Esgairgeiliog

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref yng nghymuned Glantwymyn, Powys, Cymru, yw Esgairgeiliog,[1][2] a adnabyddir hefyd fel Ceinws yn lleol. Saif yn ardal Maldwyn, ar bwys y briffordd A487 tua 2 filltir i'r de o Gorris, rhwng y pentref hwnnw a thref Machynlleth, bron iawn ar y ffin sirol rhwng Powys a Gwynedd.

Esgairgeiliog
Mathpentref, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.637°N 3.835°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH759059 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Mae'n rhan o blwyf eglwysig Llanwrin.[3] Llifa Afon Dulas heibio i ymuno yn Afon Dyfi ger Machynlleth.

Ceir gorsaf reilffordd ar lein Rheilffordd Corris yn y pentref. Tua milltir a hanner i'r de ceir Canolfan y Dechnoleg Amgen.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[5]

Esgairgeiliog, c.1885

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 4 Ionawr 2022
  3. Enwau Cymru
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.