Derwen-las

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bychan yng nghymuned Cadfarch, Powys, Cymru, yw Derwen-las[1] (hefyd Derwenlas). Saif yn ardal Maldwyn, ar briffordd yr A487 tua 2 filltir i'r de-ddwyrain o dref Machynlleth, ar lan Afon Dyfi.

Derwen-las
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.5752°N 3.8849°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN723991 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Yn y gorffennol bu Derwen-las yn borthladd ar gyfer Machynlleth. Yn 1859 agorwyd Tramffordd Corris, Machynlleth ac Afon Dyfi (Corris, Machynlleth and River Dovey Tramroad) i gludo llechi o chwareli Corris ac Aberllefenni i'r ceiau yn Nerwen-las, yn cynnwys Cei Ellis a Chei Tafarn Isa, lle cawsant eu llwytho ar longau arfordirol.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU