwy! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:04, 30 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw: - Y cyfeiriad at Fiwro'r Cyfrifiad - mae'n dod o WiciData ac fe ddaw bot y cyfrifiad nesaf i wneud hynny'n otomatig cyn hir.
@AlwynapHuw: Diolch Alwyn am y syniad o roi penawdau newydd i 'Boblogaeth ac arwynebedd' a 'Siroedd o'r un enw' - hyn yn ei gwneud yn fwy clir ble mae'r darn i'w olygu, a mi wna i hyn y tro nesa. Llawer gwell! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:21, 31 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]

WiciBrosiect S4C

golygu

Newydd ddod ar draws hwn: Wicibrosiect S4C - gwych iawn! A mi rydw i wedi ychwanegu ychydig o'r wybodaeth am Hansh hefyd. @Prosiect Wici Môn, Monsyn, GwrGwerinGora: tybed a ydy plant Gwynedd ac Ynys Môn yn gwybod am hwn? Adnodd arbennig o gyfoes ynte! Sian EJ (sgwrs) 14:43, 31 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]

Rhy brysur sorri, ond mae hwn yn edrych yn werth chweil! Cell Danwydd (sgwrs) 15:54, 2 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Trefi UDA

golygu

Gyda holl siroedd UDA yn eu lle, yn hytrach na mynd ymlaen at siroedd Rwsia, fel y bwriadwn, efallai mai gwell fyddai creu erthyglau ar drefi'r UDA, fel eu bod yn cysylltu'n daclus gyda'i gilydd. Dw i felly wedi creu un erthygl, sef Hampstead, Maryland, ac mae'r cod yn gweithio ar unrhyw dref (ar wahan i un darn bach dw i'n gweithio arno ar hyn o bryd (otomeiddio Q-cod y Sir). Mae na elfennau (brawddegau) sydd ddim i'w gweld yn yr erthygl yma, ond a fydd yn ymddangos mewn trefi eraill ee ieithoedd a siaredir, ond bydd yn ymddangos cyn gynted ag mae'r wybodaeth yn cael ei rhoi ar WD. Dw i'n meddwl, Jason, fod y rhain i gyd yn niche gan fod bron y cwbwl o drefi 'diddorol' i ni'r Cymry wedi eu creu gyda llaw a llygad.

Os mai disgwyl i'w gwneud gyda llaw ydyn ni, yna bydd erthyglau fel hon ddim ar gael yn Gymraeg tan o leiaf 2050. Ond oes rhywun yn dymuno eu gwneud gyda llaw, yna gallan nhw ddileu testun hon a chychwyn sgwennu! O leiaf mae'r sgerbwd yn ei le. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:42, 2 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Sbesial! Wicidata ydy'r ffordd ymlaen, fel ti wedi dweud dros y blynyddoedd, felly llwythed miloedd ohonyn nhw! Mae na wybodaeth am genedligrwydd yng nghyfrifiad UDA, a byddai botio hwn i WD yn dda, er mwyn cael brawddeg debyg i: 'Yn ol cyfrifiad 20XX mae 356 o'r trigolion yn nodi eu bod yn ddisgynyddion Cymreig.' Ond dwn i ddim sut i wneud hynny. Efallai y bydd @AlwynapHuw: yn gwybod? Sian EJ (sgwrs) 10:48, 2 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
Dewch i ni gael yr enwau hyn ar ein WICI - GORA PO FWYAF O ERTHYGLAU GAWN NI Ymlaen Llywelyn2000 (Defnyddiwr:Duncan Brown)
Cytuno! Cell Danwydd (sgwrs) 15:54, 2 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
Gwych iawn, @Llywelyn2000:. Mae mwy yn yr erthyglau yma'n barod na sydd mewn erthyglau am nifer o drefi yn Lloegr, yn sicr dylid dal ati i gynhyrchu mwy. Ychydig o fan bwyntiau. Mae angen newid "Yn ôl cyfrifiad y wlad, poblogaeth y sir yw: 6,323" i dref. Yn y rhestr o enwogion a oes modd cynnwys delwedd, fel sy'n cael ei wneud ar Restr y Bywgraffiadur? Rhestr debyg gellir ei ychwanegu o wicidata yw rhestr o adeiladau hanesyddol yn y dref. Mae cyfrifiad 2020 yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, bydd y wybodaeth ohoni yn cael ei gyhoeddi (a'i roi ar wicidata, mi dybiaf) yn ystod y blynyddoedd nesaf; ydy'r cod yn caniatáu i wybodaeth cyfrifiad cael ei ddiweddaru wrth i'r data newydd gael ei gyhoeddi? I ateb cwestiwn @Sian EJ: gyda llaw a llygad rhoddais wybodaeth am nifer y bobl o dras Gymreig yn yr erthyglau cyfrannais ar siroedd Illinois. Byddwn yn synnu petai wybodaeth o'r fath ar wicidata. AlwynapHuw (sgwrs) 17:01, 2 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
Diolch BAWB! Alwyn - adeiladau - syniad gwych iawn; mi edrychai fewn i hyn rwan. Poblogaeth - o fewn eiliadau i'r boblogaeth newydd gael ei rhoi ar WD bydd yn ymddangos yn ein herthyglau ni (a'r cyfeiriad newydd!). Tras Gymreig: byddai'n rhaid cynaeafu'r data o wefan biwro'r Cyfrifiad (angen Python neu debyg; anodd i mi! Angen help!), ac yna'i uwchlwytho ar WD (QS - hawdd fel baw!). Ond yn sicr, fel yr erthyglau gwreiddiol a wnest ti, mae ychwanegu'r dimensiwn Gymreig, fel hyn, yn un o'r pethau pwysicaf fedrwn ei wneud! Can diolch am syniadau adeiladol a rhagorol! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:59, 3 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Cymorth gwella tudalen

golygu

A oes unrhyw un gallu helpu fi i wneud tudalen Arolygon barn ar gyfer etholiad nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru hyd yn oed yn well? Dwi wedi creu'r tudalen yma drwy defnyddio'r system cyfiethu ar Wiki. Ond yr peth yw mae'r cyfeirnodau (notes) wedi mynd yn anghywir ar gyfer Canlyniadau rhanbarthol. Nid yw'r upper alffa links yn gweithio. Roedd yr un gwreiddiol yn cynnwys nodiadau 'Efn' a tooltips. Oes unrhyw un gallu helpu fi. Diolch. Cwmcafit (sgwrs) 14:04, 2 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Helo, a chroeso i Wicipedia! Onid ydy'r gair 'Cynulliad Cymru' wedi newid bellach i 'Senedd Cymru'? Mae'r fersiwn Saesneg hefyd yn dweud 'National Assembly'. Mi ga i olwg cyn hir, ond yn brysur yn ystod y dydd. Cell Danwydd (sgwrs) 15:51, 2 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
Dwi'n credu bod y newid enw i Senedd Cymru / Welsh Parliament yn digwydd ar y 6ed Mai 2020. Felly dyma rywbeth mae angen i ni i wirio unrhyw dudalen sy'n ymwneud gyda'r Senedd a newid y geiriau. Gallwch ddarllen mwy amdano hwn ar drafodaeth ar Sgwrs National Assembly for Wales. Mae'r Defnyddiwr:Llemiles yn trafod sut bydd angen gweithredu hwn. Mi rhaid ni wneud hwn cyn y 6ed wrth gwrs a oes ffordd i awtomeiddio? Senedd Cymru/ Senedd yw'r gorau dwi'n credu ac i ddiweddaru tudalennau sy'n ymwneud gyda'r presennol a'r dyfodol. Ond yn gyntaf rhaid gweithredu upper alffa links a'r tudalen Arolygon barn ar gyfer etholiad nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru? Diolch am eich cymorth. Cwmcafit (sgwrs) 18:28, 2 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
Dipyn o waith i ni felly!
Roedd y broblem yn codi o Nodyn:Efn sy'n cael ei alw yn y tabl. Dw i di diweddaru hon, a'r is nodion cysylltiedig. Mae Nodyn edf yn dibynu ar Nodyn:Cyfeiriadau (nid reflist!) a dw i wedi diweddaru hwnnw hefyd! ond y prif broblem oedd un tudalen coll, sef MediaWici:Cite link label group-lower-alpha. mae'n gweithio'n iawn rwan! Diolch am dy gyfraniadau hefyd - gwerthfawr iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:13, 3 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr!! Cwmcafit (sgwrs) 09:26, 3 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Help efo bot plis

golygu

Dw i angen rhoi rhybudd Nodyn:Gofal gyda madarch ar dop pb tudalen sydd yn y Categori:Ffyngau bwytadwy os g yn dda. Dydy nhw ddim yn fwytadwy gan bawb! Ac mae na rybudd tebyg gan Gymd Ed Llwyd. Diolch! Cell Danwydd (sgwrs) 15:48, 2 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Mae'n rhedeg rwan! Sian EJ (sgwrs) 16:30, 2 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Erthyglau wedi eu cyfieithu a pheiriant o'r Dictionary of Welsh Biography

golygu

@Jason.nlw: Wrth ehangu rhai o'r egin bywgraffiadau rwyf hefyd wedi sylweddoli bod rhai o'r eginon yn gyfieithiadau peiriant o erthyglau yn The Dictionary of Welsh Biography ee Robert Parry. Ar wahân i'r ffolineb o gyfieithu erthygl sydd â fersiwn Cymraeg ohoni ar gael yn Y Bywgraffiadur a'r ffaith bod cyfieithiadau peiriant heb eu golygu yn torri rheolau'r safle mae cyfieithiadau uniongyrchol o ysgrifau dan hawlfraint yn torri hawlfraint. Gan hynny yn hytrach na ehangu yr eginon hyn bydd rhaid imi eu dileu a'u dechrau o'r newydd, fel bod y dor hawlfraint ddim ar gadw yn yr hanes. Gobeithio bod hyn yn iawn gan bawb AlwynapHuw (sgwrs) 18:56, 2 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

@AlwynapHuw: Helo Alwyn. Gobeithio bod ti'n cadw'n iawn. Diolch am dynnu fy sylw at hyn - cytunaf yn llwyr â'ch awgrym. @Prosiect Wici Môn: WiciMôn hefyd er gwybodaeth gan mae'n debyg mae un o cyfranwyr y prosiect sydd wedi creu Robert Parry. Diolch Alwyn. Jason.nlw (sgwrs) 08:46, 6 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Prosiect Wici Addysg

golygu
 

Helo pawb. Rwyf am roi diweddariad cyflym ar brosiect WiciAddysg. Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cael ei arwain gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Menter Iaith Mon.

Bwriad y prosiect yw cyd weithio efo athrawon a cynhyrchwyr cynnwys addysgol i adnabod a gwella cynnwys ar y Wicipedia Cymraeg sy'n debygol o cael eu ddefnyddio gan disgyblion ar gyfer gwaith ysgol. Prif dargedau'r prosiect yw;

  • Cydweithio efo athrawon Hanes i adnabod y 100 erthygl bwysicaf i ddisgyblion.
  • Cydweithio efo athrawon i greu templed ar gyfer erthyglau sydd yn caniatáu cyflwyno gwybodaeth sydd yn addas a defnyddiol i blant Cyfnod Allweddol 2-5.
  • Adnabod a defnyddio adnoddau perthnasol sydd yn bodoli'n barod, megis adnoddau dysgu CBAC, HWB a Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Creu neu wella'r 100 erthygl a nodwyd trwy addasu testun a defnyddio gwybodaeth o'r adnoddau a nodwyd.
  • Cynllunio a chreu 10 fideo byr i gyd-fynd efo'r 10 erthygl bwysicach.
  • Cynllunio a chyflawni 4 digwyddiad prawf efo ysgolion uwchradd i greu cynnwys syml am elfennau o hanes lleol.

Hyd yma mae rhestr o dros 100 o erthyglau sydd angen i greu neu wella wedi cael eu hadnabod trwy gydweithio efo criw o athrawon hanes ysgolion uwchradd. Mae CBAC, HWB, Cymru dros Heddwch, Yr amgueddfa Genedlaethol a'r Llyfrgell Genedlaethol wedi cytuno rhannu adnodda dysgu yn agored er mwyn i ni addasu a chynnwys mewn erthyglau Wicipedia. Mae LLGC wedi penodi cyn athrawes a phennaeth adran Hanes ysgolion uwchradd i ddod a'r adnoddau yma ati gilydd er mwyn creu erthyglau neu addasu/ychwanegu at erthyglau presenol, mewn ffordd sydd yn syml i blant o bob oedran dod o hyd i wybodaeth allweddol. Mae modd gweld enghreifftiau o'r erthyglau newydd yma. Bydd yr erthyglau yma yn mynd trwy broses o wirio proffesiynol cyn cael i gyhoeddi ar HWB a Wicipedia. Bydd y fersiwn ar hwb yn un statig ond bydd yn cynnwys dolennu nôl i erthyglau Wicipedia.

Gyda'r Fideos a'r digwyddiadau prawf mewn ysgolion, mae COVID-19 wedi achosi problemau amlwg, felly rydym yn trafod syniadau gwahanol efo'r llywodraeth ar hyn o bryd.

Rowch gwybod os oes na unrhyw cwestiynau neu awgrymiadau. Diolch a cymer ofal Jason.nlw (sgwrs) 11:04, 7 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Nifer yr achosion o'r Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru

golygu

Dw i 'di cychwyn Nifer yr achosion o'r Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru, a byddaf yn ei diweddaru unwaith yr wythnos, ar ddydd Sadwrn. Os oes rhywun isio bachu diwrnod, yna plis ychwanegwch eich enw ar y dudalen Sgwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:00, 18 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Problemau gyda "Automatic taxobox"

golygu

Dwi newydd gyfieithu erthygl https://cy.wikipedia.org/wiki/Actias ond mae problem gyda'r taxobox" . Dwi ddim yn gwybod sut i drwsio'r broblem. Hoffwn i gael cymorth os gwelwch yn dda. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Neilj (sgwrscyfraniadau)

@Neilj: haia! Gwych gweld yr erthygl yma'n ymddangos. O ran y wybodlen (infobox), mae'n gwbwl wahanol i'r gwybodlenni ar ieithoedd eraill. Mae'n gwahaniaethu hefyd ar yr wicipedia Cymraeg o erthygl i erthygl, gan fod llawer wedi eu gosod cyn creu Wicidata. Mae'r un dw i wedi ei gosod ar dy erthygl Actias yn cynnwys nodiadau cudd yn y cod i dy helpu - pwrpas gwahanol rannau o'r wybodlen. Dyma'r diweddaraf; mi ges i hwn drwy gopio'r wybodlen ar yr erthygl ar Llinos wridog Brandt, gan y gwyddwn fod hwnnw'n bur diweddar.
Mae'r wybodlen mewn tair rhan, fel y gweli: mae'r rhan gynta'r cymryd llif o Wicidata - llun a map os yw'n bresenol. Mae'r rhan oddi tano'n, ar erthyglau am rywogaethau'n cynnwys manylion llyfr coch IUCN, ac mae hwn hefyd yn otomatig. Ar erthygl am genws, yna mae'n rhaid ei ddileu. Y rhan olaf yw'r tacson, ac mae'n rhaid rhoi'r manylion yma (ar hyn o bryd) gyda llaw a llygad. Ond mae'r darn olaf o'r tacson yn otomatig! Felly ponsh maip go iawn! Ond mae'n gweithio, ac mi ddei di fewn iddi yn reit sydyn! Ond os cei drafferth yna plis gad neges ar fy nhudalen Sgwrs, neu yma. Mi fyddaf i ffwrdd am y ddau fis nesa, ond mi dria i gadw llygad ar betha, os medraf. Pob hwwyl! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:50, 24 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

Cerddi ar drwydded agored

golygu

Dwn i ddim am eu gwerth, os oes gwerth o gwbwl, ond dw i wedi cychwyn rhoi fy ngherddi ar drwydded agored Wicidestun yn fama. Fel arfer, hen gyfrolau sy'n mynd ar ein chwaer brosiect, cyfrolau lle mae eu hawlfraint wedi dod i ben. Ond teimlaf fod rhannu'n agored fel hyn yn dod a rhywfaint o ffresni i'r llwyfan llychlyd yma! Byddai'n wych pe bai mwy o destunau'n cael eu hychwanegu: pamffledi gwleidyddol, llyfrynau bychan, llyfrau allan o brint, neu weithiau newydd fel e-lyfrau academaidd y Porth. Mae na waith ar y categoriau hefyd, os oes gan rywun chydig o amser yn sbar. Mae'n bosib y byddaf i ffwrdd am gyfnod reit hir, ac os na fyddaf wedi gorffen copio'r cerddi cyn mynd, mae can croeso i rywun wneud hynny. A phob un am ddim i bawb! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:25, 27 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]

@Llywelyn2000: Robin, Gan dy fod yn brif weinyddwr ac yn brifardd, rwy'n sicr na fydd unrhyw wrthwynebiad i ti osod dy gerddi ar Wicidestun a bydd llawer o ddiolch am y cyfraniad. Ond, rhag ofn bod dy gyfraniad yn rhoi'r argraff i eraill bod y safle yn agored i unrhyw Jac a Wil i hunan gyhoeddi eu sothach yma, hwyrach byddai rheol bod rhaid wrth ganiatâd cyn hunan gyhoeddi yn syniad call. AlwynapHuw (sgwrs) 02:13, 30 Ebrill 2020 (UTC)[ateb]
Rwy'n methu canfod polisi Wici Destun ar gyfer 'Notability'. Dyma'r un Saesneg. Mi af ati i'w gyfieithu a'i addasu, fel rydym wedi addasu Wicipedia:Amlygrwydd. Gyda llaw, @John Jones: dw i danfon ebost at Robin ers wythnos, ond dim ateb. Gobeithio nad yw'r COFID19 ma wedi ei daro! Sian EJ (sgwrs) 11:32, 4 Mai 2020 (UTC)[ateb]
Doedd na run! Felly dw i wedi addasu'r un Saesneg yn y fan yma, ar Wicidestun. Mae'n bwysig (plis!) fod cynifer o bosib ohonom yn gadael neges yn y Sgriptoriwm, er mwyn ail-gynnau fflam y prosiect. Diolch! Sian EJ (sgwrs) 13:38, 5 Mai 2020 (UTC)[ateb]
Dw i wedi cefnogi'r polisi newydd ar Wicidestun, Sian! Diolch i ti! Angen mwy o Weinyddwyr yno!!! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:25, 6 Mai 2020 (UTC)[ateb]
Angen derbyn / gwrthod y polisi

@AlwynapHuw: mae'r polisi amlygwrydd ar ein prosiect Wicidestun yn barod am eich sylw caredig. Mae angen mwy na 3 ohonom (yn fy marn i) er mwyn ei dderbyn. Os gwelwch yn dda - sylwadau neu dderbyn. Dyma'r ddolen i'r cais yn y Sgriptoriwm. Sian EJ (sgwrs) 15:13, 12 Mai 2020 (UTC)[ateb]

Cynulliad -> Senedd

golygu

Rwy wedi dechrau addasu'r erthygl Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddefnyddio enw Senedd Cymru, am fod hyn wedi dechrau newid erbyn hyn. Dyma restr o beth arall fydd angen gwneud:

