Llandudno
Tref arfordirol a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llandudno.[1][2] Mae'n gorwedd ar benrhyn y Creuddyn i'r gogledd o Gonwy a Bae Colwyn. Mae ganddi boblogaeth o tua 25,000. Mae'n gorwedd ar y tir isel sydd rhwng tir mawr gogledd Cymru a Phen y Gogarth Fe'i hadeiladwyd yn bennaf yn y 19g fel cyrchfan gwyliau ac mae ei phensaernïaeth hanesyddol yn enwog. Mae'n un o gyrchfannau twristaidd mwyaf poblogaidd gogledd Cymru. Daw ei henw o blwyf hynafol Sant Tudno. Mae Caerdydd 210 km i ffwrdd o Llandudno ac mae Llundain yn 322 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 23 km i ffwrdd.
Math | cymuned, tref |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tudno |
Cysylltir gyda | Tudno |
Poblogaeth | 20,800, 19,734 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3225°N 3.825°W |
Cod SYG | W04000903 |
Cod OS | SH783824 |
Cod post | LL30 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hanes
golyguMae'r adeiladau yn y rhan fwyaf o'r dref yn perthyn i'r 19g a'r 20g, ond mae hanes ardal plwyf Llandudno yn cychwyn yn y cyfnod cynhanesyddol. Yn Oes yr Efydd dechreuwyd cloddio am gopr ar y Gogarth a bu diwydiant cloddio copr yn yr ardal hyd at y 19g. Ceir cromlech a meini eraill ar y Gogarth.
Yn ôl traddodiad, sefydlodd Sant Tudno gell ar y mynydd yn y 6g mewn man a nodir gan Eglwys Tudno heddiw. Dyma gyfnod y brenin Maelgwn Gwynedd hefyd, a gysylltir â Chaer Ddeganwy ac Eglwys Rhos.
Ar ddechrau'r 19g dim ond pentref bychan, yn gartref i bysgotwyr a mwyngloddwyr copr a'u teuluoedd oedd wrth droed y Gogarth. Datblygwyd y tir wastad rhwng y Gogarth a Rhiwledyn yn y 19g a chodwyd nifer o westai crand a thai. Y prif atyniad oedd y ddau draeth braf - Pen Morfa a Thraeth y Gogledd - a'r awyr iach. Tyfodd Llandudno i fod un o brif gyrchfannau gwyliau glan môr Cymru a gwledydd Prydain gyda nifer o'r ymwelwyr yn dod o ogledd-orllewin Lloegr i ddianc o'r dinasoedd am ysbaid, Roedd agor y lein reilffordd yn hwb anferth i'r diwydiant twristaidd ac yn ei anterth byddai rhai miloedd o ymelwyr yn cyrraedd y dref bob dydd yn yr haf.
Gwesty’r Hydro
golyguCodwyd Gwesty Craigside Hydro ar lethrau’r Gogarth Fach tua 1884 ar dir Fferm Bryn y Bia. ‘Roedd y gwesty yn arbenigo ac yn cynnig amrywiaeth o driniaethau meddygol, ac fel yr awgryma’r enw ‘Hydro’, ‘roedd llawer o ddefnydd o ddŵr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cymerwyd y gwesty drosodd gan y llywodraeth a symudwyd nifer o weision sifil yno. Yn sicr, roedd yn westy moethus ac ymhlith y bobl fu’n ymweld ‘roedd y Dywysoges Margaret.
Mae’r llun uchaf [1] yn dangos y safle yn ystod y pumdegau, gan gynnwys y gerddi a’r lawntiau ‘crocé’ o flaen y gwesty a’r neuaddau tenis dros y ffordd ger y môr. Ym 1959 penderfynwyd troi’r neuaddau tenis yn theatr gyda’r enw ‘The New Stadium’ a chyflwyno sioeau ar rew. Ar 11 Gorffennaf 1959 agorwyd yr amwynder gyda gorymdaith o’r pier at y theatr gyda bwch gafr a band yn arwain! Byr iawn fu oes y theatr, ac ar ddechrau’r saithdegau dechreuodd Cwmni Hotpoint gynhyrchu peiriannau glanhau a smwddio ar y safle. Yna, cymerwyd y safle gan Gwmni Ceir Automobile Palace oedd â modurdai yng Nghraig y Don, Bae Penrhyn (Y Links), Llanfair Pwll, Llandrindod a lleoedd eraill, i storio ceir. Yna, penderfynwyd gwerthu’r cyfan yn cynnwys y gwesty a’r pafiliwn ac fe ddymchwelwyd y gwesty ym 1974. Prynwyd y safle gan Awdurdod Tir Cymru a’i rannu’n dair safle. Bellach, fel y gwelwch o’r ail lun, tai sydd ar y safle.[3]
Pier Llandudno
golyguAdeiladwyd y pier rhwng 1876 a 1878, yn defnyddio trawstiau haearn gyrru a cholofnau haearn bwrw. Mae'r pier 1234 troedfedd o hyd. Cynhaliwyd cyngerddau ym Mhafiliwn y Pier, efo artistiaid megis Syr Malcolm Sargent, George Fornby, Semprini, Petula Clark, Arthur Askey, Russ Conway, y chwiorydd Beverley a Cliff Richard. Llosgwyd y pafiliwn yn 1994..[4]
Defnyddiwyd y pier am flynyddoedd maith gan gychod stêm, yn mynd i Lerpwl ac Ynys Manaw. Daeth y fath wasanaethau i ben yn 2005.[4]. ond erbyn heddiw mae mordeithiau lleol ar MV Balmoral[5] a PS Waverley[6] yn ystod yr haf.
