Llanfair Pwllgwyngyll

pentref ar Ynys Môn

Pentref a chymuned yn Ynys Môn yw Llanfair Pwllgwyngyll,[1][2] hefyd Llanfairpwllgwyngyll ("Cymorth – Sain" ynganiad ) a Llanfairpwll (ar lafar yn lleol). Fe'i lleolir ar ffordd yr A5 tua 3 milltir i'r gorllewin o Borthaethwy.

Llanfair Pwllgwyngyll
Mathpentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,107 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iY, Ie, Enna Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanfair Pwllgwyngyll Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr38 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.22333°N 4.19944°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH528716 Edit this on Wikidata
Cod postLL61 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auLlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Yr enw

golygu
 
Twristiaid tu allan i'r orsaf yn Llanfairpwll

Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yw enw gwneud y pentref (cyfieithiad i'r Saesneg: "St Mary's church in the hollow of the white hazel, near to the fierce whirlpool of St Tysilio of the red cave"). Ei enw gwreiddiol oedd Llanfair Pwllgwyngyll ond fe'i estynnwyd gan ddyn lleol yn y 19g, ar ôl i'r rheilffordd gyrraedd yr ynys (1846–1850) i geisio denu twristiaid. Yn ôl Syr John Morris-Jones, teiliwr lleol a ddyfeisiodd yr enw, ond nid yw'n ei enwi. Dyma'r enw hiraf yng Nghymru, a'r trydydd hiraf yn y byd. Does fawr neb ond y Bwrdd Croeso yn defnyddio'r enw hir. Fel arfer mae'r pentref yn cael ei alw yn Llanfairpwll (gan siaradwyr Cymraeg) neu Llanfair PG (gan siaradwyr Saesneg). Pwllgwyngyll oedd enw'r dreflan ganoloesol lle safai'r eglwys yn yr Oesoedd Canol (pwll + yr ansoddair gwyn + coed cyll). Cyfeiria "Llantysilio" at blwyf eglwysig Llandysilio.

Yn yr Oesoedd Canol roedd plwyf (Llanfair) Pwllgwyngyll yn rhan o gwmwd Dindaethwy, yng nghantref Menai.

Yn y pentref hwn y dechreuodd mudiad Sefydliad y Merched yn 1915.[3] Cychwynnodd y Sefydliad yng Nghanada a chyrhaeddodd y wlad yma yn ystod yr rhyfel byd cyntaf gyda'r Cyrnol Richard Stapleton-Cotton oedd yn byw yn Llanfairpwll. Cafodd cyfarfod gyntaf Sefydliad y Merched ei gynnal yn 1915 yn Llanfairpwll a chafwyd anerchiad gan Mrs Alfred Watt a oedd yn ffrind i'r Cyrnol. I ddechrau, roedd y Sefydliad yn canolbwyntio ar grefftau domestig a chreu pethau i gefnogi'r rhyfel. Ar ôl y rhyfel cynhaliwyd ymgyrchoedd dros gyflenwadau dŵr pibell, ciosg ffônau a draeniad. Maen nhw nawr yn ystyried eu hunain fel grŵp pwysau, gan ymgyrchu dros wragedd tŷ anabl, gwell hawl at dâl mamolaeth, cadw Prydain yn lân, iechyd i blant a thros bil trafnidiaeth. Erbyn heddiw mae yna amgueddfa ar safle'r cyfarfod cyntaf.

Roedd HMS Conwy yn ysgol hyfforddi llynges a gafodd ei sefydlu yn 1859 ar long rhyfel bren. Roedd y llong yn wreiddiol wedi ei ddocio ar afon Merswy ger Lerpwl, a chafodd ei symud i'r Fenai yn ystod yr Ail ryfel byd. Wrth gael ei dynnu'n ôl o Benbedw i gaeil ei hailffitio yn 1953, cafodd hi ei dinistro. Symudodd yr ysgol i Ynys Môn ble am 20 mlynedd arall.

