Rhisiart Iorwerth

bardd
(Ailgyfeiriad o Rhisiart Fynglwyd)

Bardd o Langynwyd, Tir Iarll a flodeuodd rhwng 1510 ac 1570 oedd Rhisiart Iorwerth (enw barddol: Rhisiart Fynglwyd), a oedd yn fab i'r bardd Iorwerth Fynglwyd. Ef oedd athro cerdd Dafydd Benwyn. Roedd ei dad o Saint-y-brid, yng ngorllewin Bro Morgannwg.[1]

Rhisiart Iorwerth
GanwydLlangynwyd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1510 Edit this on Wikidata
PlantIorwerth Fynglwyd Edit this on Wikidata

Serch oedd thema ei gerddi cynnar, ac aeddfedodd i ganu cerddi mawl ar y pedwar mesur ar hugain, yn bennaf i uchelwyr ei ardal, sef Morgannwg, yn ogystal â Sir Frycheiniog a Sir Gaerfyrddin. Ceir amryw i Deulu'r Dwnn, yn enwedig i Ryffydd Dwnn o Ystrad Merthyr a'i fab Harri.

Yn ôl Griffith John Williams: ‘Efallai y mwyaf diddorol yw'r cywydd heddwch rhwng Syr Siors Herbert a Mr. Edward Mawnsel,’ ac mai Rhisiart Fynglwyd, a oroesodd Lewys Morgannwg, oedd yr ‘olaf o feirdd pwysig Morgannwg yng nghyfnod y canu caeth.’

Enghraifft o'i waith

golygu

Padell, a Chawell, a Chi,—a Chawnen,
A Cheneu costawcci,
A phren Yw, a phren Ewi,
A Tharth y graig, a Thorth gri.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; adalwyd 02 Gorffennaf 2015
  2. llyfrau.org;[dolen farw] adalwyd 02 Gorffennaf 2015

Llyfryddiaeth

golygu
  • Marwnad gan Dafydd Benwyn yn Llyfr Hir Llanharan, 131a;

gwaith Rhisiart Fynglwyd mewn amryw lsgr. yn Ll.G.C., yn arbennig Llawysgrif Llansteffan yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 40

  • E. Lhuyd, Archaeologia Britannica (1707), 263
  • J. Gwenogvryn Evans, Reports on Manuscripts in the Welsh Language (Historical Manuscripts Commission, 1898–1910) ii, 499, etc.
  • G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (1948)