1826 yng Nghymru
Mae'r erthygl hon yn ymwneud ag arwyddocâd penodol y flwyddyn 1826 i Gymru a'i phobl
Digwyddiadau
golygu- Pont Grog Conwy yn agor
- Pont Telford ar Afon Menai, yn cael ei agor
- Agor ffordd Telford trwy Nant Ffrancon (rhan o'r A5 bellach)
- Sefydlu Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan
- William Van Mildert, Esgob Llandaf yn cael ei wneud yn Esgob Durham. Charles Richard Sumner yn ei olynu fel Esgob Llandaf.
- Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) yn cael ei urddo yn offeiriad Eglwys Loegr
- Hugh Owen Owen yn cael ei ethol yn AS Penfro am ei dymor cyntaf
- Richard Bulkeley Philipps Philipps yn cael ei ethol yn AS Hwlffordd am ei dymor cyntaf
- Derbyn Thomas Aubrey i weinidogaeth y Wesleaid [1]
Celfyddydau a llenyddiaeth
golyguLlyfrau newydd
golygu- William Williams (Caledfryn) [2] - Grawn Awen (Cerddi)
- Jedediah Richards [3]:
- - Golwg ar Ddrych y Greadigaeth
- - Hanes Ymneillduwyr Protestanaidd
- James Humphreys [4] - Observations on the actual State of the English Laws of Real Property, with the outlines of a Code
- Edward Pryce Owen [5] - Etchings
- David Saunders (Dafydd Glan Teifi) [6] Traethawd ar Ddigofaint, (cyfieithiad o waith John Fawcett)
- William Owen [7] - Hanes Dechreuad Cenedl y Cymry
Cerddoriaeth
golygu- 24 Mai - Rhoddir cyngerdd budd i John Parry (Bardd Alaw) gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.
Gwobrau
golygu- Peter Jones (Pedr Fardd) [8] yn ennill y gadair yn eisteddfod Gwent a Morgannwg yn Aberhonddu am ei awdl, Rhoddiad y Ddeddf ar Fynydd Sinai.
Genedigaethau
golygu- 19 Ionawr William Edwards (Cymro Gwyllt) - saer maen a cherddor (bu farw 1884) [9]
- 26 Ionawr William Davies(Mynorydd) - cerflunydd a cherddor (bu farw 1901) [10]
- 10 Chwefror, Edward Williams - diwydiannwr (bu farw 1886)
- 26 Chwefror Llewelyn Davies - diwinydd (bu farw 1916)
- 1 Mawrth John Thomas (Pencerdd Gwalia) - cerddor (bu farw 1913) [11]
- 22 Mawrth, Lewis Meredith (Lewys Glyn Dyfi) - pregethwr a llenor (bu farw 1891) [12]
- 27 Mawrth, John Askew Roberts - hynafiaethydd, awdur, a newyddiadurwr (bu farw 1884) [13]
- 9 Mehefin, John Mather Jones - perchennog Y Drych (bu farw 1874) [14]
- 27 Ebrill, Owen Phillips - deon Tyddewi (bu farw 1897) [15]
- 4 Mai, Rhys Gwesyn Jones - gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur (bu farw 1901) [16]
- 5 Mai, Thomas Cordes - gwleidydd (bu farw 1901) [17]
- 8 Mai, George Osborne Morgan - gwleidydd (bu farw 1897) [18]
- 11 Mai David Charles Davies gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, diwinydd, esboniwr, ac am gyfnod yn brifathro Coleg Trefeca (bu farw 1891) [19]
- 25 Mai, Ralph Thomas Hotchkin Griffith - Ysgolhaig Indoleg o dras Gymreig (bu farw 1906).[20]
- 6 Mehefin, John Foulkes - Jones gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd (bu farw 1880) [21]
- 26 Mehefin, Evan Davies - addysgwr (bu farw 1872) [22]
- 12 Awst, William Meirion Evans - mwynwr, pregethwr, a golygydd cyfnodolion (bu farw 1883) [23]
- 1 Medi, Benjamin Davies - gweinidog gyda'r Bedyddwyr, llenor, ac argraffydd (bu farw 1905) [24]
- 20 Medi, Hugh Parry (Cefni) - gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd, llenor, a diwinydd (bu farw 1895) [25]
- Dyddiad anhysbys
- John Evans (Y Bardd Cocos) - crach-brydydd digrif o Borthaethwy, a grafai ei damaid yn bennaf wrth werthu cocos (bu farw 1888) [26]
- 1826 George Lewis - crydd a bardd (bu farw 1858)
- 1826 William Jones - ysgrifennydd y Peace Society (bu farw 1899)
- 1826 Edward Jones - awdur (bu farw 1902)
- 1826 John Pryse - argraffydd a chyhoeddwr llyfrau (bu farw 1883)
- 1826 Daniel Phillips - gweinidog gyda'r Annibynwyr, a darlithydd (bu farw 1905) [27]
Marwolaethau
golygu- Richard Griffiths - arloeswr glofeydd (g. 1756) [28]
- John Williams - clerigwr ac ysgolfeistr (g.1760 ) [15]
- Joseph Parry - peintiwr ac ysgythrwr (g. 1744 ) [29]
- John Cain Jones (Siôn Ceiriog) - almanaciwr (g. anhysbys) [30]
- 2 Mawrth, Rice Rees - tad i blant nodedig (g. anhysbys) [31]
- Ebrill, Edward Turner - paffiwr (g. 1792 )
- 25 Ebrill, Charles Symmons - llenor ac offeiriad Cymreig (g 1749) [32]
- 7 Mai, William Davies Shipley - clerigwr (g. 1745)
- 4 Gorffennaf, Thomas Jefferson - trydydd Arlywydd yr Unol Daleithiau a ymhyfrydai yn ei wreiddiau ar lethrau Eryri. (g. 1743) [33]
- 9 Mehefin, John Jones (Myllin) - bardd (g. 1800) [34]
- 4 Rhagfyr, David Richards (Dewi Silin) - bardd ac offeiriad [35]
- 18 Rhagfyr, Iolo Morganwg - bardd a hynafiaethydd (g. 1747) [36]
- 28 Rhagfyr, Nathaniel Williams - gweinidog gyda'r Bedyddwyr (Neilltuol a Chyffredinol), dadleuydd diwinyddol, emynydd, a meddyg gwlad (g. 1742 ) [37]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "AUBREY, THOMAS (1808 - 1867), gweinidog Wesleaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ Jones, F. P., (1953). WILLIAMS, WILLIAM (‘Caledfryn’; 1801 - 1869), gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a beirniad. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Maw 2020
- ↑ Jones, E. D., (1953). RICHARDS, JEDEDIAH (1784? - 1838), emynydd, a llyfrwerthwr teithiol, cymeriad hynod. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Maw 2020
- ↑ "HUMPHREYS, JAMES (c. 1768 - 1830), ysgrifennwr ar faterion cyfreithiol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "OWEN, EDWARD PRYCE (1788 - 1863), clerigwr ac arlunydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "SAUNDERS, DAVID, 'II' ('Dafydd Glan Teifi '; 1769 - 1840), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd, a llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "OWEN, WILLIAM (1785 - 1864), hynafiaethydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ Looker, R., (1953). JONES, PETER (‘Pedr Fardd’; 1775 - 1845), bardd ac emynydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Maw 2020
- ↑ "EDWARDS, WILLIAM ('Cymro Gwyllt'; 1826 - 1884), saer maen a cherddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-04.
- ↑ "DAVIES, WILLIAM ('Mynorydd'; 1826 - 1901), cerflunydd a cherddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "THOMAS, JOHN ('Pencerdd Gwalia,' 1826-1913) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "MEREDITH, LEWIS ('Lewys Glyn Dyfi'; 1826-1891), pregethwr a llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "ROBERTS, JOHN ASKEW (1826 - 1884), hynafiaethydd, awdur, a newyddiadurwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "JONES, JOHN MATHER (1826 - 1874), Utica, U.D.A., perchennog Y Drych | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ 15.0 15.1 Owen Phillips - Y Bywgraffiadur Cymreig
- ↑ JONES, RHYS GWESYN (1826 - 1901), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig (1953).
- ↑ "MR THOMAS CORDES DEAD - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-08-17. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "MORGAN, GEORGE OSBORNE (1826-1897), gwleidydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "DAVIES, DAVID CHARLES (1826 - 1891); gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, diwinydd, esboniwr, ac am gyfnod yn brifathro Coleg Trefeca (1888-91) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "Griffith, Ralph Thomas Hotchkin (1826–1906), Sanskritist and translator | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/33580. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ cofiant gan Joseph Owen Cofiant a llythyrau: ynghyd a Phregethau y Parch J Foulkes Jones BA, Machynlleth
- ↑ "DAVIES, EVAN (1826 - 1872), addysgwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ EVANS, WILLIAM MEIRION (1826 - 1883), mwynwr, pregethwr, a golygydd cyfnodolion. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Maw 2020, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-EVAN-MEI-1826
- ↑ Benjamin Davies - Y Bywgraffiadur Cymreig
- ↑ "PARRY, HUGH ('Cefni'; 1826 - 1895), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd, llenor, a diwinydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "EVANS, JOHN ('Y Bardd Cocos'; 1827? - 1888), crach-brydydd digrif ym Mhorthaethwy, a grafai ei damaid yn bennaf wrth werthu cocos | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "PHILLIPS, DANIEL (1826 - 1905), gweinidog gyda'r Annibynwyr, a darlithydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "GRIFFITHS, RICHARD (1756 - 1826), arloesydd glofeydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "PARRY, JOSEPH (1744-1826), peintiwr ac ysgythrwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "JONES, CAIN (fl.1775-95), almanaciwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "REES o'r TON (a mannau eraill gerllaw Llanymddyfri), | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "Symmons, Charles (1749–1826), poet and biographer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/26884. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "Jefferson, Thomas (1743–1826), revolutionary politician and president of the United States of America | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/63233. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "JONES, JOHN ('Myllin'; 1800 - 1826), bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "RICHARDS, THOMAS (1754-1837), clerigwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "WILLIAMS, EDWARD ('Iolo Morganwg'; 1747 - 1826). | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
- ↑ "WILLIAMS, NATHANIEL (1742 - 1826), gweinidog gyda'r Bedyddwyr (Neilltuol a Chyffredinol), dadleuydd diwinyddol, emynydd, a meddyg gwlad | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-05.
1800au: 1800 1801 1802 1803 1804 1805 1806 1807 1808 1809 - 1810au: 1810 1811 1812 1813 1814 1815 1816 1817 1818 1819 - 1820au: 1820 1821 1822 1823 1824 1825 1826 1827 1828 1829 - 1830au: 1830 1831 1832 1833 1834 1835 1836 1837 1838 1839 - 1840au: 1840 1841 1842 1843 1844 1845 1846 1847 1848 1849 - 1850au: 1850 1851 1852 1853 1854 1855 1856 1857 1858 1859 - 1860au: 1860 1861 1862 1863 1864 1865 1866 1867 1868 1869 - 1870au: 1870 1871 1872 1873 1874 1875 1876 1877 1878 1879 - 1880au: 1880 1881 1882 1883 1884 1885 1886 1887 1888 1889 - 1890au: 1890 1891 1892 1893 1894 1895 1896 1897 1898 1899