Crefydd

golygu

Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwll

golygu

Mae'n debyg bod y gell grefyddol gynharaf ar y safle hwn yn dyddio o'r 7fed Ganrif. Safai eglwys ganoloesol yma ond fe'i dymchwelwyd yn 1852. Cwblhawyd eglwys newydd a gynlluniwyd gan Henry Kennedy ym 1853 ar gost o £950. Y rheithor ar y pryd oedd Y Parchedig Thomas Jones Williams M.A. sydd wedi ei gladdu yn y fynwent islaw ffenestr ddwyreiniol y gangell. Cysegrwyd yr eglwys gan Esgob Bangor ar y 7fed o Fedi 1853. Ychwanegwyd festri fechan gyda'i drws ei hun yn 1880au. Mae gan yr eglwys ffenestri gwydr lliw gan gynnwys ffenestr fodern yn wal y gogledd sy'n coffau gwaith Ysgol Hyfforddi Indefatigable rhwng 1864-1995.

Mae Cofrestrau Plwyfi Archifau Môn yn dyddio'n ôl i 1679 sy'n cynnwys bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau.[4]

Capeli

golygu

Capel Ebenezer- Annibynwyr

golygu

Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1805 gan ei adeiladu yn 1839. Gwnaethpwyd gwaith adnewyddu ac ychwanegu ysgoldy yn 1993.

Capel Rhos y Gad- Presbyteriaid

golygu

Mae achos y Methodistiaid yn Llanfairpwll yn dyddio o tua 1785 pan ddechreuwyd cynnal Ysgol Sul. Adeiladwyd y capel cyntaf yn Nryll y Bowl (yn y pentref uchaf). Yn ddiweddarach daeth Capel Bethpeor, ac fe adeiladwyd Capel Rhos y Gad yn 1873. Yn 1896 ychwanegwyd ysgoldy ac ystafelloedd arall. Cafwyd Ty ar gyfer y gwenidog yn 1899. Atgyweirwyd yr adeiladau yn 1922 ac yn 1932 pan osodwyd trydan ynddynt.

Capel Salem- Wesleaid

golygu

Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1805. Adeiladwyd yn 1896. Erbyn hyn mae'r adeilad yn dŷ annedd. [5]

Y pentref

golygu

Mae gorsaf reilffordd yma, ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru, ond mae mwyafrif y trenau yn mynd trwyddo i Gaergybi neu i Fangor heb aros.

Fferyllfeydd

golygu

Mae fferyllfa Rowlands ar hyn o bryd (2023) wedi’i lleoli yn yr adeilad o’r enw Peveril ar London Road, Llanfairpwll ond yn y 1950au-1970au roedd yn cael ei redeg gan yr optegydd offthalmig William Prytherch Parry. Nid oedd unrhyw fferyllwyr wedi'u rhestru yng nghyfeirlyfr Sutton's Trade 1889 ond roedd J.S Thomas yn meddiannu'r adeilad (c. 1915) sydd bellach yn salon trin gwallt.

Tafarndai a gwestai yn 1889 - 90

golygu
  • Butcher's Arms - Rowlands Davies
  • Penrhos Arms
  • Railway Vaults - Hugh Owen
  • Prince of Wales

Dadl iaith

golygu

Yn 2011, roedd Llanfairpwll yn ganolbwynt dadl ynghylch yr hawl i siarad Cymraeg ar ôl i berchennog bwyty Carreg Môn yn y pentref wahardd ei staff rhag siarad Cymraeg tra'n gweithio yno, gan ddweud mai dim ond Saesneg y dylent siarad.[6][7]

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfair Pwllgwyngyll (pob oed) (3,107)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair Pwllgwyngyll) (2,171)
  
71.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair Pwllgwyngyll) (2371)
  
76.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfair Pwllgwyngyll) (428)
  
33.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd

golygu
Arwydd efo cyfieithiad Saesneg yr enw

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 31 Hydref 2021
  3. "Amgueddfa'r Toll House". 21/05/2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-01. Cyrchwyd 21/05/2018. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  4. I.L Jones, Geraint. Capeli Mon.
  5. I. L. Jones, Geraint. Capeli Mon.
  6. Erthygl gwefan Golwg360 - Ffrae iaith Môn: 750 yn ymuno â grŵp protest
  7. Erthygl gwefan BBC
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.