Y nofel Gymraeg

(Ailgyfeiriad o Y Nofel yn Gymraeg)

Mae'r Nofel Gymraeg yn agwedd bwysig ar Lenyddiaeth Gymraeg ers 19g. Er nad yw'r nofel yn gyfrwng sy'n frodorol i'r iaith Gymraeg roedd nofelau Saesneg o Loegr ac Unol Daleithiau America ar gael yng Nghymru peth amser cyn ysgrifennu'r nofelau Cymraeg cynharaf.[1] Daeth nofelau Cymraeg yn gyffredin yn nechrau'r 20g, ac erbyn hyn yn rhan sylweddol o'r diwydiant cyhoeddi Cymreig. Bob blwyddyn ers 1978 rhoddir Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y nofel Gymraeg orau ac yn eithaf aml, nofel fer sy hefyd yn ennill gwobr y Fedal Ryddiaith hefyd.

Rhaglfaenwyr

golygu
 
Argraffiad cyntaf Gweledigaetheu y Bardd Cwsc, 1703

Don Quixote gan Miguel de Cervantes yw'r gwaith a benodir fel arfer fel y nofel gyntaf mewn unrhyw iaith; ymddangosodd y nofel honno yn 1605. Fodd bynnag mae diffinio nofel yn gwestiwn amwys mewn unrhyw iaith; rhagflaenydd nofel Cervantes oedd y "rhamant" canoloesol a cheir tair engraifft o'r rhain yn y tair rhamant, y'u cyfrir ymhlith y chwedlau canoloesol.

Yn ystod yr 16g a'r 18g cyhoeddwyd sawl enghraifft o lyfrau crefyddol alegorïol yn Gymraeg, megis Llyfr y Tri Aderyn (1653) gan Morgan Llwyd a Gweledigaethau y Bardd Cwsc[2] (1703) gan Ellis Wynne, a rhai o weithiau rhyddiaith Williams Pantycelyn er enghraifft Tri Wŷr o Sodom (1768).[3] Nid ystyrir y rhain fel arfer yn nofelau yn yr ystyr fodern, er bod gan rai ohonynt, yn enwedig Gweledigaethau y Bardd Cwsc, rai o nodweddion nofel.[4] Perthyn i'r un cyfnod a'r un categori hwyrach mae'r alegori Saesneg Taith y Pererin gan John Bunyan (1678). Ymddangosodd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf yn 1688, ac er nad ystyrir y llyfr hwnnw'n nofel chwaith roedd yn boblogaidd eithriadol yng Nghymru, ac yn sicr yn ddylanwad ar y traddodiad rhyddiaith brodorol.[5]

Nofelau Cynnar yn y Gymraeg: 1820au-1870au

golygu
 
Gwilym Hiraethog (William Rees, 1802-1883) awdur Aelwyd F'Ewythr Robert, un o nofelau cynharaf yr iaith Gymraeg.

Roedd y nofelau Saesneg cynharaf megis Robinson Crusoe wedi dechrau ymddangos erbyn canol yr 1700au. Byddai'r rhain wedi cael eu darllen yng Nghymru yn fuan iawn wedyn; ymddangosodd Robinson Crusoe mewn cyfieithiad Cymraeg erbyn dechrau'r 1800au.

Fodd bynnag, mae'n ddadleuol pa waith yn union y dylid ystyried yn nofel gynta'r iaith Gymraeg. Ymddangosodd y straeon cyfres ffuglennol cyntaf yn yr 1820au; ymddengys mai'r cynharaf o'r rhain oedd Hanes Thomas Edwards gan Rowland Williams a ymddangosodd yn Y Gwyliedydd yn 1822-23.[6] Parhaodd y rhain i ymddangos dros y degawdau nesaf; er nad oedd y llinyn storïol yn gryf iawn yn aml ac efallai na fyddai'r mwyafrif yn nofelau yn ôl ein safonau ni heddiw. Soniwyd am Y Bardd, neu y Meudwy Cymreig gan Cawrdaf, a gyhoeddwyd yn 1830, mewn rhai ffynonellau fel y nofel Gymraeg gyntaf;[7] fodd bynnag dadleuodd Dafydd Jenkins bod llyfr Cawrdaf yn perthyn yn glir i linach Gweledigaethau y Bardd Cwsc, ac na ellir felly ei ystyried yn nofel heb enwi'r llyfr hwnnw a Taith y Pererin yn nofelau hefyd.[8] Y gwaith Cymraeg cynharaf y dylid ei ystyried yn nofel yn ôl Jenkins yw Aelwyd f'Ewythr Robert, gan Gwilym Hiraethog, a ymddangosodd fel cyfres yn 1852 ac fel llyfr y flwyddyn ganlynol.[9] Cyfuniad diddorol yw'r nofel o fersiwn Gymraeg o nofel Saesneg, Uncle Tom's Cabin gan Harriet Beecher Stowe (gwaith arall fu'n boblogaidd eithriadol yn y cyfnod mewn sawl cyfieithiad Cymraeg) wedi'i osod o fewn stori fframio wreiddiol am gymeriadau Cymreig. Gan fod rhan mawr ohoni'n gyfieithiad o nofel Saesneg gellid dadlau felly nad yw'n nofel Gymraeg gyfangwbl wreiddiol, ond o'i ganiatau fel nofel, hon yn sicr oedd y cyntaf yn Gymraeg i ymddangos ar ffurf llyfr.[10] Fodd bynnag, pan awgrymodd Dafydd Jenkins mai hon oedd y nofel gyntaf yn Gymraeg, nid yw'n glir a oedd yn llwyr ymwybodol o bob stori cyfres a ymddangosodd yn y papurau newydd Cymraeg, fel gwaith Rowland Williams. Dylid nodi hefyd bod elfen o elitiaeth yn niffiniad Jenkins o nofel, gan ei fod yn diystyru llawer o weithiau cynnar ar sail eu hansawdd tybiedig: "gellid eu cyfrif yn nofelau... rhai yn unig ohonynt sydd yn wir nofelau".[11] Defnyddiwyd y termau rhamant neu ffugchwedl weithiau gan awduron a chyhoeddwyr ac mae hyn wedi peri rhagor fyth o ddryswch, fodd bynnag nid yw'n glir y byddai darllenwyr y cyfnod wedi ystyried y categorïau hyn yn ystyriol gwahanol i "nofel".

 
Llew Llwyfo (Lewis William Lewis, 1831-1901), un o nofelwyr cynnar yr iaith Gymraeg.

Cwestiwn heb ateb clir felly yw pryd yn union y dechreuodd y nofel yn Gymraeg; ond yn sicr o ran cynnwys, arddull ac uchelgais roedd Aelwyd F'Ewythr Robert yn waith hollol arloesol o'i gymharu a'i ragflaenwyr, ffaith yr oedd yr awdur yn gwbl ymwybodol ohono.[12]

Yn dilyn cyfrol Hiraethog, dechreuodd nofelau Cymraeg ymddangos yn weddol gyson ac erbyn 1860 roedd rhyw ddwsin o nofelau Cymraeg wedi'u cyhoeddi. Fel cyfresi yn unig fyddai'r mwyafrif helaeth yn ymddangos, ond byddai rhai'n cael eu cyhoeddi fel llyfrau wedyn. Cynhaliwyd cystadleuaeth yn Eisteddfod Cymmrodorion Merthyr Tudful 1854 am "ffug-hanes" ar y testun "y meddwyn ddiwygiedig". Dyma ddechrau'r nofel ddirwestol, genre fyddai'n boblogaidd iawn ymysg nofelwyr Cymraeg yn ystod y 19g. Cyhoeddwyd o leiaf tair o nofelau'r ymgeiswyr yn y flwyddyn ganlynol, sef Jeffrey Jarman gan Gruffydd Rhisiart, Henry James gan Egryn a Llyewlyn Parri gan Llew Llwyfo (enillydd y gystadleuaeth). Daethai cystadleuaethau ysgrifennu nofelau (yn Gymraeg neu Saesneg) yn ddigwyddiad cyffredin yn yr Eisteddfod Genedlaethol o hyn ymlaen, er na fyddai cystadleuaeth flynyddol dan reolau cyson yn dod yn rhan o'r ŵyl nes sefydlu Gwobr Goffa Daniel Owen yn 1978.

Nofelau Saesneg ac Americanaidd oedd modelau'r nofelwyr cynnar hyn. Roedd amheuaeth ynghylch budd a moesoldeb nofelau mewn rhai cylchoedd Anghydffurfiol ac er bod y cyndynrwydd i dderbyn nofelau wedi'i or-bwysleisio wrth drafod y nofel Gymraeg,[13] cafodd yr agwedd hon a'r awydd i greu a hyrwyddo gweithiau fyddai'n 'fuddiol' gryn effaith ar gynnwys a derbyniad y nofelau eu hunain.[14] Roedd y syniad y dylai nofel gynnwys moeswers fyddai'n fuddiol i ddatblygiad moesegol a chrefyddol y darllenydd yn gryf, a byddai obsesiwn gyda dirwest a pheryglon diota yn parháu i fod yn nodwedd gyffredin iawn mewn nofelau Cymraeg hyd yn oed mor ddiweddar â degawd cyntaf yr 20g,[15] hyd yn oed mewn gwaith nofelwyr fel Llwyfo a Daniel Owen nad oedd eu hunain yn ddirwestwyr. Fodd bynnag, roedd eithriadau, megis Wil Brydydd y Coed, nofel ddigrif gan David Owen (Brutus) a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Eglwysig Yr Haul o 1863-67 oedd yn dychanu Anghydffurfiaeth, a nofelau neu ramantau hanesyddol, genre poblogaidd arall ymysg nofelwyr cynnar y Gymraeg gydag enghreifftiau cynnar yn cynnwys Dafydd Llwyd, neu Ddyddiau Cromwell gan Glasynys (1857), Owain Tudur gan William Pritchard (1863) a Rheinallt ap Gruffydd (1874) gan Isaac Foulkes. Ymddangosodd nofelau serch, nofelau antur ac hyd yn oed nofelau trosedd yn Gymraeg yn y papurau newydd a'r cylchgronau erbyn diwedd yr 1870au, y mwyafrif yn ddienw.[16]

Arwyddocaol efallai yw'r ffaith mai gweithgaredd achlysurol yn unig oedd ysgrifennu nofelau i lawer o'r nofelwyr cynnar hyn: er gwaethaf natur arloesol Aelwyd f'Ewythr Robert dim ond un nofel arall fyddai Hiraethog yn ei chwblhau, sef Helyntion Bywyd Hen Deiliwr. Oherwydd realiti cyd-destun economaidd ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg, nofelwyr amatur oedd y rhain i gyd, yn yr ystyr eu bod yn cynnal eu hunain o ddydd i ddydd drwy weithio fel gweinidogion, pregethwyr, newyddiadurwyr ac ati. Ond hyd yn oed o ran eu gwaddol llenyddol, byddai llawer o'r nofelwyr cynnar hyn yn debygol o ystyried eu hunain yn feirdd yn hytrach na nofelwyr; effaith cryfder y traddodiad barddol brodorol a'r Eisteddfod, efallai. Ysgrifennodd Hiraethog, er enghraifft, lawer mwy o farddoniaeth yn ei oes na rhyddiaith, er enghraifft, er mai fel nofelydd yr oedd ei ddawn amlycaf.[17] Bardd oedd Llew Llwyfo hefyd, ac un o ffigyrau llenyddol blaenllaw ail hanner y ganrif (enillodd y gadair yn 1860 a'r goron yn 1895), ond dim ond ambell nofel eraill ychwanegodd at Llywelyn Parri dros ei yrfa hir. Awgrymodd John Rowlands bod uchelgeisiau barddonol y nofelwyr hyn wedi cael effaith andwyol ar eu rhyddiaith, a bod cryfder y traddodiad barddol felly o bosib wedi llesterio datblygiad y nofel Gymraeg.[18]

Y Nofel yn ei Llawn Dwf: 1870au-1895

golygu
 
Roger Edwards (1811-1886), fu'n cyfaill a mentor i Daniel Owen, ond hefyd yn nofelydd ei hun.

Chwarter olaf y ganrif oedd "oes aur" y Wasg Gymraeg, gyda ffrwydrad syfrdanol yn y nifer a chylchrediad y papurau newydd. Ynghyd â'r tyfiant sylweddol hwn daeth twf sylweddol yn y nofel Gymraeg, o ran niferoedd os nad o reidrwydd o ran ansawdd. Rhai o nofelwyr blaenllaw'r cyfnod hwn oedd Roger Edwards, a gyhoeddodd nifer o nofelau yn Y Drysorfa yn ystod chwedegau a saithdegau'r ganrif; Beriah Gwynfe Evans, golygydd Cyfaill yr Aelwyd, lle ymddangosodd nifer o'i nofelau o 1880 ymlaen, ac Elis o'r Nant. Gwelwyd hefyd ymddangosiad y nofelwyr benywaidd cyntaf, er enghraifft Mary Oliver Jones, oedd yn aelod o gylch Cranogwen. Ymddangosodd nofelig gyntaf Jones, Claudia yn 1880 ar dudalennau'r Frythones, cylchgrawn a fwriadwyd ac a farchnadwyd i ferched. Gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y genhedlaeth newydd hon o nofelwyr a'u rhagflaenwyr oedd iddynt oll ysgrifennu nofelau yn rheolaidd, ac iddynt ddewis arbenigo ar ysgrifennu nofelau yn hytrach na barddoniaeth.

Yn yr un cyfnod hefyd ymddangosodd nifer fawr o gyfieithiadau, addasiadau a thalfyriadau o nofelau o wleydydd eraill; cyfrannodd y rhain at y traddodiad Cymraeg a thrwy gynyddu'r ystod o ddeunyddiau darllen oedd ar gael yn Gymraeg ac ehangu gorwelion darllenwyr.

Daniel Owen (1879-1895)

golygu
 
Daniel Owen (1836-1895)

Y nofelydd pwysicaf, mwyaf llwyddiannus a mwyaf dylanwadol o'r genhedlaeth hon o bell ffordd fodd bynnag oedd Daniel Owen (1836-1895). Teiliwr o gefndir tlawd yn yr Wyddgrug, a dechreuodd ysgrifennu ei nofelau yn gymharol hwyr yn ei fywyd yn dilyn awgrym ei gyfaill a'i fentor, y nofelydd Roger Edwards, oedd yn olygydd ar Y Drysorfa sef y cylchgrawn lle byddai straeon cyntaf Owen yn ymddangos.[19] Cwblhaodd Owen bedair nofel i gyd, Y Dreflan (1880), Rhys Lewis (1885), Enoc Huws (1891) a Gwen Tomos (1894). Mae cydnabyddiaeth eang nid yn unig mai Owen oedd nofelydd fwyaf ei oes yn y Gymraeg, ond mai ei nofelau yntau yw uchafbwynt artistig rhyddiaith Gymraeg y ganrif, yn enwedig Rhys Lewis ac Enoc Huws.[20][21][22] Nid oedd y nofelau hyn o reidrwydd yn dra gwahanol o ran cynnwys i nofelau eraill y cyfnod: maent yn disgrifio bywydau cymdeithasol a chrefyddol Cymry eu cyfnod, mewn fersiwn ffuglennol o fro'r awdur, ac maent yn dangos llawer o ystrydebau cyffredin nofelau'r cyfnod. Maent wedi eu cyhuddo hefyd o wallau strwythurol.[23][24] Fodd bynnag, ystyrir yn gyffredinol eu bod yn rhagori ar nofelau eraill y cyfnod o ran eu harddull ffraeth, darllenadwy a digrif a'u cymeriadau cofiadwy, hoffus a gwreiddiol; ond hefyd am dreiddgarwch dwfn yr awdur ar ei gymdeithas.[25][26]

Bu nofel gyntaf Owen, Y Dreflan yn boblogaidd yn ôl safonau nofelau'r oes; ond llwyddiant ysgubol oedd Rhys Lewis, nofel Gymraeg fwyaf poblogaidd y ganrif. Fersiwn ffuglennol oedd y nofel o'r hunangofiannau pregethwyr, oedd yn lyfrau poblogaidd; mae'n dilyn ei phrif gymeriad o'i blentyndod hyd at ei gystudd olaf. Hwyrach mai ei nofel nesaf, fodd bynnag, sef Enoc Huws, yw'r gorau yn ôl safonau heddiw:[27][28] comedi cymdeithasol yw'r nofel hon sy'n dilyn siopwr sy'n cael ei rwydo gan dwyllwr sydd arno eisiau dwyn ei gyfoeth. Nid ystyrir ei nofel olaf, Gwen Tomos, yn lwyddiant ar yr un lefel yn gyffredinol,[29][30] ond serch hynny mae iddi ei hamddiffynwyr, megis Saunders Lewis, a'i disgrifiodd fel "y dawelaf, y sicraf, y llyfnaf o'i nofelau".[31]

Cymaint oedd llwyddiant a dylanwad Owen fel y rhoddir yr argraff gamarweiniol weithiau mai gyda'i waith yntau mae'r nofel Gymraeg yn dechrau.[32][33] "Nid oedd yn ddatblygiad o neb nac o ddim" yn ôl Thomas Parry.[34] Gorddweud oedd hyn ym marn E. G. Millward a ddangosodd bod Owen wedi darllen nofelau Cymraeg (a Saesneg) ei oes yn helaeth.[35] Fodd bynnag ni ellir gwadu na brofodd Owen yn fwy llwyddiannus ac yn fwy dylanwadol nag unrhyw nofelydd Cymraeg blaenorol nac, o bosib, wedyn. Daeth yn enwog trwy Gymru, ac yn dilyn ei farwolaeth codwyd cofgolofn a cherflun ohono yn yr Wyddgrug. Yn wahanol i holl nofelwyr Cymraeg eraill ei oes, ac i'r mwyafrif o lenorion Cymraeg o unrhyw oes, cafodd ei brif weithiau eu hailargraffu nifer o weithiau dros yr 20g a'r 21g.

