Rhisiart Cynwal

bardd
(Ailgyfeiriad o Richard Cynwal)

Bardd Cymraeg sy'n perthyn i do olaf Beirdd yr Uchelwyr oedd Rhisiart Cynwal neu Richard Cynwal (bu farw yn 1634).

Rhisiart Cynwal
Ganwyd16 g Edit this on Wikidata
Bu farw1634 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Ychydig a wyddom am ei fywyd personol ac mae'r rhan fwyaf o'i waith yn aros yn y llawysgrifau. Roedd yn frodor o Capel Garmon, yn yr hen Sir Ddinbych (Sir Conwy heddiw).

Symudodd yn yr un cylch llenyddol â beirdd fel Phylipiaid Ardudwy. Mae lle i gredu ei fod yn fardd teulu Plas Rhiwedog, ym mhlwyf Llanfor ger Y Bala, cartref y Llwydiaid, noddwyr beirdd mawr fel Gruffudd Hiraethog.

Cedwir ymryson barddol rhwng Rhisiart Cynwal a Rhisiart Phylip, un o Phylipiaid Ardudwy. Canodd gerddi mawl i sawl uchelwr yn y cylch, gan gynnwys Tomos Prys o Blas Iolyn.