  • Penderfynu sut i gyfeirio at Aelodau Senedd Cymru a San Steffan. Yr enw swyddogol yw 'Aelod o'r Senedd' (AS) a gallwn ddefnyddio hwn i gyfeirio at Gymru yn ddi-ofyn. Efallai wedyn defnyddio 'Aelod Senedd y DU' neu 'AS (DU)' ar aelodau San Steffan?
Unrhyw benderfyniad ar hwn? Ynol be dwi'n ei weld, Aelod o'r Senedd (AS)? Sut felly mae gwahaniaeth gydag Aelod seneddol (AS)?
Yn bersonol fasen i'n dynodi AS ar gyfer Senedd Cymru yn unig - a dyw'r defnydd o byrfoddau fel AS ddim mor amlwg yn y Gymraeg - mae MP llawer mwy adnabyddus, ac y mae 'em-pi' yn cael ei ddefnyddio ar lafar gan siaradwyr Cymraeg. O ran cadw'n bethau'n gryno mewn gwybodlenni, byddai teitl 'AS (DU)' yn iawn. Mae 'AS (San Steffan)' yn bosib hefyd. Bydd rhaid aros i weld sut mae'r cyfryngau a'r Senedd ei hun yn dechrau cyfeirio at aelodau Ty'r Cyffredin (mewn testun). Galla'i hwn gymryd amser i setlo a'i safoni.
Efallai mai un ateb am nawr yw cadw 'AS' fel byrfodd i'r ddau Senedd ond cyfeirio at aelodau San Steffan fel 'Aelod Seneddol' yn hytrach nag 'Aelod o'r Senedd' --Dafyddt (sgwrs) 10:28, 7 Mai 2020 (UTC)[ateb]
@Dafyddt: Helo Dafydd! Dw i wedi defnyddio fy mot (!) i newid llond llaw o erthyglau ar yr hen AC, gan newid corff yr erthygl a'r wybodlen yn unig. A ddylwn newid y rhai hynny sy'n perthyn i'r gorffennol? hy mae'n anodd gwybod a ddylid newi
'Bu'n aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru o 1999 tan...' --> 'Bu'n aelod o Senedd Cymru o 1999 tan...' gan nad oedd y Senedd yn bod yr adeg honno. Ymataliaf rhag wneud rhagor nes y caf wybod. Dw i'n ansicr iawn fy hun! Sian EJ (sgwrs) 18:26, 11 Mai 2020 (UTC)[ateb]
Ie mae'n anodd. Mae bron pawb a etholwyd yn 2016 i'r Cynulliad nawr yn aelod o'r Senedd, heblaw am Carl Sargeant, Steffan Lewis bu farw, ac ymddiswyddiadau - Simon Thomas a Nathan Gill. Felly mae'n bosib newid pob aelod presennol i fod yn 'Aelod o'r Senedd' heb angen sôn am y Cynulliad. Am bob aelod blaenorol does dim angen newid dwi'n credu - er mai rhai wedi ei gwneud gan y bot e.e. Sue Essex. Mae rhai o'r gwybodlenni yn cyfeirio yn benodol at y Cynulliad Cymru a byddai angen cadw hynny yn ogystal a Senedd Cymru. Gai golwg fanylach pan ga'i amser --Dafyddt (sgwrs) 18:59, 11 Mai 2020 (UTC)[ateb]
O-ce. be fedra i wneud ydycyfyngu'r bot i'r Categori:Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016–2021. Gyda llaw, dydw i ddim yn gadael iddo redeg ar ben ei hun, ond yn ei ddefnyddio i newid, yna gwiro, yna cyhoeddi hy gyda llaw a llygad! Be ti'n feddwl? Sian EJ (sgwrs) 15:08, 12 Mai 2020 (UTC)[ateb]
  • Addasu tudalen Aelod Cynulliad i 'Aelod o'r Senedd'. Does dim angen newid Aelod Seneddol ar hyn o bryd, ond mae angen ei wella yn ddirfawr a'i wneud yn fwy eang ei natur.   Cwblhawyd
  • Bydd angen addasu tudalen pob aelod Senedd presennol i ddefnyddio AS a'r wybodlen ar gyfer gwleidyddion (fersiwn lleol cywiki ac yr un sy'n benthyg o nodyn enwiki)
  • Bydd angen (yn bwyllog) symud ac addasu categoriau o fewn Categori:Cynulliad Cenedlaethol Cymru. A fydd angen cadw hen gategoriau ar gyfer hen aelodau oedd yn y Cynulliad, nid y Senedd? Mae beth bynnag sy'n cael ei ddewis ar enwiki yn mynd i effeithio cysylltiadau rhwng y categoriau beth bynnag.
  • Mae nifer fawr o erthyglau angen i addasu mae'n siwr e.g.
  1. Llywodraeth Cymru   Cwblhawyd
  1. Etholaethau Cymru   Cwblhawyd
  1. Etholaethau a Rhanbarthau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Wedi newid ac addasu'r rhanbarthau, Angen gwneud yr etholaethau. Beth chi eisiau galw teitlau'r tudalennau? e.e. Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro (Etholaeth Senedd Cymru) neu Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro (Etholaeth Senedd) neu unrhyw awgrym arall?
Diolch am hwn. Byddai "Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro (etholaeth Senedd Cymru)" yn iawn dwi'n meddwl. e fach yn y cromfachau. Rhyw ben, bydd angen meddwl am newid Etholaethau seneddol Cymru i'w wneud yn gliriach fod e'n cyfeirio at San Steffan. --Dafyddt (sgwrs) 18:58, 15 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]
  1. Prif_Weithredwr_a_Chlerc_Cynulliad_Cenedlaethol_Cymru ac ati.   Cwblhawyd

Rhai yn haws na'i gilydd, ond does dim brys!

  • Unrhyw sylwadau neu bethau eraill i feddwl amdano?

--Dafyddt (sgwrs) 20:37, 5 Mai 2020 (UTC)[ateb]

Helo. Lot o waith i wneud! Fi wnaeth creu tudalen etholiad senedd Cymru, 2021. Ond dwi'n gweld bod angen diweddaru popeth sy'n ymwneud gyda'r presennol a'r dyfodol. Mae Nation.cymru yn gosod her i ni, ar beth ni mynd i wneud gyda'r sefyllfa o 6ed o Mai 2020 ymlaen gelwir tymor 5ed cynulliad yn 5ed Senedd. Mae'n fach o limbo mae'r tymor yn cael ei galw'n ddau beth ar yr un pryd, felly credaf bydd rhaid rhoi hwn lawr. Yn fy marn i dwi'n defnyddio Senedd San Steffan a Senedd Cymru yn eang, felly bydd AS San Steffan yn briodol. Ond efallai bydd rhaid i ni aros ar beth mae'r Seneddau, cyfryngau a'r gymdeithas yn gwneud i ddatrys y cymhlethdod. Cwmcafit (sgwrs) 22:27, 5 Mai 2020 (UTC)[ateb]
Diolch am dy arweiniad Dafydd! Mi geisiaf wneud cymaint ag y medraf! Tybed a wneith @Adam: fynd ati gyda'r categoriau? Byddai ASC (Aelod o Senedd Cymru) yn iawn, nes y daw consensws o lefydd eraill, neu fel mae Cwmcafit yn ei ddweud yn newid AS (i ASSS) a newid AC i ASC (Aelod o Senedd Cymru). Cytuno gyda'r ail! @AlwynapHuw: wedi gwneud llawer o waith ar wleidyddiaeth Cymru dros y blynyddoedd! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:22, 6 Mai 2020 (UTC)[ateb]
Dim angen newid pob enghraifft o AS, yn fy nhyb i. Yr unig beth sydd angen ei wneud yw sicrhau bod paragraff agoriadol bywgraffiad yn cynwys y teitl llawn ee Roedd John Jones yn Aelod Seneddol etholaeth Llan-rhywle rhwng 1888 a 1890 / mae William Williams wedi bod yn Aelod o Senedd Cymru dros etholaeth Lle-arall ers 2020. Bydd hyn yn rhoi ystyr i gyd-destun y talfyriad AS yng ngweddill yr erthygl. Bydd rhaid bod yn fwy eglur efo pobl fel Dafydd Êl a Huw Iranca sydd wedi bod yn AS yn y ddwy le, wrth gwrs. AlwynapHuw (sgwrs) 23:54, 26 Mai 2020 (UTC)[ateb]

Brwydro dros Gymru

golygu

Newydd weld fod @John Jones: ar ei liwt ei hun, dros y gwledydd Celtaidd ar en:Talk:COVID-19 pandemic in the United Kingdom#90% England centric 10% other nations. Codi awydd ar rywun i ddychwelyd i faes y gad! Mi driaf fy ngorau, ond llyfrau ydy fy nghariad cyntaf - angen prosiect enfawr arall gyda CLlCymru! Wici Rhuthun 1 (sgwrs) 07:23, 10 Mai 2020 (UTC)[ateb]

Diolch am hwn, @Wici Rhuthun 1: !!! Newydd adael fy mhwt, a diolch i JJ! Ti wedi llwyddo i ychwanegu swp am Gymru John! DM tro nesa os g yn dda! Cell Danwydd (sgwrs) 11:17, 16 Mai 2020 (UTC)[ateb]
Hy! Diolch i Cell Danwydd hefyd am ymuno'n y frwydr a llwyddo i gael dy banio am bythyefnos! Mwynha'r seibiant! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:34, 20 Mai 2020 (UTC)[ateb]
Do! Falch gweld fod Defnyddiwr:Deb hefyd wedi bod yn cadw'r hedd yno - lle mae'n Weinyddwraig uchel ei pharch! Ond JJ sydd weddi newid yr erthygl - mae'n llawer tecach erthygl erbyn hyn, diolch iddo fo! Nol at redyn cyn hir; grwp ohonom yn safoni'r enwau Cymraeg. Cell Danwydd (sgwrs) 15:56, 5 Mehefin 2020 (UTC)[ateb]