Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan

bardd

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan (bl. canol y 14g). Ceir cryn ansicrwydd am awduraeth yr unig gerdd sydd ar glawr a briodolir iddo ac mae ymgeiswyr eraill am ei hawduraeth yn cynnwys Gruffudd Llwyd ap Dafydd ap Einion Llygliw.[1]

Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1400 Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Cofnodir gŵr o'r enw Llywelyn Gaplan yn byw yn ardal Glyn Aeron neu Anhuniog, Ceredigion, yn 1326 ac mae'n bosibl mai ef oedd tad y bardd.[1]

Cerdd golygu

Gwrthrych y cywydd gan Gruffudd Llwyd yw uchelwr o'r enw Rhys. Mae rhai ysgolheigion wedi ceisio ei uniaethu â Rhys Gethin, uchelwr o Nant Conwy ac un o gapteiniaid Owain Glyndŵr, ond tueddir erbyn hyn i dderbyn yr awgrym mai Syr Rhys Ieuanc, mab Syr Rhys ap Gruffudd (c.1283-1356), a fu farw yn 1380.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Gruffudd (?Llwyd ap Llywelyn Gaplan)', yn Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Gruffudd (?Llwyd ap Llywelyn Gaplan)'. Rhagymadrodd.