Tramffordd
golyguMae'r dramffordd yn rhedeg o orsaf yn rhan uchaf tref Llandudno i'r caffi a gwylfa ar y copa, gyda gorsaf arall hanner ffordd i fyny lle mae'n rhaid i deithwyr newid i dram arall. Tramffordd ffwniciwlar yw hi.[7]
- Prif: Tramffordd y Gogarth
Cyfryngau
golyguGwasanaethir Llandudno gan orsaf radio cymunedol Tudno FM, sy'n darlledu yn Saesneg (yn bennaf) ac yn Gymraeg. Y Pentan yw'r papur bro lleol.
Cludiant
golyguGwasanaethir y dref gan gangen rheilffordd o Gyffordd Llandudno, sy'n rhan o Reilffordd Dyffryn Conwy. Trwy orsaf y Cyffordd ceir gwasanaethau ar lein Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru i gyfeiriad Caergybi i'r gorllewin a dinas Caer i'r dwyrain. Bu Gorsaf reilffordd Llandudno yn un o'r rhai mwyaf crand yng Nghymru ar un adeg, ond mae llawer o'r to haearn bwrw a gwydr wedi ei dynnu i lawr a dim ond rhan sy'n aros heddiw. Adeilad briciau coch a godwyd yn y 19g yw'r orsaf.
Mae Llandudno yn ganolfan gwasanaethau bysiau lleol gyda nifer o wasanaethau yn ei chysylltu â'r trefi a phentrefi lleol. Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau hyn yn cael eu rhedeg gan gwmni Arriva Cymru.
Pobl o Landudno
golygu- Thomas Jones (Tudno), bardd, newyddiadurwr ac offeiriad (19g)
- Richard Parry (Gwalchmai), bardd o Sir Fôn (19g) a fu'n gweinidog yn y dref ac a gladdwyd yn Eglwys Rhos
- Edith Nepean, awdures Gymreig yn yr iaith Saesneg
- Lewis Valentine, gwasanaethai fel gweinidog yn y dref rhwng y ddau ryfel byd
- Alun Tudor Lewis (1905-86), awdur straeon byrion
- David Crighton (1942-2000), mathemategydd a ffisegydd Seisnig a anwyd yn y dref
- Harry Thomas, athro, naturiaethwr a dyddiadurwr [2]. Bu’n byw yn Nant y Gamar. Mae elfennau o’i ddyddiaduron Saesneg ar gael yma [3] yn Nhywyddiadur gwefan Llên Natur.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]
Eisteddfod Genedlaethol
golyguCynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llandudno ym 1896 a 1963. Am wybodaeth bellach gweler:
Chwaraeon
golyguMae'r dref yn gartref i C.P.D. Llandudno, sy'n cystadlu yn y Gynghrair Undebol. Ceir maes criced yn y dref, cartref Clwb Criced Llandudno.
Eglwysi
golyguSaif y brif eglwys, Eglwys y Drindod Sanctaidd, yn Stryd Mostyn.
Oriel
golygu-
1890-1900, gyda'r pier ar y dde
-
Llandudno o'r Gogarth
-
Mynyddoedd Eryri o Ben y Gogarth
-
Bae Llandudno o'r pier
-
Pier Llandudno
-
Lle chwarae plant ar y pier
-
Gorsaf Tramiau y Gogarth a hen adeilad Fictorianaidd
-
Pen y Gogarth: y tŷ bwyta
-
Pen Morfa (West Shore), Llandudno
-
O Drwyn y Fuwch (Gogarth Fach) i gyfeiriad y pier a Phen y Gogarth; Llandudno.
-
Gwestai ar y dde a Thrwyn y Fuwch yn y cefn
-
Theatre "Venue Cymru"
-
Eglwys Unedig Gloddaeth (Presbyteraidd Saesneg gynt)
-
Bwrlwm y dref a chreigiau Pen y Gogarth
-
Gwestai'r prom a'r haul yn machlud
-
Golwg o bell
Gweler hefyd
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Ivor Wynne Jones, Llandudno, Queen of Welsh Resorts (ail arg. 2002)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
- ↑ Gareth Pritchard ym Bwletin Llên Natur rhifyn 60, tudalen 2
- ↑ 4.0 4.1 Gwefan y pier[dolen farw]
- ↑ "Gwefan y Lein White Funnel". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-03. Cyrchwyd 2016-03-19.
- ↑ Gwefan y Waverley
- ↑ Gwefan Videoscene
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dolenni allanol
golygu- Venue Cymru
- Eglwysi Llandudno Archifwyd 2021-02-27 yn y Peiriant Wayback
- Delweddau o Landudno yn y 19eg ganrif Archifwyd 2006-04-04 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan