Agor y brif ddewislen

Bardd a chrythor oedd Edward Maelor (bl. tua 1586 - 1620), un o'r olaf o Feirdd yr Uchelwyr. Roedd y beirdd Huw Ceiriog a Wiliam Llŷn yn ei adnabod.

Edward Maelor
Ganwyd 16G Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd 1580 Edit this on Wikidata

Brodor o'r Maelor yn yr hen Sir Ddinbych oedd Edward, o dref Wrecsam neu'r cylch, yn ôl pob tebyg. Roedd ei daid Edward Sirc yn fardd a phencerdd telyn y cofnodir iddo raddio yn Eisteddfod Caerwys 1523, y cyntaf o Eisteddfodau Caerwys. Medrai Edward Maelor olrhain ei ach yn ôl i'r tywysog Madog ap Maredudd, ŵyr Bleddyn ap Cynfyn (m. 1075), brenin Gwynedd a Phowys.

Mae 62 o gerddi Edward Maelor ar glawr, yn gywyddau ac englynion. Canodd gerddi mawl a marwnadau i noddwyr amlwg fel Syr Evan Lloyd o Iâl ac i David Powell o Riwabon a'i fab Samuel. Un o'i gerddi mwyaf nodedig efallai yw ei farwnad i'w gyd-fardd Siôn Tudur (m. 1602).

Roedd Edward Maelor yn un o'r beirdd a hoffai gymryd rhan mewn ymryson barddol. Cedwir cerddi ymryson rhyngddo a William Midleton (Gwilym Ganoldref) a Morys Powel.

Un nodwedd ar ei ganu yw'r cyfeiriadau aml at y trai yn nawdd y beirdd yn y cyfnod hwnnw wrth i hen deuluoedd ymseisnigeiddio neu ddarfod. Awgrymir hefyd ei fod yn Babydd.

LlyfryddiaethGolygu

  • Huw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor (Caerdydd, 1990)