Bleddyn Ddu
Bardd o Fôn oedd Bleddyn Ddu (bl. 1330 - 1385), a adnabyddid hefyd fel Bleddyn Ddu Was y Cwd. Un o Feirdd yr Uchelwyr a gadwai at ddull traddodiadol y Gogynfeirdd ydoedd.
Bleddyn Ddu | |
---|---|
Ganwyd | 14 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1200 |
Bywgraffiad
golyguCeir peth ansicrwydd am yr enw 'Bleddyn Ddu Was y Cwd' ond credir ar sail cyfatebiaethau geirfa, cystrawen, ac ati y cerddi a briodolir iddo mai enw arall ar Fleddyn Ddu ydyw. Cysylltir y "ddau" â Môn hefyd.
Hanai hynafiaid Bleddyn Ddu o gwmwd Menai ym Môn. Enw ei fab, yn ôl pob tebyg, oedd Ieuan ap Bleddyn Ddu. Canodd Hywel Ystorm gerdd ddychanol i Fleddyn Ddu sy'n cyfeirio at y ffaith ei fod yn un o'r Monwysion. Cyfeirir ato hefyd yng ngwaith Gruffudd Gryg, Dafydd ap Gwilym a Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Llygliw. Fel bardd a glerai yn gyson am nawdd yn nhai uchelwyr ar hyd a lled gogledd Cymru y disgrifir Bleddyn gan ei gyd-feirdd. Mae'n bosibl fod y 'Cwd' yn ei lysenw yn cyfeirio at y bag a gariai wrth glera, ond mae'n bosibl fod arwyddocad rhywiol i'r gair hefyd.
Cerddi
golyguCedwir chwe awdl o'i waith, pump ohonynt yn gerddi crefyddol ac un yn awdl farwnad i'r uchelwr Goronwy ap Tudur Hen o Drecastell, un o Duduriaid Môn. Ceir yn ogystal nifer o englynion ar destunau amrywiol, yn cynnwys englynion dychan ac ymryson â'r bardd Conyn Coch.
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Cyfres Beirdd yr Uchelwyr: Gwaith Bleddyn Ddu[1]
- R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Bleddyn Ddu (Aberystwyth, 1994).
Cyfeiriadau
golyguBedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd