Sypyn Cyfeiliog

bardd

Un o'r cywyddwyr cynnar oedd Sypyn Cyfeiliog, sef Dafydd Bach ap Madog Wladaidd (bl. tua 1340 – 1390). Er ein bod yn gwybod ei enw iawn, mae'n arfer cyfeirio ato fel rheol wrth ei enw barddol 'Sypyn Cyfeiliog'.[1]

Sypyn Cyfeiliog
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1340, 1390 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Fel mae ei enw barddol yn awgrymu, gŵr o gwmwd Cyfeiliog, yn ne-orllewin Powys ar y ffin â Gwynedd a Deheubarth oedd Sypyn Cyfeiliog. Awgrymir yr enw "Sypyn" ei fod yn ddyn bychan o gorff. Ond dylid nodi hefyd fod trefgordd ganoloesol ger Machynlleth o'r enw "llety Suppyn". Mae achau Sypyn yn ansicr, er y gwyddom enw ei dad. Cofnodir uchelwr o'r enw Madog ap Dafydd ap Gruffudd a oedd yn ddisgynnydd i'r tywysog Owain Cyfeiliog ond does dim modd gwybod ai hwn oedd y bardd neu beidio.[1]

Cerddi golygu

Cedwir chwech o gerddi gan Sypyn Cyfeiliog. Maent yn cynnwys awdl foliant i Ddafydd ap Cadwaladr o Fachelldref a chywydd moliant i Harri Salsbri ac Annes Cwrtes o Leweni, yn Nyffryn Clwyd. Ceir pedwar cywydd serch ac englyn.[1]

Cyfeiriadau ato golygu

Ceir cyfeiriadau at Sypyn Cyfeiliog gan Gruffudd Unbais, sy'n awgrymu fod Sypyn yn noddwr y bardd hwnnw, gan Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Llygliw a gan Hywel Dafi. Yn ogystal cyfeirir ato yn y darn rhyddiaith fwrlesg "Araith Iolo Goch", un o'r Areithiau Pros.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd "Sypyn Cyfeiliog" a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd "Sypyn Cyfeiliog" a Llywelyn ab y Moel.