Pobol y Cwm
Un o gyfresi teledu mwyaf poblogaidd Cymru yw Pobol y Cwm. Dyma'r opera sebon mwyaf hirhoedlog a gynhyrchir gan y BBC. Crewyd y gyfres gan y dramodydd Gwenlyn Parry a'r cynhyrchydd John Hefin.[1] Ar wahân i rygbi, dyma'r rhaglen mwyaf poblogaidd ar S4C.[2]
Pobol y Cwm | |
---|---|
Genre | Opera sebon |
Serennu | Cast |
Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 20 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | BBC Cymru (1974-1982) S4C (1982-) |
Rhediad cyntaf yn | 16 Hydref 1974 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb |
Fe ddechreuodd y gyfres ar 16 Hydref 1974;[3] felly dim ond Coronation Street ac Emmerdale sydd wedi parhau yn hirach na Pobol y Cwm ar y teledu ym Mhrydain. Yn y dyddiau cynnar fe'i ddarlledwyd y diwrnod canlynol am 12:25 ar rwydwaith BBC 1.[4] Wedi i S4C gael ei sefydlu, trosglwyddodd y gyfres i'r sianel honno a bellach gyda pum pennod yr wythnos trwy gydol y flwyddyn. Cafodd hynny ei leihau i dri pennod yr wythnos wedi pandemig COVID.[5]
Mae S4C yn dangos Pobol y Cwm fel arfer o nos Lun i nos Wener am 19:30 neu 20:00, heblaw yn ystod Eisteddfodau neu lle darlledir chwaraeon. Maent yn ail-ddarlledu 'Omnibws' o holl benodau'r wythnos gydag isdeitlau yn Saesneg ar y sgrin ar nos Sul am 17:30.
Mae'r rhaglen wedi bod yn feithrinfa i nifer o actorion a aeth ymlaen i adnabyddiaeth rhyngwladol, yn cynnwys Ioan Gruffudd a Iwan Rheon. Mae nifer o enwogion o actorion gwadd wedi ymddangos yn y gyfres hefyd, yn cynnwys Rhys Meirion, Ray Gravell, Michael Aspel, Giant Haystacks ac El Bandito, Dave Brailsford, Russell Grant, Michael Sheen a Ruth Jones.[6]
Yn Hydref 2024, dathlwyd 50 mlynedd o'r gyfres gyda nifer o rhaglenni arbennig i nodi'r achlysur. Yn ogystal agorwyd y set i'r cyhoedd gyda theithiau ar gael o gwmpas y stiwdios a'r brif stryd.[7]
Cyfres PyC
golyguYn Ebrill 2013 cynhyrchwyd cyfres aml-blatfform PyC a oedd yn seiliedig a rai o gymeriadau ifanc Pobol y Cwm. Bwriad y prosiect oedd apelio at oedolion ifanc a chwilio am ffyrdd newydd o ddweud stori. Roedd y gyfres ar gael ar wefan S4C gyda phennod yn cael ei ryddhau am 9pm dros gyfnod o wythnos.[8]
Lleoliad
golyguWedi'i lleoli ym mhentref dychmygol Cwmderi yng Nghwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin, mae'r gyfres opera sebon hon yn canolbwyntio ar fywyd, gwaith, cariad a materion teuluol. Ar y dechrau, pentref tawel iawn oedd Cwmderi er gwaethaf perthnasau personol anodd. Tueddai'r straeon ganolbwyntio o gwmpas cartref y henoed Bryn Awelon a'r dafarn leol, Y Deri Arms.
Mae'r dafarn yn dal i fod yn ganolfan pwysig yn yr opera sebon, yn ogystal â siopau a chartrefi'r sawl sy'n byw yng Nghwmderi. Yn ddiweddar, mae'r straeon wedi newid i ganolbwyntio ar faterion mwy dadleuol fel llofruddiaeth, trais, cyffuriau, a dyfodol cymunedau gwledig. Un o themâu rheolaidd y gyfres ers 1974 yw dyfodol yr iaith Gymraeg. Rhai o'r straeon a gydiodd fwyaf yn nychymyg y gwylwyr dros y blynyddoedd diweddar oedd marwolaeth y cymeriad Reg Harries, cymeriad selog yn y gyfres ers yr ail bennod, a'r damwain gar pan gollodd Anita'r babi yr oedd hi'n ei gario.
Ffilmio
golyguDdiwedd y 90au, codwyd set barhaol i'r gyfres y tu ôl i faes parcio BBC Cymru yn Llandaf, Caerdydd, gan hwyluso'r ffilmio a rhoi cartref parhaol i'r rhaglen. Yn 2012 symudodd y cynhyrchiad i stiwdios newydd pwrpasol 'Porth y Rath' ym Mae Caerdydd lle ail-grewyd stryd fawr Cwmderi a setiau mewnol. Rhennir y stiwdios gyda chynhyrchiadau drama arall y BBC gan gynnwys Doctor Who a Casualty a mae'n bosib i'r rhaglen wneud defnydd achlysurol o'r setiau arall.
Saethir y rhan fwyaf o olygfeydd awyr agored Pobol y Cwm yn ardal pentref Llanbedr-y-fro, i'r gorllewin o Gaerdydd.
Aelodau cast cyfredol
golyguCymeriad | Actor | Hyd |
---|---|---|
Megan Harries | Lisabeth Miles | 1974–1995, 1996, 2002, 2003, 2011– |
David 'Dai Sgaffalde' Ashurst | Emyr Wyn | 1978–1984, 2001– |
Ieuan Griffiths | Iestyn Jones | 1988–1992, 1995–1997, 2000–2011, 2019– |
Eileen Probert (née Walters) | Sera Cracroft | 1989–1996, 1998, 2007– |
Lisa Morgan | Beth Robert | 1990–1991, 1996–2000, 2019– |
Hywel Llywelyn | Andrew Teilo | 1990– |
Cassie Morris (née Nicholas) | Sue Roderick | 1991–2003, 2018– |
Kathleen 'Kath' Pearl Jones | Siw Hughes | 1993–2007, 2014, 2017– |
Mark Jones | Arwyn Davies | 1993– |
Iori Davies | Hugh Thomas | 1993, 1995, 1997–1999, 2002, 2018– |
Sioned Charles (née Rees) | Emily Tucker | 1993–1996, 2007– |
Rhys Llywelyn | Jack Quick | 1997–2001, 2008–2012, 2014–2015, 2018– |
Diane Ashurst (née Francis) | Victoria Plucknett | 1998– |
Jason Francis | Rhys ap Hywel | 1998–2007, 2015– |
Sara Francis (née Thomas) | Helen Rosser Davies | 1998, 2000–2007, 2015– |
Anita Pierce | Nia Caron | 1999– |
Mai 'Em' Morris | Mirain Evans | 2000–2004, 2020– |
Britt White (née Monk) | Donna Edwards | 2002– |
Garry Monk | Richard Lynch | 2002– |
Iolo Davies-White (né White) | Dyfan Rees | 2002–2005, 2007, 2009– |
Siôn White | Jeremi Cockram | 2002– |
Gwyneth Jones | Llinor ap Gwynedd | 2003– |
Kelly Charles (née Evans) | Lauren Phillips | 2003–2007, 2015– |
Ffion Llywelyn (née Roberts) | Bethan Ellis Owen | 2004– |
Aaron Dafydd Monk | Osian Morgan | 2006– |
Dani Monk (née Thomas) | Elin Harries | 2007– |
Eifion Rowlands | Arwel Davies | 2007– |
Colin Evans | Jonathan Nefydd | 2008– |
Gaynor Llywelyn | Sharon Roberts | 2008– |
Esyllt ‘Izzy’ Evans | Caryl Morgan | 2008–2010, 2012, 2019– |
Gwern Harley Jones | Elis Lloyd Hughes | 2010– |
Arwen Hedd | Evie Rose Jenkins | 2012– |
Richard 'DJ' Ashurst Junior | Carwyn Glyn | 2014– |
Esther Llywelyn | Eira Adoh | 2016– |
Matthew Price | Mark Stuart Roberts | 2016– |
Tyler Davies-White (né Davies) | Aled Llyr Thomas | 2016– |
Ifan Francis | Ioan Arnold | 2017– |
