Y Bontnewydd-ar-Wy

pentref ym Mhowys, Cymru
(Ailgyfeiriad o Pontnewydd ar Wy)

Pentref yng nghymuned Llanllŷr, Powys, Cymru, yw Y Bontnewydd-ar-Wy[1] (Saesneg: Newbridge-on-Wye).[2] Saif ar lan Afon Gwy ar briffordd yr A470 tua hanner ffordd rhwng Rhaeadr Gwy i'r gogledd a Llanfair-ym-Muallt i'r de. Mae'r pentref ar groesffordd leol bwysig, gyda'r A470 yn cwrdd â'r B4358 sy'n cysylltu Llandrindod, i'r gogledd-ddwyrain, a Beulah ar yr A483 i'r de-orllewin.

Y Bontnewydd-ar-Wy
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.214°N 3.442°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO017582 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Map
Am leoedd eraill o'r enw Bontnewydd, gweler Bontnewydd.

Roedd y pentref yn gorwedd ar un o lwybrau mawr y porthmyn. Hyd 1962 roedd ganddi orsaf ar gyn reilffordd Canolbarth Cymru hefyd.

Ceir ysgol gynradd yn y pentref sy'n cael ei rhedeg gan yr Eglwys yng Nghymru. Mae tua 80 o ddisgyblion yn ei mynychu.[3]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 4 Ionawr 2022
  3. "About Us", Newbridge on Wye Church in Wales Primary School
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU