Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision
Bardd Cymraeg o Forgannwg oedd Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision (bl. 1437–cyn 1490). Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur dau gywydd i Owain Tudur ac fel awdur cerddi maswedd.[1]
Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision | |
---|---|
Ganwyd | 15 g |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1450 |
Tad | Ieuan ap Lleision ap Rhys (o Baglan) ap Morgan Fychan |
Mam | Efa ferch Llywelyn ap Rhys ap Grnwy ap Caradog |
Plant | Efa ferch Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision o Faglan, Cecily ferch Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision, Jane ferch Ieuan Gethin ab Ieuan ap Gruffudd |
Bywgraffiad
golyguBrodor o blwyf Baglan, Morgannwg oedd Ieuan. Roedd yn uchelwr a hyfforddodd fel bardd ac a ganai ar ei fwyd ei hun, h.y. er difyrrwch, heb fod yn fardd proffesiynol. Perthynai i lwyth Caradog ab Iestyn ap Gwrgant, Arglwydd Aberafan.
Cerddi
golyguCedwir deg cywydd ac un awdl y gellir eu derbyn fel gwaith y bardd. Canodd gywydd i annerch Owain Tudur pan fu yng ngharchar Newgate yn 1437 a chanodd farwnad iddo pan gafodd ei ddienyddio yn 1461. Mae naws brudiol i'r cerddi hyn, ac roedd Ieuan yn un o'r rhai a welodd Owain Tudur fel y Mab Darogan disgwyliedig a fyddai'n ryddhau'r Cymry:
O ddiddordeb fel tystiolaeth hanesyddol ac fel cerddi teimladwy, grymus yw ei farwnadau i'w ferch a'i fab a fu farw o haint y nodau. Roedd wedi gaddo rhodd o aur i'r eglwys pe bai ei fab hynaf, Siôn, yn dianc o afael y pla:
- Addewaid ar weddïon
- Ei bwys o aur er byw Siôn ;
- Ar Dduw er a weddïais
- Ni chawn Siôn mwy na chan Sais![3]
Mae'n bosibl mai ef hefyd yw awdur cywydd marwnad i bedwar plentyn arall a fu farw o'r clefyd ac a ystyrir gan rai yn un o gywyddau gorau'r cyfnod. Disgrifia'r chwarren oedd mor nodweddiadol o'r haint. Mor fychan yw ond mae'n "difa dyn":
- Gŵyth llid yw gwaetha lle dêl,
- Glain a bair ochain uchel.../
- Chwarren bach ni eiriach neb ;
- Mawr ei ferw mal marworwyn,
- Modfedd a bair diwedd dyn.[3]
Cedwir ar glawr gywydd masweddus gan Ieuan Gethin sy'n disgrifio fel y cafodd yr haint wenerol ar ôl cael cyfathrach gyda merch lac ei moesau yn y llwyn. Cael hwyl am ei ben ei hun y mae'r bardd wrth ddisgrifio fel y bu rhaid iddo redeg am adref gyda'i gala a'i geilliau'n llosgi, a'i lodre yn ei lawes.[4]
Ceir traddodiad am ymryson barddol rhwng Ieuan Gethin a'r Proll. Canwyd marwnad i Ieuan gan Iorwerth Fynglwyd.
Ffugiadau Iolo Morganwg
golyguCafodd Ieuan Gethin ei le yn y Forganwg chwedlonol a luniwyd gan Iolo Morganwg. Yn ôl Iolo, bu'n ymladd gyda Owain Glyn Dŵr ym Morgannwg. Ond ganwyd y bardd yn rhy hwyr i gymryd rhan yn y gwrthryfel.[5]
Llyfryddiaeth
golyguCeir testun o gerdd faswedd Ieuan, dan y teitl 'Y Chwarae'n Troi'n Chwerw', yn:
- Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (Tafol, 1991), tt. 94-97.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (Tafol, 1991).
- ↑ G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 25.
- ↑ 3.0 3.1 G.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 29.
- ↑ Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol, tud. 94.
- ↑ G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tt. 24-25.
Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd