Rhaeadr Gwy

tref yng nghanolbarth Cymru

Tref wledig a chymuned yng ngorllewin Powys, Cymru, yw Rhaeadr Gwy[1] (Saesneg: Rhayader). Mae'n gorwedd ar lannau Afon Gwy tua 20 milltir o'i tharddiad ar fynydd Pumlumon.

Rhaeadr Gwy
Mathtref farchnad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhayader Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Gwy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.31°N 3.5°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN975685 Edit this on Wikidata
Cod postLD6 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Lleolir y dref ar groesffordd yr A470 a'r B4574 yng nghanolbarth Cymru, 13 milltir i'r gogledd o Llanfair-ym-Muallt. Disgrifir y B4574, sef y ffordd fynyddig i Aberystwyth, gan yr AA, fel "un o'r deg gyrfeydd mwyaf golygfaol yn y byd".[2][3]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[5]

Hanes golygu

Mae'n debygol mai Rhaeadr Gwy oedd canolfan weinyddol cwmwd Gwerthrynion yn yr Oesoedd Canol. Ceir cyfeiriadau at Gastell Rhaeadr Gwy ym Mrut y Tywysogion, ond dim ond olion un o'r ffosydd sydd i'w gweld ar y safle heddiw.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Rhaeadr Gwy (pob oed) (2,088)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhaeadr Gwy) (238)
  
11.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhaeadr Gwy) (1175)
  
56.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Rhaeadr Gwy) (409)
  
41.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. http://www.cycling.visitwales.com/server.php?show=nav.2472
  3. http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2009/04/11/pm-should-head-west-for-a-hidden-gem-holiday-destination-91466-23362715/
  4. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.