Cwmwysg

pentrefan ym Mhowys

Pentrefan yng nghymuned Llywel, Powys, Cymru, yw Cwmwysg.[1][2] Saif yn ardal Brycheiniog i'r gorllewin o bentref Trecastell.

Cwmwysg
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9°N 3.7°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN851283 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Symudodd nifer o deuluoedd Mynydd Epynt i Gwmwysg ar ôl i'r Weinyddiaeth Ryfel eu gorfodi i adael eu cartrefi ond dioddefodd ddiboglogi yn y 1950au pan grëwyd Cronfa Ddŵr Wysg a phlannu coed conwydd estron dros rannau helaeth o flaenau'r cwm.

Ymhlith enwogion y fro mae'r arlunydd Aneurin Jones, sy'n enwog am ei luniau o geffylau a golygfeydd cefn gwlad megis arwerthiannau a threialon cŵn defaid.

Diwellir anghenion crefyddol y gymuned gan gapel Saron (Annibynwyr) a godwyd yn wreiddiol ym 1822 ac a ailadeiladwyd ym 1856, a chan gapel Tŷ Newydd[5] ym mhentre Trecastell.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 31 Rhagfyr 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-31.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ty Newydd Calvinsitic Methodist Chapel". Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-09-02.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.