Llanisw

pentref ym Mhowys, Cymru
(Ailgyfeiriad o Partrishow)

Pentrefan yng nghymuned Cwm Grwyne, Powys, Cymru yw Partrishow neu Lanisw, sydd 29.2 milltir (46.9 km) o Gaerdydd. Yn 1555 y ffurf oedd Llanysho (LBS III.321) a defnyddid y ffurf Merthyr Isw (neu 'Issiu ') hefyd yn Llyfr Llandaf (BLD 279).[1] Arferid bod yn yr hen Sir Frycheiniog, ond bellach mae ym Mhowys bron ar y ffin â Sir Fynwy.

Partrishow
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCwm Grwyne Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8956°N 3.0494°W Edit this on Wikidata
Map

Eglwys Sant Isw

golygu
 
Ffynnon Sant Isw

Mae'r eglwys leol a gysegrwyd i Sant Isw yn Radd I, ers 19 Gorffennaf 1963, ac o bwysigrwydd hanesyddol arbennig gan ei bod yn dyddio i'r 11g a bod ynddi nifer o nodweddion hynafol. Ceir yma groglen cerfiedig, cywrain o'r 16g, paentiad o ysgerbwd o'r Oesoedd Canol a bedyddfaen sydd yn un o'r hynaf yng Nghymru gyda'r dyddiad 1055 wedi'i cherfio ynddi. Ym mynwent yr eglwys saif croes uchel sydd wedi'i chofretru'n II* ac a wnaed c.1300. Ar yr ochr orllewinol ceir capel a elwir yn 'Eglwys y Bedd'.

Defnyddir yr enw 'St Patrico', bellach gan aelodau'r eglwys. Am ryw reswm ni chafodd yr eglwys ei hailwampio gan bensaeri Oes Victoria, hyd at 1908 pan drodd W. D. Caröe ei law tyner ati.

Ceir yma hefyd ffynnon arbennig,

Cyfeiriadau

golygu
  1. llyfrgell.cymru; A Welsh Classical Dictionary gol. P.C. Bartrum.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: