Ieuan ap Huw Cae Llwyd

un o fân feirdd y 15fed g.

Un o Feirdd yr Uchelwyr a fu yn ei flodau yn ail hanner y 15g oedd Ieuan ap Huw Cae Llwyd (fl. tua 1470 - ar ôl 1500). Roedd yn fab i'r prydydd Huw Cae Llwyd.[1]

Ieuan ap Huw Cae Llwyd
Ganwyd15 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1475 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ychydig a wyddys am y bardd yn uniongyrchol. Credir iddo gael ei eni ym Mrycheiniog rywbryd ar ôl i'w dad symud yno o Feirionnydd yn 1456, efallai yn y 1460au.[1]

Cerddi golygu

Nid oedd cystal bardd â'i dad, a dim ond dyrnaid o gerddi ganddo sydd wedi goroesi. Cyfaddefodd ef ei hun nad oedd yn fardd mawr:

Prydydd fu'n cael parodwin
Ydwyf, a hen grofen grin,
Ieuan ap Huw, hen gyw gwan,
Ydwyf, ieithydd dof weithian;
Yn fugail geifr a heifrod,
Meddwn, y mynnwn 'y mod.[2]

Ymddengys iddo ddysgu ei grefft gan ei dad. Ond awdlau yw hanner ei gerddi, a digon prentisaidd ar hynny, tra roedd ei dad yn feistr ar y cywydd. Canodd awdlau i'r Forwyn Mair ac i'r Drindod, a chywyddau i Aberhonddu a merch. Ceir ei waith gorau efallai yn ei gywydd i eifr Dyffryn Hodni, sy'n llawn dychymyg a gyda nodyn o brofiad personol yn ei ddisgrifiad o'r tirlun.[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Leslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Leslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Rhagymadrodd.
  2. 2.0 2.1 Leslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953).