Glasgwm, Powys

pentref ym Mowys

Pentref bychan a chymuned yn ne-ddwyrain Powys, Cymru, yw Glasgwm[1] neu Glascwm. Saif yn y bryniau isel tuag 8 milltir i'r dwyrain o Lanfair-ym-Muallt a thua 5 milltir o'r ffin â Lloegr. Gorwedd y pentref mewn cwm mynyddog rhwng Bryn Gwaunceste (542m) i'r gogledd a Bryn Glascwm (524m) i'r de. Mae Clawdd Offa tua 2 filltir i'r dwyrain. Yng nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o oddeutu 479.[2]

Glasgwm
Glascwm Village - geograph.org.uk - 91599.jpg
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1704°N 3.231°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000277 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Yn yr Oesoedd Canol, roedd Glasgwm yn ganolfan grefyddol ac eglwysig cantref Elfael. Sefydlwyd clas gynnar yno gan Dewi Sant neu un o'i ddisgyblion, lle cedwid hen gloch Dewi, sef y bangu, yn ôl traddodiad. Roedd ganddi bwerau goruwchnaturiol. Yn 1745 trefnodd yr eglwyswyr lleol ddeiseb yn gwrthwynebu penodi ficer di-Gymraeg. Yn ôl traddodiad, lladdwyd y blaidd olaf yng Nghymru yn y plwyf hwn, yn ystod teyrnasiad Elisabeth I o Loegr.[2]

Hyd at 1974 bu'n rhan o Sir Faesyfed.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. 2.0 2.1 Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2007; tudalen 376
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.