Lewys Daron

bardd

Bardd proffesiynol o Ben Llŷn a ganai yn hanner cyntaf yr 16g oedd Lewys Daron (fl. tua 1495 - tua 1530). Er nad yw'n cyfrif fel un o'r mwyaf o Feirdd yr Uchelwyr, mae ei waith yn ddrych i fywyd cymdeithasol gogledd-orllewin Cymru ar ddechrau cyfnod y Tuduriaid.[1]

Lewys Daron
Ganwyd16 g Edit this on Wikidata
Aberdaron Edit this on Wikidata
Bu farw1530 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuoddc. 1520 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ar sail ei enw a chyfeiriad ato mewn llawysgrif yn llaw Thomas Wiliems, gellir derbyn yn bur hyderus fod Lewys yn enedigol o Aberdaron. Mae ei ddyddiad geni yn anhysbys. Ni wyddom nemor dim arall amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Roedd yn adnabod Lewys Môn, un o feirdd mawr y cyfnod, a cheir traddodiad am ymryson barddol rhwng y ddau fardd. Bu farw tua dechrau'r 1530au, yn ôl pob tebyg, a chafodd ei gladdu yn Nefyn.[1]

Cerddi golygu

Cyfyngir cylch clera Lewys Daron i deuluoedd uchelwrol Arfon, Meirionnydd, Eifionydd a Llŷn. Diogelir wyth ar hugain o'i gerddi yn y llawysgrifau, yn awdlau a chywyddau. Roedd ei noddwyr yn cynnwys y Stradlingiaid a theulu Phenrhyn, a theuloedd ystadau Bodfel, Bodeon, Glynllifon, Carreg, Cwchwillan, Plas Iolyn ac eraill. O ddiddordeb mawr i haneswyr llenyddiaeth Gymraeg yw ei farwnad i'r bardd mawr Tudur Aled (m. 1526).[1]

Cedwir ambell gerdd ysgafnach o waith y bardd hefyd, yn cynnwys cywydd i "ofyn main melin gan dair gwraig o Fôn dros Fair o Nefyn" a chywydd difyr yn gofyn march gan Ddafydd, Prior Priordy Beddgelert dros Syr John Wynn o Wydir, sy'n llawn o fanylion am y fro honno. Canodd hefyd i Pîrs Conwy, Archddiacon Llanelwy.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 A. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron. Rhagymadrodd.