Dilynwyr Daniel Owen: 1895-1914

golygu
 
T. Gwynn Jones yn y cyfnod pan oedd yn ysgrifennu nofelau.

Roedd Daniel Owen wedi dangos y ffordd a dangos beth oedd yn bosib i nofelydd yn yr iaith Gymraeg, ac nid rhyfedd efallai i gnwd o nofelwyr newydd ymddangos yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd a'r cyfnod yn union ar ôl ei farwolaeth, er na lwyddodd yr un ohonynt i ennill unrhywle'n agos i'r un bri. Mewn cyfnod pan oedd y wasg Gymraeg ar ei hanterth, newyddiadurwyr oedd llawer o'r nofelwyr hyn, yn eu plith T. Gwynn Jones, Gwyneth Vaughan, Winnie Parry, William Llewelyn Williams, a Richard Hughes Williams. Llewelyn Williams ac Winnie Parry oedd y cyntaf i ddod i'r amlwg, a hynny cyn diwedd y ganrif; yn Gwilym a Benni Bach (1894) Williams a Sioned (1894-96) Parry cafwyd nofelau i oedolion ond â phlant yn brif gymeriadau iddynt, dull fyddai'n cael ei adleisio yng ngwaith Kate Roberts ddegawdau'n ddiweddarach. Roedd ail nofel Williams, Gŵr y Dolau (1896), yn enghraifft cymharol hwyr o nofel ddirwest ac er bod ei strwythur yn llac iawn, mae ei chymeriadau a'i hiwmor yn ei chodi uchlaw llawer o nofelau eraill ei chyfnod.[36]

Er mai am ei farddoniaeth yr adnabyddir T. Gwynn Jones gan fwyaf heddiw, bu'n ysgrifennu nofelau mwy neu lai'n barhaus o 1898 pan gyhoeddwyd y cyntaf ohonynt, Gwedi Brad a Gofid, ac 1908, gan gwblhau rhyw ddeuddeg ohonynt dros y ddegawd honno, gyda'r mwyaf adnabyddus heddiw'n cynnwys Gorchest Gwilym Bevan (1899) a Lona (1908). Er bod y rhain ac eraill o'i nofelau fel Camwri Cwm Eryr (1899) yn gonfensiynol o ran eu bod yn nofelau realaidd wedi'u lleoli yng Nghymru'r dydd, ceir ystod eang o genres amgen ymhlith nofelau Gwynn gan gynnwys rhamantau hanesyddol fel Llwybr Gwaed ac Angau (1903) a Glyn Hefin (1906), comedïau fel Hunangofiant Prydydd (1905) a John Homer (1908) sy'n dychanu'r traddodiad barddol, nofel ffuglen wyddonol gynta'r Gymraeg Enaid Lewys Meredydd (1905), ac un nofel i blant hefyd, Yn Oes yr Arth a'r Blaidd (1907-08) a gyhoeddwyd fel cyfrol yn 1913. Mewn cylchgronnau yn unig ymddangosodd y mwyafrif o'r nofelau hyn a'r rhan fwyaf heb fod dan enw'r awdur, hyd yn oed pan gyhoeddwyd Lona fel cyfrol yn y 1920au; adlewyrchiad hwyrach o fri cymharol isel ysgrifennu nofelau o'i gymharu â gweithgareddau llenyddol eraill.

 
Gwyneth Vaughan (1852-1910)

Nofelydd a ddechreuodd ysgrifennu yn gymharol hwyr yn ei bywyd oedd Ann Harriet Hughes, a ysgrifennai dan y ffugenw Gwyneth Vaughan. Cwblhaodd tair nofel, O Gorlannau'r Defaid (1903), Plant y Gorthrwm (1905) a Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (1908), a gadawodd bedwaredd, Troad y Rhod (1909), yn anorffenedig. O'i chymharu â'i chyfoeswyr roedd yn arloeswr o ran dwyn merched i mewn i'r nofelau, gyda chymeriadau benywaidd gweithredol a chryf yn brithio pob un o'i nofelau sy'n aml yn mynegi perspectif proto-ffeministaidd.

Fel awdur straeon byrion adnabyddir Richard Hughes Williams (1878-1917) yn bennaf heddiw, ond ysgrifennodd hefyd sawl nofel yn ystod yr 1900au gan gynnwys nofelau antur a nofelau am y chwareli.

Mae nofelau'r cyfnod hwn wedi rhannu beirniaid. "Cysgodion gwan" o Daniel Owen oeddynt i Meic Stephens,[37] ac yn ôl Dafydd Jenkins bu'r nofel yn "crwydro yn yr anialwch" am ddegawdau ar ôl Owen.[38] Fodd bynnag, yn fwy diweddar mae beirniaid wedi ail-ystyried gwerth a champ nofelau'r cyfnod yma. Dylid ystyried T. Gwynn Jones, chwedl ei gofiannydd Alan Llwyd, yn "ewythr" y nofel Gymraeg (os Owen yw'r Tad) oherwydd ansawdd a darllenadwyedd ei nofelau,[39] ac mae Gwyneth Vaughan yn nofelydd o ansawdd sydd wedi'i hesgeuluso yn rannol oherwydd rhagfarn yn ôl ei chofiannydd hi, Rosanne Reeves.[40]

Nofelwyr eraill o'r oes a fu'n boblogaidd iawn yn y cyfnod oedd Anthropos (1853?-1944), Watcyn Wyn (1844-1905) ac Elwyn Thomas (m.1919), er eu bod yn anghyfarwydd ar y cyfan heddiw y tu allan i gylchoedd ysgolheigiol.

Rhwng y Rhyfeloedd: 1918-1950

golygu
 
E. Tegla Davies (1880-1967)

Bu'r Rhyfel Byd Cyntaf yn drothwy o fath yn hanes y nofel Gymraeg, gyda llawer o nofelwyr pennaf degawd cyntaf y ganrif wedi peidio ag ysgrifennu nofelau erbyn yr 1920au am nifer o resymau anghysylltedig.[41] Bu'r Rhyfel a'r cynnydd mewn costau yn ergyd hefyd i'r wasg Gymraeg oedd wedi caniatáu cyhoeddi cymaint o nofelau. Degawd cymharol dawel felly oedd yr 1920au o ran nofelau Cymraeg; fodd bynnag yn 1923 cafwyd un nofel o leiaf a greodd argraff ar feirniaid diweddarach yn Gŵr Pen y Bryn E. Tegla Davies.[42] Nofel hanesyddol oedd hon â rhyfel y degwm yn gefndir iddi.

