Agor y brif ddewislen

Llanfair Llythynwg

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Llanfair Llythynwg (weithiau Llanfair Llythyfnwg; Saesneg: Gladestry), sydd 49 milltir (78.8 km) o Gaerdydd a 136.3 milltir (219.3 km) o Lundain. Saif y pentref i'r de o bentref Maesyfed ac yn agos i'r ffîn a Lloegr. Dyddia rhan hynaf yr eglwys i'r 13g. Mae Llwybr Clawdd Offa yn rhedeg trwy'r pentref. Daw enw'r pentref o hen gwmwd Llythynwg, a feddianwyd gan y Normaniaid i greu arglwyddiaeth Maesyfed.

Llanfair Llythynwg
Cil-bigyn - geograph.org.uk - 388636.jpg
Math pentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.188568°N 3.123269°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000274 Edit this on Wikidata

Heblaw pentref Llanfair Llythynwg, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Eglwys Newydd a Llanfihangel Dyffryn Arwy. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 419, gyda 12.4% yn siarad Cymraeg, y ganran uchaf ymhlith cymunedau yr hen Sir Faesyfed.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfair Llythynwg (pob oed) (412)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair Llythynwg) (27)
  
6.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair Llythynwg) (127)
  
30.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfair Llythynwg) (58)
  
32.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cynrychiolaeth etholaetholGolygu

Cynrychiolir Llanfair Llythynwg yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Kirsty Williams (Y Democratiaid Rhyddfrydol) a'r Aelod Seneddol yw Roger Wiliams (Y Democratiaid Rhyddfrydol).[4][5]

CyfeiriadauGolygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

Gweler hefydGolygu