Cymhariaeth byrfoddau gwledydd yn ôl yr IOC, FIFA ac ISO
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Ceir yma gymhariaeth o'r byrfoddau a ddefnyddir ar gyfer gwledydd gan
- Bwyllgor Rhyngwladol y Gemau Olympaidd (IOC),
- Ffederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed (FIFA)
- rhestr codau rhif 3166-1 y Sefydliad Safoni Rhyngwladol (ISO).
Amlygwyd y rhesi lle ceir gwahaniaethau rhwng y tri system.
Cynhwysir y gwledydd a'r tiriogaethau hynny'n unig sydd â chod yn ôl un neu ragor o'r rhestrau yma. Gwelwch restr Gwledydd y byd i weld rhestr o'r gwledydd hynny'n sy'n wladwriaethau.
|
|
- ↑ Y côd ISO 3166-2 ar yr Alban yw "GB-SCT".
- ↑ Gelwir Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn syml y "DR Congo" yn y Gemau Olympaidd, ac yn "Congo DR" adeg gemau pêl-droed.
- ↑ Gelwir Gweriniaeth y Congo yn syml yn "Congo" yn y Gemau Olympaidd ac adeg gemau pêl-droed.
- ↑ Gelwir De Corea yn "Corea" yn y Gemau Olympaidd, ac yn "Korea Republic" adeg gemau pêl-droed.
- ↑ Gelwir Gogledd Corea yn "Democratic People's Republic of Korea" (ffurf fer "DPRK") yn y Gemau Olympaidd, ac yn "Korea DPR" adeg gemau pêl-droed.
- ↑ Y côd ISO 3166-2 ar Gymru yw "GB-WLS".
- ↑ Gelwir y Deyrnas Unedig yn syml yn "Great Britain and Northern Ireland" neu "Great Britain" yn y Gemau Olympaidd.
- ↑ Gelwir Cymanwlad Dominica (Dominica) yn syml yn "Dominica" yn y Gemau Olympaidd ac adeg gemau pêl-droed.
- ↑ Nid "Dominica" yw'r enw syml ar Weriniaeth Dominica ond yn hytrach "Dominican Republic" yn y Gemau Olympaidd ac adeg gemau pêl-droed.
- ↑ "GB-GSY" yw'r côd ISO 3166-2 arno.
- ↑ Gelwir Hong Cong yn "Hong Cong, China" gan yr IOC a Ffederasiwn Pêl-droed Dwyrain Asia, ac yn "Hong Cong" gan FIFA a Chydffederasiwn Pêl-droed Asia.
- ↑ Mae'r enw "Ireland" yn cynnwys Gweriniaeth Iwerddon yn unig yn y Gemau Olympaidd a gemau pêl-droed. Defnyddir yr enw "Republic of Ireland" gan FIFA i wahaniaethu rhyngddo a'r hen enw "Ireland" a ddefnyddid i gyfeirio at y tîm a chwaraeau yn y gemau rhwng gwledydd Prydain ac Iwerddon.
- ↑ Y côd ISO 3166-2 ar Ogledd Iwerddon yw "GB-NIR".
- ↑ "GB-JSY" yw'r côd ISO 3166-2 ar Jersey.
- ↑ Y côd ISO 3166-2 ar Loegr yw "GB-eng".
- ↑ Gelwir Macau yn "Macau, China" gan yr IOC a Ffederasiwn Pêl-droed Dwyrain Asia, ac yn "Macau" gan FIFA a Chydffederasiwn Pêl-droed Asia.
- ↑ Gelwir Gweriniaeth Macedonia (Macedonia) yn "Former Yugoslav Republic of Macedonia", neu'n syml "FYR Macedonia" yn y Gemau Olympaidd ac adeg gemau pêl-droed.
- ↑ "GB-IOM" yw'r côd ISO 3166-2 ar Ynys Manaw.
- ↑ 19.0 19.1 Yn yr ystyr gwleidyddol mae'r enw "Samoa" yn golygu Gwladwriaeth Annibynnol Samoa heb gynnwys Samoa'r America.
- ↑ TW a TWN yw'r codau ar gyfer "Taiwan, Province of China" yn y rhestr codau ISO 3166. Gelwir Gweriniaeth Tsieina yn "Chinese Taipei" yn y Gemau Olympaidd ac adeg gemau pêl-droed.
- ↑ Gelwir Dwyrain Timor fel arfer yn "Ddwyrain Timor". Mae Gorllewin Timor yn ran o wlad Indonesia.
- ↑ Gelwir tir mawr Tsieina (sef Gweriniaeth Pobl Tsieina heblaw am Hong Cong a Macau) naill ai yn "People's Republic of China", neu'n syml "China" yn y Gemau Olympaidd, ac yn "China PR", neu'n syml "China" adeg gemau pêl-droed.
- ↑ Yn y Gemau Olympaidd mae "Virgin Islands" yn dynodi Ynysoedd Morwynol (UDA) yn hytrach nag Ynysoedd Morwynol (Prydain).
- ↑ Gelwir Ynysoedd Morwynol (UDA) yn syml yn Ynysoedd Morwynol yn y Gemau Olympaidd.