Er gwaetha'r tawelwch cymharol hyn fodd bynnag, roedd y 1920au yn gyfnod da ar gyfer nofelau antur gan weld cyhoeddi nofelau Cymraeg yn y genre hwn fel Lewsyn yr Heliwr (1922), Daff Owen (1924) ac Wat Emwnt (1928) gan Lewis Davies (1863-1951) ac Rhwng Rhyfeloedd ac Yr Etifedd Coll (ill dau 1924) gan E. Morgan Humphreys (1882-1855); ac ymddangosiad Madam Wen gan W. D. Owen (1874-1925) ar ffurf cyfrol, er bod y nofel honno wedi'i ysgrifennu'n wreiddiol yn ystod y rhyfel. Roedd rhai o'r nofelau antur hyn wedi'u hanelu o leiaf yn rhannol at ddarllenwyr ifanc, ac yn y cyfnod hwn hefyd daethai nofelau i blant yn bethau cymharol gyffredin yn yr iaith Gymraeg, gydag awduron fel E. Tegla Davies yn cyhoeddi Hunangofiant Tomi (1912), Tir Y Dyneddon (1921), Nedw (1922), Rhys Llwyd Y Lleuad (1925), Hen Ffrindiau (1927), Y Doctor Bach (1930) a Stori Sam (1938); a Moelona (Elizabeth Mary Jones'; 1877-1953) yn flaenllaw yn y maes, gyda'i nofelau hithau i blant yn cynnwys Teulu Bach Nantoer (1913), Bugail y Bryn (1917), Rhamant y Rhos (1918), Cwrs y Lli (1927), Breuddwydion Myfanwy (1928) a Beryl (1931). I oedolion oedd ei nofel olaf, Ffynnonloyw (1938).

Arbrofi â Chynnwys ac Arddull

golygu
 
Saunders Lewis (1893-1985), awdur Monica.

Erbyn yr 1930au roedd rhai awduron wedi dechrau ysgrifennu nofelau oedd yn symud y nofel Gymraeg i diroedd newydd y tu hwnt i brofiadau Cymry cyffredin, ac, dan ddylanwad moderniaeth, yn arbrofi gyda chynnwys ac arddull eu rhyddiaith. Bu Monica (1930) gan Saunders Lewis yn destun cryn feirniadaeth am bortreadu rhywioldeb ei phrif gymeriad mewn ffordd agored (yn ôl safonau'r cyfnod). Roedd y nofel yn bwysig hefyd am ei bod yn y un o'r cyntaf i ddisgrifio bywyd dinesig y tu hwnt i fröydd Cymraeg gwledig Cymru. Roedd yr ymateb iddi'n ranedig rhwng ceidwadwyr oedd yn gas ganddynt ei beiddgarwch, a'r beirniad a'i hedmygodd.

Dim ond un engraifft oedd Monica o awduron yn arloesi â chynnwys ac arddull. Cafwyd o leiaf dwy nofel Gymraeg yn y cyfnod hwn yn disgrifio profiadau tra gwahanol eu hawduron o'r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn Plasau'r Brenin (1934) disgrifiodd D. Gwenallt Jones ei brofiad mewn carchar fel gwrthodwr cydwybodol; ac seiliwyd Amser i Ryfel (1944) ar brofiadau Thomas Hughes Jones fel milwr yn y ffosydd.

Gwelwyd traddodiad y nofel hanesyddol yn parhau gydag enghreifftiau nodedig fel Orinda (1943) gan R. T. Jenkins a thair o nofelau gan Ambrose Bebb yn trafod Cymry o deulu'r awdur a ymfudodd i America: Y Baradwys Bell (1941), Dial y Tir (1945) a Gadael Tir (1948). Gwahaniaeth nodedig rhwng y nofelau hyn a'u rhagflaenwyr oedd i'r rhain gael eu hysgrifennu gan haneswyr proffesiynol gyda gwell wybodaeth ac agweddau mwy trylwyr; maent felly'n dangos lefel uwch o lawer o gywirdeb ac ôl ymchwil na "rhamantau" oesau cynharach.

Daliodd awduron hefyd i ysgrifennu nofelau antur ac mewn meysydd poblogaidd eraill hefyd. Ysgrifennodd E. Morgan Humphreys gyfres o nofelau'n dechrau gyda Y Llaw Gudd (1924) am y ditectif John Aubrey yn datrys troseddau amrywiol. Dilynwyd hon gan Dirgelwch Gallt Y Ffrwd (1938), Ceulan y Llyn Du (1944) a Llofrudd yn y Chwarel (1951). Hwyrach mai hon oedd y gyfres nofelau trosedd gyntaf yn yr iaith, yn sicr bu'n garreg filltir yn y genre.

Anterth y Nofel Realaidd

golygu
 
Kate Roberts (1891-1985)

Gellid dweud fodd bynnag i'r nofelau uchod fod y tu allan i brif ffrwd y nofel Gymraeg yn y 1930au a'r 1940au: yn hytrach na pherthyn i unrhyw ddatblygiad modernaidd fel Monica roedd y nofelau fu'n fwyaf poblogaidd gyda darllenwyr a beirniaid yn perthyn i linach Daniel Owen[43] a'r traddodiad realaidd, yn disgrifio bywyd gwledig neu drefol y bröydd Cymraeg.

Merched oedd dwy o awduron mwyaf blaenllaw nofelau'r traddodiad yma. Ysgrifennodd Elena Puw Morgan (1900-1973) dair nofel i oedolion yn y 1930au: Nansi Lovell (1933), Y Graith (1938), sef enillydd y Fedal Ryddiaith (a gyflwynwyd dim ond y flwyddyn flaenorol) ac Y Wisg Sidan (1939). Nofelydd "soffistigedig a phwerus" oedd hi, ond yn anffodus golygai pwysau'r angen i ofalu am ei theulu (disgwyliad fyddai'n cwympo ar ysgwyddau merched gan fwyaf) na chafodd ryddid i ysgrifennu heblaw am yn ystod y cyfnod cymharol byr hwn o'i bywyd.[44]

Cyhoeddodd nofelydd arall, Kate Roberts (1891-1985), dair nofel yn y cyfnod cyntaf hwn o'i gyrfa, gan gynnwys Deian a Loli (1927) a'i dilyniant Laura Jones (1930), ond yn 1936 daeth ei champwaith cyntaf yn y maes, Traed Mewn Cyffion (1936), ei thrydedd nofel, sy'n dilyn hanes tair cenhedlaeth o'r un teulu dros gyfnod o ddegawdau o gwmpas troad y ganrif. Dyma un o nofelau enwocaf y Gymraeg ac aeth ei hawdur ymlaen i ddod yn un o brif lenorion yr iaith mewn unrhyw gyfnod; fodd bynnag enciliodd oddi wrth ysgrifennu am gyfnod ar ôl y 1930au wrth iddi ganolbwyntio ar olygu a gweithgareddau eraill.

 
T. Rowland Hughes (1903-1949)

Mae'n arwyddocaol bod yr holl nofelau realaidd yma'n disgrifio cyfnodau cynharach nag adeg eu hysgrifennu, ac mae'r un peth yn wir am bob un ond am un o nofelau awdur mwyaf poblogaidd y traddodiad, T. Rowland Hughes (1903-1949),[45] a fu hefyd yn fardd llwyddiannus a ennillodd y Gadair ddwywaith. Gan eu bod wedi'u gosod mewn cyfnodau cynharach nid oedd nofelau'r traddodiad realaidd ar y cyfan yn mynd i'r afael â chwestiynau gwleidyddol a chymdeithasol eu hoes, ac roeddynt yn perthyn i linach Daniel Owen yn yr ystyr mai ef o hyd oedd y dylanwad Cymraeg mwyaf amlwg ar bob un ohonynt.[46] Ag eithrio Yr Ogof (1945), nofel hanesyddol am gyfnod Crist, mae holl nofelau T. Rowland Hughes - O Law i Law (1943), William Jones (1944), Chwalfa (1946) ac Y Cychwyn (1947) - yn disgrifio bywyd bröydd Chwarelyddol y gogledd-orllewin: roedd Hughes yn gyfrifol yn fwy na neb am sefydlu ystrydeb rhamantaidd y Chwarelwr Cymraeg cadarn, digyffro yn y ddychymyg Gymreig.[47]

Roedd Elena Puw Morgan a Kate Roberts wedi peidio ag ysgrifennu erbyn dechrau'r 1940au; ni fyddai Morgan yn ysgrifennu nofel eto ac er byddai Roberts yn gwneud ar ddiwedd y degawd roedd ei nofelau diweddarach (gweler isod) o natur wahanol iawn i Traed Mewn Cyffion. O ganlyniad, bu marwolaeth T. Rowland Hughes yn gymharol ifanc o sglerosis ymledol yn 1949 yn drothwy arall yn hanes y nofel Gymraeg, ac yn glo ar gyfnod y math o nofel yr oedd ei weithiau yntau'n ei gynrychioli.

1950 hyd 1980

golygu

O'r 1950au roedd awduron nofelau Cymraeg yn dechrau ymateb fwyfwy i'r datblygiadau celfyddydol a chymdeithasol o'u cwmpas yng Nghymru a thu hwnt, a hynny mewn ystod eang o wahanol ffyrdd. Ar ôl cyfnod yn gweithio fel cyhoeddwr gyda Gwasg Gee - ni chyhoeddodd unrhyw weithiau gwreiddiol o'i heiddo'i hun rhwng 1937 ac 1949 - ail-gydiodd Kate Roberts mewn ysgrifennu yn y 1950au, ond roedd nofelau'r ail gyfnod hwn yn ei gyrfa yn dra wahanol ar y cyfan i'r hyn a ddaethai ynghynt. Er bod Te yn y Grug (1959), un o'i gweithiau mwyaf adnabyddus, yn ymdebygu'n fwy i'w gweithiau cynharach, gyda nofelau fel Stryd y Glep (1949), Y Byw sy'n Cysgu (1956), Y Lôn Wen (1960) a Tywyll Heno (1962), archwiliodd Roberts fyd mewnol cymeriadau (benywaidd fel arfer) yn wynebu problemau fel unigedd a dirywiad o ran iechyd meddwl, yn aml o safbwynt ffeministaidd. Yn sgil poblogrwydd ei gwaith blaenorol fel Traed Mewn Cyffion a'i harloesi ym maes y stori fer roedd Roberts eisoes yn ffigwr blaenllaw yn y traddodiad rhyddiaith Gymraeg; ond ychwanegodd gwaith yr ail gyfnod hwn yn ei gyrfa gymaint at ei bri nes i rai dechrau cyfeirio ati'n ddiweddarach fel "Brenhines ein llên".[48][49] Ym marn rhai beirniaid hyd yr unfed ganrif ar hugain megis Katie Gramich,[49] Kate Roberts yw nofelydd pwysicaf yr iaith Gymraeg.

 
Islwyn Ffowc Elis (1924-2004)

Y nofelydd Cymraeg newydd bwysicaf a ddaeth i'r amlwg yn y 1950au fodd bynnag oedd Islwyn Ffowc Elis, awdur Cysgod y Cryman (1953). Hon oedd ei nofel gyntaf awdur ac mae'n un arall o nofelau enwocaf a mwyaf poblogaidd y Gymraeg. Lleoliad y nofel hon, fel yn achos cymaint o nofelau Cymraeg blaenorol, yw'r Gymru wledig; fodd bynnag ynddi mae ymateb bwriadol i effaith datblygiadau cyfoes ar fywyd y fro Gymraeg megis y Rhyfel Oer a lledaeniad Chomiwnyddiaeth ac ôl-effeithiau'r Ail Ryfel Byd yn ogystal â lledaeniad yr iaith Saesneg yng Nghymru. Y nofel hon yn ddi-os fu ei fwyaf poblogaidd a llwyddiannus a dychwelodd Elis i'r un cymeriadau yn ei drydedd nofel, Yn Ôl i Leifior (1956) ar ôl methiant beirniadol ei ail, Ffenestri Tua'r Gwyll (1955). Fodd bynnag, drwy gydol ei oes roedd yn arloeswr cyson a ymddiddorai mewn datblygu llenyddiaeth Gymraeg mewn genres mwy poblogaidd. Hwyrach mai ei bedwaredd nofel, Wythnos yng Nghymru Fydd (1957) o hyd yw'r enghraifft enwocaf o ffuglen wyddonol yn Gymraeg, gyda themâu cenedlaetholgar amlwg; dychwelodd at ffuglen wyddonol ar gyfer Y Blaned Ddirion (1968), ond dychan yn beirniadu imperialaeth oedd Tabyrddau'r Babongo (1961) ac nofel antur gyffrous yw Y Gromlech yn yr Haidd (1971).

Mewn gwrthwynebiad agwedd llwyr gydag Islwyn Ffowc Elis, yn ei nofelau yntau archwiliodd John Rowlands (1938-2015) fydoedd tywyll meddyliau mewnol ei gymeriadau; yn ôl Meic Stephens mae apêl ei nofelau, yn ej plith Lle bo'r Gwenyn, (1960), Bydded Tywyllwch (1969), Arch ym Mhrâg (1972) a Tician Tician "bron yn gyfangwbl meddyliol".[50] Achosodd Ieuenctid yw 'Mhechod (1965) sgandal ar y pryd a arweiniodd at ymddiswyddo'r cyhoeddwr oherwydd ei phortread o gyfathrach rhywiol rhwng gweinidog capel ac aelod o'i gynulleidfa.[50]

Mae rhai wedi gweld elfennau o ôl-foderniaeth yng ngwaith John Rowlands ac hefyd yn nofel Gymraeg enwoca'r 1960au, Un Nos Ola Leuad (1961) gan Caradog Prichard.[51] Lleolir y nofel hon ym mro'r chwareli, fel nofelau T. Rowland Hughes, fodd bynnag ni allai'r portread o'r gymuned honno fod yn fwy gwahanol, gyda'r boblogaeth yn gybyddlyd, hunanol a bregus. Dan ddylanwad nofelau modernaidd fel Finnegan's Wake yr awdur Gwyddelig James Joyce,[52] mae'r arddull hefyd yn fodernaidd, gan ymylu ar 'lif ymwybod' (Saes. Stream of consciousness). Fe'i hystyrir yn gampwaith gan sawl beirniad.[53][54]

Gyda nofelau fel Un Nos Ola Leuad, a gwaith awduron fel John Rowlands a Kate Roberts roedd hi'n amlwg bod oes y nofel realaidd ar ben, er yr ymddangosodd ambell enghraifft eto yn y traddodiad ar ôl 1950 megis Marged (1974) gan T. Glynne Davies; er bod y nofel hon heyfd yn portreadu bywydau rhywiol ei gymeriadau mewn ffordd na fyddai nofelau'r oesau cynt erioed wedi'i wneud. Fodd bynnag parhau gwnaeth traddodiad y nofel haneysddol, gydag enghreifftiau adnabyddus yn cynnwys Y Stafell Ddirgel (1969), Y Rhandir Mwyn (1972) ac I Hela Cnau (1978) gan Marion Eames (1921-2007); nofelau Rhiannon Davies Jones (1921-2014) fel Fy Hen Lyfr Cownt (1960) am yr emynyddes Ann Griffiths a Lleian Llan-Llŷr (1965); a Gwres o'r Gorllewin (1971) Ifor Wyn Williams (1923-1999), am Gruffydd ap Cynan; bu'r tair diwethaf o'r rhain ymhlith enillwyr y Fedal Ryddiaith.

Erbyn diwedd y cyfnod hwn hefyd gellid dweud bod gan yr iaith Gymraeg draddodiad o ffuglen wyddonol, gydag Islwyn Ffowc Elis yn dychwelyd i'r cyfrwng gydag Y Blaned Ddirion (1968), Owain Owain (1929-1993) yn ysgrifennu un o'r enghraifftiau cynharaf o nofel ddistopaidd yn y Gymraeg gydag Y Dydd Olaf (1976) ac R. Gerallt Jones (1911-1968) yn ysgrifennu Cafflogion (1979), nofel arall a enillodd y Fedal Ryddiaith.

Gwleidyddiaeth ac Ôl-Foderniaeth: 1980 hyd 2000

golygu
 
Yma o Hyd (1985) gan Angharad Tomos, nofel sy'n arddel perspectif gwleidyddol cryf.

Yn dechrau yn 1979, dechrwyd gwobrwyo Gwobr Goffa Daniel Owen yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol am nofel heb ei gyhoeddi. Alun Jones oedd yr ennillydd cyntaf gyda'i nofel Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr. Bu'r 1980au yn gyfnod llewyrchus i'r nofel Gymraeg gyda datblygiadau pwysig yn gweld gwleidyddiaeth (yn enwedig Cenedlaetholdeb Cymreig yn dod yn rhan amlwg o'r traddodiad rhyddiaith, ac yn natblygiad y nofel Gymraeg ôl-fodernaidd.

Y Nofel Wleidyddol

golygu

Bu negeseuon gwleidyddol yn ran o dirwedd y nofel Gymraeg byth ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg; fodd bynnag bu tueddiad amlwg yn yr 1980au i weld nofelau Cymraeg yn arddel safbwyntiau gwleidyddol mwy radicalaidd. Bu'r rhai o'r rhain yn arddel Cenedlaetholdeb Cymreig a'r ymgyrch dros yr iaith Gymraeg, megis Yma o Hyd (1985) gan Angharad Tomos, nofel hunan-gofiannol am brofiad ymgyrychydd dros yr iaith mewn carchar i ferched a seiliwyd ar brofiadau'r awdur yn ymgyrchu dros Gymdeithas yr Iaith. Fodd bynnag roedd eraill yn trafod gweleidyddiaeth ryngwladol, gydag enghreifftiau fel Y Pla (1987; gweler isod) gan William Owen Roberts yn arddel sosialaeth, a nofelau eraill yn ymateb i'r Rhyfel Oer mewn ffyrdd gwahanol fel Y Tŷ Haearn (Enilllydd y Fedal yn 1984) gan John Idris Owen, nofel am grŵp o bobl mewn lloches tanddaearol yn ystod ymosodiad niwclear a'r cyfnod yn union wedyn, a Cyn Daw'r Gaeaf (Enillydd 1985) gan Meg Elis, nofel am y protestiadau gwrth-niwclear yn Greenham Common.

Nofelau Ôl-fodernaidd

golygu
 
Dirgel Ddyn (1993) gan Mihangel Morgan, enghraifft o nofel Gymraeg ôl-fodernaidd

Un datblygiad oedd cyhoeddi nifer o nofelau'n dangos dylanwad Ôl-foderniaeth yn eu cynnwys a'u harddull, ac er bod rhai'n daldau bod hyn wedi dechrau gyda gwaith John Rowlands a Caradog Prichard[51], yn sicr erbyn yr 1980au a'r 1990au roedd y syniadau hyn wedi dod yn rhan flaenllaw o nofelau Cymraeg enwoca'r dydd gydag enghreifftiau blaenllaw'n cynnwys Bingo ac Y Pla (1987) - nofel hanesyddol gydag elfennau ffantasïol, bwriadol afrealistig - gan William Owen Roberts; a Seren Wen ar Gefndir Gwyn Robin Llywelyn, enillydd Fedal Ryddiaith 1992; nofel ag iddi leoliad mewn gwlad ddychmygol sy'n ffantasïol, ac sy'n cynnwys llawer o hiwmor ond sy'n gweithredu hefyd fel alegori gwleidyddol am ormes ac imperialaeth. Mae nofelau eraill o'r cyfnod sydd wedi'u disgrifio'n ôl-fodernaidd yn cynnwys Trefaelog (1989) gan Gareth Miles, Cyw Haul (1994) a Cyw Dôl gan Twm Miall a gwaith Mihangel Morgan,[51] sy'n cynnwys nofelau fel Dirgel Ddyn (Enillydd y Fedal yn 1993) a Melog (1997).

Plwraliaeth: Nofelau'r 21g

golygu

Fel gyda llawer o feysydd celfyddydol eraill, nodweddir y nofel Gyrmaeg gyfoes gan bliwraliaeth, gyda nifer fawr o gwahanol fathau o nofel yn cyd-fodoli mewn marchnad cymysg, ffrwythlon. Serch hynny ceid nifer fawr hefyd o ddatblygiadau newydd yn y nofel Gymraeg ar ôl 1980, gyda nofelwyr yn parhau i arbrofi gyda chynnwys ac arddull yn eu gwaith a gan gyflwyno nofelau o fathau newydd i'r Gymraeg. Amlinellir rhai o'r datblygiadau diweddar hyn isod.

Ffuglen Ddamcaniaethol

golygu

Digon araf bu twf ffuglen ddamcaniaethol yn y Gymraeg, ond cafwyd nifer o enghreifftiau blaenllaw yn yr unfed Ganrif ar hugain, yn enwedig nofelau apocalyptaidd, gan gynnwys enghreifftiau fel Y Dŵr (2007) gan Lloyd Jones, Llyfr Glas Nebo (Enillydd y Fedal 2018) gan Manon Steffan Ros ac Iaith y Nefoedd (2019) gan Llwyd Owen.

Ffynonellau

golygu
  • Jenkins, Dafydd (1999). 'Y Nofel Gymraeg Gynnar' ac 'Y Nofel Gymraeg ar ôl Daniel Owen' yn Williams, Gerwyn (gol.) Rhyddid y Nofel. Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Lewis, Saunders (1936). Daniel Owen. Gwasg Gee.
  • Millward, Edward G. (1991). Cenedl Bobl Ddewrion: Agweddau ar Lenyddiaeth Oes Fictoria. Gomer.
  • Rowlands, John (1992). Ysgrifau ar y Nofel. Gwasg Prifysgol Caerdydd.
  • Stephens, Meic (1999). Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Gwasg Prifysgol Caerdydd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jenkins, t. 33-34.
  2. Wicidestun-Gweledigaethau Y Bardd Cwsg
  3. Wicidestun-Tri Wyr o Sodom a'r Aipht
  4. Jenkins, t. 32.
  5. Millward, t. 120.
  6. Millward, t. 121.
  7. Rowlands, t. 6.
  8. Jenkins, t. 32.
  9. Jenkins, t. 29.
  10. Jenkins, t. 33.
  11. Jenkins, t. 34.
  12. Millward, t. 123.
  13. Millward
  14. "Madam Wen and the Two Rules of the Welsh Novel". Nation.cymru.
  15. "Gwyneth Vaughan, Folk Traditions and a Place for Women in the Welsh Literary Canon". Nation.cymru.
  16. Millward
  17. Rowlands, t. 10-11.
  18. Rowlands, t. 10-11.
  19. Foulkes, Isaac (1903) Daniel Owen: Y Nofelydd, Lerpwl: Isaac Foulkes.
  20. Ashton, Glyn (1976) ‘Y Nofel’ yn Bowen, Geraint (gol.) Y Traddodiaad Rhyddiaith yn yr Ugeinfed Ganrif, Llandysul: Gomer. t.109
  21. Lewis, t.59
  22. Parry, Thomas (1948) Hanes ein Llên, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t.85
  23. Jones, J. Gwilym (1970) Daniel Owen, Dinbych: Gwasg Gee. t.79.
  24. Stephens, t.551
  25. Stephens, t.551
  26. Lewis, t.63
  27. Rhys, Robert (2000) Daniel Owen, t. 173
  28. Williams, Ioan (1984) Y Nofel, Llandysul, Gomer. t.35
  29. Rowlands t.71
  30. Rhys, Robert (2000) Daniel Owen
  31. Lewis, t.56
  32. T. R. Jones (1904) 'Daniel Owen', Cyres y Meistri 4.
  33. Ashton, Glyn (1976) 'Y Nofel', yn Bowen, Geraint, Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Ugeinfed Ganrif
  34. Parry, Thomas (1948), Hanes ein Llên, Gwasg Prifysgol Caerdydd.
  35. Millward
  36. "Carmarthenshire's Politician-Novelist" (yn Saesneg). Nation.cymru.
  37. Stephens, t.536
  38. Jenkins, t. 34.
  39. Llwyd, Alan (2019) Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones. Cyhoeddiadau Barddas.
  40. Reeves, Rosanne (2010) Dwy Gymraes, Dwy Gymru: hanes bywyd a gwaith Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders.
  41. Pearce, Adam Rhagymadrodd yn Williams, W. Llewelyn (2024) Gŵr y Dolau, Melin Bapur.
  42. R. M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936, t. 430
  43. Jenkins
  44. "Elena Puw Morgan". Y Bywgraffiadur.
  45. "T. Rowland Hughes". Y Bywgraffiadur.
  46. Jenkins
  47. Gwyn, Elin 'Rhagymadrodd' yn Hughes, T. Rowland (2024) Chwalfa, Melin Bapur.
  48. "Brenhines ein Llên". Casgliad y Werin Cymru.
  49. 49.0 49.1 < "Kate Roberts". Y Bywgraffiadur.
  50. 50.0 50.1 "John Rowlands: Author who eschewed popular taste in order to explore the human mind and his own inner life". Independent (yn Saesneg). 2025-05-17. Cyrchwyd 2024-08-24.
  51. 51.0 51.1 51.2 "Ôl-foderniaeth". Porth: Esboniadur. Cyrchwyd 2024-09-05.
  52. Emyr Llywelyn yn Y Faner Newydd 2013
  53. Stephens
  54. Llyfr y Ganrif, Gwyn Jenkins, Andy Misell, Tegwyn Jones (Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Lolfa, 1999)