Llanfair Llythynwg

pentref ym Mhowys, Cymru
(Ailgyfeiriad o Gladestry)

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanfair Llythynwg,[1] weithiau Llanfair Llythyfnwg (Saesneg: Gladestry). Saif 49 milltir (78.8 km) o Gaerdydd a 136.3 milltir (219.3 km) o Lundain. Saif y pentref i'r de o bentref Maesyfed ac yn agos i'r ffin â Lloegr. Dyddia rhan hynaf yr eglwys i'r 13g. Mae Llwybr Clawdd Offa yn rhedeg trwy'r pentref. Daw enw'r pentref o hen gwmwd Llythynwg, a feddianwyd gan y Normaniaid i greu arglwyddiaeth Maesyfed.

Llanfair Llythynwg
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth412, 438 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,365.54 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.188568°N 3.123269°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000274 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Map

Heblaw pentref Llanfair Llythynwg, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Eglwys Newydd a Llanfihangel Dyffryn Arwy. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 419, gyda 12.4% yn siarad Cymraeg, y ganran uchaf ymhlith cymunedau yr hen Sir Faesyfed.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfair Llythynwg (pob oed) (412)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair Llythynwg) (27)
  
6.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair Llythynwg) (127)
  
30.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfair Llythynwg) (58)
  
32.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cynrychiolaeth etholaethol

golygu

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  6. Gwefan Senedd y DU