Brynrefail, Gwynedd

pentref yng Ngwynedd

Pentref yng nghymuned Llanddeiniolen, Gwynedd, Cymru, yw Brynrefail[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ardal Arfon, gerllaw pentref mwy Llanberis. Saif fymryn oddi ar briffordd yr A4244 yn agos at ben gogleddol Llyn Padarn, lle mae Afon Rhythallt yn gadael y llyn.

Brynrefail
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1417°N 4.1554°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH558626 Edit this on Wikidata
Cod postLL55 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Adeiladwyd y pentref yn y 19g fel pentref i chwarelwyr. Roedd y rheilffordd breifat oedd yn cario llechi o Chwarel Dinorwig i'r porthladd yn mynd heibio Brynrefail. Mae yno ysgol gynradd a swyddfa'r post. Yma yr oedd safle wreiddiol Ysgol Brynrefail, ond symudwyd hi i bentref cyfagos Llanrug yn ddiweddarach.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]

Brynrefail

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU