Dafydd Gorlech

un o feirdd y Cywyddau Brud

Bardd a brudiwr oedd Dafydd Gorlech (fl. tua 14101490).

Dafydd Gorlech
FfugenwDafydd Gorlech Edit this on Wikidata
Ganwydc. 1410 Edit this on Wikidata
Abergorlech Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1490 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywyd a cherddi

golygu

Ychydig o wybodaeth sydd wedi goroesi amdano ar wahân i'r dystiolaeth sydd yn ei gerddi. Mae ei enw yn awgrymu cysylltiad ag Abergorlech, plwyf gynt yng nghwmwd Caeo yn y Cantref Mawr, Ystrad Tywi.[1]

Canai, yn fras, o tua 1446 hyd at tua 1490. Saith cywydd yn unig o'i waith sydd wedi goroesi, yn cynnwys cywydd brud ar ffurf cywydd gofyn i Syr Rhosier Fychan, Iorciad dylanwadol o Dretŵr.[1]

Mae ei ganu yn grefftus. Mae'r ddau frud "Ymddiddan rhwng y bardd a'r Wyddfa" a "Cywydd y Gigfran" yn enghreifftiau o'r canu brud ar ei orau. Dyma linellau agoriadol y cyntaf:

Y Wyddfa noddfa nawddfawr,
Hoywfalch ei phen uwch llen llawr,
Hen addurn wyd, dëyrn ar dir,
Orau iawndwf ar randir;
Clo Gwynedd rhag tromwedd trin
A'r gaer orau i'r gwerin.[1]

Llyfryddiaeth

golygu

Erwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth, 1997).

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Erwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech.