Bachelldref

pentref ym Mhowys, Cymru

Treflan wledig yng nghymuned Yr Ystog, Powys, Cymru, yw Bachelldref (amrywiadau: Bachelldre, Bachelltref; Saesneg: Bacheldre).[1] Saif 72.2 milltir (116.2 km) o Gaerdydd. Fe'i lleolir ar y ffordd A489 tua 5 km (3 milltir) i'r de-ddwyrain o Drefaldwyn.

Bachelldref
Melin hynafol Bachelldref
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.52°N 3.12°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO2492 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRussell George (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Gorwedd Bachelldref ar y ffin rhwng Powys yng Nghymru a Swydd Amwythig yn Lloegr. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o ardal Gymraeg ei hiaith a ymestynnai yn nwfn i mewn i'r sir Seisnig ac roedd yn ganolfan bwysig yn niwylliant Cymraeg a'r Gororau. Roedd yn rhan o gwmwd Gorddwr, Powys Wenwynwyn.

Cedwir ar glawr sawl cerdd i arglwyddi lleol Bachelldref sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol Diweddar. Yn eu plith ceir cerddi gan Sypyn Cyfeiliog, sef Dafydd Bach ap Madog Wladaidd (bl. tua 1340 – 1390), a ganodd awdl foliant i Ddafydd ap Cadwaladr o Fachelldref, ac un arall gan Deio ab Ieuan Du i'r un gŵr. Canodd Lewis Glyn Cothi i Gruffudd ap Hywel, ŵyr Dafydd ap Cadwaladr, tua'r flwyddyn 1480. Canodd Owain ap Llywelyn ab y Moel awdl foliant i Gadwaladr ap Gruffudd o Fachelldref.

Cynrychiolaeth etholaethol

golygu

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]

Cyfeiriadau

golygu