Dafydd Llwyd o Fathafarn
Bardd ac uchelwr o Fathafarn ym Mhowys oedd Dafydd Llwyd o Fathafarn (Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd: tua 1395 - 1486). Bardd a ganai ar ei fwyd ei hunan oedd Dafydd Llwyd, yn hytrach na bardd proffesiynol. Roedd yn adnabyddus iawn yn ei ddydd fel brudiwr a dehonglydd brudiau, yn gymaint felly fel y dywedir fod Harri Tudur wedi galw ym Mathafarn i ymgynghori ag ef ar ei ffordd i Faes Bosworth yn 1485.
Dafydd Llwyd o Fathafarn | |
---|---|
Ganwyd | c. 1420 |
Bu farw | c. 1500 |
Man preswyl | Mathafarn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Ei hanes a'i waith
golyguGaned Dafydd Llwyd ym mhlas Mathafarn, ym mhlwyf Llanwrin, Mawddwy tua diwedd y 14g, yn ôl pob tebyg. Roedd yn fab i Llywelyn ap Gruffudd, aelod o deulu pur bwysig yn yr ardal. Priododd ferch o'r enw Margred a bu iddynt dri o feibion, Ieuan, Meredudd a Llywelyn. Dyna bron y cwbl a wyddys amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi a chanu beirdd eraill iddo. Credir iddo farw tua diwedd y 1480au neu ddechrau'r 1490au (ar dystiolaeth ei gerddi).
Roedd yn adnabyddus ledled y wlad fel bardd a brudiwr. Canodd ei gyfaill Ieuan Dyfi gywydd iddo a'i wraig, Margred. Cedwir ar glawr cywyddau ymryson rhwng Dafydd Llwyd a Llywelyn ap Gutun ynghylch clera hefyd, sy'n ffynhonnell bwysig am yr arfer gan y beirdd o grwydro ar gylch i ganu yn nhai noddwyr. Mae'n enwog hefyd am ei ymryson cellweirus a masweddus iawn â'r brydyddes Gwerful Mechain, sy'n perthyn i draddodiad canu maswedd Cymraeg yr Oesoedd Canol.
Ceir cerdd ganddo i Sant Tydecho, nawddsant Mawddwy, a moliant i Dafydd ab Ieuan ab Einion, capten Castell Harlech yn y gwarchae arno gan Edward IV o Loegr yn 1461-68.
Ond prif hynodrwydd y bardd yw ei cywyddau brud. Cedwir tua deugain y gellir eu derbyn yn bur hyderus fel gwaith Dafydd Llwyd. Maent yn perthyn i gyd bron i gyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau - roedd yn gefnogwr brwd i blaid y Lancastriaid - ac ymgyrch Harri Tudur i ennill coron Lloegr. Fel y canu darogan yn gyffredinol - sydd gan amlaf yn waith beirdd anhysbys - brithir y cerddi hyn a chyfeiriadau ffyrnig o wrth-Seisnig a mynegir y gobaith y gwireddir yr hen ddaroganau sy'n proffwydo bydd y Saeson yn cael eu gyrru ar ffo a'r Cymry yn adennill eu meddiant ar Ynys Prydain.
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Y testunau:
- W. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn (Gwasg Prifysgol Cymru, 1964). Testunau golygedig.
- Dafydd Johnston (gol. a chyf.), Canu maswedd Cymraeg yr Oesoedd Canol/Medieval Welsh Erotic Verse (Tafol, 1991). Testun ymryson Dafydd Llwyd a Gwerful Mechain.
Astudiaethau:
- Enid P. Roberts, Dafydd Llwyd o Fathfarn (1981)
Gweler hefyd
golyguBedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd