Gruffudd Phylip

bardd (1650-1666)
(Ailgyfeiriad o Gruffydd Phylip)

Bardd proffesiynol o ardal Ardudwy, Meirionnydd, oedd Gruffudd Phylip (bu marw yn 1666). Mae'n cael ei ystyried yn un o'r clerwyr olaf.

Gruffudd Phylip
Ganwyd17 g Edit this on Wikidata
Ardudwy Edit this on Wikidata
Bu farw1666 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
TadSiôn Phylip Edit this on Wikidata
LlinachPhylipiaid Ardudwy Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd yn un o'r teulu o feirdd o Ardudwy yn yr 16g a'r ganrif olynnol a adnabyddir fel Phylipiaid Ardudwy. Roeddent yn ddisgynyddion i ymsefydlwyr Normanaidd yn yr ardal yn y 12g ond cawsont eu cymathu i'r gymdeithas Gymreig o'u cwmpas. Mae'r Phylipiaid yn cynrychioli to olaf Beirdd yr Uchelwyr, y beirdd proffesiynol a ganai i uchelwyr Cymru yn yr Oesoedd Canol Diweddar a dechrau'r Cyfnod Modern. Arferent fynd ar deithiau clera gan ymweld ac aelwydau mawr gogledd Cymru. Mae eu gwaith yn ddrych i gymdeithas y cyfnod a'r newidiadau a welwyd.

Roedd Gruffudd yn fab i'r bardd Siôn Phylip ac yn frawd i fardd arall yn y teulu, sef Phylip Siôn Phylip. Mae Gruffudd yn cael ei ystyried yn un o'r clerwyr olaf. Arferai Gruffudd clera o gwmpas aelwydydd gogledd Cymru, ac yn enwedig Eifionydd ac Ardudwy. Roedd ei noddwyr yn cynnwys Fychaniaid Corsygedol, Ardudwy.

Cerddi golygu

Ceir tua thrigain cywydd o waith Gruffudd ar glawr heddiw. Cyfansoddodd nifer o gerddi ar y mesurau rhydd hefyd, ac mae'r ffaith yna ynddi ei hun yn dangos faint oedd y traddodiad barddol wedi dirywio erbyn cyfnod Gruffudd. Mae ei gerddi yn cynnwys cywydd moliant i Owen Wynne o'r Glyn ar achlysur ei briodas (1661) a chywydd marwnad i'w dad, Siôn Phylip (m. 1620).