Tudur ap Gwyn Hagr

Roedd Tudur ap Gwyn Hagr yn fardd a flodeuai yn ail hanner y 14g, efallai.

Daw'r ychydig a wyddom andano o dystiolaeth y ddwy gerdd fer o'i eiddo a gedwir yn Llyfr Coch Hergest. Yn y gyntaf mae'r bardd yn dweud ei fod wedi dioddef cyni adeg y Pla Du a byw yn fain fel ei blwyfolion; gellid casglu, felly, mai offeiriad neu person plwyf ydoedd ond nid oes sicrwydd o hynny. Yn yr ail gerdd dysgwn ei fod yn ymweld â thai noddwyr yn ei ardal ac felly'n fardd proffesiynol. Mae safon y cerddi sydd wedi goroesi (dwy gyfres o englynion) yn uchel.

Llyfryddiaeth golygu

  • R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2002). ISBN 0947531718