Agor y brif ddewislen

Pentref a phlwyf gwledig ym Mhowys, Cymru, yw Manafon. Fe'i lleolir yng ngogledd y sir yn ardal Maldwyn, 2 filltir a hanner i'r de o bentref Llanfair Caereinion ac 8 milltir i'r gorllewin o'r Trallwng ar lôn y B4390.

Manafon
Math Pentref, Cymuned, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.612044°N 3.310561°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000328 Edit this on Wikidata
Eglwys Mihangel Sant, Manafon.

Saif Manafon ar ddwy lan Afon Rhiw mewn ardal o fryniau isel coediog a ffermydd ar wasgar. Mae'r plwyf yn rhan o Esgobaeth Llanelwy. Mae eglwys y plwyf, a gysegrwyd i Sant Mihangel, yn bur hynafol.

Cysylltiadau llenyddolGolygu

Bu'r bardd a golygydd Gwallter Mechain (Walter Davies) yn ficer Manafon am gyfnod o 30 mlynedd, o 1807 hyd 1837, a chynhyrchodd ran helaeth o'i waith llenyddol yno. Bu Evan Evans (Ieuan Fardd) yn gurad yno am gyfnod ganol y 18g.

Treuliodd y bardd R. S. Thomas gyfnod o ddeuddeg mlynedd yn rheithor Manafon (1942-1954). Cafodd yr ardal ddylanwad dwfn arno. Yno yr aeth ati i ddysgu'r Gymraeg ac mae rhai o'i gerddi mwyaf adnabyddus, sy'n ymwneud â chymdeithas amaethyddol y fro, natur, a hanes Cymru yn deillio o'r amser hwnnw. Ceir pennod am ei brofiadau yn y fro yn ei hunangofiant Neb. Dyma un o'i ddisgrifiadau o Fanafon o'r gyfrol honno, a ysgrifennir yn y trydydd berson:

"O'r braidd fod Manafon yn bod. Doedd yno ddim pentref, dim ond eglwys, ysgol, tafarn a siop. Gwasgarwyd y ffermydd hyd y llethrau yn fân-ddaliadau ar y cyfan gydag ambell fferm mwy sylweddol. Saes-Gymry oedd y bobl, gydag enwau Cymraeg ac acen Sir Amwythig. Daethant yn destun ei farddoniaeth."[1]

Defnyddiodd y cerddor David Sylvian brofiadau R. S. Thomas ym Manafon yn sail i'w albwm Manafon (2009).

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

EnwogionGolygu

David Lloyd (1656 - 1731) cyfreithiwr a gwleidydd Cymreig ym Mhennsylvania

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Manafon (pob oed) (301)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Manafon) (54)
  
18.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Manafon) (127)
  
42.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Manafon) (35)
  
26.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

CyfeiriadauGolygu

  1. R. S. Thomas, Neb (Gwasg Gwynedd), tud. 42.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: