Rhys Nanmor

cywyddwr

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Rhys Nanmor (bl. 1485 - 1513). Roedd yn frodor o ardal Meirionnydd a ddaeth yn fardd teulu Syr Rhys ap Thomas yn ne Cymru. Roedd yn gyfaill i'r bardd Lewys Môn.[1]

Rhys Nanmor
Ganwyd15 g Edit this on Wikidata
Bu farw1513 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1480 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd Rhys yn fab i Faredudd ab Ieuan a Nest, ferch Owain ap Iorwerth o Nanmor, Feirionnydd (Gwynedd).

Roedd yn ddisgybl barddol i Dafydd Nanmor. Ei gerdd fwyaf adnabyddus yw'r cywydd brud am Harri Tudur o'r enw 'Yr Awdl Fraith' (ni ddylid ei chymysgu â'r awdl arall o'r un enw a briodolir i Taliesin Ben Beirdd ac sy'n cyfeirio at y Cymry yn cadw ei hiaith a "Gwyllt Walia"). Canodd farwnad i Arthur, mab hynaf Harri Tudur, a fu farw'n ieuanc yn 1502.

Canodd sawl cerdd i Syr Rhys a'i deulu. Roedd yn adnabod y bardd Tudur Aled a cheir cyfres o englynion i'w gilydd. Canodd ei gyfaill Lewys Môn farwnad iddo.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Eurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Lewys Môn (Gwasg Prifysgol Cymru, 1975).
  2. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).