Llanerchydol

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentrefan yng nghymuned Y Trallwng, Powys, Cymru, yw Llanerchydol (neu Llannerch Hudol), sydd 81.5 milltir (131.1 km) o Gaerdydd a 152 milltir (244.5 km) o Lundain. Roedd yn hen gwmwd canoloesol.

Llanerchydol
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirY Trallwng Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.659663°N 3.175973°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[2]

Hanes golygu

Daw'r enw o 'Llanerchydol' o enw hen gwmwd Cymreig, sef Llannerch Hudol a oedd ychydig i'r gogledd ac oddi fewn i gwmnwd Ystlyg yn Nheyrnas Powys. Ar ei ffiniau gorllewinol roedd 'Y Gorddwr' ac Ystrad Marchell i'r gogledd, Caereinion i'r dwyrain a Chedewain i'r dwyrain. Ceir cryn amrywiaeth ar y sillafiad: Llannerchwdwl, Llannerchudol, Llanerchudol a Llanerchydol.

Plasdy Llanerchydol golygu

Cofrestrwyd y plasty hwn yn adeilad Gradd II*, ac fe'i leolwyd rhwng Llanfair Caereinion a Llanfyllin.[3] Fe'i codwyd ar ddechrau'r 19g mewn dull Gothig ac mae'r plasdy a'r gerddi mewn cyflwr da.[3][4] Cyn ei godi roedd yma dŷ Tuduraidd a losgodd yn ulw yn 1776. Oherwydd hyn y cododd gŵr lleol o'r enw David Pugh y plas, wedi iddo wneud ei ffortiwn yn Llundain yn gwerthu te.[4][5]

 
Yr hen blasdy, 1828
 
Y plasdy heddiw

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. 3.0 3.1 "Llanerchydol Hall, Welshpool". British Listed Buildings. British Listed Buildings. Cyrchwyd 19 Ebrill 2015.
  4. 4.0 4.1 "LLANERCHYDOL HALL". Coflein. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-23. Cyrchwyd 2015-12-21.
  5. "1776 Gothic Revival – Llanerchydol Hall". Old House Dreams. Old House Dreams. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-12-21.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.