Ieuan Du'r Bilwg

bardd

Bardd o Forgannwg oedd Ieuan Du'r Bilwg (bl. ail hanner y 15g).[1] Ychydig a wyddom amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi a chanu ei gyd-feirdd.

Bywyd a cherddi

golygu

Bardd proffesiynol oedd Ieuan, un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai i uchelwyr Morgannwg a'r cylch yn ail hanner y 15g.

Dim ond ychydig o'i gerddi sydd wedi goroesi ac maent yn aros heb eu cyhoeddi. Yn eu plith ceir cywydd dychan ar ffurf ymddiddan rhwng gwraig a Llywelyn Goch y Dant, bardd o fro Tir Iarll a oedd yn adnabyddus gan Ieuan.[2] Canodd gywydd yn gofyn am gopi o'r Greal (sef anthemau eglwysig yn hytrach na chwedl Ystoryaeu Seint Greal) gan ryw Syr Lewis o gyffiniau Glyn Nedd.[3]

Llyfryddiaeth

golygu
  • G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948).

Cyfeiriadau

golygu
  1. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948).
  2. Traddododiad Llenyddol Morgannwg, tud. 37-8.
  3. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 13.