Greta Davies-White | Bella Marie Dennis | 2017– |
Seren Monk | Maggie Edith Taylor | 2017– |
Huwi-John Probert | Frazer McCann | 2018– |
Jaclyn Parri (née Ellis) | Mali Harries | 2018– |
Gerwyn Parri | Aled Pugh | 2018– |
Tesni Parri | Lois Meleri-Jones | 2018– |
Guto Parri | Owain Huw | 2018– |
Brenda Parri | Sharon Morgan | 2018– |
Dylan Ellis | Gareth Jewell | 2019– |
Llio Jones | Miriam Isaac | 2020– |
Cyn aelodau cast ac aelodau achlysurol
golyguCymeriad | Actor | Cyfnodau'r cymeriad |
---|---|---|
Dic "Deryn" Ashurst | Ifan Huw Dafydd[9] | 1982–1992, 1995, 1999 |
Mansel Bennett | Brinley Jenkins | 1991, 1993 |
Doreen Bevan | Marion Fenner | 1982–1996, 1999–2001 |
Stan Bevan | Phylip Hughes | 1984–1994 |
Sylvia Bevan | Sharon Morgan | 1984–1987 |
John Wyndham-Bowen | Dafydd Aeron | 1985–1988 |
Tristan Bowen | Griff Williams | 1990–1991 |
Cyrnol Buckley | Meredith Edwards | 1978 |
Sharon Burgess | Sian Naiomi | 1993–1996 |
Nerys Cadwaladr | Gaynor Morgan Rees | 1974–1976, 1979–1980, 1982–1986, 1988–1991 |
Ed Charles | Geraint Todd | 2011–2019 |
Gemma Charles | Catrin-Mai Huw | 2011–2016 |
Debbie Collins | Maria Pride | 2005–2006, 2008–2020 |
Dolores "Dol" Collins | Lynn Hunter | 2015–2017, 2019 |
Liam Collins | Sion Ifan Williams | 2005–2008, 2014, 2016–2017, 2019 |
Vicky Collins | Carli De'La Hughes | 2005–2006, 2015–2018, 2019 |
Ken Coslett | Phyl Harries | 1988–1991 |
Linda Coslett | Delyth Wyn | 1988–1991 |
Metron Coslett | Anwen Williams | 1980–1982 |
Ellen Cullen | Nia Medi | 1990, 1993–1994 |
Jack Daniels | Dafydd Hywel | 1976–1984, 1999, 2004 |
Robert Daniels | Gruffudd Ifan | 1983–1984, 2002, 2007 |
Angie Davies | Catherine Ayres | 1999–2000 |
Bella Davies | Rachel Thomas | 1974–1992 |
Bethan Davies | Catrin Brooks | 1999–2002 |
Jacob Ellis | Dillwyn Owen | 1974–1993 |
Meira Ellis | Sara McGaughey | 1988–1994 |
Lois Evans | Mirain Jones | 2008–2013, 2014 |
Menna Evans | Sara Harries-Davies | 1995, 1996, 2001 |
Eleri Evans | Hazel Wyn Williams | 1989–1991 |
Yvonne Evans | Tonya Smith | 2009–2012 |
Nuala Flynn | Bethan Jones | 1980, 1982 |
Pat Flynn | Iestyn Garlick | 1980 |
Sean Flynn | Glyn Williams (Pensarn) | 1980–1981 |
Emma Francis | Catrin Arwel | 1998–2005 |
Hannah Francis | Abi Smith / Megan Huws / Ella Peel | 2000–2006, 2008, 2017–2018 |
Terry Francis | Huw Emlyn | 1991, 1993, 1994, 1997, 2000 |
Chris Frost | Llew Davies | 2005–2007 |
Nansi Furlong | Marged Esli | 1977, 1980–1989, 2010, 2012, 2014, 2015, 2016 |
Gwyneth Gregory | Nicola Beddoe | 1988 |
Beti Griffiths | Margaret Williams | 1981–1986 |
Cathryn Griffiths | Mari Emlyn | 1981–1982 |
Colin Griffiths | David Lyn | 1975–1976, 1981–1982 |
