1862 yng Nghymru
Mae'r erthygl hon yn ymwneud ag arwyddocâd penodol y flwyddyn 1862 i Gymru a'i phobl
Deiliaid
golygu- Tywysog Cymru - Albert Edward
- Tywysoges Cymru - yn wag
Digwyddiadau
golygu- 1 Ionawr —Rheilffordd De Cymru yn cael ei roi ar brydles i Great Western Railway cyn i'r ddau gwmni uno.
- 5 Mai —Henry Austin Bruce, Barwn 1af Aberdâr, yn gwneud araith bwysig ar bwnc addysg yng Nghymru. Fe'i penodwyd yn ddiweddarach yn is-lywydd Pwyllgor y Cyngor ar Addysg.
- 2 Mehefin — Mae Llangollen yn cael ei gysylltu â'r rhwydwaith reilffyrdd am y tro cyntaf.
- 4 Gorffennaf – Sarah Edith Wynne, soprano nodedig, yn gwneud ei début yn Llundain.
- tuag Awst —Trên cyntaf trwy Dwnnel Torpantau Rheilffordd Cyffordd Aberhonddu a Merthyr.[1]
- 7 Awst —Mae fferi o Borthmadog i Dalsarnau yn suddo gan ladd 8.[2]
- 28 Hydref —Mae Tŵr anghyflawn y Jiwbilî ar Foel Famau yn cwympo mewn storm.
- 1 Rhagfyr —Mae goleudy Pen y Gogarth yn Llandudno, a godwyd gan Fwrdd Dociau a Harbwr Merswy, yn cael ei oleuo am y tro cyntaf.[3]
- Mae Guillermo Rawson, Gweinidog Mewnol yr Ariannin, yn cwrdd â Love Jones-Parry a Lewis Jones i drafod gwladychiad Patagonia gan Gymry.
- Mae mwynglawdd y Clogau yn dechrau cynhyrchu aur.
- Mae Melin yr Wyddfa, melin flawd â phŵer stêm, yn cael ei hagor ym Mhorthmadog.
Celfyddydau a llenyddiaeth
golyguCelf gweledol
golygu- Mae "Religion", gan Joseph Edwards, a "The Tinted Venus" gan John Gibson ymhlith cerfluniau a ddangosir yn yr Arddangosfa Fawr.
Gwobrau
golygu- Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaernarfon. Rowland Williams (Hwfa Môn) sy'n ennill y gadair.[4]
Llyfrau newydd
golygu- George Borrow — Wild Wales
- Rees Howell Gronow — Reminiscences of Captain Gronow
- John Ceiriog Hughes — Oriau'r Bore
- Jane Williams (Ysgafell) — Celtic Fables, Fairy Tales and Legends versified
- Isaac Foulkes—Cymru Fu[5]
Cerdd
golygu- Henry Brinley Richards -—"Ar D'wysog Gwlad y Bryniau - God Bless the Price of Wales"
- Ebenezer Thomas (Eben Fardd) -—Hymnau
Chwaraeon
golyguCriced
golygu- 21 Gorffennaf — Clwb Criced De Cymru yn trechu Surrey yn The Oval.
- 24 Gorffennaf —Clwb Criced De Cymru yn trechu MCC yn Lords.
Genedigaethau
golygu- 5 Ionawr – John Fisher, ysgolhaig Celtaidd (bu f. 1930)
- 16 Ionawr -—Leifchild Jones, Barwn 1af Rhaeadr gwleidydd (bu f. 1939 ) [6]
- 17 Ionawr—Buckley Roderick chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru (bu f. 1908) [7]
- 23 Ionawr—Evan Richards, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru (bu f. 1931)
- 16 Chwefror —Philip Tanner, canwr gwerin (bu f. 1950 ) [8]
- 4 Mai —Henry Beyer Robertson, Peiriannydd a thirfeddiannwr [9]
- 5 Gorffennaf —Robert Jones, canwr, athro cerdd ac arweinydd côr.[10]
- 11 Ebrill —Charles Evans Hughes, gwleidydd Americanaidd o dras Gymreig (bu f. 1948)
- 27 Ebrill—Syr Hugh Vincent, cyfreithiwr a chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru (bu f. 1931)
- 17 Mai —Syr William Rice Edwards, llawfeddyg (bu f. 1923)
- 5 Awst —Robert Herbert Mills-Roberts, pêl-droediwr (bu f. 1935)
- 30 Awst— Reese J. Llewellyn dyn busnes o Gymru yn America [11]
- 16 Tachwedd — Syr David Rocyn-Jones, ymarferydd meddygol a Llywydd yr WRU (bu f. 1953)
- 9 Rhagfyr —John John Evans, newyddiadurwr (bu f. 1942)
- dyddiad anhysbys
- John Daniel Evans, gwladychwr Patagonia (bu f. 1943) [12]
Marwolaethau
golygu- 3 Ionawr— Dan Jones, cenhadwr Mormon, 51 [13]
- 8 Chwefror —Hans Busk, bardd, 89 [14]
- David Hughes (Eos Iâl) Bardd a chyhoeddwr o Edeyrnion, awdur y garol plygain Ar Gyfer Heddiw'r Bore [15]
- 25 Mawrth — Timothy Davies, clerigwr
- 1 Mai — Frederick Richard West, gwleidydd, 62/63 [16]
- 22 Mehefin — Herbert Watkin Williams-Wynn milwr ac Aelod Seneddol Ceidwadol etholaeth Maldwyn.[17]
- 28 Mai — James Henry Cotton, Deon Bangor, 82
- 2 Awst —Anthony Hill, diwydiannwr, 78
- 27 Awst — John Williams (Ab Ithel), hynafiaethydd, 51
- 13 Tachwedd — John Robert Pryse (Gweirydd ap Rhys) bardd o Ynys Môn [18]
- 31 Rhagfyr — Daniel Jones, gweinidog y Bedyddwyr, 74 [19]
- dyddiad anhysbys — Robert Edwards, emynydd, 66?
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Brecon & Merthyr Tydfil Junction Railway". Welsh Railways Research Circle. Cyrchwyd 2019-08-17.
- ↑ "Sinking of the Ferry". gwefan gymundedol Talsarnau. Cyrchwyd 2019-08-17.
- ↑ History points - goleudy Pen y Gogarth
- ↑ Owen, R. G., (1953). WILLIAMS, ROWLAND (‘Hwfa Môn’; 1823 - 1905), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 16 Awst 2019
- ↑ Foulkes (Llyfrbryf), Isaac (1862). . Wrecsam: Hughes a'i Fab.
- ↑ Chambers, Ll. G., (1997). JONES, LEIFCHILD STRATTEN LEIF (1862-1939), gwleidyddwr Rhyddfrydol a phleidiwr dirwest. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 16 Awst 2019
- ↑ Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
- ↑ Jenkins, R. T., (1970). TANNER, PHILIP (1862 - 1950), ceidwad caneuon a dawnsiau gwerin. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 16 Awst 2019
- ↑ Jones, D. S. The Robertsons of Llandderfel yn Cylchgrawn Hanes a Chofnodion Sir Feirionydd Cyfrol 1 t194 Gwasg y Bala 1951
- ↑ Robert Jones - Y Bywgraffiadur Cymreig
- ↑ How Iron & Steel Helped Los Angeles Forge a Modern Metropolis
- ↑ Paul W. Birt (gol.) Bywyd a gwaith John Daniel Evans, El Baqueano. (Gwasg Carreg Gwalch, 2004) ISBN 0-86381-910-9
- ↑ Williams, D., (1953). JONES, DANIEL (1811 - 1861), cenhadwr gyda'r Mormoniaid. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 16 Awst 2019
- ↑ Henderson, T., & Reynolds, K. (2004, September 23). Busk, Hans, the elder (1772–1862), scholar and poet. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 17 Awst 2019
- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein; adalwyd Rhagfyr 2016.
- ↑ Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895
- ↑ 'Death of Lt Col Herbert Williams Wynn Wrexham Advertiser 28 Mehefin 1862 tud 7 Col 5
- ↑ Roberts, E. P., (1953). PRYSE, ROBERT JOHN (‘Gweirydd ap Rhys’; 1807-1889), hanesydd a llenor. [1] Adferwyd 17 Awst 2019
- ↑ Daniel Jones - Y Bywgraffiadur Cymreig
1800au: 1800 1801 1802 1803 1804 1805 1806 1807 1808 1809 - 1810au: 1810 1811 1812 1813 1814 1815 1816 1817 1818 1819 - 1820au: 1820 1821 1822 1823 1824 1825 1826 1827 1828 1829 - 1830au: 1830 1831 1832 1833 1834 1835 1836 1837 1838 1839 - 1840au: 1840 1841 1842 1843 1844 1845 1846 1847 1848 1849 - 1850au: 1850 1851 1852 1853 1854 1855 1856 1857 1858 1859 - 1860au: 1860 1861 1862 1863 1864 1865 1866 1867 1868 1869 - 1870au: 1870 1871 1872 1873 1874 1875 1876 1877 1878 1879 - 1880au: 1880 1881 1882 1883 1884 1885 1886 1887 1888 1889 - 1890au: 1890 1891 1892 1893 1894 1895 1896 1897 1898 1899