Pontneddfechan

pentref ym Mhowys, Cymru
(Ailgyfeiriad o Pontneathvaughan)

Pentref yng nghymuned Ystradfellte, Powys, Cymru, yw Pontneddfechan (wedi ei Seisnigo weithiau fel Pontneathvaughan). Saif yn ardal Brycheiniog yn rhan uchaf Glyn Nedd, ar bwys yr A465. Enwir y pentref ar ôl pont dros Afon Nedd Fechan ger ei chymer ag Afon Mellte. I'r gogledd o'r pentref cyfyd bryniau'r Fforest Fawr, sy'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Nedd Uchaf.

Pontneddfechan
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Mellte Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7554°N 3.5878°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN905075 Edit this on Wikidata
Cod postSA11 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[2]

Capel Ebenezer, Pontneddfechan

Enwogion golygu

  • Thomas Stephens (1821-1875), hanesydd llenyddiaeth, ysgolhaig ac awdur Cymreig a aned ym Mhontneddfechan

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.