Agor y brif ddewislen

Llywelyn Brydydd Hoddnant

bardd

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Llywelyn Brydydd Hoddnant (bl. chwarter cyntaf y 14g). Yn ôl pob tebyg roedd yn frodor o Geredigion. Bardd ceidwadol a gadwai at ddull canu'r Gogynfeirdd ydoedd.[1]

BywgraffiadGolygu

Ceir sawl lle o'r enw 'Hod[d]nant' yng Nghymru, ond gan fod cerddi Llywelyn yn ei gysylltu â noddwyr yng Ngheredigion mae'n debyg fod ei enw barddol yn cyfeirio at y ffaith ei fod yn byw ger un o'r pedair nant yn yr ardal honno sy'n dwyn yr enw Hoddnant. Ceisiodd Iolo Morgannwg ei wneud yn frodor o Nant Hoddnant ger Llanilltud Fawr ond does dim sail i'r honiad hwnnw.[1]

CerddiGolygu

Mae'r ychydig a wyddom am y bardd yn seiliedig ar dystiolaeth y tair cerdd o'i waith a geir yn Llawysgrif Hendregadredd. Ceir dwy gerdd foliant, sef awdl ar fesur gwawdodyn a dilyniant o englynion, i'w noddwr Ieuan ap Gruffudd Foel o Lyn Aeron ac un arall i'w wraig Ellylw.[2]

LlyfryddiaethGolygu

  • Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996). ISBN 0-947531-39-4

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996). Rhagymadrodd.
  2. Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996).