Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Nantmel.[1][2] Saif y pentref ar briffordd yr A44 ychydig i'r de-ddwyrain o dref Rhaeadr Gwy. Heblaw pentref Nantmel ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Nant Glas.

Nantmel
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth637 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,598.32 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3°N 3.4°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000333 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Roedd James Watt, dyfeisydd y peiriant ager, yn byw yn Noldowlod gerllaw, ac mae ei ddisgynyddion yno o hyd. Hefyd yn y gymuned yma mae fferm Gigryn, lle mae bwydo'r Barcud coch yn atyniad adnabyddus.

Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 686.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Nantmel (pob oed) (637)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Nantmel) (73)
  
11.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Nantmel) (281)
  
44.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Nantmel) (97)
  
34.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 16 Awst 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.