Llowes

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Y Clas-ar-Wy, Powys, Cymru, yw Llowes.[1][2] Mae'n gorwedd yn ardal Maesyfed, tua 3 milltir (5 km) i'r de-ddwyrain o bentref Y Clas-ar-Wy, ger y ffin â Lloegr. Roedd 110 o bobl yn byw ynddo yn 2005.

Llowes
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0668°N 3.1797°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO191416 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cefn gwlad Powys ger Llowes

Eglwys Meilig Sant a Chroes Meilig golygu

Mae eglwys y plwyf wedi'i chysegru i Meilig Sant, y dywedir iddo sefydlu mynachlog yn y 6ed ganrif yng Nghroes Feilig ger y pentref, lle y cafodd ei gladdu. Dichon fod Meilig yn un o feibion Caw ac yn frawd i Gildas. Cyfeirir ato yn Culhwch ac Olwen fel un o'r marchogion yn llys Brenin Arthur.[5]

Ailadeiladwyd yr eglwys yn llwyr ym 1853, er y gall fod gwaelod y tŵr yn ganoloesol a chredir bod y bedyddfaen â band haearn amdano yn dyddio o'r 12fed ganrif.

Symudwyd Croes Meilig, y dywed traddodiad iddi sefyll gynt ar ei safle eponymaidd Croes Feilig, i'r eglwys ei hun yn 1956 i atal erydiad pellach. Oddeutu 1699 safai yn y fynwent pan y'i gwelwyd hi gan Edward Lhuyd. Credir bod y groes, sydd wedi'i cherfio ar faen hir, yn dyddio i oddeutu'r 11eg ganrif. Roedd chwedl leol yn cyfeirio at y groes fel 'Moll Walbec's Stone', gan honni iddi gael ei thaflu yno gan 'Moll Walbec' neu Maud de St. Valery, gwraig hynod gadarn ac anorchfygol William de Braose (1144/1153–1211), arglwydd y Gelli Gandryll. Wrth gario cerrig yn ei ffedog o'r chwarel yn Y Clas ar Wy i ailadeiladu'r castell, syrthiodd un i'w hesgid. Tynnodd Maud hi allan a'i thaflu'n ddig dros Afon Gwy i lanio ym mynwent eglwys Llowes.[6]

 
Croes Meilig

Yr arysgrif Gymraeg i William Bevan golygu

Ym mynwent yr eglwys mae'r hyn a alwyd gan Ffransis Payne yn 'un o bethau prinnaf sir Faesyfed sef carreg fedd ac arni arysgrif yn Gymraeg'. Dyma'r geiriau sydd ar y garreg hon: 'William Bevan or Vedowlwyd Dan y garreg sydd Imma yn gorphywys ay oydran oydd 84 mhylnedd ac ymadevis ar y byd hwn y 17 Dydd o Ebrill yn y flwyddyn 1684 Miserere Mei Deus'.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 6 Ionawr 2022
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Bartrum, Peter C. (2009). A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend upto about A.D. 1000 (PDF). Aberystwyth: National Library of Wales. t. 529.
  6. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. "Moll Walbec Stone, St Meilig's Church, Llowes". Coflein. Cyrchwyd 30 Mai 2023.
  7. Payne, F. G. (1966). Crwydro Sir Faesyfed. I. Llandybie: Llyfrau'r Dryw. t. 96.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.