Annest Griffiths | Dilys Price | 1975–1976 |
Hazel Griffiths | Jennifer Lewis | 1996, 1999–2002, 2007 |
Iolo Griffiths | Terry Dyddgen-Jones | 1975–1976 |
Melanie Griffiths | Elin Jones | 2000 |
Carol Gwyther | Rhian Morgan | 1984–1992 |
Herbert Gwyther | Alwyn Jones | 1977–1987 |
Sandra Gwyther | Sian Meredydd | 1982–1984 |
Beti Harries | Buddyg Williams | 1974–1975 |
Cadi Harries (née Morris) | Betsan Jones | 1974–1976 |
Dillwyn Harries | Haydn Edwards | 1974–1991 |
Gareth Harries | Jonathan Morgan / Ioan Gruffudd / Rhodri Wyn Miles | 1975–1993, 1995, 1996–1997, 2000, 2002, 2003 |
Reg Harries | Huw Ceredig | 1974–2003 |
Rhian Harries | Rhian Samuel / Catherine Jones / Debbie Jones | 1979–1995, 1997–2004, 2007 |
Sabrina Harries | Gillian Elisa[10] | 1974–1984, 1987, 1988, 1999–2010 |
Wayne Harries | Dewi 'Pws' Morris | 1974–1987 |
Jordan Hill | Robert Marrable | 1999–2000 |
Paul Hill | Ali Yassine | 1999–2000 |
Darren Howarth | Huw Euron | 1999–2007, 2013–2014, 2015, 2018 |
Julie Hughes | Grug Maria / Ruth Lloyd | 2002–2007, 2015, 2016, 2018 |
Luned Hughes | Rhianna Loren | 2019 |
Rhiannon Hughes | Heledd Owen | 2002–2003, 2007 |
Sheryl Hughes | Lisa Victoria | 2001–2018 |
Huw Humphries | Dyfan Roberts | 1998–1999 |
Steffan Humphries | Huw Garmon | 1997–2004 |
Cliff James | Clive Roberts | 1974–1979 |
Glyn James | Ieuan Rhys | 1983–1996 |
Gwenllian James | Megan Soffia Evans | 1989–1993, 1994 |
Delme Jenkins | Geraint Eckley / Gwyn Vaughan | 1993, 1994, 1996, 2001, 2002 |
Dora Jenkins | Olive Michael | 1984–1996 |
Gareth Jenkins | Iwan Tudor | 1999–2000 |
Huw "Jinx" Jenkins | Mark Flanagan | 2005–2015 |
Lowri Jenkins | Meleri Bryn | 1996, 1999–2002 |
Rita Jenkins | Olwen Medi | 1976, 1985–1993 |
Tal Jenkins | Ernest Evans | 1975–1996 |
Derek Jones | Hywel Emrys | 1988–2006, 2009, 2012 |
Dyfan "Dyff" Jones | Dewi Rhys | 1993–2000 |
Ricky Jones | Evan Rhys Coxley / Tomos West | 2005–2019 |
Sian Jones | Sharon Morgan | 1978 |
Stacey Jones | Shelley Rees | 1993–2007, 2014, 2016, 2017 |
Gladys Lake | Iona Banks | 1976–1989, 1991 |
Idwal Lake | Stan Hughes | 1986, 1989 |
Jinnie Lake | Catrin Dafydd | 1986 |
Jane Leonard | Nia Caron | 1990 |
Colin Lewis | Dyfed Thomas | 1989–1990 |
Eddie Lewis | Meic Povey | 1991–1994, 1996 |
Gwyn Lewis | Emyr Bell | 2003–2007 |
Hywel Lewis | Glyn Nicholas | 1977 |
Laura Lewis | Beryl Williams | 1977 |
Scott Lewis | Alex Harries | 2009–2011, 2012 |
Beth Leyshon | Eirlys Britton | 1977–1993, 1994 |
Clare Leyshon | Margaret John | 1977–1978 |
Gwyn Leyshon | Gareth Bebb | 1977–1978 |
Viv Leyshon | Geraint David | 1977–1978 |
Cilla Lloyd | Karen Elli | 1997–1998, 2000–2001 |
