Saint Harmon

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bychan gwledig, cymuned a phlwyf eglwysig ym Mhowys, Cymru, yw Saint Harmon[1] (Saesneg: St Harmon).[2] Fe'i lleolir 2 filltir i'r gogledd o bentref Rhaeadr Gwy ar lôn fynydd rhwng y pentref hwnnw a Llanidloes. Saif ar lan Afon Marteg, ffrwd sy'n aberu yn Afon Gwy ger Rhaeadr. Enwir y pentref ar ôl Sant Garmon ("Harmon"). Saif y pentref mewn ardal o fryniau isel, gyda Moel Hywel (505 m) yn codi i'r dwyrain.

Saint Harmon
Sun Inn, St Harmon - geograph.org.uk - 158954.jpg
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.344°N 3.486°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000342 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Hanes a hynafiaethauGolygu

Tan ddiwedd yr 16g, roedd bagl neu groes Sant Curig i'w gweld yn eglwys y plwyf (sy'n 6 milltir o glas y sant hwnnw yn Llangurig dros y bryniau). Ceir disgrifiad o'r groes gan Gerallt Gymro yn ei Hanes y Daith Trwy Gymru (1188): 'yn eglwys Sant Garmon ceir y fagl a enwir Bagl Sant Curig, yr hon a ymestyn ychydig yn ei brig, ar y naill achr a'r llall, ar wedd croes, ac a orchuddir amgylch ogylch ag aur ac arian.' Arferid gwella cleifion â hi.[5]

Bu Gwenllian ferch Owain Glyndŵr a'i gŵr Phylib ap Rhys yn byw ym mhlas Cenarth yn y plwyf yn hanner cyntaf y 15g.

Pobl o Saint HarmonGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 7 Tachwedd 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Thomas Jones (cyf.), Hanes y Daith Trwy Gymru, yn y gyfrol Gerallt Gymro (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938)