1856 yng Nghymru
Mae'r erthygl hon yn ymwneud ag arwyddocâd penodol y flwyddyn 1856 i Gymru a'i phobl.
Deiliaid
golygu- Tywysog Cymru - Albert Edward
- Tywysoges Cymru - yn wag
Digwyddiadau
golygu- 6 Chwefror - Drylliwyd y llong hwylio Grand Duke o Benrhyn Sant Govan, gyda 29 o fywydau'n cael eu colli.
- 10 Mawrth - Mae John Jones (Shoni Sguborfawr) yn cael ei ddedfrydu i dri mis o lafur caled am feddwdod.
- Mai - Mae John Frost yn cael maddeuant diamod am ei rôl yn arddangosiadau Siartwyr Casnewydd yn 1839.
- 3 Gorffennaf - 11 o ddynion yn cael eu lladd mewn damwain lofaol yn Coalbrookdale, Nantyglo.
- 15 Gorffennaf - 114 o ddynion yn cael eu lladd mewn damwain lofaol ym Mhwll Newydd y Cymer, Porth, Rhondda.
- 16 Medi - Rheilffordd Ffestiniog yn cyhoeddi ei amserlen argraffedig gyntaf.
- 8 Medi - Ar ôl Sevastopol yn Rhyfel y Crimea, mae Corporal Robert Shields o'r 23ain Catrawd yFfiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn achub swyddog a anafwyd yn angheuol o safle agored, gweithred derbyniodd Croes Fictoria ar ei chyfer.[1]
- Anfonir milwyr i Talargoch, Sir y Fflint i ddelio ag anghydfod diwydiannol sy'n cynnwys glowyr plwm.
- Abergwaun yw'r llys sirol cyntaf yng Nghymru i gau.
- Mae'r cenhadwr Mormonaidd, Dan Jones o Helygain, yn dychwelyd i'r Unol Daleithiau ar ddiwedd ei ail genhadaeth (4 blynedd) ar gyfer Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf gyda rhwng 550 a 700 o seintiau Cymreig yn ei ddilyn i Salt Lake City.[2]
- Mae Richard Cory yn gwerthu ei fusnes darpariaeth ac yn dechrau masnachu fel "Richard Cory and Sons" yn y busnes glo a llongau.
- Pryce Pryce-Jones yn cymryd drosodd fusnes dilladu yn y Drenewydd ac yn dechrau masnachu fel "Royal Welsh Warehouse", busnes archebu drwy'r post cyntaf y byd.
- Jane Williams (Ysgafell) yn dychwelyd i'w Llundain enedigol, lle mae'n aros hyd ei marwolaeth bron i ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach.
Celfyddydau a llenyddiaeth
golygu- Haf - Marian Evans (nad yw eto wedi mabwysiadu'r ffugenw George Eliot ) yn drafftio The Sad Fortunes of the Reverend Amos Barton, y cyntaf o'i golygfeydd o fywyd clerigol (1857) a'i gwaith ffuglen gyntaf, tra ar ei gwyliau yn Ninbych-y-pysgod.
Llyfrau newydd
golygu- John Ceiriog Hughes - Gohebiaethau Syr Meurig Crynswth (cyfrol 1)
- Erasmus Jones — The Higher Law Triumphant: The Captive Youths of Judah
- John Jones (Ioan Emlyn) — Tiriad y Ffrancod ym Mhencaer [3]
- Samuel Prideaux Tregelles — An Introduction to the Textual Criticism of the New Testament
- Jane Williams (Ysgafell) — The Origin, Rise, and Progress of the Paper People
- John Hughes (Lerpwl) - Methodistiaeth Cymru Cyf 3
Cerddoriaeth
golygu- Ionawr - Cyfansoddwyd anthem genedlaethol Cymru, Hen Wlad Fy Nhadau, gan James James gyda geiriau gan ei dad Evan James.
Genedigaethau
golygu- 2 Ionawr - John Viriamu Jones, academydd (bu farw 1901) [4]
- 19 Mawrth - David Davies, Gweinidog gyda'r Bedyddwyr a phennaeth cyntaf Athrofa'r Bedyddwyr yn Hwlffordd.[5]
- 26 Mawrth - David Alfred Thomas, Is-iarll 1af Rhondda, gwleidydd (bu farw 1918) [6]
- 1 Ebrill - Walter Jenkin Evans, academydd (bu farw 1927)
- 15 Ebrill - James Bevan, capten cyntaf undeb rygbi Cymru (bu farw 1938)
- 15 Mehefin - Richard Garnons Williams, milwr a chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru (bu farw 1915) [7]
- 11 Hydref - Syr Harry Reichel, academydd (bu farw 1931)
- 20 Rhagfyr - Egerton Phillimore, ysgolhaig (bu farw 1937) [8]
Marwolaethau
golygu- 3 Ionawr - Thomas Richard, gweinidog, 72
- 18 Chwefror - James Morgan, peiriannydd, 80?
- 28 Mawrth - Syr Henry Watkins William-Wynn, diplomyd & gwleidydd, 73 [9]
- Mai - Thomas Robert Jones, sylfaenydd y Urdd Ddyngarol y Gwir Iforiaid, 54
- 29 Mehefin - Peter Jones, cenhadwr o dras Gymreig, 54
- 14 Awst - Parch William Buckland, palaeontolegydd a darganfyddwr "Dynes Goch Pafiland", 72 [10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Memorials to Valour Robert Shields VC adalwyd 29 Gorffennaf 2019
- ↑ Williams, D., (1953). JONES, DANIEL (1811 - 1861), cenhadwr gyda'r Mormoniaid. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 29 Gor 2019
- ↑ Jenkins, R. T., (1953). JONES, JOHN (EMLYN) (‘Ioan Emlyn’; 1818 - 1873), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd a llenor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 28 Gor 2019, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c1-JONE-EML-1818
- ↑ Jones, E. W., (1953). JONES, JOHN VIRIAMU (1856 - 1901), gwyddonydd, a phrifathro cyntaf Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 29 Gor 2019
- ↑ DAVIES, DAVID (1800? - 1856), gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig adalwyd 23 Hydref 2020
- ↑ Thomas, B., (1953). THOMAS, DAVID ALFRED (1856 - 1918), yr is-iarll RHONDDA 1af. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 29 Gor 2019
- ↑ "Williams (post Garnons-Williams), Richard Davies Garnons (WLMS874RD)"[dolen farw].
- ↑ Charles, B. G., (1953). PHILLIMORE, EGERTON GRENVILLE BAGOT (1856 - 1937), ysgolhaig. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 29 Gor 2019
- ↑ Courtney, W., & Matthew, H. (2008, January 03). Wynn, Sir Henry Watkin Williams (1783–1856), diplomatist. Oxford Dictionary of National Biography Adferwyd 29 Gor 2019
- ↑ Haile, N. (2014, September 25). Buckland, William (1784–1856), geologist and dean of Westminster. Oxford Dictionary of National Biography Adferwyd 29 Gor 2019
1800au: 1800 1801 1802 1803 1804 1805 1806 1807 1808 1809 - 1810au: 1810 1811 1812 1813 1814 1815 1816 1817 1818 1819 - 1820au: 1820 1821 1822 1823 1824 1825 1826 1827 1828 1829 - 1830au: 1830 1831 1832 1833 1834 1835 1836 1837 1838 1839 - 1840au: 1840 1841 1842 1843 1844 1845 1846 1847 1848 1849 - 1850au: 1850 1851 1852 1853 1854 1855 1856 1857 1858 1859 - 1860au: 1860 1861 1862 1863 1864 1865 1866 1867 1868 1869 - 1870au: 1870 1871 1872 1873 1874 1875 1876 1877 1878 1879 - 1880au: 1880 1881 1882 1883 1884 1885 1886 1887 1888 1889 - 1890au: 1890 1891 1892 1893 1894 1895 1896 1897 1898 1899