Jon Markham | Steffan Rhodri | 1995–1996, 1998 |
Bleddyn Matthews | Dewi Rhys Williams | 1996, 1997, 2000–2004 |
Llew Matthews | Rhys Parry Jones | 1988–1989, 1992–2001 |
Nia Matthews | Meleri Evans | 1993, 1996–1999 |
Charles McGurk | Mei Jones | 1997 |
Jean McGurk | Iola Gregory | 1987–1997, 1999, 2002 |
Kirstie McGurk | Catherine Treganna | 1988–1990, 1993, 1997 |
Sean McGurk | Gwyn Derfel | 1991–1993 |
Fiona Metcalfe | Lydia Lloyd Parry | 1992–1999 |
Jamie Metcalfe | Rhys Bleddyn | 1994 |
Laura Metcalfe | Christine Pritchard | 1994, 1999 |
Oliver Metcalfe | Geoffrey Morgan | 1994 |
Bethan "Non" Mererid | Gwawr Loader | 2017–2018 |
Brandon Monk | Nic McGaughey | 2002–2011 |
Chester Monk | James Wilbraham | 2002–2018, 2019 |
Catrin Monk | Emily John | 2003–2019 |
Gill Morgan | Mair Rowlands | 1996–1998 |
Lisa Morgan | Beth Robert | 1990–1991, 1996–2000, 2019 |
Owen Morgan | Ioan Evans | 2004–2006 |
Tony Morgan | Danny Grehan | 1994–1996 |
Morgan Morgans | Rhys Devlin | 1978–1979 |
Alun Morris | Dorien Thomas | 1983–1984 |
Glan Morris | Cadfan Roberts | 1989–1996 |
Teg Morris | Yoland Williams | 1991, 1992, 1993, 1994–2004 |
Beryl Nicholas | Iris Jones | 1997–2004 |
Alison Owen | Manon Prysor | 2000–2002 |
Elin Owen | Alexandra Roach | 2001–2002 |
Olwen Owen | Nesta Harris | 1977, 1978, 1981, 1984, 1986–1989 |
Rob Owen | Rolant Prys | 2000–2002 |
Harri Parri | Charles Williams | 1974–1989 |
Alex Parry | Ian Saynor | 1994, 1997 |
Karen Parry | Rhian Jones | 1992–2001, 2002, 2003 |
Olwen Parry | Toni Carrol | 1989, 1992–1995, 1997, 2000 |
Wiliam Parry | Aled Bidder | 2014–2016 |
Rod Phillips | Geraint Owen | 1991–1995, 1996, 1998, 1999 |
Meic Pierce | Gareth Lewis | 1975–1994, 1999–2015 |
John Powell | Dennis Birch | 1987–1989 |
Kevin Powell | Iwan "Iwcs" Roberts | 1988, 2007–2014, 2015, 2016, 2018 |
Meinir Powell | Ruth Lloyd | 1997–1998 |
Alan Price | Meredudd Jones | 2000 |
Rachel Price | Judith Humphreys | 1995–1998 |
Tom Price | Eric Wyn | 1996 |
Arwel Pritchard | Gwyn Parry | 1989, 1996 |
Elgan Pritchard | Bryn Fôn | 2017–2018 |
Nellie Pritchard | Beti Jones | 1980 |
Angela Probert | Tara Bethan | 2011–2016, 2018–2019 |
Courtney Probert | Katie Duffin | 2011–2016 |
Jim Probert | Alun ap Brinley | 2011–2020 |
Barry Probert | Aled Rhydian Lloyd / Geraint Morgan | 1982–1993 |
Kevin Probert | Wyn Bowen Harries | 1982–1986 |
Gwyn Prosser | Eryl Huw Phillips | 1989–1991 |
Ted Prosser | Stewart Jones | 1990–1991 |
Gareth Protheroe | Edward Thomas | 1986–1990 |
Denzil Rees | Gwyn Elfyn | 1984–2012 |
Marian Rees | Buddyg Williams | 2001–2016 |
Ann Rhys | Nia Ceidiog | 1983–1984 |
Cadno Richards | Catrin Powell | 2006–2018 |
Dwayne Richards | Darryl Shute / Paul Morgans | 2000, 2004–2005, 2008–2009 |
Norman Roberts | Glyn Pritchard | 1991–1992, 2011–2012 |
Val Roberts | Morfudd Hughes | 2007–2008, 2010, 2011, 2013, 2015, 2019 |
Nesta Roberts | Catrin Mara | 2006–2010 |
Dewi Roderick | William Thomas | 1974–1977, 1980–1984 |
Cai Rossiter | Rhys ap William | 1996, 2002–2010 |
Rhydian Samuel | Aneirin Hughes | 1991–1993 |
Ivor Seymore | Elwyn Williams | 1983–1988 |
Josh Smith | John Ogwen | 2017, 2018, 2019 |
Agnes Spotelli | Sian Owen | 1978–1982 |
Ron Steadman | Wayne Cater | 1996–1997, 2006 |
Geraint Stephens | Phil Reid | 1997–2002 |
Edgar Sutton | Gari Williams | 1979–1985 |
Gethin Thomas | Simon Watts | 2010–2018 |
David Tushingham | Islwyn Morris | 1974–1996, 1999–2002 |
Maggie Tushingham | Harriet Lewis[11] | 1974–1996 |
Billy Unsworth | John Biggins[12] | 1990, 1996 |
Marlene Unsworth | Ella Hood | 1990 |
Ron Unsworth | Bernard Latham | 1989, 1990, 1991, 1992, 1993, 1994, 1996, 1999, 2001 |
Gina Walters | Catrin Fychan | 1991–1998 |
Maureen Walters | Rebecca Harries | 1996–1999, 2012 |
Neville Walters | Aled Rhys Jones | 1986–1988 |
Clem Watkins | Glan Davies | 1988–1997 |
David White | Ian Staples | 2003 |
Gwen White | Betsan Llwyd[13] | 2002–2003 |
Huw White | Rhys Hartley | 2002–2013, 2014 |
Macs White | Iwan Rheon / Rhys Bidder | 2002–2004, 2008–2013, 2017 |
Brian Wilcox | Ioan Hefin | 1996–1997 |
Delyth Wilcox | Nia Samuel | 1996–1997 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pobol y Cwm (1974-). BFI Online. Adalwyd ar 17 Mawrth 2017.
- ↑ S4C niferoedd gwylio
- ↑ Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t. 688. ISBN 978-0-7083-1953-6.
- ↑ Genome - Rhestr rhaglenni y Radio Times
- ↑ "Dim ond tair pennod o Pobol y Cwm yr wythnos fydd yna yn lle pedair o fis Tachwedd ymlaen". Golwg360. 2021-09-18. Cyrchwyd 2024-10-15.
- ↑ Michael Sheen ac enwogion eraill Pobol y Cwm , BBC Cymru Fyw, 3 Mehefin 2019. Cyrchwyd ar 4 Mehefin 2019.
- ↑ Sian (2024-09-09). "Teithiau arbennig Pobol y Cwm i ddathlu 50 mlynedd". Croeso Caerdydd (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-15.
- ↑ Cyfres aml-blatfform gan gynhyrchwyr Pobol y Cwm , BBC Cymru Fyw, 25 Mawrth 2013. Cyrchwyd ar 5 Medi 2017.
- ↑ Wightwick, Abbie (17 October 2009). "Pobol Y Cwm celebrates 35th birthday". Wales Online. Media Wales Ltd.
- ↑ "Gillian Elisa Biography". Gillian Elisa.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-14. Cyrchwyd 2020-05-29.
- ↑ "Harriet Lewis". British Film Institute.
- ↑ "John Biggins". John Biggins.com. Aerta.
- ↑ "Tears of grief in the valley". BBC Press Office. BBC. 5 September 2003.