Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Huw Llŷn (bl. 1532 - 1594). Roedd yn frawd i Wiliam Llŷn, un o'r mwyaf o feirdd Cymraeg yr 16g, ac yn hannu o benrhyn Llŷn, Gwynedd.

Huw Llŷn
Ganwyd1530s Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1552 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Huw Llŷn yn fab i Risiart ap Dafydd a'i wraig o blasdy bychan Cefn Llanfair ym mhlwyf Llanbedrog.[1] Graddiodd yn ddisgybl pencerddaidd yn Eisteddfod Caerwys 1567.

Ymhlith y cerddi ganddo sy'n aros ar glawr ceir cywyddau ac awdlau i noddwyr led-led Cymru, yn cynnwys Simon Thelwall a Henry Rowland yn y gogledd a Thomas Vaughan, Gruffudd Dwnn, George Owen Henllys ac eraill yn y de.[2] Canodd gywydd marwnad i Walter Devereux, Iarll Essex ; dyma'r gerdd Gymraeg draddodiadol gyntaf i gael ei hargraffu, a hynny yn Llundain yn 1577 fel atodiad i bregeth Saesneg a draddododd Richard Davies, Esgob Tyddewi, yng ngwasanaeth angladd yr iarll yng Nghaerfyrddin yn y flwyddyn honno.[3]

Cymerodd ran mewn ymrysonau barddol a fu'n enwog yn eu ddydd, un ohonynt gyda Siôn Mawddwy a'r llall gyda'i frawd Wiliam Llŷn, Siôn Phylip, Ieuan Tew Brydydd Ieuanc a Hywel Ceiriog.[2]

Llyfryddiaeth

golygu

Cyhoeddwyd detholiad o gerddi'r bardd yn:

Cyfeiriadau

golygu
  1. John Jones (Myrddin Fardd) (gol.), Cynfeirdd Lleyn (Pwllheli, 1905), tud. 149.
  2. 2.0 2.1 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  3. Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys (Caerdydd, 1968), tud. 20.