Llangasty Tal-y-llyn

pentref ym Cymru
(Ailgyfeiriad o Llangasty)

Pentref bychan yng nghymuned Llan-gors, Powys, Cymru, yw Llangasty Tal-y-llyn (Seisnigiad: Llangasty-Talyllyn). Saif yn ardal Brycheiniog, 31 milltir (49.8 km) o Gaerdydd.

Llangasty Tal-y-llyn
Eglwys Llangasty Tal-y-llyn
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.925402°N 3.262132°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Gorwedd y pentref yn y bryniau rhwng Bannau Brycheiniog i'r gorllewin a'r Mynydd Du i'r dwyrain, ar lan de-ddwyreiniol Llyn Syfaddon. Mae Llangasty yn rhan o gymuned Llangors, sy'n cynnwys, heblaw pentref Llangors ei hun, bentrefi Llanfihangel Tal-y-llyn a Chathedin. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,045.

Codwyd yr eglwys yn yr Oesoedd Canol ond dim ond gwaelod ei thŵr sy'n dyddio o'r cyfnod hwnnw ar ôl i'r adeilad gael ei ailadeiladu'n sylweddol iawn yn y 19g.

Cynrycholaeth etholaethol golygu

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[2]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.