Bardd Cymraeg a gysylltir â gogledd-orllewin Cymru oedd Ithel Ddu (fl. ail hanner y 14g).[1]

Bywgraffiad golygu

Ni wyddys dim am ei hanes, ond canodd y bardd adnabyddus Iolo Goch ffugfarwnad iddo a gellir casglu rhyw fymryn o wybodaeth o'r ffynhonnell honno. Cyfeiria Iolo ato mewn dwy gerdd ddychan hefyd, i Herstin Hogl a'r Gwyddelyn. Dengys hyn fod Iolo yn ei adnabod, neu wedi clywed amdano o leiaf. Yn y ffugfarwnad, disgrifir Ithel fel gŵr o "fro Feilir frych", ac ar sail hynny credwyd ei fod yn frodor o Fôn (bro Meilyr Brydydd), ond credir erbyn heddiw fod Ithel yn hannu o Lŷn, a hynny ar sail nodyn mewn llawysgrif yn llaw Thomas Wiliems o Drefriw sy'n cyfeirio ato fel "Ithel Ddu o Lŷn". Ceir cyfeiriad posibl arall ato gan Rhys Goch Eryri yn ei farwnad i'w gydfardd Llywelyn ab y Moel, ond ni ellir pwyso gormod ar hynny. Yn y gerdd honno mae Rhys Goch Eryri yn cyplusu enw Ithel ag enwau Dafydd ap Gwilym, Madog Benfras, Gruffudd Gryg, ac Iolo Goch.[1]

Cerdd golygu

Dim ond un gerdd o waith Ithel sydd wedi goroesi, sef 'Cywydd y Celffaint' — cerdd naratifol, dychanol, sy'n llawn dychymyg —, ond mae'r cyfeiriadau mynych ato yng ngwaith cywyddwyr ail hanner y 14g a dechrau'r ganrif olynol yn dangos ei fod yn fardd uchel ei fri.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Golygir gwaith y bardd gan Erwain Haf yn,

  • Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill (Aberystwyth, 1997). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill (Aberystwyth, 1997). Rhagymadrodd.