Llanrhaeadr-ym-Mochnant
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym Mhowys, Cymru, yw Llanrhaeadr-ym-Mochnant.[1] Fe'i lleolir ym mhen mwyaf gogleddol y sir tua 9 milltir i'r gorllewin o Groesoswallt a 12 milltir i'r de o Langollen. Mae'r lôn B4580 yn mynd trwy'r pentref.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,195, 1,197 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 7,452.42 ha |
Cyfesurynnau | 52.83°N 3.3°W |
Cod SYG | W04000318 |
Cod OS | SJ123262 |
Cod post | SY10 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Steve Witherden (Llafur) |
Fe'i gelwir yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant oherwydd y bu'n rhan o hen gantref (neu gwmwd; yr oes adroddiadau gwahanol) Mochnant yn yr Oesoedd Canol.
Mae'r pentref yn sefyll wrth droedfryniau cyntaf Y Berwyn ar lan afon Rhaeadr. Ym mhen uchaf y cwm ceir Pistyll Rhaeadr, un o Saith Rhyfeddod Cymru yn yr hen rigwm. Un filltir i'r gogledd o Lanrhaeadr mae bryn Moel Hen-fache (515m).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[3]
Adeiladau a hynafiaethau
golyguCeir Capel Seion yn y pentref. Ailadeiladwyd y capel Methodistiaid hwn ar ddechrau'r 1900au yn arddull y mudiad pensaernïol Arts and Crafts.
Pobl o Lanrhaeadr-ym-Mochnant
golygu- Yr Esgob William Morgan (1545-1604), cyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg. Treuliodd gyfnod yn ficer plwyfi Llanrhaeadr ym Mochnant a Llanarmon Mynydd Mawr cyfagos o 1568 hyd 1587. Yno y cyfarfu â'i wraig, Catherine.
- Walter Davies (Gwallter Mechain). Symudodd y bardd a golygydd o Fanafon i fod yn ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar y 18 Tachwedd 1837. Bu farw ym mhersondy Llanrhaeadr ar 5 Rhagfyr, 1849, a chafodd ei gladdu ym mynwent y plwyf wrth lan afon Rhaeadr.
- Robert Elis (Cynddelw); ganed y bardd yno yn 1812.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
-
Pistyll Rhaeadr
-
Tafarn y Wynnstay Arms
-
Eglwys Sant Dogfan
-
Allor Eglwys Sant Dogfan
-
Carreg Gwgan - Croes Geltaidd 9-10ed ganrif
-
Yr eglwys
-
Cerfiad o'r Swper Olaf ger allor yr eglwys
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Trefi
Aberhonddu · Crucywel · Y Drenewydd · Y Gelli Gandryll · Llanandras · Llandrindod · Llanfair-ym-Muallt · Llanfyllin · Llanidloes · Llanwrtyd · Machynlleth · Rhaeadr Gwy · Talgarth · Y Trallwng · Tref-y-clawdd · Trefaldwyn · Ystradgynlais
Pentrefi
Abaty Cwm-hir · Aberbrân · Abercegir · Abercraf · Aberedw · Abergwesyn · Abergwydol · Aberhafesb · Aberhosan · Aberllynfi · Aber-miwl · Aberriw · Abertridwr · Aberysgir · Adfa · Arddlin · Bachelldref · Y Batel · Betws Cedewain · Beulah · Bochrwyd · Bontdolgadfan · Y Bontnewydd-ar-Wy · Bronllys · Bugeildy · Bwlch · Caersŵs · Capel Isaf · Capel Uchaf · Capel-y-ffin · Carno · Casgob · Castell Caereinion · Castell-paen · Cathedin · Cegidfa · Cemaes · Ceri · Cilmeri · Y Clas-ar-Wy · Clatter · Cleirwy · Cnwclas · Coedybrenin · Coelbren · Comins-coch · Crai · Craig-y-nos · Crugion · Cwmdu · Cwm-twrch · Darowen · Defynnog · Derwen-las · Dolanog · Dolfor · Dylife · Einsiob · Erwd · Esgairgeiliog · Felindre, Maldwyn · Felin-fach · Y Foel · Ffordun · Gaer · Garth · Glan-miwl · Glantwymyn · Glasgwm · Y Groes · Gwenddwr · Heol Senni · Isatyn · Kinnerton · Libanus · Llan · Llanafan Fawr · Llananno · Llanarmon Mynydd Mawr · Llanbadarn Fynydd · Llanbadarn Garreg · Llanbister · Llanbryn-mair · Llandinam · Llandrinio · Llandyfaelog Tre'r-graig · Llandysilio · Llandysul · Llan-ddew · Llanddewi yn Hwytyn · Llanddewi Ystradenni · Llanelwedd · Llanerfyl · Llanfair Caereinion · Llanfair Llythynwg · Llanfechain · Llanfihangel Nant Brân · Llanfihangel Nant Melan · Llanfihangel Rhydieithon · Llanfihangel Tal-y-llyn · Llanfihangel-yng-Ngwynfa · Llanfrynach · Llangadfan · Llangadwaladr · Llangamarch · Llangasty Tal-y-llyn · Llangatwg · Llangedwyn · Llan-gors · Llangurig · Llangynidr · Llangynllo · Llangynog · Llangynyw · Llanhamlach · Llanigon · Llanllugan · Llanllwchaearn · Llanllŷr · Llanrhaeadr-ym-Mochnant · Llansanffraid Cwmdeuddwr · Llansanffraid-ym-Mechain · Llansantffraed (Aberhonddu) · Llansantffraed-yn-Elfael · Llansilin · Llanwddyn · Llanwnnog · Llanwrin · Llanwrthwl · Llanwyddelan · Llanymynech · Llan-y-wern · Llawr-y-glyn · Llechfaen · Llowes · Llys-wen · Llywel · Llwydiarth · Manafon · Meifod · Merthyr Cynog · Mochdre · Nant-glas · Nantmel · Pandy · Pencelli · Pencraig · Penegoes · Pengefnffordd · Pennant Melangell · Pentrefelin · Penybont · Pen-y-bont-fawr · Pilalau · Pipton · Pont-faen · Pontneddfechan · Pontrobert · Pontsenni · Pwllgloyw · Saint Harmon · Sarn · Sarnau, Brycheiniog · Sarnau, Maldwyn · Sgethrog · Snead · Sycharth · Talachddu · Talerddig · Tal-y-bont · Tal-y-bont ar Wysg · Tirabad · Trallong · Trecastell · Trefeca · Trefeglwys · Tregynon · Trelystan · Tre'r-llai · Tretŵr · Tre-wern · Walton · Yr Ystog