Deuddwr (pentref)

pentref bychan ym Mhowys, Cymru

Pentref bychan yng nghymuned Llansanffraid, Powys, Cymru, yw Deuddwr.[1] Saif yn ardal Maldwyn tua 2 filltir i'r de o bentref Llansanffraid-ym-Mechain. Mae enw'r pentref yn deillio o enw'r cwmwd Cymreig canoloesol Cwmwd Deuddwr.

Deuddwr
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlansanffraid Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.749132°N 3.129039°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ237174 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw gweler Deuddwr (gwahaniaethu).

Saif y pentref tua 4 milltir o'r ffin â Lloegr, tua hanner ffordd rhwng Croesoswallt i'r gogledd a'r Trallwng i'r de. Llifa Afon Cain heibio i'r gogledd o Ddeuddwr, rhyngddo â Llansanffraid-ym-Mechain.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.